Agenda item

Sbardun Cymunedol Cyngor Dinas Casnewydd

Cofnodion:

Gofynnoddcynrychiolydd Gwynll?g a oedd swyddog yn ei swydd, ac os felly beth oedd ei h/enw.

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd swyddog dynodedig, ac mai dyma pam nad oedd manylion wedi eu cyhoeddi ar y wefan. Dywedwyd wrth Gynghorau Cymuned i fewngofnodi i wefan y Cyngor dan ran Tîm Gwarchod Cymunedol y wefan er mwyn cael y rhif generig.

Dywedwydfod newid yn digwydd ar hyn o bryd i strwythur yr uwch-reolwyr, a bod y gwasanaethau yn cael eu hail-asio er mwyn galluogi symud rhwng meysydd gwasanaeth.

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y wybodaeth hon yn dod dan y Tîm Gwarchod Cymunedol dan Michelle Tett. Ar y wefan roedd cyfeiriad e-bost generig a rhif cyswllt, ac roedd ffurflen ar-lein i’w llenwi i roi bod i gais. Roedd tîm amlddisgyblaethol yn rhan o hyn, felly nid un pwynt cyswllt oedd ar gael.

Gwnaethcynrychiolydd Maerun sylw am swyddogion ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan holi beth oedd eu rôl.

Esboniodd y Cadeirydd fod Wardeniaid Diogelwch Cymunedol yn y Tîm Diogelwch Cymunedol, ac yna fel rhan o hynny, roedd Swyddogion Amgylcheddol a dau Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Roeddent hwy yn cysylltu â’r Heddlu ac asiantaethau eraill. Michelle Tett oedd y rheolwr presennol mewn Iechyd Amgylchedd.

Holoddcynrychiolydd Gwynll?g, o ran gwarchodaeth bersonol i swyddogion y cyngor yn gwneud eu gwaith, fod Cynghorwyr weithiau yn dod yn rhan o sefyllfaoedd, e.e., brawychu, a yw’r sbardun cymunedol yn cynnig unrhyw warchodaeth yn hyn o beth.

Eglurodd y Cadeirydd mai ymddygiad gwrthgymdeithasol oedd hyn, nid ymddygiad troseddol. Roedd y Dull Sbardun Cymunedol yn fater o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel s?n a tharfu, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol. O ran brawychu a diogelwch personol, dylid adrodd am y rhain wrth yr Heddlu.

Esboniodd y Cadeirydd fod nifer o fesurau y gellid eu defnyddio i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel-isel, megis rhybuddion cosb benodol, ond nad troseddau oedd y rhain.

Holoddcynrychiolydd Maerun am adrodd am niwsans s?n ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar safle diwydiannol; a oedd hyn yn rhywbeth y gellid defnyddio’r  sbardun cymunedol.

Dywedodd y Cadeirydd fod niwsans s?n statudol yn cael ei drin ar wahân, a phetai niwsans s?n yn digwydd y dylid adrodd am hyn wrth ochr Iechyd Amgylchedd yr adran honno, oherwydd bod dulliau sbardun cymunedol i’w defnyddio ar gyfer lefel isel. Roedd niwsans s?n statudol ar lefel uwch o lawer, lle’r oedd angen swyddogion iechyd amgylchedd arbenigol i asesu lefel y s?n. Os mai niwsans s?n oedd hyn, rhaid adrodd amdano i’r ganolfan gyswllt a fyddai’n ei basio ymlaen i Iechyd Amgylchedd, i’w basio i’r tîm, oherwydd bod angen ymchwilio i hyn dan reolau statudol.

Dywedoddcynrychiolydd Maerun ei fod wedi derbyn e-bost gan Brian Miles o Gyngor Cymuned Gwynll?g yn dweud mai Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn berchen ar y safle, nad oedd hyn yn rhywbeth y gallai Cyngor Dinas Casnewydd fod yn ymwneud ag ef.

Esbonioddcynrychiolydd Maerun y bu cwynion am y safle ers sawl blwyddyn. 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd yn gwybod am yr achos arbennig hwn ac felly na fedrai wneud sylw.

Crybwylloddcynrychiolydd Gwynll?g farn yr awdurdodau am y broses; teimlent eu bod wedi cael eu cam-gynrychioli oherwydd dywedwyd wrthynt y byddai’r mater yn dod dan y sbardun cymunedol.

Holodd y Cadeirydd a oedd y rhain yn gwynion cymwys, oherwydd bod yn rhaid i gwynion fod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac nad ffordd oedd hyn o adolygu diffyg gweithredu gan yr heddlu: dull ar y cyd ydoedd o ymdrin ag ymddygiad, e.e., s?n lefel is.

Holoddcynrychiolydd Gwynll?g am warchodaeth i aelodau cynghorau cymuned yn y gymuned.

Cadarnhaodd y Cadeirydd mai mater i’r heddlu fyddai hyn, nid i’r sbardun cymunedol, oherwydd na all asiantaethau eraill sy’n rhan o’r sbardun cymunedol ddelio â chwynion am droseddau.

Holoddcynrychiolydd Maerun am ddefnyddio’r sbardun cymunedol dan amgylchiadau lle’r oedd diffyg gweithredu.

Dywedodd y Cadeirydd  mai rhywbeth i’w ddefnyddio pan oedd popeth arall wedi methu oedd hyn, a bod yn rhaid i gwynion ymwneud â’r math cywir o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Sonioddcynrychiolydd Maerun am y diffyg gweithredu ar lawer o gwynion am s?n a llygredd s?n. 

Dywedodd y Cadeirydd fod cwynion am ymddygiad troseddol yn mynd at yr Heddlu, cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel is yn mynd at y Wardeniaid Cymunedol, bod yr hyn y cyfeiriodd cynrychiolydd Maerun ato fel Niwsans S?n Statudol yn achos i weithdrefn Cwynion Mewnol Iechyd Amgylchedd. Byddai’n rhaid i uwch-reolwr adolygu hyn fel cwyn corfforaethol.