Agenda item

Partneriaeth Strategol Barnardo's Casnewydd

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-       Sally Anne Jenkins (Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol)

-       Dan Jones (Rheolwr Gwasanaeth)

-       Chris Cahill (Rheolwr Partneriaeth)

-       Mark Carter (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Barnardo's Cymru)

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth, y Rheolwr Partneriaeth a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Barnardo's Cymru drosolwg o'r adroddiad. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y canlynol:

 

·         Mae’r bartneriaeth rhwng Cyngor Dinas Casnewydd a Barnardo's ar waith ers dros 10 mlynedd a hi oedd y cyntaf o'i bath.

·         Mae'r ddau sefydliad yn cyfrannu'n ariannol o fewn y bartneriaeth.

·         Bod y bartneriaeth yn caniatáu hyblygrwydd i fynd i'r afael â materion allweddol a theilwra gwasanaethau i flaenoriaethau.

·         Prif ffocws y bartneriaeth oedd cefnogi plant ar ffiniau gofal.

·         Y llwyddiannau yn ystod y pandemig, sef eu bod yn gallu cefnogi 658 o blant hyd yn oed gyda llai o ymweliadau. Dros 12 mis, ni fu cynnydd yn nifer y pryderon mewn 94% o achosion caeëdig na chael eu dad-uwchgyfeirio. Roedd 12% yn agos at wasanaethau plant ac mae 100% o deuluoedd yn argymell y gwasanaethau.

·         Y Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd sy'n darparu ymyrraeth â ffocws gan ddatblygu cynlluniau a nodau i blant teuluoedd ac asiantaethau ar ffiniau gofal.

·         Y Gwasanaeth Cynhadledd Gr?p Teuluol.

·         Y gwasanaeth Life-Long Links y llwyddodd y bartneriaeth i gael grant gan Lywodraeth Cymru ar ei gyfer er mwyn ei ddatblygu. Tynnodd y siaradwyr sylw at y ffaith eu bod wedi mynd dros y targed o 10 atgyfeiriad mewn 12 mis gyda 14 atgyfeiriad.

·         Mae'r gwasanaeth Babi a Fi, a oedd yn becyn cymorth yn cynnig cymorth pwrpasol 1-1 a gr?p 6 wythnos a Chynhadledd Gr?p Teulu lle bo hynny'n briodol. Tynnodd y siaradwyr sylw at ddiddordeb LlC gan nodi bod y gwasanaeth wedi'i grybwyll mewn gwaith ymchwil. Nododd y siaradwyr y ffeithiau canlynol am y babanod a anwyd o fewn y gwasanaeth hwn: aethpwyd â 61% ohonynt adref; mae 53% o rieni wedi cael y profiad o’u plant yn cael eu cymryd oddi wrthynt yn flaenorol; roedd 34% yn rieni â phrofiad o fod mewn gofal; roedd 16 o deuluoedd yn cael cyfarfodydd Cynhadledd Gr?p Teulu; aeth 14 o deuluoedd â’u plentyn adref ar ôl geni; roedd gostyngiad 48% mewn achosion gofal o adeg geni a oedd yn golygu bod 20 baban yn llai yn dod i mewn i’r system ofal yng Nghasnewydd.

·         Mae'r Tîm Ymateb Cyflym a oedd yn rhan o'r Hyb Diogelu ac yn cynnig ymyrraeth 6 wythnos i deuluoedd sydd mewn perygl o chwalu, gyda’r nod o osgoi derbyniadau diangen i’r system. Nododd y siaradwyr fod 71 o bobl ifanc wedi bod yn rhan o'r 12 mis diwethaf a bod 91% o blant yn aros gartref neu wedi dychwelyd adref yn fuan wedyn.

·         Datblygiad y tîm i gynnwys Gweithiwr Cymdeithasol Camfanteisio.
 

·         Therapi Chwarae a Therapi Perthynas Rhiant-Plentyn.

·         Y Gwasanaethau Atal a gynhelir yn wirfoddol gyda theuluoedd nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ymyrraeth statudol, ond lle mae'n fuddiol i'r gwaith gael ei wneud.

·         Gwasanaeth CNF sy'n cynnig cymorth wedi'i dargedu i deuluoedd er mwyn iddynt gydnabod ac adeiladu ar gryfderau gyda'r nod o ddileu’r angen am ymyrraeth.

·         Y gwaith a wnaed ar gyfer Gofalwyr Ifanc Casnewydd, lle cynigir sesiynau 1-1 a gr?p i'r plant hyn yn ogystal â gweithgareddau a gwibdeithiau sydd â'r nod o wella eu bywydau a chynnig seibiant.

 

Yna gofynnodd y pwyllgor y canlynol:  

·         Pa gynlluniau oedd ar gael ar gyfer dyfodol y bartneriaeth?

 

Dywedodd Rheolwr y Bartneriaeth wrth y pwyllgor fod y gwasanaeth yn ehangu'n gyson, a hefyd yn bwriadu datblygu'r Tîm Ymateb Cyflym. Nododd hefyd fod hysbysebion wedi’u gosod i roi gwybod i drigolion am wasanaeth y Gynhadledd Gr?p Teulu a'u bod yn edrych ar gynyddu capasiti. Nododd y Rheolwr Partneriaeth hefyd eu bod yn recriwtio gweithwyr ymyrraeth a gweithwyr cymorth i deuluoedd.

 

·         Sut penderfynwyd ar y targed o 10 atgyfeiriad ar gyfer Cysylltiadau Gydol Oes?

 

Dywedodd y Rheolwr Partneriaeth wrth y pwyllgor fod y prosiect Cysylltiadau Gydol Oes wedi'i etifeddu gan y Gr?p Hawliau’r Teulu, a bod y nifer wedi’i ddeddfu iddynt. Nododd y Rheolwr Partneriaeth y gall ymyrraeth o dan hyn fod yn helaeth oherwydd y gwaith meithrin perthynas angenrheidiol a hyblygrwydd angenrheidiol y gwasanaeth a arweinir gan blant, sy'n cael eu hystyried pan fo targed yn cael ei greu.

Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod y gwasanaeth Cysylltiadau Gydol Oes wedi’i dreialu eleni a'i fod yn gallu rhoi mwy o adnoddau i'r bartneriaeth. Byddai'n cynyddu'r galw am y gwasanaeth hwn. Nododd y Rheolwr Partneriaeth eu bod yn gobeithio ymgorffori’r gwasanaeth hwn mewn Adolygiadau o Blant sy'n Derbyn Gofal er mwyn gallu ei gynnig i bob plentyn mewn gofal. Yna tynnodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol sylw at fudd partneriaeth sy’n berthynas dda a thryloywder sy'n galluogi'r ddwy ochr i wneud y gorau o adnoddau a monitro perfformiad.

 

·         A gysylltir â theuluoedd nad ydynt yn ymgysylltu â’r gwasanaeth Babi a Fi?

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol wrth y pwyllgor fod ymgysylltu yn hollbwysig yn y

 gwasanaeth hwn a gwnaed ymdrechion i ymgysylltu â theuluoedd, yn ogystal â siarad â theuluoedd sy’n dewis peidio ag ymgysylltu er mwyn cael gwybod eu rhesymau. Tynnodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol sylw at y ffaith bod Ymchwil a Gwerthuso Ymarfer parhaus sy'n canolbwyntio ar ddysgu o'r gwasanaeth i'r awdurdod a'r teuluoedd a’i wella.

 

Tynnodd Rheolwr y Gwasanaeth sylw at y ffaith fod llawer o deuluoedd sy'n ymgysylltu â'r prosiect hwn wedi cael profiad negyddol gyda gweithwyr cymdeithasol ac mae dyfalbarhad yn allweddol wrth ymgysylltu â'r teuluoedd hyn. Nododd Rheolwr y Gwasanaeth hefyd fod arfer gweithwyr cymdeithasol wedi newid sydd wedi helpu o ran ymgysylltu.

 

·         Pa mor hir mae cymorth yn parhau i deuluoedd sy'n ymgysylltu â'r gwasanaeth Babi a Fi?

 

Dywedodd y Rheolwr Partneriaeth wrth y pwyllgor eu bod yn tueddu i weithio gyda theuluoedd am 6 mis ar ôl geni ond bod rhaid iddynt fod yn hyblyg nes bod anghenion y teulu'n cael eu diwallu. Mynegodd y Rheolwr Partneriaeth fod hyn yn tynnu sylw at yr angen am gapasiti gan nad ydynt yn gallu cefnogi teuluoedd am gyfnod hwy. Tynnodd y Rheolwr Partneriaeth sylw at y ffaith mai un o gryfderau'r gwasanaeth hwn oedd bod teuluoedd yn cael eu hannog i ffonio os oedd angen cymorth pellach arnynt. Nododd Rheolwr y Gwasanaeth fod gwaith gyda theuluoedd o fewn y gwasanaeth hwn yn aml yn cael ei leihau neu y cysylltir â gwasanaethau eraill i sicrhau trosglwyddiad hwylus a chymorth parhaus.

 

·         Sut mae rhwystrau wedi’u goresgyn mewn cymunedau BAME er mwyn i wasanaethau fod yn fwy hygyrch?

 

Nododd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ei fod yn nod sylfaenol i'r bartneriaeth fod yn sensitif yn ddiwylliannol a bod hynny’n arbennig o bwysig yng Nghasnewydd. Sicrhawyd i’r Pwyllgor bod ffocws ar weithio ym mhob cymuned yng Nghasnewydd a gwneud gwasanaethau mor hygyrch â phosibl gyda dysgu a gwella parhaus. Roedd Barnardo’s yn canolbwyntio ar yr ardal hon ac yn defnyddio llwyfannau megis y bartneriaeth hon i ddangos sut y gallent weithio o fewn cymunedau. Nododd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol eu bod wedi gweithio gydag asiantaethau cymunedol oherwydd y posibilrwydd nad yw teuluoedd eisiau ymgysylltu'n uniongyrchol ac y byddai'n well ganddynt weithio gyda grwpiau sy’n cydweddu’n agosach â'u hanghenion diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol, a bod cysylltiadau'n cael eu creu â'r grwpiau hyn.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ei fod wedi cwrdd ag arweinwyr strategol yn Barnardo’s o Lundain i ddysgu arferion gorau o ffynonellau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn wybodus, a bod lle i wella bob amser.

 

·         Beth mae Cyngor Dinas Casnewydd a Barnardo’s yn ei roi i'r bartneriaeth a pha adnoddau sy'n cael eu rhannu gan y partneriaid?

 

Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod y bartneriaeth wedi bod ar waith ers dros 10 mlynedd a'i bod yn drefniant anarferol i'r ddau bartner, yn enwedig Barnardo’s sy'n defnyddio arian gwirfoddol i gefnogi gwasanaethau a gynigir. Y berthynas ariannol oedd i Gyngor Dinas Casnewydd ddarparu £700-800k i ariannu cymorth i deuluoedd ac i Barnardo’s yn rhoi rhyw £200k o arian cyfatebol. Roedd hyn yn dod o'r gyllideb graidd ond derbyniodd y gwasanaeth Cysylltiadau Gydol Oes grant gan Lywodraeth Cymru a daeth cronfeydd arian amrywiol ychwanegol i law ac roedd gweithio gyda’r bartneriaeth yn eu galluogi i nodi'r hyn y gellir ei gyflawni’n gyflym. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Strategol sylw fod gweithio mewn partneriaeth yn creu arloesedd lle na fyddai'n bodoli fel arall. Roedd contract ffurfiol rhwng partneriaid ac adolygiadau rheolaidd, yn ogystal ag archwiliadau achos. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod y rhain yn wasanaethau statudol y maent yn gofyn i Barnardo’s eu cyflawni gyda nhw ac mae'n ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer gofal diogel o safon y mae'r bartneriaeth yn eu galluogi i’w wneud. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod rhannu gwybodaeth rhwng partneriaid yn galluogi cynnig gwasanaeth heb ei ail.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol fod Casnewydd yn arbennig iawn oherwydd y gallu i ddefnyddio adnoddau cyfunol sy'n rhoi llwyfan i arloesi. Tynnodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol sylw at Apêl Great British Tech gyda Vodafone a gynhaliwyd gan Barnardo’s fel bod teuluoedd wedi'u cysylltu yn ystod y pandemig a bod gwasanaethau'n gallu parhau i ymgymryd ag ymyriadau o dan gyfyngiadau. Nododd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol fod rhoddion ariannol wedi cefnogi teuluoedd yng Nghasnewydd gyda thalebau archfarchnad. Nododd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol fod gobaith y bydd rhywbeth tebyg yn cael ei roi ar waith gyda'r argyfwng costau byw. Roedd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol o’r farn bod y bartneriaeth yn dod â lefel uwch o adnodd i’r ddwy ochr.

 

·         Beth all pob partner ddod ag ef i symud ymlaen?

 

Tynnodd y Rheolwr Partneriaeth sylw at yr arloesedd y mae'r bartneriaeth yn ei greu a'r brif fantais yw’r cyflymder wrth nodi a mynd i’r afael â phroblemau fel y gwelir yn y Gwasanaeth Ymateb Cyflym. Wrth symud ymlaen, bydd yn edrych ar heriau a ddisgwylir a’r hyn y gellir ei roi ar waith i fynd i’r afael â’r rhain. Dywedodd y Rheolwr Partneriaeth wrth y pwyllgor eu bod yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer gweithiwr iechyd meddwl, yn bennaf ar gyfer y gwasanaeth Babi a Fi.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol o’r farn bod nifer o gyfleoedd posib ar gael ac fe nododd y bydd y dysgu a wnaed trwy gyllid y Swyddfa Gartref, sef ar gyfer gwaith cam-drin domestig, yn fuddiol i'r bartneriaeth er mwyn codi ansawdd y gwasanaethau. Nododd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol hefyd fod Barnardo’s wedi neilltuo peth o'i roddion i ffoaduriaid Wcrainaidd er mwyn datblygu gwasanaethau a phrosiectau ar eu cyfer. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod angen iddynt fod yn ymatebol i anghenion yng Nghasnewydd ond hefyd i ymchwil y gellir ei dysgu ohoni a'i defnyddio i wella gwasanaethau o fewn Casnewydd.

 

·         A oedd protocol y Cyngor wedi'i gynnwys yn y bartneriaeth?

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol ei fod wedi’i gynnwys.

 

·         Beth yw risgiau'r bartneriaeth a sut mae'r rhain yn cael eu lliniaru?

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol wrth y pwyllgor bod mesurau diogelu wedi'u hysgrifennu yn y contract fel y gallai'r naill barti roi rhybudd ac roedd amrywiaeth o ofynion monitro i'r ddau bartner sicrhau cyfrifoldeb ar y cyd a chynnal perfformiad. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol sicrwydd i’r pwyllgor fod lefel gadarn o oruchwylio a phrosesau clir i'r ddwy ochr. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod Barnardo’s yn sefydliad mawr a sefydledig gyda'i fframwaith ei hun i'w ddiogelu rhag risgiau amlwg. Atgoffwyd y pwyllgor gan y Cyfarwyddwr Strategol bod risg cyson yn gysylltiedig a’r bartneriaeth a bod hyn yn cael ei reoli. Natur y gwaith oedd rheoli’r risgiau hyn a’u deall ond ni ellir byth eu dileu'n llawn.

 

·         A oes unrhyw bartneriaethau tebyg ac a oes unrhyw beth yn cael ei ddysgu ganddyn nhw?

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaeth o’r farn bod y bartneriaeth hon yn hynod effeithiol ac yn rhan annatod o adlewyrchu ar bartneriaethau eraill. Nododd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol mai hon oedd partneriaeth fwyaf hirsefydlog Barnardo’s a bod Llywodraeth Cymru'n cymryd sylw o ddatblygiadau arloesol a wneir gan y bartneriaeth hon. Nododd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol fod cyhoeddiad Barnardo’s ar ddod a fydd yn amlinellu arfer gorau, gan gynnwys llawer o gyfeirio at y gwaith a wnaed yng Nghasnewydd.

 

·         A yw'r bartneriaeth wedi agor drysau i rwydweithiau a rennir?

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol sylw at y perthnasoedd a ddatblygwyd gyda sefydliadau BAME a rhoddodd sicrwydd i'r pwyllgor eu bod yn edrych yn gyson ar y ffordd i ehangu rhwydweithiau gan ganolbwyntio ar wella'r ddarpariaeth o fewn Casnewydd.

 

·         A yw'r bartneriaeth yn gweithio gyda busnesau i gynnig cyfleoedd i deuluoedd sy'n ymgysylltu â'r gwasanaethau?

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y pwyllgor fod sefydliadau cenedlaethol a lleol wedi cynnig llu o gyfleoedd, yn enwedig yn ystod y pandemig.

 

·         Beth yw trosiant presennol y staff a pha ddarpariaeth oedd ar gael i weithwyr sy'n ei chael hi'n anodd?

 

Dywedodd y Rheolwr Partneriaeth wrth y pwyllgor bod ethos cryf o fewn y bartneriaeth i gynnwys mynd at staff mewn ffordd sy'n seiliedig ar drawma. Dywedodd y Rheolwr Partneriaeth wrth y pwyllgor fod gan bob aelod o staff fynediad i raglenni cymorth cyflogeion a bod cwnsela clinigol wedi cael ei gynnig i weithwyr pan ystyrid yn briodol ond eu bod yn teimlo bod hyrwyddo gweithle cadarnhaol ac iach yn bwysig hefyd.

 

·         A fu unrhyw anawsterau cyn y bartneriaeth ac yn ystod y bartneriaeth?

 

Nododd y Cyfarwyddwr Strategol y bu’n heriol, cyn y bartneriaeth, i wahanu'r hyn oedd wedi cael ei ddatrys a chan bwy ac a oedd unrhyw beth heb ei wneud; nad oedd gwasanaeth cymorth i deuluoedd effeithiol ar waith lle mae un nawr; ac y cafwyd problemau staffio yn y gwasanaethau plant. Teimlai'r Cyfarwyddwr Strategol bod awyrgylch cadarnhaol erbyn hyn oherwydd y bartneriaeth, ac er nad yw wedi’i staffio 100%, eu bod mewn sefyllfa well a bod morâl staff yn uchel ar y cyfan. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol mai proses ddysgu oedd creu'r bartneriaeth ar y dechrau, ac er bod rhai staff yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod ac eraill gan Barnardo’s, bod yno deimlad cyffredinol o undod.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Strategol y cafwyd heriau yn ystod y bartneriaeth, fel materion yn ymwneud â staff neu anghytundebau achos, yn ogystal ag angen newid y rheolwyr ac adolygu perfformiad. Teimlai'r Cyfarwyddwr Strategol fod y buddsoddiad diwylliannol ac emosiynol yn y bartneriaeth yn helpu i ddygymod â chaledi a heriau.

 

·         A oedd unrhyw beth wedi'i ddysgu o'r gynhadledd rithiol gyda Barnardo’s yn Llundain ynghylch ceiswyr lloches ar eu pennau eu hunain?

 

Nododd y Rheolwr Partneriaeth mai gwaith ar y gweill oedd hwn, a'u bod yn ymgysylltu â chydweithwyr mewn llwybrau i fyfyrio ar sut y gall y bartneriaeth ystyried gwella ei gwasanaeth. Roedd y Rheolwr Partneriaeth o’r farn bod ganddynt arferion da eisoes a'u bod yn agored i ddysgu gan awdurdodau eraill. Roedd y Rheolwr Gwasanaeth o’r farn bod Casnewydd yn arwain mewn rhai meysydd (sef Babi a Fi) ond eu bod hefyd ar fin dysgu am wella gwasanaethau.

 

·         A oedd unrhyw beth wedi'i gysylltu â Chomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol neu reoleiddwyr eraill?

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor nad oedd unrhyw beth wedi cael ei gysylltu'n benodol â Chomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ond roedd ganddyn nhw gysylltiadau amrywiol â'r Comisiynydd Plant mewn rhannau o’u gwaith. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor eu bod wedi rhoi tystiolaeth yngl?n â’r bartneriaeth i'r Senedd yn y gorffennol. Mae'r holl waith yn cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru, gan gynnwys y gwaith mewn partneriaeth. Roedd y Cyfarwyddwr Strategol o’r farn bod yr ymgysylltu cryfaf wedi bod gyda'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gan ei fod yn fwy uniongyrchol o ran gweithredu, trefnu a swyddogaeth y gwasanaeth.

 

·         Beth yw safon rheoli ac adrodd am berfformiad yn gyffredinol a sut roedd cynlluniau gwella wedi'u llunio a'u nodau wedi'u pennu?

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor fod hyn yn dod o dan y Cynllun Gwasanaethau Plant craidd ac roedd gwaith yn cael ei fwydo i mewn i hwn, gyda chyfeiriadau at y bartneriaeth trwy gydol y cynllun. Tynnodd y Cyfarwyddwr Strategol sylw at y cyswllt agos â’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a'r oruchwyliaeth reoleiddiol gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Yna diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am fod yn bresennol.

 

 

Casgliad

 

Nododd aelodau gynnwys yr adroddiad a'r cynigion ar gyfer gwaith a datblygiadau parhaus yn 2022/23, ac am wneud y sylwadau a’r argymhellion canlynol:

 

-       Roedd y pwyllgor yn canmol y bartneriaeth am y cyflwyniad a'r adroddiad manwl, a gofynnwyd i'r swyddogion gyfleu diolchgarwch yr aelodau i'r holl staff a thimau am eu gwaith rhagorol trwy gydol pandemig Covid. Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod gan bob aelod o staff fynediad i gyfleusterau cwnsela ac roeddent yn sôn am ba mor bwysig ydyw i staff a rheolwyr barhau i gael y cynnig hwn i helpu gydag iechyd meddwl. Roedd yr aelodau hefyd yn canmol egni a brwdfrydedd y partneriaethau ac roeddent yn falch o glywed bod y bartneriaeth hon hefyd yn cael ei chydnabod gan ranbarthau eraill am ei gwaith rhagorol.

 

-       Roedd y pwyllgor yn cydnabod yr angen i'r bartneriaeth ymgysylltu mor effeithiol â phosibl â phobl, yn enwedig â theuluoedd BAME, ac i sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch ac yn ddiwylliannol sensitif. Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod y bartneriaeth yn ymwybodol bod ymgysylltu yn faes lle mae angen gwella, a phwysigrwydd rhwydweithio a gweithio gyda dull unedig.

 

-       Soniodd yr aelodau am ddiddordeb yn y bartneriaeth sy'n datblygu gwasanaethau a phrosiectau ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin a gofynnodd a allen nhw gael rhagor o fanylion am yr hyn sydd ar y gweill pan fyddan nhw ar gael. Gofynnodd yr aelodau hefyd am ddiweddariad am yr ymateb i’r argyfwng costau byw a grybwyllwyd yn y cyfarfod.

 

Dogfennau ategol: