Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet, oedd yn rhoi cyfoesiad am ymateb y Cyngor i bandemig Covid-19 ac adferiad y ddinas, gan sicrhau bod trigolion a busnesau yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau cyfredol, a’r cynnydd a wnaed gyda Nodau Adfer Strategol y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol.
Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Mawrth, cynyddu wnaeth yr achosion o Covid ac yr oeddent yn dal i fodoli ymysg cymunedau Casnewydd.
Mae canfyddiadau arolwg diweddar y SYG yn awgrymu bod y cynnydd mewn achosion wedi ei achosi gan yr is-deip o Amrywiolyn Omicron.
Dal yn isel yr oedd nifer y rhai a dderbyniwyd i’r ysbyty oherwydd Covid-19, ond er hynny, yr oedd effeithiau’r cyfyngiadau dros y ddwy flynedd a aeth heibio yn dal i daro lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Fel ar 28 Mawrth, yr oedd Cymru yn dal ar Lefel Rhybudd Sero, gyda llawer o gyfyngiadau cyfreithiol yn dal mewn bodolaeth. Yr oedd gorchuddion wyneb yn angenrheidiol o hyd mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac yr oedd gweithleoedd a mannau oedd yn agored i’r cyhoedd yn parhau i gynnal asesiadau risg Coronafirws.
Nid oedd angen gorchuddion wyneb bellach dan y gyfraith mewn siopau ac ar gludiant cyhoeddus.
Newidiodd y gofyniad i hunan-ynysu yn dilyn prawf Covid-19 positif i ganllaw, a bydd y £500 o daliad hunan-ynysu i gefnogi pobl yn dal i fod ar gael tan fis Mehefin 2022.
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fonitro’r sefyllfa iechyd cyhoeddus, ac i gynnal asesiad pellach i’r potensial i wneud i ffwrdd ag unrhyw fesurau cyfreithiol sydd weddill yn yr adolygiad 21-diwrnod nesaf erbyn 14 Ebrill 2022.
I Gyngor Casnewydd, y cyngor o hyd i aelodau etholedig a swyddogion i weithio o bell oni bai bod eu rôl yn mynnu i’r gwrthwyneb.
Fel rhan o brosiect Normal Newydd y Cyngor, yr oedd y staff yn cael eu paratoi i weithio’n hybrid, gan sicrhau y bydd ystafelloedd a chyfleusterau ar draws stad y Cyngor yn llefydd addas a diogel i weithio a chynnal swyddogaethau democrataidd.
Efallai y dymunai’r Arweinydd ofyn i Aelodau’r Cabinet amlygu meysydd llwyddiannau, her a chynnydd.
· Nod Adfer Strategol 1- Ymestyn prydau ysgol am ddim dros hanner tymor mis Mai a chyfnod gwyliau’r haf.
· Nod Adfer Strategol 1 –Bu Cyngor Casnewydd yn gweithio ar draws ein cymunedau i gynnal sesiynau galw heibio ar gyfer sgiliau digidol sylfaenol a chyrsiau trwy addysg gymunedol i oedolion.
· Nod Adfer Strategol 2 – Bydd busnesau yng Nghasnewydd yn derbyn rhyddhad ardrethi gan Lywodraeth Cymru.
· Nod Adfer Strategol 2 – Cymeradwywyd ein cynllun Newid Hinsawdd gan y Cyngor a dechreuir cyflwyno yn 2022/23.
· Nod Adfer Strategol 3 – Cyngor Casnewydd continue to follow the guidance for staff to work from home unless required by their role.
· Nod Adfer Strategol 3 – Mae gwasanaethau llyfrgell ac amgueddfeydd yn awr yn cael eu cyflwyno fel yr oeddent cyn y pandemig gyda rhai mesurau rheoli yn dal ar gael.
· Nod Adfer Strategol 4 – Mae Cyngor Casnewydd yn dal i gefnogi banciau bwyd a phrosiectau bwyd y ddinas.
· Nod Adfer Strategol 4 – Daeth digwyddiadau cyfranogi yn y gyllideb i ben gyda chyfanswm o 80 o brosiectau yn cael arian tuag at eu prosiectau lleol.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Truman at y cynnydd mewn achosion a soniodd fod Swyddogion Trwyddedu ac Arolygwyr Iechyd a Diogelwch yn dal i ymdrin â lleoliadau gofal ac ysgolion, yn cynnal asesiadau risg, ac yr oedd yn canmol hyn. Atgoffodd gydweithwyr fod angen i drigolion Casnewydd ddal i fod yn wyliadwrus a defnyddio eu synnwyr cyffredin i leihau’r risg o ledaenu’r firws.
§ Diolchodd y Cynghorydd Davies i staff ysgolion am gadw’r ysgolion ar agor yn ystod cyfnod amrywiolyn omicron y firws. Yr oedd yn gyfnod arholiadau i ddisgyblion hefyd, ond yr oedd y staff yn gwneud yn siwr fod blaenoriaeth yn cael ei roi i gefnogi disgyblion. Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies hefyd at brydau ysgol am ddim, gan ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth yr oedd mawr ei angen, a bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei ymestyn i Fedi 2022 i holl blant Casnewydd.
§ Yr oedd y Cynghorydd Harvey yn adleisio sylwadau cydweithwyr, gan obeithio y byddai firws Covid yn fuan iawn yn perthyn i’r gorffennol.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at y banciau bwyd y gallai trigolion Casnewydd fynd atynt, ac yr oedd am gydnabod y gwaith caled sy’n cael ei wneud gan wirfoddolwyr a gweithwyr yn yr ardaloedd hyn.
Penderfyniad:
Ystyriodd a nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad, a byddant yn derbyn cyfoesiadau gan y swyddogion fel rhan o’u portffolio.
Dogfennau ategol: