Agenda item

Diweddariad gan yr Aelod Llywyddol/Cadeirydd y Cyngor

Cofnodion:

Gareth Price – Pennaeth y Gyfraith a Safonau

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth drosolwg cryno i'r Pwyllgor ac esboniodd fod yr adroddiad yn rhoi manylion pellach am drefniadau, rolau a chyfrifoldebau'r Aelod Llywyddol. Penderfynir ar benodiadau Cadeirydd y Cyngor/Yr Aelod Llywyddol a'r Is-gadeirydd/Y Dirprwy Aelod Llywyddol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 17 Mai 2022. Gofynnir i'r Cyngor hefyd gymeradwyo'r newidiadau angenrheidiol i'r Cyfansoddiad yn sgil mabwysiadu rôl newydd yr Aelod Llywyddol.

 

Rhoddodd y Swyddog fwy o wybodaeth ynghylch sut y byddai'r broses yn gweithio'n ymarferol; ceir ddisgrifiad diwygiedig o rôl yr Aelod Llywyddol a’r Is-Gadeirydd yn y ddogfen. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod gan 76% o gynghorau yng Nghymru Aelod Llywyddol yn ôl yr adroddiad. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cynghorau eisoes wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, ond mai'r prif bwynt oedd bod penodiad yr Aelod Llywyddol yn fater i'r Cyngor llawn, ac mai dyna fyddai'r eitem gyntaf i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mai.

 

Aeth y Pennaeth Gwasanaeth ati i roi esboniad manwl o'r broses o enwebu a phenodi Aelod Llywyddol yn y Cyngor, a dywedodd y byddai'r rôl yn destun adolygiad bob blwyddyn, ac na fyddai dim i atal Cadeirydd y Cyngor rhag cael ei ail-ethol. Amlygodd hefyd y gwahaniaeth rhwng y Cadeirydd a rôl seremonïol y Maer; nad yw'r Maer ond yn cynrychioli'r Cyngor fel prif ddinesydd mewn digwyddiadau mewnol ac allanol.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at arferion eraill y Cyngor, drwy gytundeb partïon y Cyngor; pe bai'r Aelod Llywyddol yn cael ei benodi o'r naill gr?p, gallai'r gr?p arall benodi'r Dirprwy Aelod Llywyddol. Dywedwyd y gallai hyn fod yn rhywbeth yr hoffai'r grwpiau ei ystyried ar ôl mis Mai 2022.

 

Roedd y swyddog yn croesawu unrhyw sylwadau a chwestiynau gan y pwyllgor.

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn:

·         Mynegodd y Cynghorydd M. Evans bryder y gallai cyfarfod mis Mai fod yn hir i'r Aelodau a oedd newydd eu hethol. Gofynnodd yr Aelod a fyddai gan yr Aelod Llywyddol bleidlais fwrw.

 

Mewnymateb i hyn, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai gan yr Aelod Llywyddol ail bleidlais a phleidlais fwrw, a dywedodd fod hyn wedi'i nodi yn yr adroddiad, ond y byddai angen diwygio rheolau sefydlog y Cyngor yn sgil y newid. Byddai gan yr Aelod Llywyddol yr un hawliau â'r Maer, a gallai'r sawl a oedd yn cadeirio'r cyfarfodydd alw'r bleidlais.

·         Holodd y Cadeirydd a fyddai'r Maer cyfredol, y Cynghorydd David Williams, yn agor y cyfarfod fel Maer.

 

Dywedodd y Swyddog Arweiniol y byddai hynny'n dibynnu a fyddai'r Cynghorydd Williams yn cael ei ail-ethol.

A phe bai'n cael ei ail-ethol, byddai'r Maer yn agor y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a'r eitem gyntaf ar yr agenda fyddai enwebu'r Aelod Llywyddol, ac ar ôl cael ei benodi byddai'r unigolyn hwnnw'n cadeirio gweddill y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

·         Holodd y Cadeirydd a fyddai'n debygol y byddai'n rhaid cynnal etholiadau o fewn y pleidiau i bleidleisio dros Aelodau fel siaradwyr.

Dywedodd y Swyddog na allai wneud sylwadau ynghylch hynny, ond y byddai'r enwebiadau'n cael eu derbyn yn y Cyngor. pe bai mwy nag un unigolyn, byddai pleidlais yn cael ei chynnal a'r sawl a fyddai'n ennill y mwyaf o bleidleisiau'n cael ei benodi. Nid mater i'r Pennaeth Gwasanaeth fyddai gweithrediad hynny o fewn y grwpiau.

Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r pwyllgor am eu mewnbwn ac i'r swyddogion am eu hamser.

 

 

Dogfennau ategol: