Agenda item

Codi Arian Pont Gludo

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'w gyd-aelodau, y cynhaliwyd trafodaeth arno'n flaenorol yn y Cabinet. Pwrpas prosiect y Bont Gludo oedd gwarchod a diogelu'r strwythur eiconig, a sicrhau dyfodol cynaliadwy ar ie gyfer, fel y byddai'n parhau i fod yn hygyrch i genedlaethau'r dyfodol.

 

Ar ôl sicrhau dros £8.7m o gyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, cofiodd yr Aelodau Cabinet y siom a gafwyd ym mis Gorffennaf y llynedd pan aeth y contractwyr a benodwyd ar gyfer atgyweirio'r bont a'r ganolfan ymwelwyr newydd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan ddal y cynlluniau a gynigiwyd yn ôl.

 

Yn wyneb adfyd, fodd bynnag, aeth y swyddogion ati i ailddechrau'r ymarfer tendro, ac yng nghyd-destun costau cynyddol a phrinder llafur ar raddfa fyd eang, y bu trafod a dadlau mawr yn eu cylch, nid oedd yn syndod bod y tendrau'n pennu costau llawer uwch na'r rhai a gytunwyd yn wreiddiol â'r contractwyr blaenorol.

 

Gwelwyd cynnydd o 18% yng nghost y ganolfan ymwelwyr, ond cynnydd o 100% yng nghost y pecyn i atgyweirio'r bont. Mewn termau real, roedd hynny'n golygu cynnydd o £5 miliwn yng nghost y prosiect.

 

Roedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cydymdeimlo â sefyllfa'r prosiect a hefyd yn cydnabod nad oedd y sefyllfa hon yn unigryw i Gasnewydd; gwelwyd problemau tebyg gyda chynnydd sylweddol mewn costau mewn prosiectau eraill a ariannwyd drwy grantiau'r loteri. Dywedodd Cronfa'r Loteri y byddent yn ystyried cais am gyllid ychwanegol ar yr amod y byddai modd cadw'r cais yn is na £2 filiwn, ac yn dilyn hynny cymeradwywyd cais am £1.95 miliwn yn ychwanegol.

 

Cafodd adolygiad cynhwysfawr o werth peirianneg hefyd ei gynnal, gan nodi £680k o arbedion. Serch hynny, fel yr oedd pethau, roedd y prosiect yn dal i gynnwys bwlch o ychydig dros £2.9 miliwn.

 

Pe bai'r prosiect hwn yn mynd rhagddo, byddai angen i'r Cyngor fod yn barod i warantu'r diffyg hwn. Ar gyfer hyn byddai angen ailddyrannu'r cyllid a neilltuwyd yn wreiddiol yn y swm o gyfalaf hyblyg i ddarparu arian cyfatebol ar gyfer cais Codi'r Gwastad a gyflwynwyd y llynedd, fu'n aflwyddiannus yn y diwedd, ar gyfer ardal Porth Gogleddol Canol y Ddinas.

 

Byddai hyn yn cynyddu cyfalaf hyblyg y Cyngor i £3.89 miliwn, ac felly'n ddigon i gefnogi'r prosiect hwn pe na bai modd sicrhau cyllid ychwanegol o ffynonellau eraill.

 

Er hynny, nid oedd y Cyngor yn bwriadu rhoi'r gorau i chwilio am ffynonellau cyllid ychwanegol,  byddai'n parhau i weithio gyda Chyfeillion Pont Gludo Casnewydd, fu'n gefnogwyr angerddol anhygoel i'r prosiect hwn, i ganfod cyfleoedd i godi arian. Y gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi ystyriaeth ffafriol i gais i gynyddu eu cyfraniad presennol o £1.5 miliwn.

 

Roedd y cyfnod tendro ar gyfer y ddau becyn contract wedi dod i ben, ac er bod y ddau gontractwr yn parhau i ymgysylltu, roedd risg sylweddol o gynnydd pellach mewn costau o beidio cytuno'n ffurfiol â'r contractau hyn ar unwaith, gan nad oedd unrhyw opsiwn arall ar gael.

 

Roedd y Bont Gludo yn eiddo i'r Ddinas ac roedd angen parhau i drwsio a chynnal y strwythur er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i weithio ac yn ddiogel i'w ddefnyddio. Roedd costau sylweddol yn gysylltiedig â gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar strwythur y bont yn unig, gan fod gwaith yn ei gyflawni ar lefel uchel - roedd y rhain yn gostau sefydlog, a byddai'n rhaid eu talu waeth faint o waith fyddai'n cael ei gyflawni.

 

Byddai’r prosiect hwn yn ein galluogi i wneud atgyweiriadau cynhwysfawr ar y bont a darparu cyfleusterau i ymwelwyr a fyddai'n sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ddefnyddadwy ac yn hygyrch, nawr ac yn y dyfodol. Roedd cyfle i dderbyn dros £12 miliwn o gyllid allanol i ddatblygu'r strwythur eiconig yn hwn yn ffocws i'r ddinas ac i gynyddu ei effaith hyd yr eithaf fel ased treftadaeth.

 

Cydnabuwyd yn llawn fod y cynnydd yng nghostau'r prosiect yn rhoi mwy o bwysau ar adnoddau ariannol, ond ac ystyried swm y cyllid allanol a oedd wedi'i sicrhau a'r manteision a ddeuai yn sgil y prosiect i breswylwyr ac ymwelwyr, gofynnodd yr Arweinydd i'r Cabinet ystyried yr adroddiad.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Roedd y Cynghorydd Harvey yn falch mai hi oedd yr Aelod Cabinet â'r Bont Gludo yn ei phortffolio, ac roedd hi'n cytuno bod yn rhaid cadw a chynnal y strwythur eiconig. Roedd hi felly o blaid adfer y Bont Gludo.

 

§  Adleisiodd y Cynghorydd Roger Jeavons sylwadau’r Aelod Cabinet a’i chanmol ar ei gwaith caled, ynghyd â’r swyddogion dan sylw.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Truman fod y Bont Gludo yn dirnod nodedig yng Nghasnewydd, ac mai ond chwech ohonynt oedd ar ôl yn y byd.

 

§  Cymeradwyodd y Cynghorydd Cockeram hefyd y cyllid i gadw'r Bont Gludo, a oedd mor enwog a'r Siartwyr yng Nghasnewydd.

 

§  Adleisiodd y Cynghorydd Mayer sylwadau ei gyd-aelodau a chefnogi'r cyllid ar gyfer y Bont Gludo.

 

§  Cytunai'r Cynghorydd Davies a'r Arweinydd mai rhwyd diogelwch oedd hyn, gan fod costau cyfalaf wedi cynyddu ar brosiectau mawr yng Nghasnewydd, a chostau deunyddiau wedi cynyddu drwy'r byd. Roedd yn rhaid cyflawni'r gwaith hyd at safon uchel fel y byddai'n para er budd cenedlaethau'r dyfodol.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Hughes i'r Aelod Cabinet a'r swyddogion am eu gwaith caled a'u cefnogaeth, a chytuno hefyd fod y Bont Gludo yn bluen eiconig yn het Dinaslun Casnewydd, a hefyd yn rhan o dreftadaeth forol y Ddinas.

 

§  Soniodd yr Arweinydd hefyd fod aelodau o’r cyhoedd wedi ysgrifennu ati ynghylch goleuo’r Bont Gludo a’i bod yn bwysig cofio ei bod wedi cyffwrdd â bywydau llawer o bobl yng Nghasnewydd, Gwent, y DU ac yn rhyngwladol. 

 

Cyfarfu'r Arweinydd yn ddiweddar â Chyfeillion Pont Gludo Casnewydd (FONTB) a gytunai fod y strwythurau hyn yn eiconig ledled y byd.  Diolchodd yr Arweinydd hefyd i'r Cabinet, i'r Swyddogion a'r Cyfeillion am eu cefnogaeth.

 

Penderfyniad:

 

Bod y Cabinet yn derbyn y dyfarniad cyllid ychwanegol o £1.95miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a bod y Cyngor yn gwarantu’r ffigwr sy’n weddill o £2.922 miliwn, yn unol â’r datrysiad a ddangosir yn y crynodeb ariannol a’r sylwadau a gafwyd gan y Pennaeth Cyllid.

 

Gyda hynny, daeth y cyfarfod i ben.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am Time Not Specified

 

 

 

 

1.            

 

 

 

 

 

2.            

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

(a)          

 

 

 

 

 

(b)          

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: