Agenda item

Rheolau Sefydlog y Cyngor a Threfniadau ar gyfer Cyfarfodydd Aml-leoliad

Cofnodion:

Cyflwynodd yr arweinydd yr adroddiad i'r Cyngor.  Mae adrannau 46 a 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd statudol ar holl awdurdodau lleol Cymru i wneud trefniadau ar gyfer cyfarfodydd “hybrid” neu aml-leoliad ac i ddarlledu’r cyfarfodydd hyn, gan gyhoeddi'r trefniadau ar gyfer hyn.

 

Roedd cydweithwyr yn ymwybodol bod y Cyngor wedi cynnal cyfarfodydd o bell drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud oherwydd COVID-19 a dyma’r tro cyntaf i’r rhan fwyaf o gynghorwyr allu cyfarfod wyneb yn wyneb yn y siambr hon ers dwy flynedd. Hyd yn hyn, roedd cyfarfodydd o bell yn fater o anghenraid ond, o hyn ymlaen, mater o ddewis personol fyddai cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Cyngor o bell.

 

Roedd dileu holl gyfyngiadau COVID-19 yn golygu y gallai’r Cyngor gyflwyno trefniadau ar gyfer cyfarfodydd hybrid neu aml-leoliad, gan roi'r dewis i aelodau etholedig a chyfranogwyr eraill ynghylch ymuno o bell neu fynychu wyneb yn wyneb.  Hefyd, fel rhan o Amcanion Strategol y Cyngor ar gyfer Adferiad wedi COVID-19, cytunwyd ar fodel gweithio newydd ar gyfer aelodau etholedig a staff y Cyngor sy'n seiliedig ar drefniadau gweithio hyblyg. Rhan annatod o'r model gweithio newydd hwn oedd y defnydd o dechnoleg a'r rhyddid i gymryd rhan o bell yng nghyfarfodydd y Cyngor. Byddai'r trefniadau hyn yn helpu i wella amrywiaeth a thryloywder o fewn llywodraeth leol.

 

Roedd y protocol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn yn nodi sut roedd y Cyngor yn bwriadu cyflawni ei ddyletswyddau statudol o dan adrannau 46 a 47 o Ddeddf 2021 mewn perthynas â darlledu cyfarfodydd, a galw cyfarfodydd a oedd yn cynnwys cyfranogwyr mewn lleoliadau lluosog. Byddai’r rheolau a’r gweithdrefnau a nodir yn Adran 3 o’r ddogfen yn cynnwys y gofynion craidd gorfodol ar gyfer cydymffurfio â’r fframwaith deddfwriaethol. O'r herwydd, byddent yn rhan o gyfansoddiad cyhoeddedig y Cyngor ac roedd angen eu darllen ar y cyd â Rheolau Sefydlog y Cyngor sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd.

 

Roedd Adran 4 yn nodi polisi cyfarfodydd aml-leoliad ehangach y Cyngor, a oedd yn adlewyrchu'r egwyddorion deddfwriaethol cyffredinol yn Adran 3, ac yn nodi arferion a gweithdrefnau manylach i sicrhau bod cyfarfodydd aml-leoliad yn gweithio'n effeithlon, yn effeithiol ac mewn modd atebol. Byddai'r polisi anstatudol hwn yn destun trosolwg ac adolygiad cyfnodol gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a dylid ei ystyried ar y cyd â Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd ehangach y Cyngor.

 

Diweddarwyd a diwygiwyd Rheolau Sefydlog y Cyngor i adlewyrchu'r ddeddfwriaeth a'r trefniadau newydd ar gyfer penodi aelod llywyddol i gadeirio cyfarfodydd y Cyngor, yn lle'r maer.

 

Roedd y trefniadau a pholisi arfaethedig ar gyfer cynnal cyfarfodydd aml-leoliad ynghlwm wrth yr adroddiad hwn, ynghyd â'r Rheolau Sefydlog wedi'u diweddaru. Unwaith y cânt eu cymeradwyo a'u mabwysiadu, byddent wedyn yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'r cyfansoddiad diwygiedig.

 

Cynigiodd yr arweinydd fod y Rheolau Sefydlog a threfniadau diwygiedig ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad yn cael eu cymeradwyo a'u mabwysiadu.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Evans.

 

Penderfynwyd:

Bod y Cyngor yn cymeradwyo a mabwysiadu'r Rheolau Sefydlog a threfniadau diwygiedig ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad.

Dogfennau ategol: