Agenda item

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol (Ch4)

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol (Ch4) Roedd yr adroddiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf ar ddiwedd Chwarter Pedwar (1 Ionawr 2022 hyd 31 Mawrth 2022).


Roedd Polisi Rheoli Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn nodi, yn rheoli, ac yn monitro'n effeithiol y risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-2022) a rhag cyflawni dyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.


Byddai Adroddiad Risg Chwarter Pedwar hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor ar ym mis Gorffennaf 2022 i adolygu proses rheoli risg a threfniadau llywodraethu'r Cyngor.


Ar ddiwedd chwarter pedwar roedd gan y Cyngor 44 o risgiau wedi'u cofnodi ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor.


Roedd y risgiau hynny yr ystyriwyd eu bod yn achosi'r risg fwyaf sylweddol o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol a gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu huwchgyfeirio i'w monitro ar Gofrestr Risg.


Ar ddiwedd chwarter tri roedd 16 o risgiau wedi'u cofnodi ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol; sef naw Risg Ddifrifol (15 i 25) a saith Risg Fawr (7 i 14).

 

O gymharu â chwarter tri, nid oedd unrhyw risgiau newydd nac/neu risgiau wedi'u huwchgyfeirio, ac nid oedd yr un risg wedi cau.


Roedd deuddeg risg yn dal i fod ar yr un sgôr â chwarter tri.

 

Cafodd dwy risg (Risg Diogelu a Rheoli Arian yn Ystod y Flwyddyn) eu tynnu i lawr o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol i'w monitro ar gofrestrau risg maes Gwasanaeth.
 

Cynyddodd un risg (Pwysau ar y gwasanaeth Tai a Digartrefedd) o 16 i 20.


Gostyngwyd sgoriau tair risg (Pandemig Covid-19, y Galw am Gymorth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anghenion Addysgol Arbennig, a phwysau ar Gostau / Cyllid Ysgolion).

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i amlygu risgiau eraill lle'r oedd eu sgoriau wedi gostwng, sef:

 

Risg Diogelu (Gwasanaethau Plant) a Rheoli yn Ystod y Flwyddyn (Cyllid).


Ar ddiwedd y chwarter, gostyngodd sgôr risg Pandemig Covid-19 (20 i 16) yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch llacio cyfyngiadau.

 

Cytunodd y Cabinet ar £.12m ychwanegol i fynd i'r afael â'r anghysondeb rhwng cyllid ar gyfer disgyblion â datganiad a chostau gwirioneddol y disgyblion hynny, yn gysylltiedig â'r galw am gymorth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anghenion Addysgol Arbennig (16 i 12).

 

Roedd Pwysau ar Gyllid Ysgolion / Costau yn gostwng (12-9) gan fod sefyllfa ariannol pob un o'r ysgolion hynny a oedd yn cymryd rhan mewn proses Adfer Diffyg yn llawer gwell. Roedd disgwyl i ddwy o'r tair ysgol hynny orffen blwyddyn ariannol 2021/22 gyda gwarged, a dim ond mewn un ysgol yr ystyriwyd ei bod hi'n debygol y byddai angen cyflwyno cais am drwydded bellach ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Roedd canllawiau LlC yn gysylltiedig â Covid yn parhau o ran y Pwysau ar y Gwasanaeth Tai a Digartrefedd (16 i 20). Yn gyson, roedd 400 o deuluoedd mewn llety dros dro, gyda llai nag 20 yn cael eu hailgartrefu bob mis oherwydd prinder llety parhaol. Yn absenoldeb Cronfa Galedi Covid-19 ar gyfer 2022-23, dyfarnwyd cyllid grant ychwanegol gan LlC er mwyn helpu'r awdurdod i barhau i fodloni'r gofyniad i ddarparu llety i nifer fawr o deuluoedd digartrefedd. Serch hynny, ni fyddai'r cyllid hwn yn ddigon i dalu'r costau ychwanegol o barhau i ddarparu lefelau uchel o lety dros dro, a'r gwariant cysylltiedig ar staff a rheoli eiddo. Yn ogystal â hynny, roedd cyflwyno'r Ddeddf Rhentu Cartrefi ym mis Gorffennaf 2022 a'r argyfwng costau byw yn debygol o gynyddu'r nifer a oedd yn cysylltu â'r awdurdod i ddweud eu bod yn ddigartref, a rhagwelwyd y byddai landlordiaid preifat yn gadael y farchnad ac y byddai llety'n troi'n llai a llai fforddiadwy. Roedd hi'n debygol y byddai'r galw am dai i ffoaduriaid o Wcrain yn gwaethygu'r pwysau ar lety dros dro a llety symud ymlaen.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

·        Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at argymhelliad 10 a 15 a oedd wedi symud i lawr y gofrestr risg.  Roedd y rhain yn gysylltiedig â chymorth ar gyfer ADY ac AAA. Cytunodd y Cabinet i ddyrannu £.12M tuag at addysg yn gysylltiedig â'r meysydd hyn, ac y byddai cyllid pellach yn cael ei ddarparu ar gyfer cynghorwyr dysgu ar gyfer disgyblion sydd mewn perygl o gamfanteisio. Roedd swyddogion cyllid addysg wedi gwneud gwaith anferthol a diolchodd yr Aelod Cabinet i'r aelodau hynny o staff a oedd yn ymwneud â'r gwasanaethau addysg. Ategodd yr Arweinydd sylwadau'r Cynghorydd Davies, gan gyfeirio hefyd at rai sy'n gwirfoddoli o fewn Gwasanaethau Cymorth Addysg.

 

·        Amlygodd y Cynghorydd Hughes y gwelliant yr oedd y Cyngor yn ei sicrhau o ran arferion diogelu, gan gynnwys sicrhau bod elusennau a gwirfoddolwyr o fewn y ddinas yn cynnal lefel o wasanaeth ar adeg pan oedd y gymuned o dan gysgod yr argyfwng costau byw. Roedd staff Gofal Cymdeithasol yn arbennig yn gweithio'n galed i gefnogi'r bobl sy'n agored i niwed yn ein cymuned.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet wedi ystyried cynnwys diweddariad chwarter pedwar ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

Dogfennau ategol: