Agenda item

Adroddiad Diweddaru Covid

Cofnodion:

Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Ebrill, dywedodd yr Arweinydd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai'n cael gwared â'r cyfyngiadau cyfreithiol olaf i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal.

 

Roedd pobl yn dal i gael cyngor i hunanynysu os oeddent yn arddangos symptomau covid ac/neu'n cael prawf covid positif. Roedd brechiadau'n cael eu cynnig i rai dros 75 oed, ac roedd hi'n dal yn bosib iddynt gael brechiad os nad oeddent wedi cael un eto. Byddai brechiadau pellach yn cael eu cynnig yn yr hydref i breswylwyr mewn cartrefi gofal (gan gynnwys y staff), gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen, ac oedolion 65 oed a throsodd; a'r rhai yn y gr?p risg glinigol (16 i 65).


Byddai cymorth ariannol i rai a oedd yn hunanynysu ac yn methu gweithio gartref yn dod i ben ddiwedd mis Mehefin.  Roedd mathau eraill o gymorth ariannol yn dal i gael eu cynnig i deuluoedd a busnesau a oedd yn profi anawsterau ar ôl y pandemig, ac yn sgil y cynnydd mewn costau byw.


Roedd cynlluniau amrywiol ar gael gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru y gallai teuluoedd a busnesau fanteisio arnynt. Ar ran y Cabinet hwn a Chynghorwyr ledled Casnewydd, roedd pobl yn cael eu hannog i gysylltu â'r Cyngor os oeddent yn profi anawsterau neu os oedd angen cymorth arnynt.

 

Roedd y cyfyngiadau ar adeiladau'r Cyngor wedi'u dileu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Roedd staff swyddfa yn dal i gael eu hannog i weithio gartref, ac ond i weithio yn adeiladau'r Cyngor os oedd angen.


Mae prosiect Normal Newydd y Cyngor wrthi'n cwblhau ei bolisi a'i weithdrefnau i gynnal trefniadau gweithio hybrid a hyblyg.


Roedd y Cyngor wedi croesawu Cynghorwyr hen a newydd yn dilyn yr etholiadau lleol, ac wedi cynnal ei gyfarfod hybrid cyntaf o'r Cyngor. Roedd y Cabinet yn edrych ymlaen at gyfarfodydd craffu a rheoleiddio pellach drwy ddefnyddio'r dechnoleg hon.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd Aelodau’r Cabinet i dynnu sylw at waith yn eu portffolios:

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

·        Pwysleisiodd y Cynghorydd Harvey fod yn rhaid i aelodau'r cyhoedd geisio gwneud cais am ryw fath o fudd-dal os oeddent yn cael trafferth a chysylltu â'r cyngor fel mater o flaenoriaeth.  Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r holl dimau a swyddogion am eu cymorth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ychwanegu na ddylai pobl byth gymryd eu ffrindiau a’u teulu yn ganiataol ac na ddylai’r Cabinet ychwaith gymryd swyddogion yn ganiataol.  Adleisiodd yr Arweinydd y sylwadau a diolchodd i gydweithwyr blaenorol yn y Cabinet am ymateb a gweithredu yn wyneb sefyllfa ddigynsail.

 

·        Ategodd y Cynghorydd Davies hefyd ddiolch yr Arweinydd a'r Cynghorydd Harvey. Dros y flwyddyn ddiwethaf pryderwyd na fyddai'r arholiadau'n mynd rhagddynt, ond roeddent bellach wedi hen ddechrau, ac roedd hi wedi bod yn gyfnod anodd i ddisgyblion gan na chawsant dderbyn addysg yn y ffordd arferol. Roedd mesurau cefnogol ar waith gan LlC ac roedd y Cynghorydd Davies yn falch o adrodd fod yr arholiadau'n mynd rhagddynt yn dda iawn ar draws Casnewydd. Diolchodd yr Aelod Cabinet i staff yn ysgolion Casnewydd fu'n helpu'r disgyblion i gymryd eu camau nesaf.

 

·        Ymwelodd y Cynghorydd Marshall â digwyddiad i ofalwyr maeth, lle cafodd adborth cadarnhaol am y Cyngor dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

·        Ychwanegodd y Cynghorydd Lacey ei bod mor braf gweld y gymuned allan yn enwedig yn ystod dathliadau’r Jiwbilî ac wrth edrych i'r dyfodol. Diolchodd LL i aelodau'r Cabinet am eu gwaith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet wedi ystyried a nodi cynnwys yr adroddiad, ac y byddai'r aelodau'n derbyn diweddariadau gan swyddogion yn rhan o'u portffolio.

 

 

Dogfennau ategol: