Agenda item

Adroddiad Pontio ar ôl yr UE

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y cyfnod pontio ar ôl yr UE, a'r heriau economaidd a byd-eang ehangach a oedd yn effeithio ar gymunedau ac economi Casnewydd.

 

Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Ebrill, roedd costau byw cyffredinol teuluoedd a busnesau yn parhau i godi.
 

Adroddwyd bod chwyddiant yn 7.8% hyd at Ebrill 2022, ac roedd disgwyl i hynny barhau i godi. Roedd yn rhaid i fusnesau hefyd drosglwyddo costau uwch i'r prynwr.


Roedd llawer o deuluoedd incwm isel i ganolig yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn, gan ddewis rhwng bwyd, biliau cyfleustodau a thrafnidiaeth.

 

Roedd corff rheoleiddio ynni'r DU eisoes wedi nodi y byddai'r cap ar danwydd yn codi i £2,800 ym mis Hydref.

 

Roedd tîm Treth Gyngor y Cyngor yn annog aelwydydd ym mandiau A a D i hawlio'r taliad o £150 tuag at gostau byw.

 

Byddai'r Cyngor yn gwneud cyhoeddiad pellach ynghylch darparu £1.2m o gymorth ychwanegol i'r teuluoedd mwyaf agored i niwed.

 

Roedd ymgyrch Llywodraeth Cymru 'Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi' hefyd ar gael er mwyn i bobl gael mynediad at fudd-daliadau i'w helpu gyda'u hanghenion.

 

Roedd Cyngor Dinas Casnewydd hefyd yn cynnig taliad o £500 i ofalwyr di-dâl sy'n gofalu am rywun am 35 awr neu fwy, ac sydd ar incwm isel.

 

Roedd busnesau yn y Ddinas hefyd yn gallu gwneud cais am ryddhad ardrethi gan y Cyngor. Roedd grantiau hefyd ar gael i fusnesau newydd a busnesau a oedd yn bodoli eisoes.

 

Sicrhaodd y Cyngor fod £100k ar gael yn 2022 i gefnogi banciau bwyd y Ddinas. Roedd Cyngor Casnewydd bellach yn gweithio mewn partneriaeth â GAVO i gynnig grantiau cyfalaf i fanciau bwyd a sefydliadau cymunedol gynnal prosiectau diogelwch bwyd. 

 

Roedd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn arwain y gwaith o ddarparu Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.  Roedd Cyngor Dinas Casnewydd yn datblygu ei gynllun buddsoddi lleol i gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau lleol er budd cymunedau ledled Casnewydd.  Byddai'r Cabinet hwn yn gwneud cyhoeddiad pellach maes o law ar y Cynllun.

 

Trodd yr Arweinydd ei sylw at ddinasyddion Casnewydd, dinas a oedd yn cydnabod cyfraniad ei phreswylwyr tuag at wneud Casnewydd yn ddinas gyfoethog, amrywiol a chynhwysol i fyw ynddi. Roedd dinasyddion wedi cael eu croesawu o bedwar ban byd, ac roedd yn cefnogi'r rhai a oedd yn ceisio lloches a diogelwch yng Nghasnewydd ac yng Nghymru.

 

Roedd y Cyngor a'i bartneriaid yn parhau i helpu dinasyddion yr UE/AEE gyda'i ceisiadau Statws Sefydledig ac i sicrhau bod dinasyddion yn gallu derbyn y gwasanaethau yr oedd arnynt eu hangen.

 

Yn sgil y rhyfel yn Wcrain bu'n rhaid i ddegau o filoedd o bobl adael eu cartrefi. Roedd pobl a oedd yn cyrraedd Casnewydd a Chymru o'r Wcrain yn cael cefnogaeth gan y Cyngor, iechyd, ysgolion, a grwpiau cymunedol i ymgartrefu yn y ddinas. Dros y mis diwethaf, cymeradwyodd Cyngor Casnewydd a'i bartneriaid 80 o geisiadau fisa yn gysylltiedig â 52 o leoliadau gweithredol i Wcreiniaid ar draws 22 o noddwyr.

 

Roedd gwasanaethau'r Cyngor wedi ymgymryd â chyfrifoldeb ychwanegol, gan helpu i brosesu ceisiadau, cwblhau gwiriadau diogelu angenrheidiol a gweinyddu taliadau ariannol i letywyr ac Wcreiniaid.

 

Aeth ysgolion y Cyngor hefyd ati i groesawu plant o Wcrain i gymunedau eu hysgol, gan eu helpu i setlo i mewn.

 

Diolchodd yr Arweinydd i bawb a agorodd eu cartrefi i gynnig llety i deuluoedd o Wcrain dros yr argyfwng hwn. Roedd elusen leol hefyd wedi gwneud cyflawniad aruthrol, a bu'r Arweinydd yn ymwneud â'r prosiect hwn gan ymweld â dathliad gan Fenywod Casnewydd, ac fel Arweinydd roedd hi'n gyfle gwych cael gwahoddiad i agor drysau Gwesty Westgate a gynrychiolai ddemocratiaeth yng Nghasnewydd. Roedd yn gymaint o fraint ac roedd gweld y gefnogaeth gan bobl Casnewydd wedi'i gwneud yn wirioneddol ostyngedig.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

·        Adleisiodd y Cynghorydd Hughes sylwadau'r Arweinydd a chyfeirio at ddigwyddiad diweddar yr aeth y cydweithiwr a rannai ei swydd fel Aelod Cabinet, y Cyng. Marshall, ac yntau iddo, i gefnogi'r Gymuned Hwngaraidd yng Nghasnewydd. Roedd gweld pa mor dda yr oeddent wedi ymgartrefu yng Nghasnewydd, a'r ffaith bod eu plant yn dysgu Cymraeg, yn brofiad addysgiadol. Roedd y gymuned hefyd yn cefnogi ffoaduriaid o Wcrain, ac yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth gan Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet wedi ystyried a nodi cynnwys yr adroddiad, ac y byddai'r aelodau'n derbyn diweddariadau gan swyddogion yn rhan o'u portffolio.

 

Dogfennau ategol: