Agenda item

Appendix 1 Cabinet Member Portfolios

Cofnodion:

ATODIAD 2

 

Portffolios Aelodau Cabinet Mai 2022/2023

 

Mae'r arweinydd yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau gweithredol ac mae wedi dirprwyo cyfrifoldeb am gyflawni rhai swyddogaethau gweithredol i'r Cabinet yn ei gyfanrwydd ac i aelodau Cabinet unigol, yn unol â'r cynllun dirprwyo hwn.

 

Mae'r swyddogaethau gweithredol canlynol wedi'u dirprwyo i aelodau Cabinet unigol mewn perthynas â'r portffolios a ddyrannwyd iddynt gan yr arweinydd, fel y nodir yn y tablau isod.

 

Os oes unrhyw ansicrwydd ynghylch p’un a yw mater yn dod o fewn portffolio penodol, bydd yr arweinydd yn gwneud penderfyniad ynghylch pa aelod Cabinet ddylai wneud y penderfyniad gweithredol hwnnw.

 

Gwybodaeth gyffredinol ar gyfer holl aelodau’r Cabinet:

 

Polisïau a Dogfennau Polisi

Mae gan bob aelod Cabinet gyfrifoldeb i benderfynu ar unrhyw bolisi neu ddogfennau polisi sy'n ymwneud â'u portffolios a'u diwygio, yn unol â fframwaith polisi a chyllideb y Cyngor.  Nid yw hyn yn cynnwys y polisïau a dogfennau hynny a gedwir ar gyfer gwneud penderfyniadau gan y Cyngor, neu a ddirprwyir i'r Cabinet ar y cyd neu i aelodau neu swyddogion unigol eraill y Cabinet.  Mae'r holl faterion gweithredol i'w penderfynu gan y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol yn unol â’r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Swyddogion.

 

Bydd dogfennau polisi yn cynnwys y canlynol:

·         Strategaethau

·         Cynlluniau

·         Dogfennau canllaw neu ddogfennau canllaw atodol

·         Meini prawf cymhwyster a phatrymau ar gyfer darpariaeth

·         Amcanion ar gyfer darparu gwasanaeth o fewn y portffolio

 

Cynllunio Gwasanaeth a Pherfformiad y Gwasanaeth

Penderfynu'r cynlluniau gwasanaeth ar gyfer y meysydd gwasanaeth o fewn y portffolio, monitro perfformiad yn erbyn y cynlluniau gwasanaeth, a phenderfynu ar unrhyw gamau gweithredu sy'n codi.

 

Dogfennau Ymgynghori

Penderfynu ar yr ymateb i unrhyw ddogfen ymgynghori fawr neu ddogfen arolygu ffurfiol sy'n benodol i'r portffolio neu'r maes gwasanaeth.

 

Hysbysiadau Statudol

Penderfynu p’un a ddylid hysbysebu, ymgynghori ar neu gyhoeddi unrhyw hysbysiadau neu orchmynion statudol (i'r graddau nad ydynt wedi'u dirprwyo i swyddogion) a gweithredu ar gynigion a hysbysebir yng ngoleuni unrhyw sylwadau a dderbynnir.

 

Amrywiadau i Gyllidebau

Penderfynu ar unrhyw amrywiadau i gyllidebau yn unol â'r Rheoliadau Ariannol a'r cyfansoddiad, gan gynnwys trosglwyddiadau hyd at gyfanswm cyfanredol o £100,000 y flwyddyn neu 10% o’r dadansoddiad o amcanion fel y nodir yn Llyfr y Gyllideb (pa un bynnag yw'r isaf).

 

Tendrau

Penderfynu ar restr gymeradwy neu ddethol o ddarpar dendrwyr ar gyfer cyflenwi nwyddau, deunyddiau neu wasanaethau o fewn y portffolio a phenderfynu p’un a ddylid eithrio contractwyr o restrau cymeradwy neu ddethol.

 

Grantiau

Penderfynu, mewn ymgynghoriad â'r arweinydd, p’un a ddylid derbyn grantiau allanol sydd ar gael sydd angen arian cyfatebol, yn amodol ar dderbyn cadarnhad o'r cyllid sydd ar gael i gwrdd ag unrhyw ymrwymiad gan y Cyngor. Mae'n rhaid i hyn gynnwys unrhyw gostau terfynu gweddilliol i'r Cyngor pan ddaw'r cyllid grant i ben.

 

Cytuno ar feini prawf, terfynau, cymwyseddau a dosbarthiad o fewn cynlluniau ar gyfer cymorth grant mewn perthynas â gwasanaethau o fewn y portffolio a phenderfynu p’un a ddylid hepgor amodau sy'n ymwneud â chymorth grant.

 

Rhoi grantiau neu ddarparu cymorth i sefydliadau neu unigolion, lle mae swm y grant yn £20,000 neu fwy, ac eithrio’r rhai sy'n destun dirprwyaeth benodol mewn mannau eraill yn y cynllun. Bydd penderfyniadau ar geisiadau grant o lai na £20,000 yn cael eu penderfynu gan Benaethiaid Gwasanaeth yn gweithredu o fewn meini prawf cytunedig.

 

Penderfynu o dan ba amgylchiadau y gellir hepgor ad-daliad grant.

 

Ffioedd a Thaliadau

Penderfynu ar ffioedd a thaliadau am wasanaethau neu'r defnydd o eiddo yn y portffolio a phenderfynu ar unrhyw ddiwygiadau (i'r graddau nad ydynt wedi'u pennu gan y Cabinet fel rhan o broses pennu cyllideb gyffredinol y Cyngor).

 

Penderfynu ar gymorthdaliadau neu gonsesiynau o fewn unrhyw gynlluniau codi tâl neu gynlluniau eraill.

 

Penderfynu o dan ba amgylchiadau y gellir hepgor taliadau.

 

Adeiladau

Datgan nad oes angen adeiladau neu dir bellach er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth.

 

Penderfynu, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, p’un a ddylid rhoi caniatâd i osod offer telathrebu ar eiddo neu dir a ddelir o fewn y portffolio.

 

Penderfynu ar unrhyw raglen o foderneiddio neu wella eiddo a ddelir o fewn y portffolio, yn amodol ar ddarpariaeth gyllidebol.

 

Ymchwil ac Astudiaethau

Penderfynu p’un a ddylid penodi cymorth allanol ar gyfer ymchwil, astudiaethau neu ymchwiliad, yn amodol ar argaeledd cyllidebol.

 

Cerbydau

Penderfynu ar unrhyw raglen adnewyddu cerbydau o fewn y portffolio, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.

 

Trefniadau Partneriaeth ac Ymgynghori

Penderfynu p’un a ddylid ymrwymo i unrhyw drefniadau partneriaeth neu gompact anstatudol neu gymryd rhan mewn unrhyw drefniadau fforwm anstatudol, yn amodol ar gydymffurfio â fframwaith polisi a chyllideb y Cyngor.

 

Penderfynu ar drefniadau ar gyfer ymgynghori a chydgysylltu rheolaidd â phartneriaid, rhanddeiliaid neu bartïon eraill â diddordeb.

 

Atal Rheolau Sefydlog

Penderfynu o dan ba amgylchiadau i atal Rheolau Sefydlog neu hepgor Rheolau Sefydlog contractau a Rheoliadau Ariannol a sicrhau bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael gwybod am y camau a gymerwyd a'r rhesymau am eu cymryd.

 

Buddiant Ariannol neu Bersonol / Absenoldeb

Os oes gan aelod Cabinet fuddiant ariannol neu bersonol, dylai ddatgan y buddiant a chyflwyno’r mater i’w benderfynu gan arweinydd y Cabinet neu, yn absenoldeb yr arweinydd, y dirprwy arweinydd neu aelod Cabinet arall y gall yr arweinydd ei benodi.

 

Pan fo aelod Cabinet yn absennol neu os oes unrhyw reswm arall na all benderfynu ar fater, bydd y mater yn cael ei benderfynu gan arweinydd y Cabinet neu, yn absenoldeb yr arweinydd, gan y dirprwy arweinydd neu aelod Cabinet arall y gall yr arweinydd ei benodi.

 

 

 

Dirprwyaethau Penodol i Aelodau Cabinet

 

 

Arweinydd y Cyngor a'r

Aelod Cabinet dros Dwf Economaidd a Buddsoddiad Strategol

 

Penderfynu ar unrhyw bolisi neu ddogfennau polisi a'u diwygio mewn perthynas â'r canlynol:

·         Pob mater ariannol

·         Caffael

·         Perfformiad

·         Tegwch

·         Cynllunio corfforaethol

·         Cysylltiadau cyhoeddus a phob cyswllt â'r wasg

·         Digwyddiadau maerol a chorfforaethol

·         Datblygu aelodau Cabinet

·         Prosiectau mawr

·         Gwasanaethau Democrataidd a materion cyfansoddiadol

·         Cydberthnasau â chyrff cenedlaethol

·         Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru

·         Rhwydwaith Economaidd Casnewydd

·         Porth y Gorllewin

·         Dinasoedd Allweddol

·         Adfywio

·         Datblygu economaidd

·         Gwaith a sgiliau

·         Diwylliant a threftadaeth

·         Twristiaeth

    Cyhoeddusrwydd, marchnata a chyfathrebu

 

 


 

Dirprwy arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar

 

Cyffredinol:

·         Dirprwyo ar gyfer yr arweinydd fel cadeirydd y Cabinet ac arfer pwerau dirprwyedig mewn perthynas â phortffolio’r arweinydd yn absenoldeb yr arweinydd neu fel arall fel a bennir gan yr arweinydd

 

Penderfynu ar unrhyw bolisi neu ddogfennau polisi a’u diwygio mewn perthynas â’r canlynol:

·         Gwasanaethau addysg, gan gynnwys y Gwasanaeth Cyflawni Addysg

·         Ysgolion

·         Y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys ataliaeth a chynhwysiant

·         Arlwyo ysgolion

·         Gwasanaethau cerdd

·         Cynhwysiant addysg

·         Plant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion

·         Hawliau rhieni

·         Strategaethau ar gyfer lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEETs)

·         Datblygu strategaethau i ddatblygu disgwyliadau a hyfforddiant i helpu pobl ifanc i gael swyddi neu i ddechrau busnes a’i ddatblygu

·         Datblygu aelodau

 

 

Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau

 

Penderfynu ar unrhyw bolisi neu ddogfennau polisi a’u diwygio mewn perthynas â’r canlynol:

·         Priffyrdd

·         Systemau draenio

·         Glanhau strydoedd

·         Materion traffig

·         Trafnidiaeth ranbarthol

·         Trafnidiaeth a mynediad i’r ddinas, heb gynnwys Cwmni Bws Trafnidiaeth Casnewydd nac unrhyw ddarparwyr eraill

·         Trafnidiaeth integredig

·         Diogelwch ar y ffyrdd

·         Argyfyngau sifil

·         Asedau

·         Unrhyw faterion polisi sy’n ymwneud ag eiddo neu berthynas y Cyngor â Norse os yw’n ymwneud ag unrhyw fater eiddo

·         Unrhyw gaffaeliadau a gwarediadau tir ac eiddo nad ydynt wedi’u dirprwyo i’r Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid

 

Er eglurder – bydd yr aelod Cabinet yn penderfynu ar orchmynion traffig sy’n derbyn gwrthwynebiadau neu’n cael eu herio.  Y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol fydd yn penderfynu ar orchmynion diwrthwynebiad neu’r rhai sy’n cael eu cefnogi’n llwyr.

 

 


 

Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai

 

Penderfynu ar unrhyw bolisi neu ddogfennau polisi a’u diwygio mewn perthynas â’r canlynol:

·       Cynllunio strategol

·       Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu

·       Cynllun Datblygu Lleol – heb ei gadw i’r Cyngor

·       Cynllunio Rhanbarthol

·       Tai

·         Trwyddedu, ac eithrio’r rhai a gadwyd yn ôl i’r Cyngor neu’r Pwyllgor Trwyddedu

·         Diogelu’r Cyhoedd

·         Diogelwch Cymunedol

·         Iechyd yr Amgylchedd

·         Safonau Masnach

·         Tacsis

 

 

Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth

 

Penderfynu ar unrhyw bolisi neu ddogfennau polisi a’u diwygio mewn perthynas â’r canlynol:

·         Strategaeth Lleihau Carbon

·         Cynllun Teithio Cynaliadwy

·         Gwaredu gwastraff

·         Sbwriel

·         Ailgylchu a chynaliadwyedd

·         Gwasanaethau gwyrdd

·         Mynwentydd a’r Amlosgfa

·         Parciau

 

 

Aelod Cabinet dros Lesiant Cymunedol

 

Penderfynu ar unrhyw bolisi neu ddogfennau polisi a’u diwygio mewn perthynas â’r canlynol:

·         Dechrau’n Deg

·         Teuluoedd yn Gyntaf

·         Cymunedau yn Gyntaf

·         Yr agenda gwrthdlodi

·         Dyletswydd economaidd-gymdeithasol

·         Materion gweddilliol yn ymwneud â’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon a Hamdden, Casnewydd FYW, gan gynnwys Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon

·         Cronfa’r Eglwys yng Nghymru

·         Budd-daliadau Tai

·         Budd-daliadau’r dreth gyngor

·         Cenedlaethau’r Dyfodol

·         Addysg i oedolion

·         Gwasanaethau llyfrgell

·         Gwasanaethau ieuenctid

·         Datblygu chwarae

·         Pob mater sy’n ymwneud â chanolfannau cymunedol

 

 


 

Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (rhannu swydd)

 

Penderfynu ar unrhyw bolisi neu ddogfennau polisi a’u diwygio mewn perthynas â’r canlynol:

·         Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion

·         Gofal yn y gymuned i bobl h?n

·         Materion strategol y trydydd sector

·         Camddefnyddio sylweddau

·         Therapi galwedigaethol

·         Strategaethau eiddilwch

·         Iechyd meddwl

·         Anabledd dysgu

·         Gwasanaethau preswyl i bobl h?n

·         Gofal cartref

·         Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl

·         Byw â chymorth

·         Cefnogi Pobl

·         Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal

·         Diogelu

·         Cam-drin Domestig

·         Amddiffyn plant

·         Troseddau ieuenctid

·         Cymorth integredig i deuluoedd

·         Cymorth mewn argyfwng

·         Maethu

·         Gwasanaethau i blant anabl

 

Bydd yr aelod Cabinet hefyd yn penderfynu ar y canlynol:

·         Unrhyw gamau i’w cymryd i fodloni safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol neu unrhyw safonau gofynnol eraill sy’n ymwneud â Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

·         Unrhyw gamau i’w cymryd yn sgil unrhyw adolygiad achos difrifol gan y Pwyllgor Amddiffyn Plant

·         Gofynion unrhyw gynllun gofalwyr maeth dan gontract neu gynllun tebyg, a phenderfynu ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â recriwtio a chadw gofalwyr maeth

·         Unrhyw gamau sy’n codi o adroddiadau a dderbyniwyd o ganlyniad i ymweliadau â chartrefi preswyl i blant a phobl ifanc

·         Taliadau a lwfansau rhieni maeth sy’n ofalwyr

 

 


 

Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol

 

Penderfynu ar unrhyw bolisi neu ddogfennau polisi a’u diwygio mewn perthynas â’r canlynol:

·      Datblygu sefydliadol

·      Trawsnewid busnes

·      Cynllunio gwelliant

·         Unrhyw bolisïau sy’n ymwneud â chydraddoldeb nad ydynt wedi’u neilltuo i’r Cabinet neu’r Cyngor

·         Cyfathrebu o fewn y sefydliad

·         Canolfan wyneb yn wyneb y Cyngor a’r Ganolfan Gyswllt

·         Risg gwybodaeth a llywodraethu gwybodaeth

·         Deall cwsmeriaid

·         Rheoli gwybodaeth

·         Gwella mynediad at wasanaethau

·         Strategaethau TGCh

·         Arloesi digidol yn y Cyngor

·         Strategaethau ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd

·         Unrhyw bolisïau Adnoddau Dynol corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch

·         Ymgymryd ag unrhyw weithgaredd cydfargeinio a phennu a gweithredu unrhyw ddulliau ymgynghori neu drafod

·         Gwasanaethau Cyfreithiol

·         Gwasanaethau Cofrestru

·         Cofrestru Etholiadol