Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Cofnodion:

Cyn cychwyn gyda chwestiynau, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol i’r Cyngor:

 

Coleg Gwent

Roedd cydweithwyr yn ymwybodol bod cynigion i greu campws coleg yng nghanol y ddinas, gan ddarparu cyfleusterau addysg bellach o’r radd flaenaf, yn cymryd cam arall ymlaen.

 

Lansiwyd ymgynghoriad cyn cynllunio cyn i gais amlinellol gael ei gyflwyno ar y cyd gan y Cyngor a Choleg Gwent.

 

Roedd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda Choleg Gwent a Llywodraeth Cymru ar ei gynlluniau i ddod â darpariaeth addysg bellach i galon canol y ddinas.

 

Byddai Ardal Wybodaeth Casnewydd yn cynnig amgylcheddau dysgu rhagorol ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch, gan helpu i ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn cyflwyno cais i Gronfa Ffyniant Bro llywodraeth y DU i gefnogi Sefydliad Technoleg Cenedlaethol mewn lleoliad yng nghanol y ddinas. Byddai sefydliad o'r fath yn darparu addysg a hyfforddiant technegol lefel uwch o ansawdd uchel, a fyddai'n ased gwerthfawr arall y mae mawr ei angen ar y ddinas.

 

Roedd y datblygiadau hyn yn rhan o’n prif gynllun ar gyfer canol y ddinas, sef prosiectau adfywio a fyddai’n darparu cyfleoedd cyflogaeth, dysgu a hyfforddiant, yn creu cymysgedd mwy amrywiol o ddefnyddiau, ac yn gwneud Casnewydd yn lle deniadol i fyw ynddo, gweithio ynddo ac ymweld ag ef.

 

Roedd manylion yr ymgynghoriad cyn cynllunio ar gael ar wefan y Cyngor, ac roedd yr Arweinydd yn annog cydweithwyr i edrych, a rhannu a chyflwyno eu barn.

 

Gan barhau â'r thema sgiliau ac addysg, roedd yr Arweinydd yn falch o ddweud bod yr arlwy dysgu cymunedol diweddaraf wedi'i lansio'n barod ar gyfer dechrau mis Medi. Ar ôl ychydig flynyddoedd anodd, oherwydd y pandemig, rydym yn falch iawn o allu cyflwyno cynnig estynedig a helaeth – gan gynnwys sgiliau hanfodol, cymwysterau TGAU, ieithoedd modern, Iaith Arwyddion Prydain, llythrennedd digidol a sgiliau byw’n annibynnol – i bynciau fel carbon llythrennedd, lle gallai dysgwyr ddeall eu hôl troed carbon a chymryd camau i leihau eu heffaith ar y blaned.

 

O'r wythnos nesaf ymlaen, byddai Canolfan Ffordd y Brenin yn gartref i lyfrgell dros dro newydd. Byddai’r uned, sydd wedi’i lleoli’n agos iawn at brif adeilad y llyfrgell, yn sicrhau y gallem barhau i ddarparu gwasanaethau benthyca, mynediad at gyfrifiaduron cyhoeddus, a rhai adnoddau ymchwil deuluol tra oedd gwaith gwella’n cael ei wneud ar y llyfrgell ganolog a’r amgueddfa.

 

Ar ôl cwblhau'r gwaith, byddai rhai gwasanaethau yn yr Orsaf Wybodaeth yn cael eu darparu o'r adeilad sydd newydd ei adnewyddu. Byddai staff canolfan gyswllt y Cyngor hefyd yn gweithio yno.

 

Daeth hyn yn dilyn y penderfyniad i osod dau lawr o’r hen orsaf reilffordd yn Queensway i Tramshed Tech i greu gofod cydweithio ar gyfer busnesau newydd yn y sectorau digidol, technoleg a chreadigol.

 

Roedd lloriau uwch yr adeilad eisoes wedi’u meddiannu gan Academi Meddalwedd Genedlaethol fawreddog Prifysgol Caerdydd, gan wneud yr hen orsaf reilffordd yn gartref i entrepreneuriaid digidol blaengar y dyfodol.

 

Aeth ein Rhwydwaith Staff Pride ein hunain mewn partneriaeth â Chasnewydd Fyw a PROUD i lansio Prosiect Celf Haf y gymuned LHDTCRhA+.

 

Roedd Rhwydwaith Staff Pride yn dathlu blwyddyn o sefydlu trwy weithio ar y prosiect, a oedd yn cefnogi digwyddiad Pride cymunedol ‘Pride in the Port’, a fyddai'n cael ei gynnal ym mis Medi.

 

Byddai’r prosiect yn caniatáu arddangos celf gymunedol i ddathlu 50 mlynedd o Pride yn y Deyrnas Unedig a digwyddiad Pride cymunedol cyntaf erioed Casnewydd.

 

Fel rhan o'r prosiect, roeddent yn gofyn am gyflwyniadau o waith celf a fyddai'n ffurfio'r casgliad arbennig i'w arddangos yng Nglan yr Afon. Gallai'r gwaith celf fod ar unrhyw ffurf – peintiad neu gerflunwaith, ffurf ffisegol neu ddigidol i'w defnyddio ar-lein – a dylai testun y gwaith celf fod yn rhywun sydd naill ai'n Gymro / Cymraes neu sydd â chysylltiadau cryf â Chymru, ac sy'n uniaethu'n agored fel LHDTCRhA+.

 

Roedd rhagor o fanylion a sut i wneud cyflwyniad ar gael ar ein gwefan.

 

Yn gynharach y mis hwn, roedd y Dirprwy Faer a’r Arweinydd yn falch o gael croesawu Taith Gyfnewid Baton y Frenhines ar gyfer Gemau’r Gymanwlad i Gasnewydd – gwnaeth cannoedd o Sgowtiaid, Geidiaid, Afancod a Brownis ein helpu i sicrhau ei fod yn groeso cynnes iawn!

 

Roedd y baton yn gwneud ei ffordd i Birmingham, y ddinas sy’n lletya Gemau’r Gymanwlad 2022, a byddai wedi teithio 90,000 o filltiroedd o amgylch 72 o wledydd a thiriogaethau’r Gymanwlad cyn gorffen ei daith yn ddiweddarach y mis hwn.

 

Ymunodd yr athletwr Christian Malcom a’r bocsiwr Sean McGoldrick â chludwyr y baton, a oedd i gyd wedi’u henwebu am eu cyfraniadau o fewn y Sgowtiaid a’r Geidiaid, wrth i’r baton trawiadol wneud ei ffordd o amgylch y trac yn Stadiwm Casnewydd.

 

Ar ôl y ras gyfnewid, mwynhaodd y bobl ifanc a’u harweinwyr fel ei gilydd amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys bocsio, beicio, aerobeg, tennis, sboncen, pêl-droed, pêl-rwyd a thennis bwrdd!

 

Ers i'r Cyngor gyfarfod ddiwethaf, roedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn achrediad swyddogol y Faner Borffor ar gyfer economi gyda'r hwyr a'r nos yn y ddinas.

 

Yn debyg i'r Faner Las ar gyfer traethau, nod cynllun y Faner Borffor oedd codi safon ac apêl canol trefi a dinasoedd rhwng 5pm a 5am.

 

Cafodd ardaloedd y dyfarnwyd y Faner Borffor iddynt eu cydnabod am ddarparu cymysgedd bywiog ac amrywiol o gyfleoedd bwyta, adloniant a diwylliant wrth hyrwyddo diogelwch a llesiant ymwelwyr a phreswylwyr.

 

Roedd yr uchafbwyntiau o gyflwyniad Casnewydd yn cynnwys bywiogi diwylliant caffis yn ystod y pandemig, y gwaith rhagweithiol sy'n cael ei wneud ynghylch cyffuriau a sbeicio diodydd, ac arwyddion Archwilio Casnewydd.

 

Heb os, bu newid sylweddol yn y cynnig gyda’r nos ac yn ystod y nos a’r awyrgylch yng nghanol y ddinas – roedd hyn yn newyddion gwych i fusnesau ac yn deyrnged i waith caled ein swyddogion trwyddedu a’n partneriaid, gan gynnwys Ardal Gwella Busnes Newport Now a Pubwatch.

 

Roedd gan Gasnewydd gymysgedd anhygoel o ddiwylliant caffi arddull Ewropeaidd a thafarndai traddodiadol, ynghyd â rhai bwytai rhagorol. Roedd gan y ddinas hefyd fusnesau annibynnol gwych yn darparu cerddoriaeth fyw ac adloniant. 

 

Ar ran y Cyngor, llongyfarchodd yr Arweinydd ar ôl nid un, ond dwy fuddugoliaeth Casnewydd yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol mawreddog Cymru.

 

Enillodd Ysgol Uwchradd Llan-wern y Wobr Betty Campbell gyntaf erioed am Amrywiaeth yn y Cwricwlwm. Roedd teulu Betty Campbell yn y digwyddiad a chyflwynodd yr Athro Charlotte Williams, a ysgrifennodd yr argymhellion diweddar ar gyfer archwilio treftadaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth yn y cwricwlwm i Gymru, y wobr gyda Jeremy Miles.

 

Yr ail wobr oedd ‘Athro Newydd y Flwyddyn’ – categori ar gyfer athrawon sydd ym mlynyddoedd dau a thri o'u gyrfa. Enillwyd hon gan Holly Gordon o Ysgol Bryn Derw. Enillodd Holly hefyd wobr y South Wales Argus am yr un categori yn gynharach yn y flwyddyn. Aeth y Gweinidog Addysg i drafferth fawr i bwysleisio arbenigedd Holly a’r ffaith mai Casnewydd oedd â’r unig ysgol arbennig ar gyfer anhwylderau yn y sbectrwm awtistig yng Nghymru.

 

Llongyfarchiadau ar gyflawniadau mor anhygoel.

 

Cwestiynau i'r Arweinydd

 

Y Cynghorydd Routley:

 

A ellid gwneud mwy i hyrwyddo strategaethau gwrth-fwlio?

 

Yr Arweinydd:

 

Roedd yn bwysig yn holl waith y Cyngor i hybu parch. Roedd gwaith parhaus mewn meysydd allweddol gyda phartneriaid addysg a chydweithwyr ar draws yr ysgolion. Hefyd, roedd polisïau ar waith, gan gynnwys sut y dylai unigolion ymddwyn yn y gweithle. Fel awdurdod dysgu, roedd bob amser lle i ddatblygu ymhellach.

 

Atodol:

 

Dywedodd y Cynghorydd Routley nad oedd plant yn wydn a gofynnodd p'un a oedd modd newid y naratif. A oedd cyfle i ddatrys bwlio mewn ysgolion a cholegau a chefnogi ymgyrch hollbleidiol i fabwysiadu agwedd newydd sbon at fwlio yng ngoleuni rhai trasiedïau?

 

Yr Arweinydd:

 

Ailadroddodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn sylweddoli difrifoldeb bwlio, y gallai ddigwydd ar unrhyw oedran mewn unrhyw leoliad. Dywedodd yr Arweinydd mai'r Cynghorydd Routley oedd cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Pobl a'i fod wedi cael cyfle i graffu ar y maes hwn ac y byddai'n fwyaf priodol ei drafod yn fanwl. Yn ogystal, byddai Aelod y Cabinet a'r Prif Swyddog Addysg hefyd ar gael i ymchwilio i'r mater hwn pe bai'r Cynghorydd Routley am drafod y materion hyn yn fanwl.

 

Y Cynghorydd Whitehead:

 

Roedd pryderon ynghylch tanau posibl yn cychwyn oherwydd y tywydd poeth, yn enwedig gyda'r glaswellt hir, a gofynnodd i'r Arweinydd p'un a oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn neu fesurau lliniaru ynghylch y mater hwn.

 

Yr Arweinydd:

 

Roedd mesurau ar waith, yn ogystal â thrafodaethau parhaus. Byddai'n esgeulus i beidio â thynnu sylw at waith y strategaeth ar y newid yn yr hinsawdd ac roedd y tywydd poeth garw presennol yn dystiolaeth ddifrifol o'r ffordd yr oedd yr hinsawdd yn newid.  Roedd No Mow May yn cefnogi'r cynefin naturiol, yn unol â pholisïau. Fodd bynnag, roedd rhai wardiau yng Nghasnewydd yr oedd Cartrefi Dinas Casnewydd yn gyfrifol amdanynt yn ogystal â Chyngor Dinas Casnewydd a dylem fod yn ymwybodol o hyn. O ran y tywydd a chynlluniau i liniaru hyn, roedd argyfyngau sifil wedi bod yn cyfarfod yn ddyddiol i drafod hyn a sicrhau parhad gofal cartref yng Nghasnewydd.

 

Atodol:

 

Roedd y Cynghorydd Whitehead yn gobeithio y byddai pob aelod yn cymryd amser i wrando ar drigolion a bod yn wyliadwrus ac yn ystyriol yn ystod y cyfnod hwn.

 

Y Cynghorydd Morris:

 

Ble’r oeddem ni ar fater teithwyr a chyfeiriodd at safleoedd dros dro y cynigiwyd eu bod yn eu lle ar gyfer teithwyr ddeng mlynedd yn ôl?

 

Yr Arweinydd:

 

Roedd lefel uchel o ymgysylltu â’r cyhoedd ar y pryd, a oedd yn arwydd o’r diddordeb. O safbwynt Llywodraeth Cymru, roedd angen asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr arnynt ac, er i’r gwaith hwn gael ei oedi yn ystod COVID-19, roedd ar y gweill. Roedd rhai awdurdodau wedi dewis peidio â mynd i'r afael â hyn, ond roedd Cyngor Dinas Casnewydd yn ymchwilio i hyn. Roedd yr asesiad yn drwm ar adnoddau, ac roedd llawer o swyddogion ac amser swyddogion yn gysylltiedig â hyn. Roedd y swyddogion hyn yn aml hefyd yn delio â materion tai eraill. Heriau eraill yn ymwneud â hyn, oedd bod yr haf wedi arwain at gynnydd mewn presenoldeb Sipsiwn a Theithwyr ac roedd y rhain yn cael eu rheoli yn unol â pholisïau presennol.

 

Atodol:

 

Dywedodd y Cynghorydd Morris hefyd fod pobl yn rhwystredig oherwydd y diffyg cynnydd ac a allai’r Arweinydd roi rhywfaint o frys arno gan y byddai trigolion a theithwyr yn fodlon ar hynny.

 

Yr Arweinydd:

 

Gwahaniaethodd yr Arweinydd rhwng safle tramwy ar gyfer y rhai sy'n ymweld yn ystod misoedd yr haf, er enghraifft, a safle parhaol, lle byddai'n rhaid i bobl ymuno â'r gofrestr tai i gael safle sefydlog. Roedd llawer o waith ar y gweill mewn perthynas â chymhwysedd ac asesiad dwys o'r ceisiadau hyn, felly sicrhaodd yr Arweinydd y Cynghorydd Morris fod y gwaith yn mynd rhagddo.