Agenda item

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

        i.           Deputy Leader and Cabinet Member for Education and Early Years

      ii.           Cabinet Member for Community and Wellbeing

     iii.           Cabinet Member for Strategic Planning, Regulation and Housing

    iv.           Cabinet Member for Social Services

      v.           Cabinet Member for Organisational Transformation

    vi.           Cabinet Member for Climate Change and Bio-Diversity

   vii.           Cabinet Member for Infrastructure and Assets

Cofnodion:

Roedd deg cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau’r Cabinet:

 

Cwestiwn 1 – Dirprwy Arweinydd / Aelod y Cabinet: Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar

 

Y Cynghorydd Morris:

A allech esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldeb mewn Saesneg clir, gan gynnwys eich gweledigaeth bersonol ar gyfer y rôl ac enwau’r uwch-swyddogion sy’n adrodd i chi?

 

Ymateb:

 

Diolch am eich cwestiwn. 

 

Fi yw Aelod y Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar. Fe welwch y cyfrifoldebau sy’n ymwneud â’r rôl hon wedi’u nodi yn Atodiad 1 o Eitem 2 ar ein hagenda heddiw – Cofnodion 17 Mai 2022. Gall aelodau ddod o hyd i hwn ar dudalen 33 y pecyn adroddiad. 

 

Fy ngweledigaeth yw’r weledigaeth a rennir a nodir gan y weinyddiaeth Lafur yn ein hymrwymiadau maniffesto i bobl Casnewydd. Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail i'r Cynllun Corfforaethol y bydd y cynlluniau Maes Gwasanaeth yn cael eu datblygu ohono. 

 

Rwy’n gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Addysg, Sarah Morgan, sy’n Bennaeth Gwasanaeth yn y maes hwn, a hefyd gydag uwch-swyddogion eraill. Mae'r holl aelodau etholedig wedi cael manylion y Tîm Gweithredol a Phenaethiaid Gwasanaeth fel rhan o'u cyfnod sefydlu.

 

Cwestiwn 2 – Aelod y Cabinet: Cymuned a Llesiant

 

Y Cynghorydd Morris:

A allech esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldeb mewn Saesneg clir, gan gynnwys eich gweledigaeth bersonol ar gyfer y rôl ac enwau’r uwch-swyddogion sy’n adrodd i chi?

 

Ymateb:

Diolch am eich cwestiwn. Fi yw Aelod y Cabinet dros Gymunedau a Llesiant. Mae fy nghyfrifoldebau sy'n ymwneud â’r rôl hon wedi’u nodi yn Atodiad 1 i Eitem 2 ar ein hagenda heddiw – cofnodion 17 Mai 2022. Gall aelodau ddod o hyd i hyn ar dudalen 33 y pecyn adroddiad. Fy ngweledigaeth yw’r weledigaeth a rennir a nodir gan ymrwymiadau maniffesto Llafur i bobl Casnewydd. Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail i'r Cynllun Corfforaethol y bydd y cynlluniau Maes Gwasanaeth yn cael eu datblygu ohono. Rwy'n gweithio'n agos gyda'm cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth ar gyfer Pobl, Polisi a Thrawsnewid. Mae'r holl aelodau etholedig wedi cael manylion y Tîm Gweithredol a Phenaethiaid Gwasanaeth fel rhan o'u cyfnod sefydlu ar ôl etholiad mis Mai.

 

 

Cwestiwn 3 – Aelod y Cabinet: Cynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai

 

Y Cynghorydd Morris:

A allech esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldeb mewn Saesneg clir, gan gynnwys eich gweledigaeth bersonol ar gyfer y rôl ac enwau’r uwch-swyddogion sy’n adrodd i chi?

 

Ymateb:

Diolch i'r Cynghorydd Morris am eich cwestiwn.

 

Fi yw Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai.

 

Mae fy nghyfrifoldebau sy'n ymwneud â'r rôl hon wedi'u nodi yng nghofnodion 17 Mai ar dudalen 33 a hefyd yn Atodiad 1 i Eitem 2 ar ein hagenda heddiw.

 

Fy ngweledigaeth yw’r weledigaeth a rennir a nodir gan y weinyddiaeth Lafur yn ein hymrwymiadau maniffesto i bobl Casnewydd. Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail i'r Cynllun Corfforaethol y bydd y cynlluniau Maes Gwasanaeth yn cael eu datblygu ohono.

 

Rwy'n gweithio gyda Chyfarwyddwr Strategol yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ogystal â gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol.

 

Rwyf hefyd yn gweithio gyda'r Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd, y Pennaeth Tai a Chymunedau, ac weithiau Pennaeth y Gyfraith a Safonau.

 

Credaf fod yr holl aelodau etholedig wedi cael manylion y Tîm Gweithredol fel rhan o'u cyfnod sefydlu.

 

Cwestiwn 4 – Aelod y Cabinet: Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Y Cynghorydd Morris:

A allech esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldeb mewn Saesneg clir, gan gynnwys eich gweledigaeth bersonol ar gyfer y rôl ac enwau’r uwch-swyddogion sy’n adrodd i chi?

 

Ymateb:

Diolch am eich cwestiwn, y Cynghorydd Morris. 


Fi yw aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol – mewn trefniant rhannu swydd. 

Mae’r cyfrifoldebau sy’n ymwneud â’r rôl hon wedi’u nodi yn Atodiad 1 i Eitem 2 ar ein hagenda heddiw – Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 17 Mai 2022. Gall aelodau ddod o hyd i gyfrifoldebau Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ar dudalen 38 y pecyn adroddiad. 

Fy ngweledigaeth yw’r weledigaeth a rennir a nodir gan y weinyddiaeth Lafur yn ein hymrwymiadau maniffesto i bobl Casnewydd. 

Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail i'r Cynllun Corfforaethol y bydd y cynlluniau Maes Gwasanaeth yn cael eu datblygu ohono. 


Rwy’n gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr, Sally Ann Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Plant, Natalie Poyner, a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion, Mary Ryan, yn ogystal ag uwch-swyddogion eraill. Ar ben hyn, mae'r holl aelodau etholedig wedi cael manylion y Tîm Gweithredol a Phenaethiaid Gwasanaeth fel rhan o'u cyfnod sefydlu.

 

Cwestiwn 5 – Aelod y Cabinet: Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Y Cynghorydd Mogford

Dywedwyd yr wythnos hon bod “MWY nag un o bob tri phlentyn yng Nghasnewydd yn byw mewn tlodi, yn ôl ffigurau newydd – sy’n golygu mai dyma ardal awdurdod lleol mwyaf tlawd Cymru.” South Wales Argus 13/7/2022.

 

Pam, ym marn Aelod y Cabinet, y mae Casnewydd yn y newyddion eto am y rhesymau anghywir ac felly pa gamau y *mae'n* eu cymryd ar lefel y Cyngor i fynd i’r afael â’r sefyllfa enbyd hon yn uniongyrchol.

 

Ymateb:

Diolch, y Cynghorydd Mogford, am godi’r cwestiwn hwn.

Mae gennym boblogaeth gynyddol yng Nghasnewydd ac fel y mae data cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei ddangos i ni, y rheswm dros y cynnydd hwnnw yw twf ein dinasyddion iau. Mae achosion tlodi plant, ac yn wir tlodi, ar draws pob gr?p oedran, yn amlffactoraidd. Mae amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys costau byw cynyddol, tâl isel, costau tai a budd-daliadau nawdd cymdeithasol annigonol yn allweddol i pam nad oes gan rai pobl ddigon o adnoddau ac felly'n byw mewn tlodi. Ar hyn o bryd, mae Credyd Cynhwysol yn annigonol i godi'r rhai sy'n gymwys i gael budd-daliadau mewn gwaith allan o dlodi. Yn yr un modd, nid yw'r system nawdd cymdeithasol ar gyfer y rhai sy'n dibynnu'n llwyr ar fudd-daliadau fel rhwyd ddiogelwch yn darparu digon o gymorth, yn enwedig i deuluoedd â mwy na dau o blant ac i bobl anabl. Mae costau byw cynyddol yn effeithio'n drymach ar y rhai sy'n dibynnu ar nawdd cymdeithasol ac unwaith eto yn cael effaith arbennig iawn ar blant a phobl anabl. Llywodraeth San Steffan sy'n gyfrifol am weinyddu a gweithredu'r system fudd-daliadau.

 

Ledled Casnewydd, mae gennym ystod eang o wasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'r rhain yn amrywio o'n darpariaeth gyffredinol ar gyfer pob plentyn mewn ysgol i ymyriadau arbenigol gan wasanaethau plant ar gyfer ein teuluoedd mwyaf agored i niwed. Mae ein gwasanaethau Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Ieuenctid a Chwarae i gyd ar waith i ddiwallu anghenion ein cymunedau. Rydym yn gweithio gyda’n sefydliadau partner, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Heddlu Gwent a llu o sefydliadau trydydd sector, i ddarparu cymorth, cyngor, arweiniad ac ymyriadau uniongyrchol gyda theuluoedd. Fel rhan o ailstrwythuro diweddar ein tîm uwch-reolwyr, rydym wedi nodi’r angen i wella ein gwasanaethau Atal a Chynhwysiant ac felly dod â darpariaethau at ei gilydd i greu mwy o gydlyniant ac arferion a rennir er mwyn osgoi dyblygu. Mae rhai o'n gwasanaethau yn cefnogi teuluoedd yn benodol i sicrhau eu bod yn cael mynediad llawn at fudd-daliadau priodol.

 

Mae’r datblygiadau adfywio parhaus yng Nghasnewydd i’w croesawu’n fawr o ran creu cyflogaeth a gwella’r amgylchedd ehangach i’n holl ddinasyddion a bydd y rhain yn dod â mwy o gyfleoedd i’n holl ddinasyddion. Fodd bynnag, bydd rhai o'n poblogaeth iau yn parhau i fod yn ddibynnol ar nawdd cymdeithasol ac yn enwedig budd-daliadau mewn gwaith. Wrth i'r argyfwng costau byw barhau, mae'r effaith ar ein dinasyddion, ac yn enwedig ar blant, yn peri cryn bryder. Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi teuluoedd i liniaru effaith yr argyfwng cenedlaethol hwn.

 

Ni ddylai plant fod yn byw mewn tlodi yn y 21ain ganrif ac mae llawer o ffactorau, yn anffodus, yn golygu bod rhai teuluoedd yn byw mewn tlodi.

 

Rydym yn cydnabod bod rhai teuluoedd yn ei chael yn anodd yn ariannol ac i rai mae hyn wedi dod yn anoddach fyth yn ystod y pandemig ac, yn fwy diweddar, wrth i gostau byw gynyddu.

 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd a’i bartneriaid yn cynnig ystod eang o gymorth i rieni a gofalwyr ledled y ddinas i fynd i’r afael â thlodi ac amddifadedd.

 

Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda biliau, cymorth i ddod o hyd i waith neu i gael mynediad at hyfforddiant, darpariaeth gofal plant, a chymorth i fanciau bwyd.

 

Mae atal ac ymyrryd yn ddwy elfen allweddol o’n brwydr yn erbyn tlodi ac mae rhai prosiectau amhrisiadwy ar waith yn y ddinas hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

 

·         Dechrau’n Deg: wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae hwn yn darparu gofal plant am ddim, cylchoedd chwarae, clybiau cyn ac ar ôl yr ysgol mewn rhannau o Gasnewydd, a chymorth gyda chostau gofal plant. Mae hyn yn helpu i gefnogi llesiant plant yn ogystal â lleddfu’r pwysau ar rieni a gofalwyr.

 

·         Teuluoedd yn Gyntaf: rhaglen arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi teuluoedd, plant a phobl ifanc hyd at 25 oed gyda’r prif nod o leihau effaith tlodi a chefnogi llesiant emosiynol, trwy asiantaethau’n cydweithio a chanolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar.

 

·         Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu cyngor a gwybodaeth am wasanaethau i rieni ac, ynghyd â’r gwasanaeth gofal plant, yn gweithio gyda darparwyr, a all fod yn wasanaeth hanfodol i rieni a gofalwyr sy’n gweithio. Mae grantiau hefyd ar gael i ddarparwyr gofal plant.

 

·         Mae ein tîm datblygu chwarae yn gweithio gyda theuluoedd trwy chwarae a meithrin gwydnwch a chydberthnasau cadarnhaol. Mae’r manteision yn cynnwys gwella llesiant emosiynol, cymdeithasol a chorfforol oedolion a phlant.

 

·         Mae Bwyd a Hwyl yn gweithio gyda phlant mewn pum safle i hyrwyddo prydau iach a chyflwyno gweithgareddau corfforol.

 

·         Mae Rhaglen Trawsnewid Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar yn gweithredu ym Metws ac mae’n brosiect amlasiantaeth sy’n sicrhau bod teuluoedd â phlant o enedigaeth hyd at saith oed yn cael y cymorth cywir.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn darparu cymorth ariannol i deuluoedd yn uniongyrchol a thrwy sefydliadau eraill.

 

Er enghraifft, mae grant cyfalaf newydd wedi'i sefydlu rhwng y Cyngor a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent i gefnogi grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector sy'n ymateb i ansicrwydd bwyd yng Nghasnewydd.

 

Mae'r cyllid yn cynnwys mentrau bwyd cymunedol, prosiectau tyfu a chydweithrediadau sy'n wynebu heriau o ran diwallu angen oherwydd offer, adeiladau neu ffactorau eraill annigonol.

 

Mae cynnig i ddarparu cyllid ychwanegol i sefydliadau bwyd cymunedol hefyd yn cael ei ystyried yn yr wythnosau nesaf.

 

Mae cymorth ymarferol ar gael drwy ein hybiau ardal. Mae timau fel ein cysylltwyr cymunedol yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ar draws ardal Casnewydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.

 

Gall pobl hefyd wneud cais am ostyngiadau yn y dreth gyngor, taliadau tai yn ôl disgresiwn, a chymorth brys ar gyfer costau hanfodol.

 

Atodol:

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mogford p'un a oedd Aelod y Cabinet yn beio'r llywodraeth ganolog am wneud Casnewydd yr ardal fwyaf tlawd yng Nghymru.

 

Ymateb:

 

Gwnaeth y Cynghorydd Hughes ei deimladau ar y pwnc yn glir, ac, yn ei ymateb, awgrymodd fod y Cynghorydd Mogford yn cyfeirio at hyn.

 


 

Cwestiwn 6 – Aelod y Cabinet: Trawsnewid Sefydliadol

 

Y Cynghorydd Morris:

A allech esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldeb mewn Saesneg clir, gan gynnwys eich gweledigaeth bersonol ar gyfer y rôl ac enwau’r uwch-swyddogion sy’n adrodd i chi?

 

Ymateb:

Diolch i chi, y Cynghorydd Morris, am y cwestiwn.

 

Fi yw Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol.

 

Mae fy nghyfrifoldebau sy'n ymwneud â’r rôl hon wedi’u nodi yn Atodiad 1 i Eitem 2 ar ein hagenda heddiw – Cofnodion 17 Mai 2022. Gall aelodau ddod o hyd i hwn yn y pecyn adroddiad.

 

Fy ngweledigaeth yw’r weledigaeth a rennir a nodir gan y weinyddiaeth Lafur yn ein hymrwymiadau maniffesto i bobl Casnewydd. Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail i'r Cynllun Corfforaethol y bydd y cynlluniau Maes Gwasanaeth yn cael eu datblygu ohono.

 

Rwy’n gweithio’n agos gyda Phennaeth y Gyfraith a Safonau a Phennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid ac uwch-swyddogion eraill. Mae'r holl aelodau etholedig wedi cael manylion y Tîm Gweithredol a Phenaethiaid Gwasanaeth fel rhan o'u cyfnod sefydlu.

 

Cwestiwn 7 – Aelod y Cabinet: Y Newid yn yr Hinsawdd a Bioamrywiaeth

 

Y Cynghorydd Morris:

A allech esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldeb mewn Saesneg clir, gan gynnwys eich gweledigaeth bersonol ar gyfer y rôl ac enwau’r uwch-swyddogion sy’n adrodd i chi?

 

Ymateb:

Diolch am eich cwestiwn.


Fi yw Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a Bioamrywiaeth.

Mae’r cyfrifoldebau sy’n ymwneud â’r rôl hon wedi’u nodi yn Atodiad 1 i Eitem 2 ar ein hagenda heddiw – Cofnodion 17 Mai 2022. Gall aelodau ddod o hyd i hwn ar dudalen 33 y pecyn adroddiad. 

Fy ngweledigaeth yw’r weledigaeth a rennir a nodir gan y weinyddiaeth Lafur yn ein hymrwymiadau maniffesto i bobl Casnewydd. Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail i'r Cynllun Corfforaethol y bydd y cynlluniau Maes Gwasanaeth yn cael eu datblygu ohono. Rwy’n gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Strategol dros yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Paul Jones a Phennaeth Gwasanaeth yr Amgylchedd a Diogelu’r Cyhoedd, Silvia Gonzalez Lopez.

 

Mae'r holl aelodau etholedig wedi cael manylion y Tîm Gweithredol a Phenaethiaid Gwasanaeth fel rhan o'u cyfnod sefydlu.

 

Cwestiwn 8 – Aelod y Cabinet: Seilwaith ac Asedau

 

Y Cynghorydd Morris:

A allech esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldeb mewn Saesneg clir, gan gynnwys eich gweledigaeth bersonol ar gyfer y rôl ac enwau’r uwch-swyddogion sy’n adrodd i chi?

 

Ymateb:

Fi yw Aelod y Cabinet dros Seilwaith ac Asedau. 

Mae’r cyfrifoldebau sy’n ymwneud â’r rôl hon wedi’u nodi yn Atodiad 1 i Eitem 2 ar ein hagenda heddiw – Cofnodion 17 Mai 2022. Gall aelodau ddod o hyd i hwn ar dudalen 33 y pecyn adroddiad. 

 

Fy ngweledigaeth yw’r weledigaeth a rennir a nodir gan y weinyddiaeth Lafur yn ein hymrwymiadau maniffesto i bobl Casnewydd. Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail i'r Cynllun Corfforaethol y bydd y cynlluniau Maes Gwasanaeth yn cael eu datblygu ohono. 

 

Rwy’n gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Strategol, Paul Jones, Pennaeth Gwasanaethau Dinas, Stephen Jarrett, y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid, Tracy McKim, ac uwch-swyddogion eraill. Mae'r holl aelodau etholedig wedi cael manylion y Tîm Gweithredol a Phenaethiaid Gwasanaeth fel rhan o'u cyfnod sefydlu.

 

Cwestiwn 9 – Aelod y Cabinet: Seilwaith ac Asedau

 

Y Cynghorydd Mogford:

A allai Aelod y Cabinet roi ei weledigaeth ar gyfer dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus o fewn y ddinas, ac wrth wneud hynny, mynegi barn ynghylch p'un a yw ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fel y mae ar hyn o bryd yn addas i’r diben?

 

Ymateb:

Mae Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru,  yn nodi’r defnydd o deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus fel dewisiadau sy’n cael eu ffafrio o gymharu â cheir preifat ac rwy’n rhannu’r dyheadau hyn.

 

Mae’r newidiadau patrwm teithio drwy’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y defnydd o fysiau, ac nid yw hyn yn unigryw i Gasnewydd, ac effeithiwyd ar hyfywedd gwasanaethau.

 

Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig ac rwy'n falch bod gwasanaethau wedi cael eu cefnogi, ac yn parhau i gael eu cefnogi, gan gyllid brys. Bydd y cymorth hwn yn ein galluogi i ddeall y newidiadau mewn nawdd yn well wrth i ni symud ymlaen.

 

Mae'r diwydiant yn wynebu ei heriau ei hun, gan gynnwys y cyflenwad o yrwyr.

 

Byddwn yn cefnogi’r mentrau diweddar a pharhaus yng Nghasnewydd, fel y treial prisiau rhad ac am ddim a’r cynllun Fflecsi, sy’n caniatáu i ni ddarparu gwasanaethau i benderfynu sut y gall mentrau a gwasanaethau gwahanol fod o fudd i’n cymunedau.

 

Byddwn hefyd yn nodi bod ein gweithredwr trefol yn arloesol yn ei ddull gweithredu, ac erbyn hyn mae'n rhedeg nifer o fysiau trydan gyda'r gostyngiadau carbon sy'n gysylltiedig â hynny.

 

Rwy'n awyddus i barhau i weithio gyda Chomisiwn Burns ar gyfer unrhyw fanteision i drafnidiaeth gyhoeddus y gellir eu gwneud yn y ddinas a sylwch fod hyn yn cynnwys gwelliannau i'n harlwy rheilffyrdd.

 

Efallai y byddwch hefyd yn ymwybodol ein bod wedi ymateb yn ddiweddar i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar ddyfodol y diwydiant, gan newid o ddiwydiant masnachol yn bennaf fel y mae ar hyn o bryd i system fasnachfraint, gan ofyn am ragor o fanylion am y cynigion i sicrhau bod ein cymunedau’n cael system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol yn y dyfodol.

 

Atodol:

 

Er eglurhad, gofynnodd y Cynghorydd Mogford p'un a oedd gan y Cynghorydd Lacey fwy o gynlluniau di-dâl ar waith i hepgor costau i bobl.

 

Y Cynghorydd Lacey:

 

Byddai'r Cynghorydd Lacey yn darparu ateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 10 – Aelod y Cabinet: Seilwaith ac Asedau

 

Y Cynghorydd Mogford:

Gyda chyhoeddiad y bydd y ‘ddeddfwriaeth 20mya’ newydd yn dod i rym yn ail hanner 2023 ac o ystyried y canlynol: ‘Ni fydd y ddeddfwriaeth newydd yn gosod terfyn cyflymder cyffredinol ar bob ffordd, yn hytrach bydd yn gwneud y terfyn cyflymder diofyn yn 20mya, gan adael awdurdodau lleol i ymgysylltu â'r gymuned leol i benderfynu pa ffyrdd ddylai aros ar gyflymder o 30mya.’

 

A all Aelod y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw broses ar gyfer ymgysylltu â’r ‘gymuned leol’? A fydd y newidiadau hyn yn cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru? Os na, beth fydd y goblygiadau ariannol i gyllideb y Cyngor.

 

Ymateb:

Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ei menter i newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya mewn ardaloedd preswyl i 20mya.

 

Trwy Lywodraeth Cymru, mae ymgynghorwyr arbenigol wedi mapio terfynau cyflymder 30mya presennol ledled Cymru ac wedi darparu mapiau i bob awdurdod lleol, gan gynnwys Casnewydd, yn dangos yr ardaloedd lle maent yn teimlo bod y meini prawf a osodwyd i sicrhau cysondeb ledled Cymru yn berthnasol.

 

Mae Casnewydd wedi cwblhau ei holl asesiadau rhwydwaith ac wedi cyflwyno’r data i Lywodraeth Cymru i’w hystyried a’u cynnwys ar ei MapDataCymru, a fydd yn dangos yr eithriadau 20mya a 30mya ar gyfer y ddinas. Rhagwelir y bydd y data hyn ar gael i’r cyhoedd ym mis Medi 2022.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar strategaeth gyfathrebu ar hyn o bryd, ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r strategaeth honno i geisio sicrhau bod ein cymunedau’n cael gwybod am y fenter.

 

Fel menter gan Lywodraeth Cymru, mae wedi ymrwymo i ariannu'r gwaith o weithredu'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ar gyfer pob un o’r 22 awdurdod ledled Cymru ac felly dylai fod goblygiadau ariannol i Gyngor y Ddinas wrth weithredu’r ddeddfwriaeth newydd hon.

 

Atodol:

 

Er eglurhad, gofynnodd y Cynghorydd Mogford, o ran proses leol, ar ôl y terfyn cyflymder 20 mya, oni fyddai ymgynghoriad â thrigolion.

 

Ymateb:

 

Dywedodd y Cynghorydd Lacey y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau i gadeiryddion pwyllgorau. Felly, diolchodd yr aelod llywyddol i’r aelodau am fod yn bresennol a daeth â’r cyfarfod i ben.