Agenda item

Rownd 2 y Gronfa Lefelu i Fyny - Y Sefydliad Technoleg Cenedlaethol (Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod ei chydweithwyr ar y Cabinet yn si?r o gofio bod Llywodraeth y DU wedi lansio Cronfa Codi'r Gwastad gwerth £4.8 biliwn y llynedd. Cynhaliwyd ceisiadau Cylch 1 y llynedd, a chyflwynodd Casnewydd cais a ganolbwyntiai ar gyfleoedd i fuddsoddi yn nhir y cyhoedd o amgylch ardal Gorsaf Casnewydd. Yn anffodus, ni fu cais y Cyngor yn llwyddiannus, ond roedd Llywodraeth y DU bellach wedi dechrau derbyn ceisiadau am Gylch 2. Roedd hon yn dal i fod yn broses ymgeisio gystadleuol, gyda hyd at £20m o gyllid cyfalaf ar gael ar gyfer cynlluniau adfywio a buddsoddi diwylliannol.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno oedd 6 Gorffennaf 2022.

 

Roedd Casnewydd wedi'i nodi'n ardal Blaenoriaeth 1, ac er bod hynny'n creu mantais o ran yr hierarchaeth anghenion, roedd yn dal i fod broses gystadleuol, a byddai cyllid yn cael ei ddyfarnu ar sail ansawdd y cais yn hytrach na statws blaenoriaeth.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch iawn o gyflwyno'r adroddiad hwn yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno cais i Gylch 2, a ganolbwyntiai ar greu Sefydliad Technoleg Cenedlaethol Dinas Casnewydd. Byddai'r Sefydliad Technoleg newydd hwn wedi'i leoli yng nghanol y Ddinas, a byddai'n ategu ac yn adeiladu ar gyflawniad Ardal Wybodaeth Casnewydd. Byddai'r cyfleuster hwn yn cael ei ddarparu mewn cydweithrediad â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Addysg Bellach ac Uwch, arbenigwyr o fyd busnes a diwydiant, a chyflogwyr. Byddai'r ffocws ar ddarparu cyrsiau a chymwysterau targededig a manwl lle'r oedd y galw ar ei uchaf ymhlith cyflogwyr. Roedd disgwyl iddo:

 

·        greu cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr â chymwysterau technegol lefel uwch.

·        darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr, nawr ac yn y dyfodol, a oedd yn hanfodol er mwyn sicrhau twf mewn cynhyrchiant lleol rhanbarthol a chenedlaethol.

·        denu ystod amrywiol o ddysgwyr i fynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth yn rhai rhannau o'r gweithlu technegol, er mwyn cynyddu eu heffaith gymdeithasol yn ogystal â'u heffaith economaidd hyd yr eithaf, a

·        cefnogi dysgwyr sy'n oedolion, p'un a ydynt mewn cyflogaeth neu ddim, sydd am gael mynediad hyblyg i addysg lefel uwch

 

Byddai'r cynnig yn wahanol iawn i ddarpariaeth Addysg Bellach ac Addysg Uwch sy'n bodoli eisoes, ac roedd partneriaid lleol yn cefnogi'r cais. Roedd hi'n bwysig cydnabod bod y cais hwn wedi cael ei ddatblygu yn sgil adborth parhaus gan gyflogwyr a chynrychiolwyr drwy ein partneriaethau lleol a rhanbarthol. Roedd ein cyflogwyr a'n busnesau'n dweud wrthym fod taer angen am gyflenwad o bobl a oedd wedi'u hyfforddi a'u cymhwyso'n addas yn yr ardal lleol i fodloni eu hanghenion cyfredol a galluogi twf eu busnes. Roedd Casnewydd eisoes wedi gweld sut y gallai darpariaeth amgen fel yr Academi Feddalwedd Genedlaethol a'r Academi Seiberddiogelwch lwyddo, ac roedd y cysyniad hwn yn ehangu ar y ddarpariaeth honno.

 

Ailadroddodd yr Arweinydd mai proses gystadleuol oedd hon, heb unrhyw sicrwydd o lwyddo. Nid oedd neb yn gwybod eto a fyddai trydydd cylch cyllido yn cael ei gynnal, ac roedd angen i'r Cyngor fynd ar drywydd pob cyfle a oedd ar gael am gyllid grant er mwy cyflawni cynlluniau adfywio uchelgeisiol yng Nghanol y Ddinas.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

·        Roedd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Lacey, a oedd ei hun o gefndir TG, yn cefnogi'r adroddiad yn llawn, ac yn teimlo ei fod yn gam cyffrous er budd cenedlaethau'r dyfodol yng Nghasnewydd.

 

·        Ategodd y Cynghorydd Davies sylwadau'r Cynghorydd Lacey hefyd a chefnogi'r adroddiad.  Gallai hyn yn cynnig cyfleoedd aruthrol i blant a myfyrwyr yng Nghasnewydd, gan gynnig y cymwysterau a fyddai'n galluogi iddynt fynd ymhellach.

 

·        Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod y potensial i blant aros yn eu cymunedau hefyd yn fanteisiol. Roedd cyfnod cyffrous o'n blaenau, ac roedd felly'n cefnogi'r adroddiad.

 

·        Dywedodd y Cynghorydd Marshall fel Llywodraethwr AALl ei fod wedi gweld plant yn codio yn yr ysgol, a oedd yn rhyfeddol a byddai hyn hefyd o fudd nid yn unig i'r ddinas gyfan, ond hefyd o fudd ehangach i ddinasoedd cyfagos.

 

·        Dywedodd y Cynghorydd Harvey, wrth symud ymlaen, fod hyn yn cynrychioli dyfodol glân i'r genhedlaeth nesaf o blant yng Nghasnewydd. [DVX31] 

 

Penderfyniad:

·        Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno cais i ail gylch Cronfa Codi'r Gwastad yn gysylltiedig â darparu Sefydliad Technoleg Cenedlaethol yng Nghanolfan Dinas Casnewydd.

·        Bod y Cabinet hefyd yn cymeradwyo newid i'r rhaglen gyfalaf, fel yr amlinellwyd yn y crynodeb ariannol, i gyllido 'arian cyfatebol' posibl ar gyfer y prosiect hwn.

 


clean future?!

Dogfennau ategol: