Agenda item

Adroddiad Rheoli'r Trysorlys

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad.  Roedd Alldro 2021/22 ar Reoli'r Trysorlys wedi'i gyflwyno gerbron y Cabinet. Roedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi adolygu'r adroddiad hwn, a heb wneud unrhyw sylwadau nac arsylwadau i sylw'r Cabinet na'r Cyngor. O'r fan hon, byddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn a oedd y gyfrifol am bennu strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor, ac am y dangosyddion a'r terfynau amrywiol i reoli'r gweithgarwch hwnnw.


Roedd yr adroddiad yn esbonio gweithgareddau benthyca a buddsoddi'r Cyngor yn 2021/22, a'i sefyllfa yn erbyn y dangosyddion a'r terfynau a osodwyd.


O ran benthyca, gellid gweld cryn wahaniaeth o gymharu â'r sefyllfa ddisgwyliedig. Roedd gan y Cyngor ofyniad hirdymor i fenthyca, ac wrth ganlyn strategaeth benthyca mewnol, dylai fel arfer gael symiau bach o fuddsoddiadau (arian parod dros ben) i'w buddsoddi dros y tymor byr.

 

Oherwydd effeithiau parhaus pandemig Covid, yn dilyn ail flwyddyn o lithriant sylweddol mewn gwariant cyfalaf, ni fanteisiwyd ar fenthyca disgwyliedig. Roedd yr 'angen' i fenthyca yn dal i fod yno, a byddai hynny'n digwydd, ond bu llithriant gan nad oedd hynny wedi digwydd mor gyflym â'r disgwyl.


Oherwydd yr ail flwyddyn o danwariant sylweddol a'r cynnydd yn sgil hynny mewn cronfeydd wrth gefn sydd yn dal heb eu gwario, roedd adnoddau arian parod hefyd yn llawer uwch na'r disgwyl. Roedd hyn yn golygu bod modd ad-dalu rhai benthyciadau bach a oedd yn aeddfedu heb ailgyllido, a bod lefelau arian parod dros ben yn uchel ac wedi'u buddsoddi.

 

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, sefyllfa dros dro oedd hon, ac wrth i'r Cyngor weithio i ddal i fyny â phrosiectau cyfalaf, a chan fod y cymorth ariannol yn gysylltiedig â Covid bellach wedi dod i ben, byddai adnoddau arian parod a buddsoddiadau'n gostwng, a'r benthycai'n ailddechrau, yn unol â gofynion dros amser.


Roedd swyddogion yn cynnal adolygiad manwl o'r rhaglen gyfalaf i gael dealltwriaeth well o amserlenni cyflawni, a byddai'r Cabinet yn cael adroddiad ar hyn cyn bo hir.

 

O ran y dangosyddion a'r terfynau, roedd yr adroddiad yn amlygu un maes lle nad oedd y rhain wedi'u bodloni, a oedd yn anghyffredin.

 

Roedd y dangosydd yn ymwneud ag amlygiad y Cyngor i newidiadau cyfradd llog. Byddai costau benthyca yn codi wrth i gyfraddau llog godi, a byddai ein hincwm o weithgarwch buddsoddi yn gostwng wrth i gyfraddau llog ostwng.

 

Gellid nodi bod y mater wedi'i amlygu oherwydd dehongliad gwahanol o'n benthyciadau LOBO (Opsiwn Rhoddwr Benthyciadau Opsiwn Cymerwr Benthyciadau) fel benthyciadau llog amrywiol yn hytrach na benthyciadau cyfradd llog sefydlog. Roedd hyn felly'n fwy o fater 'technegol' yn hytrach na mater wedi'i achosi gan benderfyniadau ynghylch benthyca. Yn wir, roedd yr adroddiad yn cadarnhau, oherwydd natur y benthyciadau LOBO hyn, pe bai'r gyfradd log yn codi; y byddai'r Cyngor yn fwy tebygol o sicrhau arbedion i'r gyllideb yn hytrach na wynebu'r risg o gynnydd mewn costau.

 

O ran y terfyn - aethpwyd heibio i hwnnw gan fod y symiau a fuddsoddwyd yn llawer mwy na'r hyn a ragwelwyd wrth bennu'r dangosydd. Er hynny, nid oedd hyn yn destun pryder gan nad oedd targed cyllideb y Cyngor ar gyfer llog derbyniadwy wedi newid, a hyd yn oed pe bai llogau'n gostwng; ni fyddai hynny'n effeithio ar y gyllideb honno.

 

Dylid nodi y bu rheoli llif arian y Cyngor yn waith arbennig o heriol dros y ddwy flynedd eithriadol ddiwethaf, felly diolchodd yr Arweinydd i'r tîm Cyllid am eu gwaith dros y cyfnod hwn.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn nodi'r adroddiad ar weithgareddau rheoli trysorlys ar gyfer y cyfnod 2021/22, ac y byddai'n cyflwyno sylwadau i'r Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: