Agenda item

Cwynion

The Monitoring Officer will report on any complaints received since the last meeting.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau ddiweddariad cyffredinol ar nifer y cwynion gan dynnu sylw at ddau achos penodol o'r cyfarfod blaenorol. Roedd un o'r rhain wedi cael ei datrys, ac roedd ymchwiliad yn parhau i’r llall. Nodwyd dwy g?yn adran 69 pellach yn yr adroddiad. Ni chafodd yr un ohonynt eu hymchwilio gan yr Ombwdsmon.

 

Roedd yr adroddiad yn yr agenda yn rhoi crynodeb o'r cwynion. Roedd y g?yn gyntaf yn ymwneud â chyn-aelod o'r cyngor cymuned. Ym marn yr Ombwdsmon nid oedd ymchwilio i’r aelod er budd y cyhoedd gan ei fod wedi ymddiswyddo ac ni chanfuwyd digon o dystiolaeth i ddelio â'r g?yn.

 

Roedd yr ail g?yn hefyd yn cynnwys cyn-aelod o'r cyngor cymuned ac yn ymwneud ag ymosodiad corfforol o fewn ward yr aelod, a oedd wedi cael ei gyfeirio at yr heddlu. Roedd yr Ombwdsmon yn cytuno bod y ffrwgwd wedi digwydd o fewn bywyd preifat yr aelod ac nid oedd yn gysylltiedig â'i swyddfa na'r Cyngor.

 

· Gofynnodd y Cynghorydd Davies yngl?n â chwyn o gyfarfod blaenorol, ac fe dynnodd sylw at ei siom na weithredodd yr Ombwdsmon ar y g?yn gan ei fod yn teimlo bod y niwed a achoswyd i'r Clerc sef yr achwynydd yn sylweddol.

Gofynnodd y Cynghorydd Davies a oedd modd cymryd camau ar hyn.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai'r Ombwdsmon sydd â'r gair olaf yn yr hyn y dylen nhw ei ystyried a'i ddwyn i’r pwyllgor, ac yna cyfeiriodd at y broses o sut mae'r ombwdsmon yn penderfynu beth sy'n ddigon sylweddol i'w gyfeirio.

 

· Fe wnaeth y Cynghorydd Davies ei gweld yn rhyfedd nad oes hawl apelio yn erbyn penderfyniad yr Ombwdsmon.

 

·       Cytunodd y Cynghorydd Cockeram hefyd, ac amlygodd pam nad oedd proses mewn lle i gosbi aelodau o gyngor gan gyfeirio at ddileu eu gallu i ddod yn gynghorydd yn y dyfodol.

 

·       Cyfeiriodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau at brosesau'r Ombwdsmon a sut mae'n gweithredu, yn ogystal â datgan nad oedd ymddiswyddiad yr aelod yn yr achos penodol hwnnw yn chwarae rhan yn y penderfyniad i beidio ag ymchwilio i'r g?yn.

 

·       · Roedd R. Morgan yn deall nad oedd apêl ffurfiol, ond gofynnodd a oedd adborth anffurfiol y gellid ei ddarparu. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau bod yr hawl i gywiro ffeithiau fel eu bod yn wir a ddim yn cynnwys diffyg gwybodaeth yn cael ei ganiatáu, ond mae'r hawl i adborth ar benderfyniad yn rhywbeth nad oes ei angen.

 

·       · Gofynnodd R. Morgan eto a ellid rhoi unrhyw fath o adborth. Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y gellir darparu holiadur boddhad cwsmeriaid. Nodwyd hefyd bod gan yr Ombwdsmon ormod o rym a does dim digon  o gyfle i bwyllgorau weithredu.

 

Fe wnaeth Pennaeth y Gyfraith a Safonau hefyd dynnu sylw at un g?yn newydd arall yn ymwneud â chynghorydd y ddinas, ond nid oedd y g?yn yn cael ei hystyried gan yr Ombwdsmon gan nad oedd y cynghorydd yn gweithredu fel aelod o'r cyngor pan ddigwyddodd y g?yn oherwydd mae gan aelodau hawl i ryddid mynegiant o dan erthygl 10. Roedd y g?yn yn ymwneud â sylwadau oedd wedi eu rhoi ar dudalen Facebook gymunedol a oedd yn cael ei rheoli gan y cynghorydd dan sylw.

 

Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau 4 cwyn gan gyngor cymuned Langstone. Ni chafodd unrhyw gamau eu cymryd ar y cwynion gan yr Ombwdsmon, ac roedd 2 aelod wedi ymddiswyddo. Nodwyd hefyd bod 2 o’r cwynion yn anghydfod rhwng aelodau a phwysleisiodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod yr Ombwdsmon yn annhebygol o weithredu ar yr anghydfodau hyn. Cafodd honiad arall ei gyfeirio ato, ond roedd hwnnw’n cynnwys bywyd preifat cynghorydd ac nid yw'r Ombwdsmon yn ei adolygu gan nad yw'r effaith ar rôl y cynghorydd fel aelod o'r Cyngor.

Yn olaf, fe wnaeth dynnu sylw at y ffaith bod tipyn o gwynion gan rai cynghorau cymuned.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyfarfod nesaf ar 15 Tachwedd oedd hefyd yn cynnwys arweinwyr grwpiau gwleidyddol.

 

Dogfennau ategol: