Agenda item

Cynllun Diwygiedig Dirprwyo i Swyddogion

Cofnodion:

Gareth Price - Pennaeth y Gyfraith a Safonau

 

Esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth fod swyddogion wedi mynd ag adroddiad i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor Llawn ym mis Mai ar y cynllun dirprwyo, ond nododd bod ychydig o faterion wedi bod ar y cynllun gweithredu presennol ers hynny a chynghorodd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn edrych i fynd i'r afael â'r anghysonderau hynny. Rhoddodd y swyddog drosolwg byr i'r Pwyllgor ar yr adolygiad ar gyfer gwelliannau a argymhellir.

 

Y newid cyntaf a grybwyllwyd oedd pwerau'r Prif Weithredwr fel Swyddog Canlyniadau ar gyfer yr etholiadau, sy'n cael eu dirprwyo i'r Prif Weithredwr o dan ran wahanol o'r cyfansoddiad yn ymwneud â dyrannu cyfrifoldebau.

O'r etholiad diweddar, roedd Cyngor Cymuned heb gworwm felly roedden nhw'n ceisio defnyddio pwerau ar gyfer mesurau dros dro er mwyn iddyn nhw allu cyfethol. 

 

Daeth i sylw'r swyddogion nad oedd y pwerau a ddirprwywyd i'r Prif Weithredwr mewn mannau eraill yn y cyfansoddiad yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun dirprwyo yn y cyfansoddiad presennol. Felly fel pwynt eglurder, roedd angen diweddaru'r cynllun dirprwyo i gynnwys y pwerau etholiadol hynny.  Roedd yna hefyd rai mân newidiadau eraill i adlewyrchu ail-alinio gwasanaethau i wahanol Benaethiaid Gwasanaeth.

 

Yr un newid sylweddol y gofynnodd y Swyddogion i'r Aelodau argymell i'r Cyngor oedd gwneud y newid yn y cynllun dirprwyo ar gyfer penderfyniadau cynllunio.  Ar hyn o bryd, mae pob cais cynllunio mewn perthynas ag eiddo ac asedau corfforaethol sy'n eiddo i'r cyngor yn mynd i'r pwyllgor cynllunio; roedd y cyn-

 

Bennaeth Adfywio yn meddwl taw gwrthdaro oedd hyn gan fod y rheolwr eiddo corfforaethol hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli, ac roedd yn teimlo ei bod yn amhriodol i swyddog benderfynu ar gais cynllunio a hefyd bod ar yr ochr rheoli asedau. Felly, roedd yn rhaid cyfeirio pob cais cynllunio mewn perthynas ag eiddo corfforaethol ac asedau at y Pwyllgor Cynllunio i benderfynu, waeth pa mor fach oedd y ceisiadau.

 

Mae trosglwyddo'r swyddogaeth eiddo corfforaethol i Bennaeth Gwasanaeth arall, yn dilyn yr uwch ailstrwythuro rheoli, yn rhoi cyfle i roi'r p?er i swyddogion cynllunio ddelio â mân geisiadau sy'n ymwneud ag asedau ac eiddo’r cyngor.  Mae rôl y cleient ar gyfer asedau ac eiddo bellach wedi'i drosglwyddo i Bobl, Polisi a

 

Thrawsnewid, a bod gwasanaeth bellach yn gyfrifol am unrhyw gais cynllunio mewn perthynas ag eiddo corfforaethol ac asedau. Mae gan Bennaeth Adfywio Economaidd y cyfrifoldeb dros gyflawni'r swyddogaeth rheoli datblygiad ar wahân.  Byddai gwahanu'r swyddogaethau hynny yn dileu'r angen i fân geisiadau fynd i'r

 

Pwyllgor Cynllunio a gallai'r swyddogion ddelio â nhw o dan y cynllun dirprwyo.

Gyda cheisiadau cynllunio mwy sylweddol, sy'n disgyn y tu allan i gynllun dirprwyo swyddogion, byddent yn dal i fynd i'r Pwyllgor Cynllunio.  Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau na fyddai'r broses galw i mewn yn newid, lle gall Aelodau gyfeirio unrhyw benderfyniadau dirprwyedig gan swyddogion i'r Pwyllgor Cynllunio, gan roi rhesymau cynllunio dilys dros wneud hynny.

Croesawodd y swyddogion gwestiynau gan y pwyllgor.

 

 

 

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:

 

·         Soniodd y Cadeirydd y byddai ceisiadau cynllunio Aelodau etholedig ar eu cartrefi eu hunain yn y gorffennol yn mynd at Bwyllgor Cynllunio; ac ymholiadau a fyddai hyn yn dal i fod yn berthnasol yn dilyn y newid.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau na fyddai unrhyw beth yn newid o ran y broses ymgeisio cynllunio, lle mae gan unrhyw aelod etholedig ddiddordeb personol yn y canlyniad, boed hynny fel ymgeisydd neu wrthwynebydd.  Byddai'n rhaid eu cyfeirio o hyd at y Pwyllgor Cynllunio i'w benderfynu.  Er mwyn tryloywder, byddai'r un peth yn wir am geisiadau mewnol lle mae swyddog yn cyflwyno cais ac mae ganddo gysylltiad agos gyda'r adran gynllunio.  Cafodd yr aelodau wybod y byddai'r math yna o geisiadau cynllunio yn dal i fynd i'r Pwyllgor Cynllunio waeth beth fo'u bod yn

fân neu'n arwyddocaol.

 

·         Nododd y Cynghorydd K. Thomas ei bod yn cael trafferth clywed y drafodaeth drwy Microsoft Teams fel y gwnaeth rhai o'r Aelodau eraill a ymunodd â'r cyfarfod o bell, adroddwyd ar y meicroffonau'n tawelu ar adegau.

 

Nododd y Cadeirydd i’r Aelodau y byddai cofnodion y cyfarfod yn adlewyrchu'r adroddiad a ddarparwyd ac os oes gan unrhyw Aelodau gwestiynau ar yr un peth; byddai Pennaeth y Gyfraith a Safonau yn egluro unrhyw bwyntiau ar eu cyfer.

 

Argymhellion

 

Rhoddodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ystyriaeth i argymhellion y swyddog a derbyniodd y Cynllun Dirprwyo Swyddogion Diwygiedig gyda’r gofyniad i ddiweddaru’r Cynllun Dirprwyo Cynllunio ac adlewyrchu pwerau’r Prif Weithredwr i gyflawni swyddogaethau penodol mewn perthynas ag etholiadau.

Argymhellodd y Pwyllgor i gyfarfod llawn y Cyngor ddydd Mawrth 19 Gorffennaf bod y Cynllun Dirprwyo swyddogion diwygiedig yn cael ei gymeradwyo a'i fabwysiadu'n ffurfiol a diweddaru'r cyfansoddiad yn unol â hynny.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: