Agenda item

Alldro Cyllideb Refeniw 2021/22

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'r Cabinet a fanylai ar alldro terfynol yr Awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.

 

Roedd yr alldro refeniw yn dangos tanwariant o £18.4m, ar ôl trosglwyddiadau cynlluniedig i'r cronfeydd wrth gefn clustnodedig ac ohonynt, a oedd yn cynrychioli amrywiant o 6% yn erbyn y gyllideb.

 

Roedd tanwariant o £18m wedi codi yn 2021/22 o £18m, a hynny'n bennaf oherwydd newidiadau mewn darpariaeth gwasanaeth ac arferion gwaith a achoswyd gan Covid, a symiau sylweddol untro o gyllid yn ychwanegol at y symiau hynny a hawliwyd drwy'r Gronfa Galedi. Yn benodol:

 

o   Arweiniodd cymorth ariannol o'r Gronfa Galedi Frys i Awdurdodau Lleol, incwm grant annisgwyl gan Lywodraeth Cymru yn hwyr yn y flwyddyn at ddadleoli gwariant craidd a'i gyllido drwy grant allanol; roedd hynny felly'n cynyddu cyfanswm y tanwariant. Tua £6m oedd y cyllid ychwanegol.

 

o   Tanwariant sylweddol ar draws yr holl wasanaethau yn gysylltiedig ag arbedion staffio yn deillio o oedi wrth recriwtio a gwasanaethau cynlluniedig/arferol heb eu darparu yn sgil blaenoriaethu gwaith ymateb i Covid, ac:

 

o   Yn gysylltiedig â’r uchod, tanwariant yn erbyn y gyllideb refeniw wrth gefn gyffredinol a chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, a gwarged mewn perthynas ag incwm y dreth gyngor.  Roedd grantiau cyfalaf nas rhagwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn hefyd yn effeithio ar ofyniad benthyca'r Cyngor gan greu tanwariant yn erbyn y gyllideb cyllido cyfalaf. Roedd y rhain i gyd yn feysydd cyllideb nad oeddent yn gysylltiedig â gwasanaethau.

 

Er bod cyfanswm y tanwariant yn sylweddol, roedd rhai materion untro ac ailadroddus yn codi o fewn yr adroddiad, ac y byddai swyddogion yn mynd i'r afael â nhw, fel sicrhau arbedion. Er cyflawni 94% o'r targed arbedion yn 2021/22, cafwyd oedi wrth weithredu yn sgil effaith Covid, ac roedd angen cynlluniau cadarn i sicrhau bod yr arbedion hyn yn cael eu gwireddu'n llawn ar gyfer 2022/23.

 

Mae nifer o risgiau yn cael eu monitro gan Dîm y Weithrediaeth ar gyfer 2022/23, a chanddynt y potensial i effeithio ar y sefyllfa ariannol yn y flwyddyn hon. Roedd Adran 4 o'r adroddiad yn esbonio'n fanwl y meysydd sy'n achosi'r risg fwyaf sylweddol ar hyn o bryd.

 

Gan fod amrywiannau'r ysgolion yn cael eu rheoli drwy falansau ysgolion unigol, nid oedd y cyfanswm o £18m o danwariant yn cynnwys sefyllfa'r ysgolion. Ar gyfer 2021/22, tanwariodd ysgolion £6.1 miliwn gyda'i gilydd, a fyddai'n cynyddu balansau'r ysgolion o £9.6m i £15.7m ar ddechrau 31 Mawrth 2022. Sicrhaodd yr ysgolion arbedion sylweddol yn ystod y flwyddyn, yn bennaf yn sgil derbyn mwy na £4.8m o grantiau annisgwyl yn hwyr yn y flwyddyn.

 

Cafwyd gwelliant sylweddol i falansau rhagamcanol yr ysgolion yn 2021/22, yn bennaf oherwydd yr incwm grant untro hwnnw. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai ysgolion yn defnyddio cyfran fawr o'u balansau yn ystod 2022/23 i fodloni gofynion y cyllid grant hwnnw. Byddai angen i ysgolion fonitro a rheoli'u cyllidebau'n gadarn ac effeithiol i sicrhau cynaliadwyedd ariannol o hyn allan o fewn eu cyllid craidd.

 

Yn rhan o'r cyfarfod hwn, roedd gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r defnydd o'r tanwariant hwn.

 

Drwy'r cyllid untro hwn, bu modd i'r ddinas adfer ar ôl effeithiau Covid a buddsoddi mewn blaenoriaethau eraill. Ni fyddai'r holl danwariant yn cael ei ddyrannu eto, a rhoddwyd ystyriaeth i ystod o faterion:

 

§  Buddsoddi yn seilwaith cymunedau lleol i annog mwy o falchder a chydlyniant, a

§  Diogelu cydnerthedd ariannol y Cyngor a'i allu i gyflawni ei flaenoriaethau drwy wella ei gronfeydd wrth gefn i liniaru risg.

 

Yn dilyn y trosolwg hwn o'n sefyllfa ariannol, mae adran 5 o'r adroddiad yn esbonio sut y defnyddir yr £18m. Er mwyn caniatáu digon o amser i'r Cabinet roi ystyriaeth ofalus i swm llawn y tanwariant yn ystod y flwyddyn, byddai balans gweddilliol o bron i £8m yn cael ei ddyrannu gan y Cabinet yn ystod ein cyfarfod ym mis Medi/Hydref. Soniodd yr Arweinydd am rai o’r buddsoddiadau untro am eu bod yn wirioneddol bwysig:

 

£2.5m ar gyfer parciau a mannau agored - Yn ogystal â’r £300k o gyllid parhaol dros ddwy flynedd i gynnal a chadw ardaloedd ac offer chwarae, a gytunwyd yn rhan o gyllideb 2022/23, dyrannwyd adnoddau ychwanegol i gefnogi'r buddion i iechyd yn gysylltiedig â bod allan yn yr awyr agored a threulio amser mewn mannau gwyrdd.

 

Byddai £500k ar gyfer cymorth gofal cartref yn cael ei neilltuo fel bo modd ymateb i gynnydd yng nghapasiti'r gwasanaeth cymorth gofal cartref, drwy gyllido gwersi gyrru a chynnig mynediad at gerbydau trydan.

 

Dyrannwyd £7.5m i'r gronfa wrth gefn ar gyfer y CATC i gefnogi risgiau cyllidebol y presennol a'r dyfodol.

 

Byddai cyfanswm balansau'r cronfeydd wrth gefn ar  31 Mawrth 2022, ar ôl y trosglwyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad, yn cynyddu i £149m. Roedd crynodeb o'r symudiadau o bwys wedi'i gynnwys yn adran 5 yr adroddiad.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at yr arbediad Addysg a'r setliad cyllid grant o £8M gan LlC a ddaeth yn hwyr yn y flwyddyn, gan ddweud felly fod angen monitro'r gyllideb yn drwyadl. Roedd ymagwedd gefnogol yn allweddol i hyn, ac yn cael ei chroesawu gan y Dirprwy Arweinydd.

 

§  Roedd y Cynghorydd Lacey yn cefnogi'r cynnig, yn enwedig o ran y grant cydlyniant cymunedol.

 

§  Roedd y Cynghorydd Batrouni yn croesawu'r gyllideb a nododd fod y buddsoddiad helaeth mewn parciau yn dangos cefnogaeth y Cyngor tuag at fannau gwyrdd. Roedd hyn hefyd yn cynrychioli cynllun ariannol darbodus a oedd yn rhoi hwb i gronfeydd wrth gefn a ninnau ar drothwy'r gaeaf, felly roedd yr Aelod Cabinet yn cefnogi'r adroddiad.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet:

1 .                Yn nodi sefyllfa'r alldro, a oedd yn destun archwiliad; a'r prif amrywiannau ar gyfer y flwyddyn (adrannau un i dri);

2 .                Yn cymeradwyo defnyddio'r tanwariant a throsglwyddiadau eraill o gronfeydd wrth gefn, fel y nodwyd yn adran pump yr adroddiad, gan nodi lefel cronfeydd wrth gefn cyffredinol a chlustnodedig y Cyngor yn sgil hynny;

3.                Nodwyd alldro'r ysgolion a sefyllfa cronfeydd wrth gefn unigol yr ysgolion, a'u cyfanswm (adran tri).

 

Dogfennau ategol: