Cofnodion:
Dywedodd yr Arweinydd wrth ei chyd-aelodau fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r alldro terfynol, ac yn cwblhau'r cylch monitro blynyddol ar gyfer cyfalaf.
Ers yr adroddiad diwethaf, a dderbyniwyd gan y Cabinet ym mis Ionawr eleni, gwnaed nifer o ychwanegiadau a diwygiadau i'r rhaglen, a amlinellir yn Atodiad A. Roedd y rhan fwyaf o'r rhain ar ffurf cynlluniau newydd wedi'u cyllido drwy grant ac roedd eu hychwanegu'n creu cyfanswm o £67.7m yng nghyllideb 2021/22, o gymharu â chyllideb o £57.5m a gafwyd ym mis Tachwedd.
Roedd yr ychwanegiadau hyn yn cynnwys dyraniadau grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith ar geginau yn gysylltiedig â phrydau ysgol am ddim a thrydaneiddio bysus, lle'r oedd yn ofynnol i'r Cyngor ddefnyddio hy yn erbyn gwariant presennol, gan ddadleoli cyllid cynlluniedig y Cyngor yn sgil hynny.
Byddai'r cyllid hwn a oedd wedi'i ddadleoli yn cael ei gario ymlaen i 2022/23, i'w ddefnyddio'n unol â'r bwriadau a gynlluniwyd gan LlC.
Yn ogystal â'r ychwanegiadau a'r diwygiadau hyn, adroddwyd ar gyfanswm o £13.9m o lithriant ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y cyfanswm hwn o lithriant hefyd yn cynnwys effaith y cyllid a ddadleolwyd, y cyfeiriwyd ato uchod.
Roedd nifer o resymau am y llithriant hwn, gan gynnwys effeithiau tywydd gwael, heriau o fewn y gadwyn gyflenwi ac agwedd ychydig yn rhy optimistaidd wrth broffilio cynlluniau i'w hychwanegu'n wreiddiol at y rhaglen. Cyfanswm llithriant y flwyddyn gyfan, gan gynnwys yr hyn a gymeradwywyd yn gynharach yn y flwyddyn oedd £60m.
Arweiniodd hyn at gyllideb derfynol o £53.791m, y cofnodwyd gwariant terfynol o £52.7m yn ei herbyn, gan adlewyrchu tanwariant net o £1.12m. Roedd y tanwariant net hwn yn cynnwys symiau bach o orwariant, yr oedd tanwariant yn gwneud mwy na'u gwrthbwyso, gyda'r rhan fwyaf o'r achosion o orwario yn deillio o'r ffaith nad oedd modd gwneud defnydd llawn o gyllid grant a ddyfarnwyd gan LlC ar gyfer cynlluniau penodol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu sefyllfa gyfredol yr hyblygrwydd sydd ar gael o ran cyfalaf. Ar ôl cael diweddariad ynghylch amryw o ymrwymiadau a gymeradwywyd yn ddiweddar, mae cyfanswm yr hyblygrwydd bellach yn £2.354m, ac yn cynnwys y canlynol:
- £57k o hyblygrwydd ar gyfer benthyg arian.
- £258k o gronfa wrth gefn gwariant cyfalaf heb hymrwymo, ar ôl caniatáu ar gyfer
- £2.040m o dderbyniadau cyfalaf heb eu hymrwymo.
Yn achos yr hyblygrwydd benthyca, roedd ymrwymiadau diweddar yn erbyn hyn yn cynnwys cyllideb uwch ar gyfer prosiect y Bont Gludo a'r Orsaf Wybodaeth, yn ogystal â chynllun ynni adnewyddadwy y dadrwymwyd iddo, ac nad oedd yn gyflawnadwy mwyach. Yn ychwanegol at hyn, cafodd yr ymrwymiad amodol i Gynllun Porth y Gogledd ei ddileu ac ymrwymiad amodol i gais Cylch 2 Cronfa Codi'r Gwastad ei gynnwys.
Mae ymrwymiadau eraill posibl yn erbyn cyfanswm yr hyblygrwydd yn cynnwys cyfran y Cyngor o gostau i ddymchwel Canolfan Casnewydd a chyllid ychwanegol i gynyddu amlen gyllido gyffredinol Band B i £90m.
Byddai angen rheoli a monitro'r cyfanswm hwn o hyblygrwydd, a oedd wedi gostwng yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, yn ofalus er mwyn sicrhau y gellid ei ddefnyddio pan fo angen ar gyfer y materion pwysicaf cyn i'r rhaglen gyfalaf newydd ddod i fodolaeth yn 2023/24.
Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu cyfanswm y gyllideb bresennol ar gyfer 2022/23, sef £117m ar hyn o bryd. Roedd hyn yn llawer uwch na'r hyn a wariwyd yn y blynyddoedd cynt, a gallai fod yn her i'r Cyngor ei gyflawni'n llawn. Gan hynny, roedd risg sylweddol o lithriant, a chan ragweld hynny, roedd gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddiwygio'r proffil gwariant cyfredol ar draws yr holl wasanaethau, gan obeithio y byddai hynny'n arwain at broffil mwy realistig.
Byddai hwn yn ddarn pwysig o waith, gan y byddai'n rhoi gwybod beth fyddai lefelau benthyca gwirioneddol y Cyngor am y flwyddyn, ac yn fodd i sicrhau nad oedd y Cyngor yn benthyca ynghynt nag yr oedd ei angen mewn gwirionedd.
Sylwadau Aelodau'r Cabinet:
§ Pwysleisiodd y Cynghorydd Batrouni bwysigrwydd yr ymarfer ailbroffilio. Roedd y llithriant yn deillio o amgylchiadau yr oedd pob awdurdod lleol wedi'u hwynebu. Roedd ailflaenoriaethu'r hyn y gellid ei ddarparu i breswylwyr yng Nghasnewydd hefyd yn beth iach i'w wneud yn yr hinsawdd gyfredol.
Penderfyniad:
Bod y Cabinet:
1. Yn cymeradwyo'r ychwanegiadau i'r Rhaglen Gyfalaf a geisiwyd yn yr adroddiad (Atodiad A).
2 . Yn cymeradwyo llithriant o £13.9m o gyllideb 2021/22 i'r blynyddoedd nesaf, gan nodi'r gwaith i ailbroffilio'r rhaglen yn sgil hynny.
3. Yn nodi'r sefyllfa a ragwelwyd o ran yr alldro gwariant cyfalaf ar gyfer 2021/22.
4. Yn nodi'r adnoddau cyfalaf a oedd yn weddill ac ar gael ('yr hyblygrwydd') a'r defnydd clustnodedig o'r adnoddau hynny.
Dogfennau ategol: