Agenda item

Cronfa Ffyniant Gyffredin

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad cyntaf i'w chyd-aelodau ar y Cabinet.

 

Ym mis Ebrill 2022 cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion y Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd gwerth £2.6bn a oedd yn ceisio cefnogi amcanion Codi'r Gwastad y Llywodraeth, sef:

 

§  Rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflogau, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat, y enwedig mewn mannau lle'r oeddent ar ei hôl hi.

§  Ehangu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig mewn mannau lle'r oeddent ar eu gwanaf.

§  Adfer ymdeimlad o gymuned, o falchder lleol ac o berthyn, yn enwedig mewn mannau lle'r oedd yr ymdeimlad hwnnw wedi'i golli a

§  Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y mannau hynny sy'n brin o arweiniad lleol.

 

Er mwyn gwneud hyn, roedd gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin dair blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi:

§  Cymunedau a Lle

§  Cefnogi Busnesau Lleol; a

§  Phobl a sgiliau

 

Roedd cronfa o'r enw Lluosi hefyd ar gael, a anelai i wella sgiliau rhifedd oedolion.

 

Prif nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU oedd meithrin ymdeimlad o falchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU. Bwriadwyd i'r gronfa ategu â chyd-fynd â Chronfa Codi'r Gwastad. Roedd cynigion cylch 2 Casnewydd i'r Gronfa honno, i ddatblygu Sefydliad Technoleg Cenedlaethol yng nghanol ein dinas, wedi'u cymeradwyo i'w cyflwyno gan y Cabinet ym mis Mehefin.

 

Roedd Cyllid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei ddyrannu i lefydd ar draws y DU ar sail anghenion, ac roedd y 10 Awdurdod Lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi derbyn dyraniad amodol cyfun o fwy na £230m, a thros £48m drwy Lluosi. Roedd disgwyl i Gasnewydd dderbyn ychydig dros £27m ar gyfer gwariant craidd a £5.6m arall drwy Lluosi dros y tair blynedd nesaf.

 

Er mwyn tynnu'r cyllid hwn i lawr, roedd yn ofynnol i bob awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ddatblygu un cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer y rhanbarth cyfan. Byddai'r cynllun buddsoddi hwn yn pennu'r fframwaith lefel uchel o ymyriadau a fyddai'n cael eu datblygu a'u darparu ar raddfa leol.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd mai datblygu'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol oedd dechrau proses y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Cynllun strategol ydoedd a nodai'r ymyriadau trosfwaol a oedd yn gysylltiedig â thair blaenoriaeth buddsoddi'r Gronfa ar draws y rhanbarth. Ni fyddai pob ymyriad rhanbarthol yn berthnasol i Gasnewydd, ond drwy'r strategaeth drosfwaol hon bu modd inni ddechrau deall beth oedd ein blaenoriaethau lleol, a datblygu cynllun cyflawni lleol, mewn partneriaeth â'n cymunedau a'n rhanddeiliaid.

 

Byddai angen cyflwyno'r cynllun buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth y DU erbyn 1 Awst. Yn rhan o'r broses hon, roedd angen penodi un awdurdod lleol i ysgwyddo rôl 'Awdurdod Lleol Arweiniol' i ddibenion gweinyddu, a chynigiwyd mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a ddylai gyflawni'r rôl honno.

 

Roedd llawer o waith i’w wneud o hyd yn gysylltiedig ag agweddau ar lywodraethu i gyd-fynd â gweinyddu'r cyllid, a byddai Pennaeth y Gyfraith a Safonau yn goruchwylio hyn. Yr hyn sy'n amlwg yw bod Casnewydd ar fin elwa ar gyllid sylweddol i'n cymunedau, i'n busnesau ac i sicrhau bod gan ein preswylwyr y sgiliau angenrheidiol er mwyn ffynnu. Byddai gwaith yn dechrau'n fuan i ymgysylltu mewn modd ystyrlon a chynhwysol â'n preswylwyr a'n cymunedau, i sicrhau ein bod yn gwybod beth sydd bwysicaf iddynt. Roedd hi'n bwysig i ni fel Cabinet wybod beth oedd blaenoriaethau ein preswylwyr, a'n bod yn datblygu Cynllun Cyflawni Lleol i gefnogi'r blaenoriaethau hynny.

 

Yr adroddiad hwn oedd y cam cyntaf tuag at sicrhau'r cyllid yr oedd Casnewydd yn ei haeddu.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Roedd y Cynghorydd Batrouni o'r farn y dylai'r Gymraeg dderbyn cyllid teg gan y Llywodraeth, ac y dylid mabwysiadu dull pragmatig, yn ogystal â chydweithio â'r holl grwpiau gwleidyddol i sicrhau canlyniad cadarnhaol i Gasnewydd. Dylai Llywodraeth y DU gynnig £1.1Bn, fel yr amlinellwyd gan LlC.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet:

1 .      Yn cymeradwyo y dylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT) fod yn Awdurdod Lleol Arweiniol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar ran Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a chyflwyno'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol erbyn 1 Awst 2022.

2 .      Yn dirprwyo pwerau i Bennaeth y Gyfraith a Safonau i gytuno ar y cytundebau cyfreithiol a oedd yn gysylltiedig â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar ran Cyngor Dinas Casnewydd.

 

Dogfennau ategol: