Agenda item

RDLP - Gweledigaeth, Materion ac Amcanion

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Rheoleiddio Tai yr adroddiad hwn.

 

Roedd Cyngor Dinas Casnewydd eisoes wedi cytuno i ddechrau gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol newydd, ac fel yr oedd ei chyd-aelodau'n si?r o wybod, roedd hi'n cymryd o leiaf 3.5 mlynedd i fabwysiadu cynllun datblygu newydd. Roedd llawer o gamau a thasgau i'w cwblhau cyn y byddai'n bosib ei fabwysiadu, ond rhan bwysig iawn o'r broses oed ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid. Roedd angen inni wybod sut roedd pobl yn gweld ein Dinas yn datblygu ac yn gweithredu dros y 15 mlynedd nesaf, ac roedd yr adroddiad gerbron y Cabinet yn amlinellu'r cam ymgysylltu diweddaraf a oedd wedi'i gyflawni.

 

Roedd angen Gweledigaeth ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol, yn debyg i bob strategaeth arall. Roedd angen ymdeimlad clir o gyfeiriad i'n harwain at y Gasnewydd yr oedden am ei gweld yn 2036. Ond er mwyn llunio Gweledigaeth roedd yn rhaid inni ddeall beth oedd ein cyd-destun cyfredol, a rhoi ystyriaeth hefyd i'r hyn a oedd wedi newid ers mabwysiadu'r cynllun diwethaf yn 2015. Gwyddom fod llawer wedi newid. Nid oedd y cynllun presennol yn canolbwyntio ar y newid hinsawdd na theithio llesol, ond roedd y naill a'r llall yn bwysig iawn inni bellach. Yn yr un modd, er bod ansawdd yr aer a pherygl llifogydd yn rhan annatod o'r cynllun cyfredol, bu newidiadau sylweddol o ran polisi ers 2015 yr oedd angen eu hadlewyrchu'n briodol mewn cynllun newydd. Roedd yr holl faterion pwysig hyn wedi'u hadlewyrchu yn y weledigaeth a'r amcanion arfaethedig, ond roedd hi'n bwysig inni ofyn y cwestiwn - a ydym wedi anghofio unrhyw beth? - i randdeiliaid a phreswylwyr.

 

Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni buom yn gweithio gyda Chymorth Cynllunio Cymru i gynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid â grwpiau fel Cynghorau Cymuned, Datblygwyr a Grwpiau Amgylcheddol. Cynhaliom hefyd ddau ddigwyddiad i ymgysylltu â'r cyhoedd yn ein hybiau cymdogaeth ar draws y ddinas, i sicrhau ein bod yn casglu cynifer o safbwyntiau ag a oedd yn bosibl. O ganlyniad i hyn, cafwyd 33 o ymatebion ynghylch y Weledigaeth, y Materion a'r Amcanion a gynigiwyd gennym, y manylir arnynt yn atodiad A eich adroddiad. Darparodd Cymorth Cynllunio Cymru hefyd adroddiad adborth wedi'i gyflwyno'n dda iawn y gellir ei weld hefyd yn atodiad B yr adroddiad. Roedd pobl wedi rhoi o'u hamser i ymateb a rhannu eu safbwyntiau, ac roedd hi'n bwysig cydnabod a diolch i bawb am roi o'u hamser ac ymdrechu i gymryd rhan yn y broses hon.

 

Bu'r ymateb yn gadarnhaol ar y cyfan, ac roedd llawer yn cydnabod potensial ein Dinas fel ardal dwf genedlaethol. Roedd sylwadau eraill yn canolbwyntio ar newidiadau manylach i'r geiriad, ond ar y cyfan teimlwyd bod pobl yn cytuno â lefel yr uchelgais, yr hyblygrwydd a'r cwmpas. Fodd bynnag gwnaed mân newidiadau i adlewyrchu'r adborth, a nodir y rhain ar eich cyfer yn Atodiad C.

 

Roedd y Cyngor yn dal i fod ar ddechrau proses y cynllun newydd a byddai'r Cabinet yn cael nifer o ddiweddariadau ac adroddiadau wrth i bob cam fynd rhagddo. Pe bai'r Cabinet yn cytuno â'r Weledigaeth a'r Amcanion a nodwyd yn yr adroddiad, byddai hynny'n ei gwneud hi'n bosibl i symud ymlaen i'r cam nesaf, sef y cam opsiynau twf. Roedd hwn yn gam pwysig iawn, lle byddai'r Cyngor yn dechrau manylu mwy ar leoliad twf lleol, nid yn unig o ran tai ond o ran tir cyflogaeth hefyd. Roedd hyn yn amserol iawn ac ystyried data'r cyfrifiad diweddar a ddangosai mai Casnewydd oedd wedi profi'r ganran uchaf o gynnydd yn y boblogaeth yng Nghymru ers 2011. Gobeithiwyd y byddai'r Cabinet yn cael diweddariad ar y cam hwn yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn y cyfamser, roedd yr Aelod Cabinet yn argymell y dylai'r Cabinet gymeradwyo'r Weledigaeth a'r Amcanion a gynigiwyd.

 


Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Cytunai'r Dirprwy Arweinydd â chyflwyniad yr Aelod Cabinet ac ystyriai fod Casnewydd yn ddinas borth i Gymru, ac roedd hi'n bwysig bod gan breswylwyr berchnogaeth ar y weledigaeth hon ac y gallent hwy a'u teuluoedd ymfalchïo yn y ddinas hon. Roedd y ffocws hefyd ar leihau carbon, ac roedd cynaliadwyedd yn hanfodol ar gyfer hyn i gyd, a oedd yn weledigaeth ardderchog i'r dyfodol.

 

§  Amlygodd y Cynghorydd Batrouni bwysigrwydd Atodiad C, a ddangosai fod y Cyngor wedi gwneud newidiadau, fel ansawdd yr aer a'r d?r a phwyslais ar ecoleg yng Nghasnewydd. Er bod hyn yn anodd, roedd yn allweddol er mwyn cyllido'r economi ac ecoleg.

 

§  Roedd y Cynghorydd Harvey yn cefnogi cyflwyniad y Cynghorydd Clarke, ac yn llwyr gefnogi'r adroddiad.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn nodi sylwadau'r ymgynghoriad ar Ddrafft y Weledigaeth, y Materion a'r Amcanion, ac yn cefnogi'r ymatebion a gynigiwyd.

 

 

Dogfennau ategol: