Agenda item

Yr Iaith Gymraeg a'r Adroddiad Blynyddol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddweud wrth ei chyd-aelodau ei bod hi'n ofynnol i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar ei gynnydd tuag at gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Roedd yr adroddiad blynyddol yn rhoi trosolwg o gynnydd y Cyngor tuag at gyrraedd y Safonau, yn cynnwys gwybodaeth yr oedd yn ofynnol yn gyfreithiol i'w chyhoeddi'n flynyddol, crynodeb o gyflawniadau allweddol yn ystod y flwyddyn a meysydd â blaenoriaeth i weithio arnynt yn y dyfodol.

 

Dyma rai o uchafbwyntiau 2021-22:

 

·        Ein gwaith gyda'n cymunedau o ffoaduriaid, ymfudwyr a chymunedau lleiafrifol ethnig i ymwreiddio'r Gymraeg yn well, gan greu ymdeimlad cyffredin o hunaniaeth ar draws y ddinas, yn enwedig yng nghyd-destun datblygu ein pedwaredd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

·        Gwnaethom wella, datblygu a dechrau darparu Polisi Sgiliau Cymraeg newydd. Mae prosesau bellach wedi'u sefydlu a'u gweithredu i alluogi darpariaeth y flwyddyn nesaf.

·        Buom yn ymgysylltu ac yn ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a'n cymunedau i lywio datblygiad ein strategaeth bum mlynedd newydd ar gyfer y Gymraeg, a gymeradwywyd gyda chefnogaeth lawn y Cyngor.

·        Gwnaethom ddatblygu trefniadau partneriaeth creadigol y tu allan i'r sector cyhoeddus a gwirfoddol, i godi proffil y Gymraeg ledled Casnewydd. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda Rygbi'r Dreigiaid a Chlwb Pêl Droed Cymdeithas Sir Casnewydd i hybu'r Gymraeg.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf, gan gynnwys:

 

·        Parhau i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i gyflawni strategaeth bum mlynedd y Gymraeg ac ymwreiddio fframwaith monitro perfformiad i asesu cyflawniad amcanion.

·        Ymgysylltu ymhellach â chymunedau amrywiol Casnewydd i hybu'r Gymraeg, codi ymwybyddiaeth ynghylch y Gymraeg a'i gwneud yn fwy gweladwy, a pharhau i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg a chynhwysiant yr iaith.

·        Ymwreiddio ein strwythur rheoli perfformiad newydd ar draws y Cyngor.

·        Cyflwyno fideos hyfforddi Cymraeg sydd newydd eu datblygu i bob aelod o staff

·        Parhau i gwmpasu ac ystyried cyrsiau Cymraeg i siaradwyr sydd wedi colli'r arfer o ddefnyddio'r iaith, neu rai sydd angen hwb i'w hyder.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cynghorydd Hughes ddweud ambell air.

 

Sylwadau Cabinet y Cynghorydd Hughes

 

'Fel yr Hyrwyddwr Aelod Etholedig dros y Gymraeg am y llynedd rwy'n falch o gefnogi gwaith ein swyddogion wrth hyrwyddo'r Gymraeg ac wrth godi proffil y Gymraeg o fewn y cyngor ac ar draws ein cymunedau.

 

Drwy fod yn rhan o'r broses Grant Cymraeg yn y Gymuned roedd yn arbennig o galonogol gweld faint o ddiddordeb a cheisiadau eithriadol gan grwpiau cymunedol ledled Casnewydd i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, ei hymwybyddiaeth a'i gwelededd ar draws holl ddinasyddion Casnewydd gan gynnwys y rhai sy'n newydd i’r Ddinas a Chymru.

 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at rai meysydd o gynnydd gwirioneddol ynghyd â rhai blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt ac edrychaf ymlaen at weld sut mae'r Gymraeg yn cael ei chroesawu gan holl ddinasyddion Casnewydd, a sut mae ein gweledigaeth o 'Gweld, Clywed, Dysgu, Defnyddio, Caru' yn cefnogi'r Gymraeg fel iaith fyw ym mhob rhan o fywyd ar draws y Ddinas' 

 

‘As Elected Member Champion for Welsh language for last year I am proud to support the work of our officers in promoting the Welsh language and in raising the profile of Welsh within the council and across our communities.

 

Throughbeing involved with the Welsh in the Community Grant process it was especially encouraging to see the amount of interest and exceptional applications from community groups across Newport to increase the use, awareness, and visibility of the Welsh language across all Newport citizens including those new to the City and Wales.

 

The report highlights some areas of real progress along with some key priorities for the next year and beyond and I look forward to seeing how the Welsh Language is embraced across all Newport citizens, and how our vision of ‘See, Hear, Learn, Use, Lovesupports Welsh as a living language in all parts of life across the city’ 

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Canmolodd y Cynghorydd Batrouni y Cynghorydd Hughes am ei rôl fel hyrwyddwr blaenorol y Gymraeg. Fel Hyrwyddwr presennol y Gymraeg, gobeithiai'r Cynghorydd Batrouni y byddai'r Gymraeg yn cael ei chyflwyno i'r Ddinas. Yn ogystal â hynny, roedd ap 'Say Something in Welsh' ar gael.

 

§  Canmolodd y Dirprwy Arweinydd swyddogion a swyddogion addysg am y gwaith ardderchog a gyfrannwyd i'r adroddiad hwn. Roedd Swyddogion y Gymraeg hefyd wedi cyflawni gwaith cadarnhaol iawn.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r adroddiad monitro terfynol a'i fod yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor, yn unol â therfynau amser statudol.

 

Dogfennau ategol: