Agenda item

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn: Cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru - Ymateb NCC

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddweud wrth y Cabinet mai ymateb oedd hwn i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â'r diwydiant bysiau, o dan y teitl Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn - Cynllunio Gwasanaethau Bws yng Nghymru.

 

Yn rhan o'i hymagwedd cynllunio strategol, gan gynnwys Llwybr Newydd, strategaeth trafnidiaeth Cymru, roedd Llywodraeth Cymru yn parhau â'i hymdrechion i gefnogi ac annog pob un ohonom i deithio mewn modd mwy cynaliadwy, drwy hyrwyddo teithio llesol, a'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Roedd y Cabinet yn cefnogi'r nodau hynny, ac yn nodi'r manteision yn eu sgil i'n gwaith yn gysylltiedig â'r argyfwng hinsawdd.

 

Diwydiant masnachol yn bennaf oedd y diwydiant bysiau, ond roedd yn derbyn cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru a chan awdurdodau lleol. Er bod y diwydiant yn derbyn cyllid cyhoeddus, nid oedd hynny'n golygu bod rhyw lawer o reolaeth ar ddarpariaeth gwasanaeth. Fodd bynnag, yng Nghasnewydd roedd y Cabinet yn gweithio'n dda gyda'n gweithredwyr. I gyd-fynd â dyheadau Llywodraeth Cymru, roedd yr ymgynghoriad yn trafod newidiadau arfaethedig i'r diwydiant, o weithrediad masnachol i system freiniol.

 

Roedd y Cabinet yn hapus i gyfrannu at yr ymgynghoriad, fodd bynnag, ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael hyd yma, roedd yn pryderu bod nifer o risgiau sylweddol. Gallai gynyddu'r risg ariannol i'r sector cyhoeddus, lleihau darpariaeth gwasanaeth ac atebolrwydd lleol, a chreu goblygiadau posib o ran gweithrediadau trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol, ac o ran ein gweithredwr trafnidiaeth trefol. Roedd risgiau hefyd i ddyfodol y busnes. Prin oedd y manylion yn y papur gwyn i drafod sut y byddai'r risgiau hyn yn cael eu lliniaru'n ymarferol.

 

Roedd asesiad effaith rheoleiddio wedi'i gynnwys yn rhan o'r ymgynghoriad, ac roedd pryderon ynghylch y gwerthoedd yn yr asesiad hwnnw. Roedd gwaith ar y gweill gyda'n cydweithwyr ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a darn o waith yn cael ei gyflawni gan KPMG i gwestiynu'r asesiad, a'r bwriad oedd ymgorffori hynny yn ein hymateb i Lywodraeth Cymru.

 

Nid oedd y pryderon hyn yn golygu nad oedd y Cabinet yn cefnogi'r dyheadau yn yr ymgynghoriad. Roedd y Cabinet yn llwyr gefnogi gwella gwasanaethau a gwella profiadau teithwyr o fewn y diwydiant bysiau. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, y teimlad oedd fod angen rhagor o fanylion a gwybodaeth i sicrhau y gallai pob un ohonom fod yn gyffyrddus ag unrhyw newid, ac y byddai unrhyw newidiadau i wasanaethau'n fuddiol i'r holl randdeiliaid a'r cymunedau.

 

Ers drafftio'r adroddiad, dywedodd yr Arweinydd wrth y Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hamserlen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd y weithred o gyflwyno'r Bil Bysiau wedi'i gohirio tan y flwyddyn ganlynol, a fyddai'n cynyddu'r ansicrwydd i'r holl randdeiliaid.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Roedd y Cynghorydd Lacey o'r farn fod y model arfaethedig yn achosi risg ariannol. Nid oedd un model addas i bawb, ac roedd gwybodaeth leol yn hanfodol. Roedd Cymru yn wlad amrywiol, gyda maint ei phoblogaeth yn amrywio ar draws gwahanol ardaloedd. Yn ogystal â hynny, nid oedd unrhyw ddarpariaeth yn y papur hwn ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol.  Roedd y cwmni bysiau trefol o fewn Casnewydd yn effeithiol. Ar sail hyn, gobeithiwyd y byddai ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i Drafnidiaeth Casnewydd o fewn yr ymgynghoriad. Wedi dweud hynny, gallai system freiniol fod yn fuddiol i Gasnewydd.

Byddai Cyngor y Ddinas am barhau i drafod â LlC i sicrhau bod y canlyniad yn un cadarnhaol.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn nodi'r materion a nodwyd a'r cynnydd hyd yma wrth lunio ymateb Cyngor Casnewydd, ac yn dirprwyo Awdurdod i'r Arweinydd a'r Aelod Cabinet ddiwygio a chymeradwyo'r sylwadau terfynol a gyflwynir i'r ymgynghoriad cyn gynted ag y gwybodaeth ategol ar gael.

 

Dogfennau ategol: