Agenda item

Ôl Pontio'r UE a Materion Allweddol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet a roddai grynodeb o'r gwaith yr oedd y Cyngor yn ei wneud ochr yn ochr â'i bartneriaid a'i gymunedau i ymateb i Bandemig Covid ac adfer ar ei ôl, yr effeithiau allanol ar yr economi a sefyllfa ein cymunedau yn y cyfnod ar ôl pontio o'r UE.

 

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, roedd cyfraddau trosglwyddo Covid wedi aros yn isel ar draws cymunedau. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, fodd bynnag, dechreuodd achosion Covid gynyddu eto oherwydd dau amrywiad newydd.

 

Roedd lleoliadau fel ysbytai'n cymryd camau i atal trosglwyddiad ac amddiffyn pobl agored i niwed drwy ailgyflwyno masgiau wyneb a mesurau angenrheidiol eraill.  Roedd yn bwysig i breswylwyr barhau i fod yn wyliadwrus ac, os oeddent yn profi symptomau Covid, i gymryd y camau angenrheidiol i hunanynysu a gwneud prawf Covid. Yn ogystal, roedd y rhai a oedd yn gymwys neu nad oeddent wedi cael brechiad yn cael eu hannog i wneud hynny. 

 

Roedd y Cyngor yn parhau i weithredu dull hybrid ar gyfer yr Aelodau a'r staff er mwyn iddynt weithio gartref a pheidio ymweld â'r Cyngor os oeddent yn amau bod ganddynt symptomau Covid neu os oeddent yn cael prawf Covid positif.

 

Dyma oedd adroddiad olaf ar weithgareddau'r Cyngor yn erbyn y Nodau Adfer Strategol yr ymrwymodd y Cabinet iddynt yn ôl ym mis Gorffennaf 2020.

 

Byddai adroddiadau rheolaidd yn parhau i gael eu cyflwyno i'r Cabinet ar waith ac ymateb parhaus y Cyngor i'r effeithiau allanol ar ein cymunedau a'n busnesau.

 

Roedd y Cyngor wedi profi cyfnod digynsail, ond roedd Cynghorwyr, swyddogion, ysgolion, gwirfoddolwyr a chymunedau yn dangos sut i gydweithio i gefnogi ein preswylwyr mwyaf agored i niwed. galluogi ein busnesau i barhau i weithredu a chynnig cyfleoedd newydd i bobl wella'u bywydau.

 

Roedd y Meysydd Cyflawni yn cynnwys:

·   Rhaglen EdTech a oedd yn cefnogi ysgolion, disgyblion, a theuluoedd drwy ddosbarthu dros 9,000 o ddyfeisiau fel bo modd addysgu gartref a chefnogi gweinyddiaeth y cynllun Prydau Ysgol am Ddim i blant sy'n agored i niwed.

·   Helpu'r GIG i ehangu'r rhaglen frechu a chynnal y system Profi, Olrhain, Diogelu.

·   Cefnogi dros 1,000 o staff swyddfa drwy roi cyfarpar TGCh a dodrefn swyddfa iddynt, i'w galluogi i weithio gartref/o bell.

·   Cefnogi gweithwyr rheng flaen ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau'r Ddinas ac adrannau eraill er mwyn iddynt barhau i ddarparu gwasanaethau a chymorth hanfodol i'n preswylwyr mwyaf agored i niwed yng Nghasnewydd.

·   Cymorth ariannol i gannoedd o fusnesau ledled Casnewydd.

·   Galluogi grwpiau cymunedol drwy Gyllidebu Cyfranogol er mwyn iddynt dderbyn cyllid i gefnogi eu cymunedau yng Nghasnewydd.

 

Roedd y Cabinet yn parhau i ddarparu a chefnogi prosiectau a mentrau allweddol ar draws ein Wardiau a'n cymunedau yng Nghasnewydd.


Yn sgil y Pandemig, roedd hi'n ymddangos bod effeithiau economaidd a byd eang parhaus yn effeithio ar yr economi, gan gynnwys effaith costau byw ar fusnesau ac aelwydydd. Roedd llawer o fusnesau a chartrefi yn wynebu cynnydd digynsail oherwydd chwyddiant yng nghostau bwyd, tanwydd, ynni a byw'n gyffredinol. Byddai'r 12 mis nesaf yn parhau i fod yn eithriadol o heriol.

 

Roedd Cyngor Casnewydd yn cefnogi mentrau Llywodraeth Cymru o ran gweinyddu Rhyddhad y Dreth Gyngor, Rhyddhad Ardrethi Busnes a dosbarthiad cynlluniau taleb a grantiau.


Roedd Cyngor Casnewydd hefyd yn gweithio gyda GAVO i gefnogi Sefydliadau Bwyd Cymunedol drwy roi cyfleoedd iddynt gael cyllid grant cyfalaf i gefnogi eu mentrau.


Roedd Casnewydd yn ddinas a fyddai bob amser yn croesawu pobl o bob cenedl, ffydd a chred.  Roedd cael dinas amrywiol a chydlynol yn bwysig yn natblygiad a thwf parhaus ein cymunedau, ein heconomi a'n ffyniant.
 

Roedd Casnewydd yn parhau i groesawu teuluoedd o Wcrain i'r ddinas, a oedd wedi'u dadleoli gan y rhyfel yn y wlad, gan eu helpu i ganfod llety sicr a diogel i ailadeiladu eu bywydau.


Unwaith eto, roedd gwasanaethau'r Cyngor yn mynd yr ail filltir i gydweithio er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cefnogaeth dda, ac rydym wedi gweld 100 o geisiadau cymeradwy am fisas yn cael eu rhoi hyd yma.


Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Harvey i holl staff y cyngor, i bob un o'r 800 o wasanaethau a gadwodd y cyngor a Chasnewydd yn weithredol. Roedd yr Aelod Cabinet hefyd am ddiolch i athrawon a oedd yn delio ag argyfwng iechyd meddwl pobl ifanc.  Roedd pawb oedd yn gweithio i Gyngor Dinas Casnewydd felly'n haeddu diolch gan y Cabinet.

 

§  Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi sylwadau'r Cynghorydd Harvey mewn perthynas ag ysgolion Casnewydd, gan amlinellu'r gefnogaeth a gafwyd gan Hybiau Cymunedol, cydlyniant teuluoedd a chyllid i athrawon ar gyfer hyfforddiant ELSA. Cafwyd darpariaeth gan yr ysgolion hefyd ar gyfer tlodi bwyd a dillad, a ddangosai pa mor bwysig yr oeddent i'r gymuned. Yn ogystal â hynny, penderfynodd LlC ehangu Prydau Ysgol am Ddim i blant. Braf hefyd oedd gweld clybiau brecwast yn cael eu cynnal eto.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet wedi ystyried a nodi cynnwys yr adroddiad, ac y byddai'r aelodau'n derbyn diweddariadau gan y swyddogion yn rhan o'u portffolio.

 

 

Dogfennau ategol: