Agenda item

Adroddiad Diwedd Blwyddyn y Gwasanaethau Addysg 2021-22

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Davies gyflwyniad byr i'r adroddiad a gofynnodd i'r adroddiad gael ei ystyried yn ei gyd-destun yn ôl perfformiad yr ysgolion yn ystod y pandemig. Rhoddodd y Cynghorydd Davies ganmoliaeth i waith caled a chyflawniadau'r maes gwasanaeth gydol yr adroddiad.

Cwestiynau:

 

Gofynnodd y pwyllgor pam fod dangosydd Risg y Maes Gwasanaeth sy'n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn oren.

 

-        Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y pwyllgor eu bod yn aros am gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru parthed ADY.

-        Ychwanegodd y Pennaeth Addysg bod hyfforddiant a gwaith wedi bod yn mynd rhagddo o fewn y grwpiau clwstwr a oedd wedi'i anelu at ymyrraeth gynnar. Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y pwyllgor eu bod yn diogelu at y dyfodol.

 

Dywedodd aelod o'r pwyllgor y gellid cyflwyno'r graffiau a ddangosir ar dudalen 6 o'r adroddiad yn well.

 

Roedd aelod o'r pwyllgor yn falch o weld fod tanwariant net wedi bod, a gofynnodd sut y cyflawnwyd hyn a ph'un a oeddynt wedi bwriadu tanwario.

 

-        Eglurodd y Pennaeth Addysg fod y tanwariant o £800,000yn gysylltiedig â'r lleoliadau y tu hwnt i ffiniau'r sir o ganlyniad i'r pandemig. Ychwanegodd y Pennaeth Addysg y bu ysgolion ar gau am gyfnod yn ystod y pandemig ac nad oedd achosion plant ag anghenion dwys yn symud yn eu blaenau drwy'r system, ac felly nid oeddynt wedi'u nodi i fynd i leoliadau y tu hwnt i ffiniau'r sir, a oedd yn gostus iawn i'r Cyngor. Hysbysodd y Pennaeth Addysg y pwyllgor mai'r nod oedd sicrhau'r gwerth gorau am arian, a chyflawnwyd hyn trwy ddod o hyd i ddarpariaeth leol yn hytrach nag anfon plant i leoliadau y tu hwnt i ffiniau'r sir, a oedd hefyd yn profi i fod yn fwy buddiol i'r plant dan sylw.

-        Hysbysodd y Pennaeth Addysg y pwyllgor y byddai'r tanwariant yn cael ei drosglwyddo i gronfa gyffredinol Cyngor Dinas Casnewydd i gael ei ddefnyddio lle bo angen.

 

 

Gofynnodd aelod o’r pwyllgor am ddiweddariad ar y cynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

-        Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y pwyllgor eu bod ar y trywydd iawn gyda phrosiect Ysgol Basaleg ac y byddant wedi cwblhau'r gwaith ymhen oddeutu 18 mis.

-        Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod prosiect Ysgol Gyfun Gwent Iscoed hefyd yn cyflawni’r holl derfynau amser ar hyn o bryd. #

-        Nododd y Pennaeth Addysg fod oedi wedi bod yn yr ysgol newydd yn Whitehead. Nid oedd hwn yn fater lleol, ond yn hytrach yn fater a oedd yn ymwneud â throsglwyddo tir, a oedd yn golygu bod y dyddiad cwblhau a ragwelwyd bellach wedi'i symud i dymor yr hydref 2023.

 

Holodd aelod o’r pwyllgor am y sylw a wnaed nad oedd unrhyw gamau pellach y gellid eu cymryd o ran Llwybrau Cerdded Diogel i’r Ysgol.

 

-        Eglurodd y Pennaeth Addysg nad y Maes Gwasanaeth Addysg fyddai'n arwain ar y mater bellach ac mai Gwasanaethau'r Ddinas fyddai'n gyfrifol am y gwaith cynllunio yn ymwneud â theithio llesol yn y dyfodol. Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y pwyllgor fod gan Wasanaethau'r Ddinas Swyddog Teithio Llesol ac y byddai'r swyddogaeth hon yn symud i Bwyllgor Craffu gwahanol.

 

Croesawodd aelod o'r pwyllgor y model gweithredu newydd ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Gwent a gofynnodd sut y byddai'r model yn cael ei roi ar waith.

 

-        Eglurodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod awdurdodau lleol Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen yn sefydlu cronfeyddi gefnogi disgyblion yn ariannol i gymryd rhan yng ngweithgareddau a gwersi Cerddoriaeth Gwent. Dywedodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol wrth y pwyllgor fod cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gallai pob disgybl ym Mlwyddyn 3 gael mynediad at ddarpariaeth gerddoriaeth. Ychwanegodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod y Gwasanaeth Addysg yn ymdrechu i addasu i'r math hwn o ddarpariaeth drwy weithio ochr yn ochr â'r disgyblion, gan nodi'r mathau o offerynnau a fyddai'n gweddu i'r cwricwlwm a'r mathau o offerynnau yr hoffai'r disgyblion eu defnyddio. Sicrhaodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol mai'r nod oedd gweithio gyda'r bobl ifanc er mwyn sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd i gymryd rhan.

 

 

Gofynnodd aelod am lefelau staffio a'r hyfforddiant a ddarperir ar gyfer staff newydd, yn enwedig mewn perthynas â staff ADY.

 

-       Dywedodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol wrth y pwyllgor fod chwe swyddog newydd wedi'u penodi i'r Tîm Cyfoethogi Cynhwysiant a'u bod wedi'u hyfforddi'n dda. Ychwanegodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod y Gwasanaeth wedi ymrwymo'n gryf i ddysgu proffesiynol, bod sesiynau goruchwylio a diweddaru rheolaidd yn cael eu cynnal, bod gan bob gr?p swyddog arweiniol a'u bod yn gallu rhannu'r arferion gorau.

 

 

Holodd aelod sut yr oedd y Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei wario a gofynnodd am esboniad sut oedd y dull haenog yn gweithio.

 

-        Eglurodd y Pennaeth Addysg fod pob clwstwr yn y ddinas yn defnyddio eu Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi plant sy'n derbyn gofal. Hysbysodd y Pennaeth Addysg y pwyllgor fod ymyriadau ymddygiad wedi cael effaith gymedrol a hynny am gost isel, ac felly ystyrir eu bod yn fuddsoddiad gwerth chweil. Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod hwn yn ddull newydd o ymchwilio'n seiliedig ar dystiolaeth, gyda'r cynllun peilot yn cael ei lunio ar hyn o bryd. Hysbysodd y Pennaeth Addysg y pwyllgor mai'r argymhelliad ar gyfer y dyfodol oedd gweithredu dull tair haen ar gyfer ymyriadau gan y byddai hyn yn sicrhau dull ysgol gyfan, a'u bod yn anelu at gyflawni canlyniadau da ar yr haenau is cyn defnyddio rhaglenni ymyrraeth mwy arbenigol.

 

Gofynnodd aelod o'r pwyllgor am ymateb Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Llywodraethwyr ysgolion uwchradd i'r dysgu proffesiynol a gynigir.

 

-        Eglurodd y Pennaeth Addysg, er y rhoddir cyfleoedd dysgu proffesiynol rheolaidd i lywodraethwyr ar ystod o bynciau, mae presenoldeb wedi bod yn wan. Nododd y Pennaeth Addysg fod ymdrechion wedi'u gwneud i geisio ymgysylltu â llywodraethwyr a chynyddu cyfranogiad, ond gan mai rolau gwirfoddol ydynt, roedd yn fater anodd ei ddatrys. Sicrhaodd y Pennaeth Addysg na fyddai presenoldeb gwan yn golygu y byddant yn rhoi'r gorau i gynnig cyfleoedd dysgu.

 


Holodd aelod o'r pwyllgor p'un a oedd data ar gael ar gyraeddiadau dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim .

 

-        Nododd y Pennaeth Addysg fod amrywiaeth o fesurau a dangosyddion atebolrwydd mewnol yn gysylltiedig â hyn, ac felly roedd modd gweld beth oedd wedi'i gyflawni. Hysbysodd y Pennaeth Addysg y pwyllgor na ellid rhannu data mewnol gyda'r pwyllgor ond y gallant fesur pa feysydd penodol oedd yn cynrychioli gwerth da am arian ac yn hawdd i'w holrhain o ran effaith.

 

 

Roedd y pwyllgor yn falch o weld fod Swyddogion Lles Addysg ychwanegol wedi'u penodi, a holodd y pwyllgor beth oeddynt wedi'i wneud i leihau absenoldeb a pha dechnegau cyfryngol a ddefnyddiwyd i dynnu sylw at broblemau.

 

-        Nododd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod penodiad y Swyddogion Lles Addysg ychwanegol yn golygu bod gan ysgolion fwy o gefnogaeth yn y maes hwn. Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y pwyllgor y gallant ddarparu cymorth mwy penodol i deuluoedd unigol a oedd yn cymryd amser, ac yn aml yn golygu y byddent yn eu cyfeirio at feysydd cymorth eraill. Sicrhaodd y Pennaeth Addysg y pwyllgor eu bod yn dechrau gweld effaith hyn a bod ysgolion yn gwneud cynnydd da i leihau lefelau absenoldeb parhaus. 

-        Hysbysodd y Pennaeth Addysg y pwyllgor fod ymgyrch presenoldeb wedi'i chynllunio gyda'r nod o dawelu meddwl rhieni bod ysgolion yn amgylchedd diogel i ddisgyblion eu mynychu yn dilyn y pandemig. Nododd y Pennaeth Addysg fod ysgolion uwchradd yn parhau i wynebu nifer o heriau, ac yn dilyn arweiniad gan Lywodraeth Cymru, byddai ymgyrch yn dechrau yn ystod gwyliau'r haf i hysbysu rhieni y gallai ysgolion ddyroddi hysbysiad cosb benodedig am ddiffyg presenoldeb disgyblion.

 

Gofynnodd Aelod o'r pwyllgor am ddiweddariad ar benodiad Seicolegydd Addysg.

-        Eglurodd y Pennaeth Addysg fod prinder cenedlaethol o seicolegwyr addysg gan nad oedd digon o gyrsiau Prifysgol ar gael yng Nghymru i fodloni gofynion y gweithlu, ac er eu bod wedi llwyddo i benodi un seicolegydd, roedd y swydd arall yn wag o hyd. Nododd y Pennaeth Addysg yr hoffai gyflogi seicolegydd Cymraeg ei iaith, ond y byddent yn parhau i hysbysebu ac y byddai seicolegwyr locwm yn cael eu canfod lle bo modd.

 

Gofynnodd aelod o'r pwyllgor pam fod cynnydd y Strategaeth Hygyrchedd yn fesur coch.

-        Eglurodd y Pennaeth Addysg fod y cynnydd wedi bod yn arafach na'r disgwyl a bod hyn yn gysylltiedig â materion hygyrchedd mewn ysgolion, megis gwaith yn methu â mynd rhagddo tan fyddai'r ysgolion ar gau dros y gwyliau. Nododd y Pennaeth Addysg eu bod yn aros am dendrau ar gyfer peth o'r gwaith a'u bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Norse.

-        Mewn ymateb i gwestiwn am ehangu Ysgol Gynradd Parc Tredegar, esboniodd y Pennaeth Addysg fod gwaith ymchwilio parhaus yn mynd rhagddo i'w dichonoldeb ond bod materion atal llifogydd yn parhau.

-        Cafwyd datganiad o fuddiant gan y Cynghorydd Watkins yn y pwnc hwn gan ei fod yn Lywodraethwr.

-        Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Pennaeth Addysg, er nad oedd darpariaeth Gymraeg barhaus yng Nghanolfan Hyfforddi Bridge, roedd ar gael ar adeg benodol pan oedd ei angen ar ddisgybl.

 

Holodd aelod o'r pwyllgor am y risgiau sy'n gysylltiedig â Symudiadau wedi'u Rheoli.

-        Eglurodd y Pennaeth Addysg fod risgiau'n ymwneud â'r pellteroedd rhwng ysgolion, a nododd y gallai disgybl sydd mewn perygl o gael ei wahardd fynd i ysgol wahanol i ddechrau i weld p'un a fyddai dechrau newydd o gymorth. Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y pwyllgor, gan mai dim ond un ysgol uwchradd yng Nghasnewydd oedd yn darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, pe bai hynny'n ofyniad, byddai unrhyw symud a wnaed yn cael ei wneud y tu hwnt i ffiniau'r awdurdod, a fyddai ymhell o fod yn ddelfrydol i'r disgybl. Nododd y Pennaeth Addysg y byddent yn ymgynghori â rhieni hefyd a bod rhai yn fodlon i'w plentyn aros yng Nghasnewydd. Ond nododd y Pennaeth Addysg y byddai'n well ganddynt pe bai pob system yn deg.


Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor amryw o gwestiynau am gyllidebau ysgolion, a darparodd y Pennaeth Addysg yr ymatebion a ganlyn

-        Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ysgol wedi'i nodi i fod yn wynebu diffyg ariannol yn y flwyddyn ariannol hon. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu swm mawr o arian grant ac roedd mantolen llawer o ysgolion yn bositif. Roedd system ar waith i dracio pa ysgolion oedd yn agosáu at fod yn wynebu diffyg ariannol ar ddiwedd y flwyddyn, a byddai hyn, ynghyd â sicrhau bod gan ysgolion gynlluniau gwariant priodol ar waith, yn osgoi hyn.

-        Gyda chymorth yr awdurdod lleol, roedd Ysgol Uwchradd Caerllion wedi cywiro ei diffyg ariannol. Ni wnaed hyn drwy dderbyn grant, ond yn hytrach drwy ail-strwythuro a gweithio gyda swyddogion i reoli ei chyllideb, ac roedd hyn wedi golygu ei bod nawr mewn sefyllfa ariannol iach.

-        Nid oedd unrhyw ysgol feithrin mewn perygl o fod yn wynebu diffyg ariannol, a gellid adrodd yn ôl i Fwrdd Norse am unrhyw waith atgyweirio nad oedd wedi'i wneud.

-        Byddai gwarged o 5% yn cael ei hystyried yn warged iach, ac ni fyddai awdurdodau lleol yn wynebu unrhyw gosbau am fod â gwargedion mawr eleni oherwydd y grantiau mawr a dderbyniwyd o ganlyniad i argyfwng COVID-19.

Holodd aelod o’r pwyllgor pam fod y mesur perfformiad ar gyfer canran y disgyblion nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET) yn canolbwyntio ar bobl ifanc 16-18 oed yn unig.

-        Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg fod yr holl fesurau atebolrwydd eraill wedi'u hatal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd wrth i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno.

-        Dywedodd yr aelod, pe bai hyn yn wir yn y dyfodol,  y dylid ychwanegu eglurhad er mwyn sicrhau eglurder.

Gofynnodd aelod o'r pwyllgor pam fod y ffigwr wedi aros ar 2.6% a'i fod mewn coch ar hyn o bryd.

-        Nododd y Pennaeth Addysg fod Casnewydd yn chweched drwy Gymru yn 2020/21 ar gyfer y dangosydd penodol hwn. Hysbysodd y Pennaeth Addysg y pwyllgor eu bod wedi gobeithio helpu pob unigolyn ifanc rhwng 16-18 oed ac wedi gosod targed is nad oeddynt wedi llwyddo i'w gyrraedd yn anffodus. Nododd y Pennaeth Addysg eu bod wedi bod yn siarad â'r gr?p hwn o bobl ifanc ac wedi gofyn iddynt beth oedd ei angen. Hysbysodd y Pennaeth Addysg y pwyllgor eu bod wedi nodi diffyg gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi, ac o ganlyniad, sefydlwyd Diwrnodau Symud Ymlaen lle gallai darparwyr hyfforddiant gyfarfod â phobl ifanc ac archwilio'r cyfleoedd a oedd ar gael. Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y pwyllgor fod sesiynau gyda'r nos wedi'u cyflwyno fel y gall rhieni fynychu a'u bod wedi derbyn adborth cadarnhaol. Dywedodd y Pennaeth Addysg eu bod yn gobeithio y bydd y mesurau hyn o gymorth i wella'r ffigurau ar gyfer y dangosydd perfformiad hwn ar gyfer y dyfodol.

Diolchodd y pwyllgor i'r swyddogion a'r Aelod Cabinet am eu cyflwyniad a'u presenoldeb.

 

Dogfennau ategol: