Cofnodion:
Croesawodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau aelodau'r pwyllgor i'r cyfarfod safonau cyntaf yn dilyn yr etholiad, a chyflwynodd y cynghorydd Cockeram i'r [pwyllgor] yn ogystal â diolch i'r cynghorydd Davies am ei gyfranogiad parhaus fel cynrychiolydd y cyngor cymuned. Nodwyd aelodaeth a chylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau yn adran gyntaf yr adroddiad.
Amlygodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau i'r Cyngor yn nodi’r rhaglen waith ddrafft ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod bob blwyddyn. Fodd bynnag, mater i'r Pwyllgor oedd penderfynu beth sy'n bwysig i'w codi a phryd i'w codi.
Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod dwy Eitem i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd, a'r cyntaf oedd y gofynion newydd i'r pwyllgor gyfarfod ag arweinwyr grwpiau gwleidyddol o fewn 6 mis i'r etholiad i adolygu cydymffurfiaeth â'u dyletswydd newydd i hyrwyddo moeseg o fewn eu grwpiau gwleidyddol.
Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod hyn wedi'i wneud yn wirfoddol ers blynyddoedd, ond mae bellach yn ddyletswydd ofynnol. Yr ail eitem oedd ystyried eu hadroddiad blynyddol i'r Cyngor, oedd bellach yn ofyniad statudol ac roedd rhaid anfon copïau at yr Ombwdsmon a'r cynghorau cymuned. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau bod hyblygrwydd o ran sut y gellid gwneud hyn – yn anffurfiol neu mewn lleoliad ffurfiol – a gallai gynnwys cwrdd ag arweinwyr unigol neu eu cyfarfod fel rhan o gr?p, yn ogystal â chael yr arweinwyr i greu dogfen ysgrifenedig. Nodwyd hefyd bod llawlyfr llywodraethu yn ddyledus ym mis Mai ond roedd dal disgwyl am y fersiwn derfynol gan Lywodraeth Cymru.
O ran yr adroddiadau, nodwyd gan Bennaeth y Gyfraith a Safonau bod pwyllgorau eraill yng Nghymru yn gofyn i'r arweinwyr am adroddiad ysgrifenedig. Yna aeth Pennaeth y Gyfraith a Safonau ymlaen i ddatgan nifer y grwpiau gwleidyddol a'u cyfansoddiad megis y gofyniad am ddau aelod i ffurfio gr?p.
Gofynnodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau am eglurhad gan y pwyllgor ar sut y byddai’n dymuno cyflawni’r gofyniad hwn?
· Gofynnodd y Cynghorydd Cockeram yngl?n â’r ffaith bod 4 aelod annibynnol yn Llyswyry yn hytrach na'r tri a nodwyd gan Bennaeth y Gyfraith a Safonau pan roddwyd dadansoddiad o’r grwpiau gwleidyddol. Gofynnodd y Cynghorydd hefyd a allai proses ffurfiol ac anffurfiol ddigwydd gydag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol. Yn olaf gofynnwyd pam mai dim ond cwynion yr oedd y pwyllgor yn delio â nhw ac nid canmoliaeth sy’n cael ei rhoi i'r Cyngor.
Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai dim ond tri aelod annibynnol o'r pedwar oedd wedi grwpio gyda'i gilydd. Aeth Pennaeth y Gyfraith a Safonau hefyd ymlaen i ddweud bod y pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn gyfrifol am ganmoliaethau a chwynion o dan reoliadau newydd
· Cytunodd G. Nurton hefyd gyda chyfarfod ffurfiol gyda'r arweinwyr yn ogystal ag adroddiad ysgrifenedig.
· Cytunodd R. Morgan hefyd â'r Cynghorydd Cockeram gan ofyn a allai cyfarfod cyntaf yr arweinwyr gwleidyddol gael ei ddefnyddio i egluro eu meddyliau a sicrhau eu bod yn deall yn iawn beth oedden nhw eisiau.
· Cytunodd y cadeirydd hefyd gyda'r teimlad uchod gan ofyn a allai'r cyfarfod gael ei gynnal cyn cyfarfod y Cyngor ym mis Tachwedd.
· Gofynnodd G. Nurton hefyd a oedd modd cysylltu â grwpiau gwleidyddol un aelod hefyd i'w hysbysu bod y pwyllgor yno pe bai angen cymorth arnynt.
Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y byddai cynnwys yr aelodau sengl hyn mewn cyfarfod ffurfiol yn annhebygol gan nad oedd dyletswydd arnynt, fodd bynnag mae’r arwydd da o ysgrifennu atynt yn rhywbeth y gellid ei wneud.
Nododd y Cadeirydd y bydd hyn yn cael ei drefnu gyda'r tîm llywodraethu yn ogystal â'r Gyfraith a Safonau fel bod modd drafftio ymateb priodol. Amlygodd y cadeirydd yr ystod o ddyddiadau i weithio tuag atynt yn y flwyddyn sydd i ddod, ac i ddefnyddio'r dyddiadau o fewn y flaenraglen waith fel cerrig milltir allweddol yn ogystal â delio â materion wrth iddynt godi.
Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau bod adolygiad o bolisi chwythu'r chwiban y Cyngor wedi ei gynnwys yn anghywir o fewn blaenraglen waith Craffu ac y byddai hyn yn dod at y pwyllgor safonau. Gofynnodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau hefyd am eglurhad o'r hyn yr hoffai'r pwyllgor ei gael o'r adroddiad ysgrifenedig ynghylch arweinwyr y grwpiau gwleidyddol yn ogystal â thynnu sylw at a oeddent am addasu'r enghreifftiau gan gynghorau eraill ac a fyddai’n well ganddynt gael yr adroddiad cyn neu ar ôl y cyfarfod gyda’r arweinwyr gr?p.
· Fe wnaeth y cadeirydd argymell cael yr adroddiad ar ôl y cyfarfod cyntaf gydag arweinwyr gr?p.
· Cytunodd R. Morgan â'r cadeirydd y byddai'n well siarad â nhw yn gyntaf.
Gofynnodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau wedyn a hoffen nhw gwrdd â'r aelodau yn unigol, boed ar yr un diwrnod mewn slotiau amser gwahanol neu ar ddiwrnodau gwahanol, neu a fyddai un cyfarfod gr?p gyda’r grwpiau i gyd yn fwy addas.
Roedd yn well gan y cadeirydd gyfarfod â phawb gyda'i gilydd er mwyn osgoi unrhyw amwysedd pe bai'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar wahân. Cytunodd sawl aelod arall o'r pwyllgor gyda theimlad y cadeirydd
· Gofynnodd y cadeirydd a oedd Cynghorwyr Cymuned hefyd yn cael yr un neges o ran moeseg a safon. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau nad oedd angen iddynt, ond bod adolygiad o foeseg y cyngor cymuned yn digwydd. Mae gwybodaeth a ddarperir gan glerciaid y cyngor cymuned yn cefnogi hyn gan fod gan y cynghorau cymuned amrywiaeth o systemau wedi'u sefydlu hefyd.
Roedd Pennaeth y Gyfraith a Safonau wedi cyflwyno cyflwyniad ar safonau i'r cynghorwyr cymuned hynny sy'n mynychu cyfarfod olaf y gr?p Cyswllt, yn ogystal â rhoi'r wybodaeth o'r cyflwyniad i aelodau na allai fynychu
Nodwyd hefyd gan Bennaeth y Gyfraith a Safonau y cafodd y cyflwyniad adborth cadarnhaol yn ogystal â datgan bod llawer o'r cynghorau cymuned yn tanysgrifio i "Un Llais Cymru".
Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r eitem allweddol nesaf yn digwydd ym mis Rhagfyr, sef yr adolygiad hyfforddiant. Gofynnodd a ellid ychwanegu cyfarfod a oedd hefyd yn cynnwys y cynghorau cymuned. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau bod hyn yn annhebygol oherwydd cyfanswm maint aelodau'r cynghorau cymuned, ond bod y wybodaeth fel arfer yn cael ei dosbarthu gan y Clerciaid.
Byddai modd darparu hyfforddiant ychwanegol ond gan eu bod yn tanysgrifio i "Un Llais Cymru" mae'r cynghorau cymuned yn debygol o wybod beth i'w wneud. Dywedwyd fodd bynnag erbyn mis Rhagfyr y dylai fod mwy o wybodaeth bendant am hyn.
Yn ogystal â chyfarfod hyfforddiant hybrid a ddigwyddodd, ac anfonwyd gwybodaeth o’r hyfforddiant at y rhai nad oedd yn bresennol. Soniodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau bod angen llawer o hyfforddiant newydd ar y Cyngor yn dilyn yr etholiad felly rhoddodd wybod i'r cynghorau cymuned y byddai hyfforddiant ar eu cyfer yn digwydd ddiwedd Rhagfyr.
Hoffai'r Cadeirydd i'r cyfarfod ddigwydd yn hanner cyntaf mis Rhagfyr.
Dogfennau ategol: