Agenda item

Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2021/22

Cofnodion:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2021/22. Adolygwyd yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet ac ni wnaed unrhyw sylwadau a oedd angen sylw'r Cyngor. Roedd yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwn yn unol â chyfrifoldeb y Cyngor llawn am osod strategaeth Rheoli’r Trysorlys y Cyngor a'r ddangosyddion a’r terfynau amrywiol oedd yn rheoli'r gweithgaredd hwn.

Roedd yr adroddiad yn egluro gweithgareddau benthyca a buddsoddi’r Cyngor yn 2021/22 a’i sefyllfa yn erbyn y dangosyddion a’r terfynau a osodwyd.

O ran benthyca, gellir gweld gwahaniaeth sylweddol o'i gymharu â'r sefyllfa ddisgwyliedig. Roedd gan y Cyngor ofyniad hirdymor i fenthyca ac, wrth fynd ar drywydd strategaeth fenthyca fewnol, fel arfer dylai fod ag ychydig iawn o fuddsoddiadau (arian dros ben), y byddai’n eu buddsoddi yn y tymor byr.

 

Oherwydd effeithiau parhaus pandemig COVID-19, yn dilyn ail flwyddyn o lithriant gwariant cyfalaf sylweddol, ni wireddwyd y benthyca disgwyliedig. Roedd yr ‘angen’ i fenthyca yno a byddai'n digwydd ond golygai llithriant na wireddwyd hyn mor gyflym â'r disgwyl.

Roedd yr ail flwyddyn hon o danwariant sylweddol a'r cynnydd canlyniadol mewn cronfeydd wrth gefn, sydd eto i'w gwario, hefyd yn golygu bod adnoddau arian parod yn llawer uwch na'r disgwyl. Roedd hyn yn caniatáu i rai benthyciadau bach a oedd yn aeddfedu gael eu had-dalu heb eu hailariannu ac i lefelau arian sbâr fod yn uchel ac iddynt gael eu buddsoddi.

 

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, sefyllfa dros dro oedd hon a chan fod y Cyngor bellach yn gweithio i ddal i fyny ar brosiectau cyfalaf a chyda’r cymorth ariannol sy’n gysylltiedig â COVID-19 bellach wedi dod i ben, dylai’r cyngor yn gyntaf weld adnoddau arian parod a buddsoddiadau yn lleihau, ac yna ailddechrau benthyca, yn unol â gofynion dros amser.

Roedd swyddogion yn cynnal adolygiad manwl o'r rhaglen gyfalaf i gael gwell dealltwriaeth o amserlenni cyflawni; byddai hyn yn cael ei adrodd maes o law.

 

O ran y dangosyddion a’r terfynau, amlygodd yr adroddiad un maes lle na chyflawnwyd y rhain, a oedd yn anarferol.

 

Roedd y dangosydd yn ymwneud ag amlygiad y Cyngor i newidiadau mewn cyfraddau llog. Mae costau benthyca yn cynyddu os yw'r gyfradd llog yn cynyddu a byddai ein hincwm o weithgareddau buddsoddi yn gostwng pe bai'r gyfradd llog yn gostwng. 

 

Ond mewn perthynas â'r dangosydd, nodwyd bod y mater wedi'i amlygu oherwydd dehongliad gwahanol o fenthyciadau LOBO (yr opsiynau i fenthyca neu i fenthyg) y Cyngor fel benthyciadau llog amrywiol yn hytrach na benthyciadau cyfradd llog sefydlog. Felly, roedd yn fater mwy ‘technegol’ yn hytrach nag un a achoswyd gan benderfyniadau benthyca a wnaed. Yn wir, roedd yr adroddiad yn cadarnhau, o ystyried natur y benthyciadau LOBO hyn, pe bai'r gyfradd llog yn cynyddu, roedd yn fwy tebygol o wneud arbediad cyllidebol yn hytrach na bod yn agored i'r risg y byddai costau'n cynyddu.

 

O ran y terfyn, digwyddodd y toriad hwn oherwydd bod y swm a fuddsoddwyd yn llawer mwy na'r hyn a ragwelwyd wrth osod y dangosydd. Eto, nid oedd hyn yn peri unrhyw bryder gan nad oedd targed cyllideb y Cyngor ar gyfer llog sy’n dderbyniadwy yn newid a, hyd yn oed pe bai cyfraddau'n gostwng, ni fyddai’n effeithio ar y gyllideb honno.

 

Nodwyd bod y gwaith o reoli llif arian y Cyngor yn arbennig o heriol dros y ddwy flynedd eithriadol ddiwethaf, a diolchodd yr Arweinydd i'r tîm Cyllid am ei waith yn ystod y cyfnod hwn.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd D Davies.

 

Sylwadau gan gynghorwyr:

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Routley at dudalen 52, adran 9, yn yr adroddiad, lle nododd nad oedd unrhyw fuddsoddiadau yn cefnogi sefydliadau Rwsia yn uniongyrchol ac felly gofynnodd p'un a oedd unrhyw fuddsoddiadau a oedd yn cefnogi sefydliadau Rwsia yn anuniongyrchol. Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r swyddog priodol yn darparu ymateb ysgrifenedig.

 

Sylwodd y Cynghorydd Routley fod arian cyfalaf yn cael ei godi ar gyfer Ysgol Glan Wysg a'r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol o dan weithgarwch dyled arall. Roedd y datganiad cyfrifon yn dangos rhwymedigaeth o £39 miliwn i dalu'r gweithredwr ac felly gofynnwyd a ellid dadansoddi'r cyllid rhwng yr ysgol a'r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Caniataodd yr aelod llywyddol y cwestiwn y tro hwn a dywedodd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu gan y swyddog priodol.

 

Penderfynwyd:

Bod y Cyngor wedi nodi'r adroddiad ar weithgareddau rheoli’r trysorlys am y cyfnod 2021-22, a’i fod wedi cytuno arno.

Dogfennau ategol: