Agenda item

Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y ddogfen, gan amlygu ei bod yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu adroddiad cynnydd blynyddol yn unol â Safonau’r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o gyflawniadau allweddol yn ystod y flwyddyn, a meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Y rhain oedd y canlynol:

 

§  Gweithio gyda chymunedau ffoaduriaid, mudol ac ethnig lleiafrifol i wreiddio’r Gymraeg yn well fel rhan o ymdeimlad cyffredin o hunaniaeth ar draws y ddinas, yn enwedig yng nghyd-destun datblygiad ein pedwaredd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

 

§  Gwella, datblygu, a dechrau'r gwaith o gyflwyno Polisi Sgiliau Iaith Gymraeg newydd. Rhoddwyd prosesau ar waith i ganiatáu cyflawni'r flwyddyn nesaf. 

 

§  Ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a'n cymunedau i lywio'r gwaith o ddatblygu ein Strategaeth Iaith Gymraeg pum mlynedd newydd, a basiwyd gyda chefnogaeth lawn y Cyngor.

 

§  Datblygu trefniadau partneriaeth creadigol y tu allan i’r sector cyhoeddus a gwirfoddol i godi proffil y Gymraeg ar draws Casnewydd. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda Chlwb Rygbi'r Dreigiau a Chlwb Pêl-droed Sir Casnewydd i hyrwyddo'r Gymraeg.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf, gan gynnwys y canlynol:

 

§  Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i gyflawni’r Strategaeth Iaith Gymraeg pum mlynedd newydd a sefydlu fframwaith monitro perfformiad i asesu cyflawniad amcanion.

 

§  Ymgysylltu pellach â chymunedau amrywiol Casnewydd i hyrwyddo’r Gymraeg, codi ymwybyddiaeth ac amlygrwydd yr iaith, a pharhau i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg a chynwysoldeb yr iaith.

 

§  Ymgorffori ein strwythur rheoli perfformiad newydd ar draws y Cyngor.

 

§  Cyflwyno ein fideos hyfforddi Cymraeg newydd i bob aelod o staff.

 

§  Parhau i gwmpasu ac ystyried cyrsiau Cymraeg ar gyfer siaradwyr sydd wedi rhoi’r gorau i siarad yr iaith, neu’r rhai sydd angen hwb i’w hyder.

 

Sylwadau gan gynghorwyr:

 

Ategodd y Cynghorydd Al-Nuaimi yr adroddiad, a ddylai gael ei gefnogi gan yr holl aelodau, ac roedd yn falch iawn o weld y gwahaniaeth a gyflawnwyd dros y blynyddoedd. Cafwyd trafodaeth ddiddorol yn y Pwyllgor Craffu ac roedd y Cynghorydd Al-Nuaimi eisiau tynnu sylw at ddau beth. Diolchodd y Cynghorydd Al-Nuaimi yn gyntaf i'r Prif Swyddog Addysg am ei heglurhad ynghylch y lleoedd gweigion mewn meithrinfeydd gyda chynllun ar waith i hybu'r Gymraeg mewn addysg blynyddoedd cynnar. Yn ail, roedd yn darged uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050; dylai adroddiadau rheolaidd nodi cynnydd ynghylch y targed hwn bob blwyddyn er mwyn ei gyflawni a sut y'i cyflawnwyd.

 

Roedd y Cynghorydd Davies yn ymwybodol bod swyddogion addysg yn ddiolchgar am y cymorth a ddarparwyd gan y Swyddog Iaith Gymraeg a bod Cyngor Dinas Casnewydd wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan Lywodraeth Cymru. Roedd y Cynghorydd Davies felly am gyfleu ei diolch am hyn.

 

Mynegodd y Cynghorydd Hughes ei ddiolch yn Gymraeg:

 

Fel yr Hyrwyddwr Aelod Etholedig dros y Gymraeg am y llynedd, rwy'n falch o gefnogi gwaith ein swyddogion wrth hyrwyddo'r Gymraeg ac wrth godi proffil y Gymraeg o fewn y cyngor ac ar draws ein cymunedau.

 

Drwy fod yn rhan o'r broses Grant Cymraeg yn y Gymuned, roedd yn arbennig o galonogol gweld faint o ddiddordeb a cheisiadau eithriadol gan grwpiau cymunedol ledled Casnewydd i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, ei hymwybyddiaeth a'i gwelededd ar draws holl ddinasyddion Casnewydd gan gynnwys y rhai sy'n newydd i’r Ddinas a Chymru.

 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at rai meysydd o gynnydd gwirioneddol ynghyd â rhai blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt ac edrychaf ymlaen at weld sut mae'r Gymraeg yn cael ei chroesawu gan holl ddinasyddion Casnewydd, a sut mae ein gweledigaeth o 'Gweld, Clywed, Dysgu, Defnyddio, Caru' yn cefnogi'r Gymraeg fel iaith fyw ym mhob rhan o fywyd ar draws y Ddinas.

 

 

Sylwadau Cabinet y Cynghorydd Hughes

 

Atgoffodd y Cynghorydd Hourahine ei gydweithwyr mai adroddiad ôl-weithredol oedd hwn a aeth i gael ei graffu ac y byddai'r adroddiad nesaf yn dangos llawer mwy o gynnydd sydd wedi digwydd.

 

Cytunodd y Cynghorydd Batrouni, yr arweinydd newydd ar gyfer Cydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg, â sylwadau M Al-Nuaimi, yn ogystal â diolch i'r Cynghorydd Hourahine am ei sylwadau. Dywedodd y Cynghorydd Batrouni wrth ei gydweithwyr fod 20% o bobl yn siarad Cymraeg yng Nghasnewydd gyda chynnydd o 3% dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a olygai na fyddai Cyngor Dinas Casnewydd yn cyrraedd targed 2050 fel y’i codwyd gan y Cynghorydd Al-Nuaimi a sicrhaodd y Cyngor y byddai hyn yn cael ei fonitro'n agos ac y byddai’n destun adroddiad blynyddol. Fodd bynnag, lleihaodd y pandemig allu pobl i fanteisio ar y Gymraeg.

 

Penderfynwyd:

Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r adroddiad monitro terfynol atodedig a'i fod yn cytuno i'w gyhoeddi ar wefan y Cyngor, yn unol â therfynau amser statudol.

Dogfennau ategol: