Agenda item

Adroddiad Diwedd Blwyddyn y Gwasanaethau Plant

Cofnodion:

Sally-Anne Jenkins - Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol

Cynghorydd Stephen Marshall – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

Cynghorydd Jason Hughes – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

Amlygoddyr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol waith cyson y staff, a diolchodd iddynt.

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol yr adroddiad.

Soniodd y Cyfarwyddwr Strategol fod rhan o’r flwyddyn wedi bod dan gyfyngiadau’r pandemig, ond bod y staff wedi parhau i gyflwyno pob gwasanaeth, bron. Tynnodd y Cyfarwyddwr Strategol sylw at ymrwymiad ac ymroddiad y staff i bobl fregus.

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal gwiriad sicrwydd, a bod eu sylwadau’n dangos fod gwasanaethau wedi eu cyflwyno’n ddiogel ac effeithiol. Teimlai’r Cyfarwyddwr Strategol fod yr adroddiad yn dangos fod staff y Gwasanaethau Plant yn parhau i weithio’n greadigol ac arloesol, ar waethaf yr heriau cyson.

Soniodd y Cyfarwyddwr Strategol am y datblygu cyson mewn gofal preswyl, a phwysleisiodd fod ganddynt ymrwymiad cryf i ddatblygu gwell darpariaeth i blant Casnewydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod Cyngor Dinas Casnewydd o flaen awdurdodau lleol eraill o ran rhoi’r gorau i elw mewn gofal plant, am eu bod wedi datblygu eu darpariaeth eu hunain.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor y dylai Fferm Windmill fod ar agor yn fuan, a bod disgwyl i’r adeiladwyr drosglwyddo i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ymhen pythefnos.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor eu bod wedi llwyddo i gefnogi plant oedd yn ceisio lloches nid yn unig yng Nghasnewydd ond yn y rhanbarth oherwydd lefel eu harbenigedd.

Roedd y Cyfarwyddwr Strategol yn cydnabod y bu tanwariant, ond dywedodd wrth y pwyllgor nad arwydd oedd hyn nad oedd ar y meysydd gwasanaeth angen yr adnoddau. Dywedodd eu bod wedi derbyn cyllid a grantiau gan Lywodraeth Cymru, a bod hyn wedi helpu’r gyllideb ond ei fod yn dod i ben.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod yn awyddus i fwrw ymlaen â bod yn Rhiant Corfforaethol, ond y bu oedi yn genedlaethol. Ategodd y Cyfarwyddwr Strategol ddiolchiadau’r Aelod Cabinet,  a llongyfarchodd staff y maes gwasanaeth.

Diolchodd y pwyllgor i’r Cyfarwyddwr Strategol a’i thimau am eu gwaeth yn wyneb yr heriau, gan ychwanegu eu gwerthfawrogiad o’r fideos.

Cwestiynau:

Gofynnodd y pwyllgor a yw’r Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweld unrhyw heriau yn deillio o’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i adawyr gofal?

·       Cydnabu’rCyfarwyddwr Strategol y pryder am ddiogelwch pobl ifanc yn y  peilot ac unrhyw heriau fyddai’n dod yn ei sgil. Sicrhaodd y pwyllgor mai’r prif ganolbwynt fyddai ar gefnogi pobl ifanc yn y cynllun i aros yn ddiogel. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod wedi llwyddo i argyhoeddi Llywodraeth Cymru i newid taliadau o fod yn fisol i bob pythefnos, ac y byddai rhent yn cael ei dalu’n uniongyrchol i landlordiaid. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor eu bod eisoes wedi nodi’r 43 plentyn yng Nghasnewydd fyddai’n gymwys am y cynllun peilot. Teimlai y byddai’r nifer fechan yn galluogi’r maes gwasanaeth i weithio’n agos gyda’r plant hynny.

Gofynnodd y pwyllgor pa welliannau oedd eu hangen, pa mor hir fyddai hyn yn gymryd, ac a oedd unrhyw anawsterau’n cael eu rhagweld?

·       Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod modd gweld adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru i gael y manylion. Dywedodd nad oedd dim fyddai angen Cynllun Gweithredu na Chamau Brys, ac y byddai’r adroddiad yn debyg o amlinellu’r hyn y gwnaed sylwadau amdanynt. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod yr adborth yn nodi problemau cyson gyda’r gweithlu a recriwtio, a dywedodd wrth y pwyllgor fod hyn yn effeithio ar y sector cyhoeddus cyfan ar bob lefel, a bod darpariaethau ar gael.

Gofynnodd y pwyllgor pryd y derbyniwyd y cyllid a’r grantiau gan Lywodraeth Cymru.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor fod grantiau’n cael eu derbyn trwy gydol y flwyddyn, a’u bod yn cael eu dosbarthu mewn ffyrdd gwahanol, fel i leoliadau ac yn uniongyrchol i deuluoedd.

Dywedodd y pwyllgor fod achosion Llys Teulu wedi eu nodi yn goch, a bod hyn wedi bod yn anhawster yn hanesyddol. Gofynnodd y pwyllgor sut roedd y gwasanaeth yn cynllunio i wella hyn.

·       Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod anawsterau wedi codi oherwydd oedi yn y Llys Teulu, oedd y tu hwnt i’w rheolaeth hwy. Sicrhaodd y pwyllgor fod trafodaethau cenedlaethol wedi digwydd ynghylch gwella’r system, ac y bu Casnewydd yn rhan o hyn. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, er bod oedi wedi digwydd yn y maes hwn, fod y gwasanaeth wedi bod yn gwneud gwaith dargyfeirio rhagorol, megis Babi a Mi, i osgoi gorfod mynd i’r pedwerydd cam. Roedd y pwyllgor yn pryderu am yr achosion wed wedi cronni, ac unrhyw bryderon Diogelu oedd yn codi yn sgil hyn. Awgrymodd y pwyllgor y dylid cael cyfoesiad am y pwnc hwn yn y dyfodol.

Gofynnodd y pwyllgor a fyddai’r tanwariant yn cael ei ailddosbarthu yn y gwasanaeth, neu a fyddai’n mynd i’r gronfa i Gasnewydd gyfan?

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol mai cymysgedd o’r ddau fyddai’n digwydd. Mae gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar yr heriau i gyllideb y Gwasanaethau Plant 2022/2023 a byddai manylion am hyn mewn adroddiad yn nes ymlaen.

·       Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod modd dosbarthu dadansoddiad o’r ailddosbarthu er gwybodaeth.

Nododd y pwyllgor y gellid cyflwyno gradd Risg y Meysydd Gwasanaeth yn gliriach trwy gydweithio.  Gofynnodd y pwyllgor a osodwyd dyddiad iddynt ymweld â Fferm Windmill pan fydd wedi ei gwblhau.

·       CadarnhaoddCyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y byddid yn trefnu ymweliad cyn gynted ag y byddai’r adeiladwyr wedi trosglwyddo’r adeilad.

Roedd y pwyllgor yn bryderus am yr oedi oedd yn atal cwblhau Fferm Windmill, a gofynnwyd am gadarnhad ynghylch y dyddiad cwblhau.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod yn dal yn aros i’r adeilad gael ei drosglwyddo gan y contractwyr, a bod llawer o achosion yr oedi y tu hwnt i’w rheolaeth, gan gynnwys presenoldeb ystlumod, costau deunyddiau, a phroblemau gyda’r cyflenwad d?r. Roedd yn hyderus fod y gwaith yn tynnu at y terfyn, a sicrhaodd y pwyllgor fod gwaith eisoes wedi ei wneud gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i gofrestru, a bod gwaith hefyd yn mynd ymlaen gyda chyllid i ganiatáu iddynt ddod â’r staff i mewn i gael hyfforddiant a phrofiad tra bod yr oedi’n digwydd.

Gofynnodd y pwyllgor faint o blant fyddai modd eu lletya yn Fferm Windmill?

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod llety i 4 o blant, a bod yno hefyd 4 t? bychan gydag 1 ystafell wely, fel llety mewn argyfwng, ar wahân i’r prif d?. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Strategol mai llety yn y tymor byr i ganol fyddai hwn, er mwyn deall anghenion penodol y plant am leoliadau.

Gofynnodd y pwyllgor a fyddai Fferm Windmill yn gofalu am blant oedd ag anghenion penodol a fyddai fel arall yn cael eu lleoli allan o’r sir.

·       Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol hyn, gan ddweud wrth y pwyllgor eu bod wedi derbyn arian ar gyfer hyn. Pwysleisiodd fod pawb yn cydnabod fod llety preswyl o ansawdd uchel yn ddrud, ond fod modd iddynt ateb anghenion y plant yn fwy effeithiol gyda darpariaeth leol.

Gofynnodd y pwyllgor a oedd dyddiad pryd y gallai Fferm Windmill ddechrau cymryd plant

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol mai mis Medi oedd y nod gwreiddiol, ond mai mis Hydref ydoedd yn awr. Cydnabu’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol y gwaith a wnaed gan yr Aelod Cabinet blaenorol.

·       Cydnabu’rpwyllgor hyn hefyd, a chroesawu’r ddau Aelod Cabinet newydd i’w rôl a’u safle yn y  pwyllgor hwn.

Gofynnodd y pwyllgor a fyddai dyddiad agor penodol i Randy Rosedale.

·       Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor y byddai hyn yn hwyrach na’r disgwyl oherwydd oedi o’r math oedd wedi effeithio ar Fferm Windmill. Byddai’r dyddiad yn cael ei hysbysu unwaith i gadarnhad gael ei dderbyn.

Gofynnodd y pwyllgor a oedd cynlluniau ar gyfer T? Caergrawnt.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol nad oedd penderfyniad wedi ei wneud am ddefnyddio T? Caergrawnt, a bod trafodaethau’n dal i ddigwydd am y ffordd orau i’w ddefnyddio. Holodd y pwyllgor a oedd unrhyw ddiffiniadau neu gyfamodau cyfreithiol ar D? Caergrawnt, a gofynnwyd beth oedd yr angen am yr eiddo.

·       Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol nad oes unrhyw gyfamod sy’n cyfyngu ar y defnydd o’r eiddo, ond na wyddai beth oedd yr angen am yr eiddo.

Gofynnodd y pwyllgor am esboniad o’r hyn a ymddangosai fel diffyg cynnydd gyda’r model o ymateb i gam-fanteisio ar blant.

·       Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod cryn gynnydd wedi ei wneud yn y maes hwn, ond fod y gwaith yr adroddwyd amdano yn cymryd mwy o amser oherwydd ei faint. Tynnodd sylw at waith cydweithiwr blaenorol yn datblygu Pecyn Cymorth Cam-fanteisio a ddefnyddiwyd yng Nghasnewydd ac sydd yn awr yn cael ei gyflwyno mewn ardaloedd eraill. Mae hyn yn golygu gweithio’n ehangach gydag ysgolion, rheini, teuluoedd a’r heddlu, yn ogystal â’r gwaith mewnol. 

·       Tynnodd y pwyllgor sylw at y ffaith fod cam yn dangos diffyg symud o 50% hefyd wedi ei farcio fel cam a gwblhawyd, a holwyd sut y gallai hyn ddigwydd? Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor nad yw’r gwerthuso wedi digwydd eto, ond fod rhan fawr o’r gwaith wedi ei gwblhau.

Gofynnodd y pwyllgor a oedd mesurau diogelu ar waith i geiswyr lloches oedd yn cyrraedd.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod ganddynt lefel uchel o arbenigedd i allu gweithio gyda’r plant hyn. Tynnodd sylw at yr ymdrechion a wnaed gyda rhieni maeth i allu cwrdd ag anghenion y plant. Hysbysodd y pwyllgor fod deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn newid yn rheolaidd, a’u bod yn cadw mewn cof y gallai mwy o bwysau godi yn y dyfodol o weithio gyda phlant o Wcráin.

Gofynnodd y pwyllgor pam fod y mesurau i gadw staff yn ymddangos yn wyrdd pan fod problem yn bodoli gyda’r gweithlu.

·       Roedd y Cyfarwyddwr Strategol yn cydnabod fod yr heriau staffio yn  rhai cyson ac yn effeithio ar y wlad gyfan, ond fod y mesurau penodol a gynlluniwyd gan y maes gwasanaeth wedi eu rhoi ar waith, ac felly wedi eu marcio fel rhai wedi eu cwblhau. Gofynnodd y pwyllgor am i broblem y gweithlu gael ei chyflwyno fel un oedd yn parhau, er mwyn iddynt gael sicrwydd fod y gwasanaeth yn gweithio i’w gwella.

Gofynnodd y pwyllgor am eglurhad pam y gall 80% fod yn wyrdd ac oren, o edrych ar y gweithgor Cyfraith Gyhoeddus.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod hwn yn ddarn sylweddol o waith, a bod oedi wedi digwydd. Mae’n brosiect sydd yn dal i fynd ymlaen ac yn newid, ond mae’r gwasanaeth wedi cwblhau’r camau a osodwyd allan ac felly wedi ei farcio’n wyrdd.

Gofynnodd y pwyllgor sut y gellid marcio 0% o ran bod yn Rhiant Corfforaethol yn wyrdd a choch, a phryd y gellir disgwyl cynnydd?.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod yn disgwyl am ganllawiau gan Lywodraeth Cymru a bod hyn y tu hwnt i’w rheolaeth hwy, ond mai’r gred oedd y byddai hyn yn digwydd yn fuan, ac mai’r pandemig a achosodd yr oedi.

·       Dywedodd y pwyllgor y byddai’n well ganddynt restru’r weithred fel coch, a chynnwys esboniad fel sylw pellach.

Gofynnodd y pwyllgor pa effaith gafodd y pandemig ar brofiad gwaith a mentora i adawyr gofal, a sut oedd modd rhoi blaenoriaeth i hyn.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor fod cynllun yn bodoli cyn y pandemig ar gyfer plant oedd yn derbyn gofal lle byddai pob un yn cael cefnogaeth unigol ac arbenigol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol y dylai hyn wella toc a hefyd y dylai’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol gael effaith gadarnhaol.

Gofynnodd y pwyllgor a fyddai unrhyw wariant ar y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol yn cael ei fonitro?

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol na fyddai, ac nad oedd hyn dan eu rheolaeth hwy am mai cynllun Llywodraeth Cymru ydyw. Pwysleisiodd mai eu dyletswydd hwy yw eu cefnogi a gweithio gyda hwy i sicrhau bod yr arian yn cael ei wario’n ddiogel. 

 

Holodd y pwyllgor am y diffyg dewisiadau tai cymdeithasol, ac ansawdd y tai cymdeithasol sydd ar gael.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod gwaith wedi ei wneud i ymdrin â’r materion hyn ac i geisio cynnig mwy o ddewis. Tynnodd sylw at ehangu’r cynllun ‘Pan Fydda’i yn Barod’, a’i effaith ataliol gadarnhaol.

Gofynnodd y pwyllgor am gyfoesiad ar recriwtio gofalwyr maeth a’r hyfforddiant a roddir iddynt

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod gwaith yn dal i fynd rhagddo, ac y bu pwyslais ar ehangu nifer y gofalwyr maeth arbenigol. Hysbysodd y pwyllgor fod pob gofalwr maeth yn cwblhau hyfforddiant cadarn, a bod cyrsiau hyfforddi arbenigol yn orfodol i’r gofalwyr maeth hynny sy’n cymryd plant ag anghenion arbennig.

Soniodd y pwyllgor am gymhlethdod y mesurau perfformiad oedd yn cael eu cyflwyno ar lefel genedlaethol.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod yn rhaid eu cyflwyno fel hyn, ond cynigiodd gynnal sesiwn ar wahan lle gellid dangos i’r pwyllgor sut i ddeall y data.

Gofynnodd y pwyllgor am ddata am blant fyddai’n gadael gofal.

Esboniodd y Cyfarwyddwr Strategol fod llawer o resymau pam fod plant yn gadael gofal, megis dychwelyd at eu teuluoedd, cael eu mabwysiadu, cyrraedd 18 oed, etc., ac na ellid rhoi cyd-destun o’r data.

Dogfennau ategol: