Agenda item

Adroddiad Diwedd Blwyddyn y Gwasanaethau Oedolion

Cofnodion:

Gwahoddwyd:

 

Mary Ryan – Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion

Cynghorydd Stephen Marshall – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

Cynghorydd Jason Hughes – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad. Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol y staff am eu gwaith a’u gwytnwch.

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yr adroddiad.

Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn teimlo’n bositif ar waetha’r pwysau cynyddol. Hysbysodd y pwyllgor fod problemau gyda staffio, ac roedd yn bwysig felly cadw hyn mewn cof wrth gyflwyno gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y mwyaf bregus yn cael help.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion ei bod yn bwysig sicrhau fod pobl yn cael eu cadw allan o’r ysbytai yn ystod y gaeaf lle bo modd, a’u bod yn ddiogel ac yn derbyn gofal yn eu cartrefi. Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor fod hyn yn cael ei wneud trwy ddefnyddio arian i ganolbwyntio ar ofalwyr sy’n cefnogi pobl yn y gymuned.

Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor am yr achrediad a enillodd Casnewydd fel Dinas Pobl H?n.

Cwestiynau:

Gofynnodd y pwyllgor a oedd dyddiad ar gyfer cychwyn datblygu gwasanaeth penodi rhanbarthol.

·       Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor y buont yn cydweithio’n agos gyda Chaerffili, a bod y gwasanaeth penodi bron yn talu amdano’i hun. Mae cynllun dirprwyon ar gael hefyd sy’n helpu i wneud yn si?r fod arian yn cael ei ddefnyddio’n ddoeth, a bod y rhai sydd angen dirprwyon wedi cael eu rheoli gan Gaerffili, a’r penodi fyddai’r cam nesaf. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion eu bod yn fodlon gyda’r bartneriaeth gyda Chaerffili, a bod angen i’r cynllun dyfu. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion nad oedd amserlen o ran cael gwasanaeth rhanbarthol oherwydd bod y gwaith yn dal ymlaen. 
 

Gofynnodd y pwyllgor am esboniad o benodi ac o ddirprwyo.

·       Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod gwasanaeth penodi yn wasanaeth a gyflenwir gan y cyngor i helpu’r sawl nad oedd yn gallu rheoli eu harian eu hunain trwy roi lwfansau iddynt a’u cefnogi i reoli eu harian eu hunain. Esboniodd fod gwasanaeth dirprwyo yn ymdrin â’r sawl oedd â chryn swm o arian er mwyn sicrhau eu bod yn edrych ar ei ôl yn gywir ac yn y ffordd fwyaf effeithiol fel ffurf ar ddiogelu.

Holodd y pwyllgor beth oedd yn cael ei wneud i ymdrin â phrinder staff a llai o allu mewn gofal cartref.

·       Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor y cymerwyd rhan mewn grwpiau panel oedd yn edrych i weld beth ellid ei wneud ar bob lefel. Hysbysodd y pwyllgor fod Casnewydd yn rhoi ei gwasanaethau cartref allan i ddarparwyr eraill, a’u bod mewn sefyllfa dda, yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr. Mynegodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion bryder am y dyfodol oherwydd bod llawer o ofalwyr yn gadael y proffesiwn, a hyn yn creu prinder, heb sôn am yr angen i sicrhau cysondeb i bobl sy’n derbyn gofal 

Holodd y pwyllgor am grantiau a chyllid i ofalwyr megis grantiau i helpu gyda gwersi gyrru.

·       Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod proses i ofalwyr dros 18 oed wneud cais am gymorth gyda gwersi gyrru petai methu gyrru yn eu hatal rhag dilyn gyrfa mewn gofal, a gellir edrych i mewn i hyn ar gyfer gofalwyr anffurfiol.

Gofynnodd y pwyllgor am esboniad am y tanwario.

·       Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor fod y rhesymau’n debyg i’r rhai gyda’r Gwasanaethau Plant lle bu cyllid a grantiau ar gael yn ystod y pandemig. Dywedodd eu bod yn dal i weld sut i ddwyn y tanwariant hwnnw ymlaen.

Gofynnodd y pwyllgor sut y byddai’r diffyg twf mewn gwasanaeth penodi rhanbarthol yn cael effaith ar y gwasanaeth at y dyfodol.

·       Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion, am y buont yn gweithio mewn model hybrid gyda Chaerffili lle maent wedi cymryd peth o’r gwaith dirprwyo, dim ond dau oedd ar y rhestr aros bellach. Cadarnhaodd y buasent yn parhau i weithio gyda Chaerffili, ac mai’r broblem fwyaf yn y maes hwn oedd y gwasanaeth taliadau uniongyrchol a chaniatáu i bobl allu rheoli eu gofal eu hunain.

Gofynnodd y pwyllgor pryd y byddai integreiddio’r tîm llesgedd yn cael ei gwblhau.

·       Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod gwaith yn y maes hwn wedi cychwyn cyn Covid-19 a’i fod wedi symud yn fwy i ysbytai wedyn. Mae cynnydd yn digwydd yn awr, a hysbysodd y pwyllgor eu bod wedi ystyried hwb IAA yn y tîm llesgedd fel bod modd darparu gofal cofleidiol yng nghyswllt llesgedd. Nododd y dylai peth cynnydd ar hyn ddigwydd erbyn mis Rhagfyr.
 

Gofynnodd y pwyllgor a fyddai pobl yn gallu trefnu eu gofal eu hunain ac a fyddai gan y maes gwasanaeth wiriadau?

·       Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion, lle’r oedd angen am ofal, y byddid yn cynnal trafodaethau i ddechrau i weld a allai’r teulu roi’r gofal, gyda chymorth ariannol, cyn ystyried asiantaeth gofal. Hysbysodd y pwyllgor nad oedd y trefniant hwn ar gael ym mhob rhan o Gymru, gan nad yw rhai ardaloedd yn caniatáu i daliadau fynd i aelodau’r teulu. Y nod oedd sicrhau system deg a chyfartal o daliadau ledled y genedl. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion nad taliad arunig fyddai hwn, ac y byddai adolygiadau cyson yn digwydd.

Gofynnodd y pwyllgor am sicrwydd a chyfoesiad am gynlluniau  Datblygu Cyfleoedd Dydd yn y Gwasanaeth Estyn Allan.

·       Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion wrth y pwyllgor fod llawer o ganolfannau wedi cau yn ystod y pandemig, ac o’r herwydd fod modd gwneud gwaith i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd â gofynion defnyddwyr y gwasanaeth. Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor  eu bod wedi adolygu’r systemau ac wedi rhoi model hybrid ar waith.

Gofynnodd y pwyllgor am sicrwydd eu bod yn gweithredu dan CDAR hyd nes y byddai’r Camau Diogelu Gwarchod Rhyddid yn dod i rym. 

·       Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y byddai’r newid i CDGRh yn digwydd ymhen rhai blynyddoedd. Hysbysodd y pwyllgor eu bod wedi defnyddio’r amser i sicrhau hyfforddiant cyfoes am y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Cynigiodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion drefnu sesiwn i’r pwyllgor am y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r gwahaniaeth rhwng CDAR a CDGRh. Holodd y pwyllgor am y diffyg symud a ddangosir yn eitem 1 ynghylch Ymyriad Cynnar ac Atal. Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor fod pwysau ar y gweithlu wedi lleihau’r cyfleoedd am ddatblygu.

Gofynnodd y pwyllgor pa mor effeithiol fu Cartref yn Gyntaf o ran rhyddhau mwy o bobl o ysbytai.

·       Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y defnyddir y model Gartref yn Gyntaf cyn i bobl fynd i’r ysbyty er mwyn sicrhau fod gan bobl ofal priodol, ac mai dim ond y sawl sydd ag angen meddygol sydd yn yr ysbyty. Dywedodd y gall y pwyllgor gael y wybodaeth ac ystadegau o safbwynt Casnewydd.

Gofynnodd y pwyllgor am effaith diffyg symud yn y gwasanaeth penodi rhanbarthol ac a fyddai’r recriwtio sy’n digwydd ar hyn o bryd yn gwella’r canlyniad.

·       Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor fod modd rheoli’r effaith, ond fod cynlluniau i symud ymlaen. Cadarnhaodd y Pennaeth eu bod wedi cefnogi pobl yn y gwasanaeth, ac wedi cynyddu galluedd mewn mannau eraill. Rhoddodd sicrwydd i’r pwyllgor fod gwelliannau wedi digwydd ers ysgrifennu’r adroddiad, a bod adnoddau wedi eu symud er mwyn cefnogi’r tîm penodi.

Gofynnodd y pwyllgor am eglurder am fframwaith newydd Llywodraeth Cymru a’r anghysondeb gyda graddfeydd COG.

·       Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod y ganran o raddfeydd gwyrdd yno oherwydd bod y maes gwasanaeth wedi gwneud popeth i’w cwblhau o’u safbwynt hwy. Hysbysodd y pwyllgor y byddai newidiadau yn digwydd, ac efallai bod angen mwy o esboniad yn yr adroddiad.

Tynnodd y pwyllgor sylw at yr ailadrodd sy’n digwydd mewn rhai mannau, megis gweithredu CDGRh yn yr adroddiad.

·       Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y gall amcanion o fewn prosiectau mawr ddod dan feysydd gwahanol, ond cytunodd y byddai modd eu dwyn oll at ei gilydd er mwyn eglurder. Holodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a oedd yr Aelodau yn ymwybodol o unrhyw ofalwyr di-dâl, ac os felly, iddynt roi gwybod i’r adran er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr hyn sy’n ddyledus iddynt.

 

Dywedodd y pwyllgor fod staffio yn broblem gyffredinol, a holwyd a oedd unrhyw beth yn cael ei wneud i ymdrin â hyn ar lefel Llywodraeth Cymru neu’r DU.

·       Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor fod tasgluoedd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn edrych ar hyn. Dywedodd fod ffioedd wedi eu codi’n sylweddol i wasanaethau a gomisiynwyd ac i ofal nyrsio preswyl. Nodwyd y canoli blaenorol ar werth am arian yn hytrach na’r canoli presennol ar sicrhau yr atebir anghenion trigolion, a’r gallu i redeg gwasanaeth effeithiol, teg ac ystyrlon. Tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion  sylw at y ffaith fod ymdrechion yn cael eu gwneud i geisio denu a chadw staff trwy edrych ar lwybrau gyrfa a phrosiectau eraill.

Gofynnodd y pwyllgor pa effaith fyddai’r problemau staffio eleni yn gael at y dyfodol.

·       Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion, os na fyddai digon o ofal yn y gymuned, mai cynyddu wnâi’r angen am ofalu preswyl, ac y byddai hynny’n gost i’r cyngor. Hysbysodd y pwyllgor fod pryder ynghylch datblygu taliadau uniongyrchol, ac a fyddai pobl yn gorfod troi at y cyngor am becynnau gofal. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y byddai pobl yn aros yn hwy na’r angen mewn ysbytai petai hyn yn digwydd.

Gofynnodd y pwyllgor am gyfoesiad ar y  prosiect i gefnogi gofalwyr ifanc.

·       Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor fod prosiectau yn mynd rhagddynt yn dda, gan gynnwys lansio cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc. Dywedodd fod mwy o arian wedi ei dderbyn i Deuluoedd yn Gyntaf yn ogystal â gwasanaethau i blant tlawd..

Gofynnodd y pwyllgor pa effaith gâi y cynnydd yn nifer y sawl oedd yn cysylltu â’r gwasanaethau oedolion. 

·       Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod y data yn cynnwys pobl a gyfeiriwyd ymlaen, ac nid o raid gyfanswm y bobl y cymerwyd eu hachosion. Nodwyd na chasglwyd unrhyw ddata o 2019 i 2020.

Diolchodd y pwyllgor i’r gwahoddedigion am fod yn bresennol, ac yna gadawsant y cyfarfod.

1.    Casgliadau Adroddiadau Pwyllgorau

Teimlai’r pwyllgor fod yr adroddiadau yn gynhwysfawr, a diolchwyd i’r Swyddogion a’u timau am eu gwaith caled yn eu meysydd gwasanaeth.

Gofynnodd y pwyllgor am i gopi o’r llythyr a ddarparwyd i’r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc am ganfyddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru gael ei ddosbarthu iddynt er gwybodaeth.

Gofynnodd y pwyllgor am ddadansoddiad o’r tanwariant yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc er gwybodaeth.

Gofynnodd y pwyllgor, unwaith i ddyddiad gael ei gadarnhau i drosglwyddo Fferm Windmill, i ymweliad safle gael ei drefnu i’r pwyllgor.

Gofynnodd y pwyllgor am i sesiynau gwybodaeth gael eu trefnu iddynt hwy a’r Penaethiaid Gwasanaeth /Cyfarwyddwyr Strategol i roi manylion am y gwahaniaethau rhwng CDAR a CDGRh ac i fynd trwy’r mesuriadau perfformiad cenedlaethol yn fanylach.

Gofynnodd y pwyllgor am i wybodaeth am fenter Gartref yn Gyntaf oedd yn benodol i ardal Casnewydd.

Cododd y pwyllgor rai sylwadau am gyflwyniadau:

·       Nodwyd fod modd cyflwyno graff a thabl Ardaloedd Risg y Gwasanaeth ar dudalen ar wahan, gyda’r cyd-destun yn cael ei ddarparu i’r ddau adroddiad er mwyn eglurder.

 

·       Nodwyd ei bod yn gamarweiniol pan oedd ardaloedd a) wedi eu marcio fel rhai wedi eu cwblhau ond lle’r oedd gwaith yn dal i fynd ymlaen a b) fod D/G yn cael ei ddangos lle’r oedd gwaith yn dal i fynd ymlaen.

Croesawodd y pwyllgor y bartneriaeth rhwng Aelodau Cabinet a Chyfarwyddwyr/Penaethiaid Gwasanaeth.

 

Dogfennau ategol: