Agenda item

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Cofnodion:

Estynnoddyr Aelod Llywyddol groeso i'r Prif Arolygydd John Davies, a roddodd y newyddion diweddaraf i aelodau'r cyngor am faterion yr heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.

 

Gofynnodd yr Aelod Llywyddol wedyn i'r Arweinydd a oedd ganddi gwestiynau i'r Prif Arolygydd Davies. 

 

Yn ôl cynghorwyr o Orllewin Casnewydd, dywedodd yr Arweinydd ei bod hi'n ymddangos fel pe bai ymgysylltu mwy rheolaidd yn digwydd rhwng cynghorwyr a'r Heddlu yn Nwyrain Casnewydd.  Gofynnodd yr Arweinydd a ellid mynd i'r afael â hyn, a sefydlu trefniadau rheolaidd i ymgysylltu â chynghorwyr yng Ngorllewin Casnewydd.  Byddai'r Prif Arolygydd yn ymchwilio i'r cais hwn ar ran yr Arweinydd, a dywedodd hefyd fod yr Heddlu yn ymchwilio i roi'r cyd-destun i faterion a geir ym mhob ward i'r holl aelodau, ynghylch yr hyn a oedd yn digwydd ym mhob ardal o Gasnewydd, drwy gylchlythyr misol neu ddeufisol.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y ffaith bod parthau 20mya yn cael eu cyflwyno yng Nghasnewydd, ac at y pryderon ynghylch cynlluniau gorfodi, a gofynnodd a fyddai modd i'r Heddlu gwrdd â Chynghorwyr i gynnal sesiwn wybodaeth, fel y gellid wedyn adrodd yr wybodaeth honno'n ôl i etholwyr a oedd yn cysylltu'n gyson â'u haelodau ward i drafod hyn. Byddai'r Prif Arolygydd yn ymchwilio i hyn ar ran yr Arweinydd.

 

I gloi, roedd hi'n wych gweld digwyddiadau yng Nghasnewydd yn ailddechrau eto ar ôl dwy flynedd, gan gynnwys Carnifal Pil, y Sblash Mawr a Digwyddiad Pride Agoriadol Casnewydd.  Roedd yr Arweinydd felly am longyfarch y Prif Arolygydd a'i gydweithwyr am eu gwaith plismona cadarnhaol yn yr holl ddigwyddiadau hyn yn y gymuned. Roeddent wedi ymgysylltu'n wirioneddol â'r cyhoedd, ac roedd yr Arweinydd am i hynny gael ei adrodd yn ôl wrth gydweithwyr y Prif Arolygydd Davies.  Diolchodd y Prif Arolygydd i'r Arweinydd am ei sylwadau caredig gan ddweud y byddai'n adrodd hynny'n ôl wrth ei gydweithwyr.

 

Cwestiynau i’r Heddlu a godwyd gan y Cynghorwyr:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Fouweather at y broses ymgynghori ynghylch y 20mya, lle nad oedd neb o Heddlu Gwent wedi gwneud unrhyw sylw.  Roedd goblygiadau aruthrol yn sgil hyn o ran yr Heddlu ac adnoddau, ac roedd llawer o bobl heb fod yn cadw at y terfyn cyflymder.  A allai'r Prif Arolygydd felly ganfod pam na chafwyd unrhyw sylwadau gan Heddlu Gwent i'r ymgynghoriad, ac adrodd yn ôl i'r Cyngor. Byddai'r Prif Arolygydd yn ymchwilio i hyn, a dywedodd hefyd fod mwyafrif y gwaith gorfodi yn cael ei gyflawni gan 'Gan Bwyll' Cymru.

 

§  Roedd y Cynghorydd A Morris wedi sylwi ar gynnydd yn y defnydd o e-feiciau yn Llyswyry a'r ddinas, a oedd yn mynd yn gynt na 20mya.  Roedd y beiciau hyn wedi cael eu prynu heb fod angen trwydded, cyfarpar diogelwch, unrhyw  wybodaeth am God y Ffordd Fawr nac yswiriant.  Bu nifer o ddamweiniau agos, ac roedd hi'n bosibl iawn y gallai rhywun gael ei ladd.  Beth oedd y safbwynt cenedlaethol ynghylch hyn?  Dywedodd y Prif Arolygydd mai'r safbwynt cenedlaethol ynghylch e-feiciau oedd sut roedd yr Heddlu yn ymdrin â nhw'n dactegol. Roedd yr Heddlu'n ymchwilio i nifer o opsiynau gwahanol ond teimlai ei bod yn amhriodol mynd i'r afael â nhw mewn fforwm cyhoeddus ar hyn o bryd, ond roeddent yn agos at ganlyniad dactegol i ymafael ynddynt. Rhan o'r ymgyrch oedd targedu manwerthwyr. Roedd mwyafrif yr e-feiciau hyn yn cael eu cynhyrchu dramor yn hytrach na'r DU, felly roedd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r broses o fewnforio'r beiciau hyn. Gan fod yr Heddlu'n agos at fynd i'r afael â'r sefyllfa, byddent yn gweld canlyniad cyn hir.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Cleverly hefyd am y parthau 20mya ar dull o'u monitro, yn enwedig o ran e-feiciau a sgwteri. Unwaith eto, cyfeiriodd y Prif Arolygydd hefyd at ei ateb blaenorol, ac roedd yn hapus i gysylltu â'r Cynghorydd Cleverly i ddeall y problemau'n gysylltiedig â'r hyn a oedd yn digwydd ym Metws.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Hourahine i'r heddlu am ymdrin â'r 'digwyddiad gwn' ffug yn gynharach yn y diwrnod yn Ysgol St Julian, a arweiniodd at gau'r ysgol.  Roedd hwn yn fater parhaus, felly roedd y Prif Arolygydd yn hyderus y byddent yn dod i wybod beth ddigwyddodd yn y diwrnodiau nesaf.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Deborah Harvey ei bod hi, fel Aelod Ward Alway, yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Arolygydd Cawley. Canmolodd ei waith caled a'i ymroddiad yn y gymuned ar hyd y blynyddoedd a gofynnodd a ellid mynegi ei diolch wrtho.

 

§  Gofynnodd y Cynghorydd Evans a allai'r Heddlu ymhelaethu ynghylch yr hyn yr oedd yr heddlu a phartneriaid, gan gynnwys y Cyngor, yn ei wneud i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol â  chardotwyr bygythiol yng Nghanol y Ddinas.  Dywedodd y Prif Arolygydd fod yr Heddlu eisoes yn ymgysylltu'n helaeth â'r awdurdod lleol a phartneriaid y trydydd sector a'u bod wedi mabwysiadu dull plismona sy'n canolbwyntio ar broblemau, ac estynnodd wahoddiad i Gynghorwyr oedd â diddordeb i ddod i gyfarfod i ddeall beth oedd hynny'n ei olygu. Roedd hwn yn fater cymhleth a oedd yn golygu bod angen deall y broblem, yn hytrach na rhuthro'n wyllt at y sefyllfa, ac roedd yn fwy na bodlon bod ganddo gefnogaeth partneriaid i fynd i'r afael â'r broblem.

 

§  Roedd y Cynghorydd Corten yn deall y pwysau ar yr heddlu a chyfeiriodd at Ymgyrch Bang, a gofyn a oedd unrhyw beth y gallai cynghorwyr ward Ringland ei wneud er mwyn helpu'r timau plismona yn eu hardal. Diolchodd y Prif Arolygydd i'r Cynghorydd Corten am ei chynnig caredig ac roedd yn fwy na pharod i gynnwys cynghorwyr ward Ringland yn y cyfarfodydd hyn, a byddai'n hysbysu'r Arolygydd Cawley a oedd yn cynnal yr ymgyrch i'w cynnwys yn y gwaith partneriaeth.

 

§  Roedd y Cynghorydd Whitehead wedi clywed mai Casnewydd oedd y ddinas waethaf ond un yn y DU am broblemau cyffuriau, a gofynnodd a oedd hynny'n wir? Dywedodd y Prif Arolygydd wrth y Cynghorydd Whitehead nad oedd wedi clywed yr ystadegyn hwnnw.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Drewett am y torfeydd mawr a ymgasglodd ar Ridgeway ar Noson Tân Gwyllt y flwyddyn diwethaf, a gofynnodd a fyddai hynny'n cael ei blismona'n effeithiol.  Dywedodd y Prif Arolygydd y byddai asesiad risg yn cael ei gynnal i weld pa ardal a wynebai'r risg fwyaf dros y cyfnod hwnnw, ac y byddai felly'n rhoi gwybod i'r Cynghorydd Drewett a oedd Ridgeway yn y categori risg uchel.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Mogford hefyd at y terfynau cyflymder 20mya a gofynnodd pa adnoddau oedd ar gael i'r heddlu.  Dywedodd y Prif Arolygydd fod uned neilltuol ar gyfer plismona ffyrdd, a oedd yn ymdrin â'r 'pum angheuol'. gan gynnwys goryrru a 'Gan Bwyll Cymru'.  Roedd yr adnoddau hynny'n cael eu targedu at yr ardaloedd neilltuol hynny er mwyn gorfodi terfynau cyflymder.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Batrouni fod achosion o 'gogio' i'w cael yn gyffredin yn Sir Fynwy, lle'r oedd gangiau o droseddwyr yn targedu oedolion agored i niwed, gan feddiannu eu cartref ac ecsploetio'r bobl a'u cartrefi er mwyn cyflawni gweithgarwch troseddol. Holodd a oedd hyn yn broblem neilltuol yng Nghasnewydd? O ran cogio, dywedodd y Prif Arolygydd fod ymagwedd gadarn ar waith, yn enwedig lle'r oedd pobl agored i niwed yn byw mewn wardiau penodol.  Yn ail, gofynnodd y Cynghorydd Batrouni beth oedd perthynas yr Heddlu â Chartrefi Dinas Casnewydd (CDC); yn enwedig mewn perthynas â'r mater blaenorol, a hefyd yn gyffredinol.  Soniodd y Prif Arolygydd fod y berthynas â CDH hefyd yn dda iawn, gan roi enghraifft o'r materion mewn unrhyw ardal benodol lle roedd pobl yn cael eu cartrefu.  Byddai'r Heddlu, ynghyd â CDC, yn ymchwilio i bolisïau tai fel na cheir cynnydd yn y niferoedd a leolir yn yr un ardal, ac i atal pobl â phroblemau penodol rhag byw mewn ardaloedd penodol. Roedd CDC hefyd yn ymwneud â phartneriaeth troseddau casineb yr Heddlu, ac yn chwarae rhan bwysig iawn er mwyn rheoli Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Saeed Adan a oedd targed ar gyfer yr amser ateb galwadau 101 a galwadau eraill nad oeddent yn rhai brys.  Atebodd y Prif Arolygydd drwy ddweud bod targedau amser yn cael eu gosod ar gyfer galwadau 999 a 101.  Roedd yr amseroedd aros ar gyfer galwadau 101 yn llawer hwy, a gallai defnyddwyr y rhif hwnnw ddisgwyl yn hirach am y gwasanaeth.  Nid oedd yr Heddlu'n fodlon â pherfformiad ar hyn o bryd.  Roedd y tywydd dros yr haf wedi effeithio ar hyn, a bu'r galw am wasanaeth yr heddlu'n uwch na'r arfer. Roedd llawer o waith wedi'i wneud i sicrhau bod pobl yn gallu riportio achosion nad oeddent yn rhai brys heb orfod defnyddio'r ffôn, ee, drwy'r cyfryngau cymdeithasol, e-bost a'r wefan.  Roedd hi'n brafiach siarad â rhywun, ond yn anffodus dyna'r sefyllfa yr oedd yr heddlu ynddi ar y pryd.