Agenda item

Ymatebion Ysgrifenedig i Gwestiynau Aelod Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

        i.           Deputy Leader and Cabinet Member for Education and Early Years

      ii.           Cabinet Member for Community and Wellbeing

     iii.           Cabinet Member for Strategic Planning, Regulation and Housing

    iv.           Cabinet Member for Social Services

      v.           Cabinet Member for Organisational Transformation

    vi.           Cabinet Member for Climate Change and Bio-Diversity

   vii.           Cabinet Member for Infrastructure and Assets

Cofnodion:

CwestiynauYsgrifenedig gan y Cyngor – 19 Gorffennaf 2022

 

 

Eitem 5: 2021/22 Adroddiad diwedd blwyddyn Rheoli'r Trysorlys

 

CwestiwnAtodol a Godwyd yn y Cyngor gan y Cynghorydd Routley:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Routley at dudalen 52, adran 9 yn yr adroddiad lle nodwyd nad oedd unrhyw fuddsoddiadau'n cefnogi Sefydliadau Rwsiaidd yn uniongyrchol, ac felly gofynnodd a oedd unrhyw fuddsoddiadau'n cefnogi Sefydliadau Rwsiaidd yn anuniongyrchol.

 

O dan weithgarwch dyledion eraill, sylwodd y Cynghorydd Routley hefyd fod cyllid cyfalaf wedi'i godi ar gyfer Ysgol Glan Wysg a Ffordd Ddosbarthu'r De. Roedd y datganiad cyfrifon yn dangos rhwymedigaeth o £39M i dalu'r gweithredwr, felly gofynnwyd a ellid torri'r cyllid i lawr rhwng yr Ysgol a'r SDR.

 

Ymateb y Pennaeth Cyllid:

BUDDSODDIADAU

O ran egwyddor, oherwydd natur marchnadoedd arian byd-eang ni allwch fyth fod 100% yn si?r na fydd unrhyw fuddsoddiadau'n cael effaith ar fuddiannau Rwsiaidd, yn enwedig lle ceir gwladwriaeth sy'n cefnogi twyll. Y rheswm am hyn yw bod trafodion yn creu trafodion eraill â sefydliadau eraill, ac mae'n amhosib gwirio pob dolen mewn cadwyn hir, cyn gorfod dechrau gwirio trafodion eraill y diwrnod canlynol oherwydd natur gylchol trafodion y farchnad arian. Safon y diwydiant yw sicrhau nad oes unrhyw gyswllt amlwg â Rwsia yn eich trafodyn uniongyrchol, a disgwyl i eraill fod yn mor ddiwyd yn eu trafodion hwythau.

 

Ar 31 Mawrth roedd ein holl fuddsoddiadau gyda Chynghorau eraill, busnesau eraill y sector cyhoeddus wedi'u lleoli yn y DU, llwyfan buddsoddi/benthyca sector cyhoeddus y Llywodraeth (DMO), cronfa gyfun yn benodol ar gyfer awdurdodau lleol a'n cyfrif galw gyda Santander. Ar wahân i'r hyn a ddywedais uchod, ar sail hynny a'n sefyllfa ar 31 Mawrth (ac ers hynny), rydym yn hyderus nad oedd unrhyw gysylltiadau rhwng buddsoddiadau a gweithgareddau Rwsiaidd.

 

MentrauCyllid Preifat

MCP - mae ein trafodion â Morgan Vinci mewn perthynas â ffordd ddosbarthu gyswllt y de a Newport Schools Solutions Ltd mewn perthynas ag ysgol Glan Wysg (gyda'r cwmni olaf hefyd yn is-gwmni i gr?p Vinci). Yn ystod 2021-22, talwyd £6.6m i'r naill gwmni a £2.1m i'r llall.

 

Eitem 9: Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

 

CwestiwnAtodol a godwyd gan y Cynghorydd Mogford i'r Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau ynghylch - Ymgynghori â Phreswylwyr ar ôl cyflwyno'r Parth 20mya

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mogford:

O ran y broses leol ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya, oni fyddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal â'r preswylwyr?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Lacey:

Hoffwngyfeirio eich sylw i ddechrau i'r pecyn gwybodaeth i Aelodau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ac yr anfonodd y Gwasanaethau Democrataidd at yr holl Aelodau ym mis Gorffennaf. Mae'n ceisio darparu gwybodaeth am yr holl agweddau ar y cynllun i weithredu terfyn cyflymder diofyn o 20mya ledled Cymru, gan gynnwys yr arolwg o agweddau'r cyhoedd, a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar ostwng y terfyn cyflymder diofyn.

 

Mae pob awdurdod lleol yn gweithio'n unol â'r canllawiau a'r meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn nodio'r ffyrdd a fydd yn troi i'r terfyn diofyn o 20mya ac yn aros yn 30mya.

 

Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir, sef na fydd unrhyw ymgynghori pellach ar ffyrdd sy'n newid i fod yn 20mya, gan fod y meini prawf wedi'u gosod a byddant yn cael eu gweithredu mewn modd cyson ledled Cymru.

 

Foddbynnag, bydd y ffyrdd sydd wedi'u nodi i aros yn 30mya (a elwir yn eithriadau) yn ddarostyngedig i'r broses gorchymyn rheoleiddio traffig statudol. Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol felly ddilyn y broses statudol sy'n cynnwys y cyfle i wneud sylw neu wrthwynebu yn ystod y cyfnod ymgynghori, a dyna'r hyn y bydd pob awdurdod lleol yn ei wneud.

 

 

 

 

CwestiynauYsgrifenedig gan y Cyngor – 27 Medi 2022

 

Eitem 7: Cwestiynau i Aelod Cabinet (tynnwyd yr eitem oddi ar Agenda'r Cyngor yn dilyn Hysbysiad o Gynnig ynghylch Marwolaeth y Frenhines Elizabeth II)

 

Cwestiwni’r Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau: Mynediad Preswylwyr at Drafnidiaeth Gyhoeddus

 

Gofynnodd y Cynghorydd Howells:

Er gwaethaf y newidiadau diweddar i wasanaethau bws, nid oes unrhyw wasanaethau bws yn gwasanaethu Pentref Lysaght na'r ardaloedd diwydiannol cyfagos ar y Sul nac ar ôl 7pm gyda'r nos. A all yr Aelod Cabinet gadarnhau y bydd yn adolygu'r ddarpariaeth hon gyda Bws Casnewydd ac yn ceisio sicrhau bod gan yr holl breswylwyr fynediad teg at drafnidiaeth gyhoeddus?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Lacey:

Rhwydwaithmasnachol yn bennaf yw'r rhwydwaith bysus yng Nghasnewydd, ac nid yw'r Cyngor yn gallu gwneud llawer i gyfarwyddo gwasanaethau. Cyflwynodd Bws Casnewydd rai newidiadau i wasanaethau bws yn ddiweddar, a seiliwyd y rhain ar wasanaethu'r ardaloedd â'r lefelau uchaf o gwsmeriaid, ac ar y data fflecsi a ddangosai'r ardaloedd lle'r oedd y bysus yn cael eu defnyddio'n bennaf gyda'r nos ac ar benwythnosau.

 

Ceirprinder gyrwyr bws ar hyn o bryd hefyd i gynnal darpariaeth gyda'r nos ac ar y Sul. Rydym yn cydweithio'n agos â Bws Casnewydd wrth iddynt ystyried gwasanaethau, a byddwn yn adolygu'r holl wasanaethau gyda Bws Casnewydd dros y misoedd nesaf, i weld pa newidiadau y gallem eu gwneud i wasanaethu mwy o ardaloedd nad ydynt yn gallu eu gwasanaethu gyda'r nos ac ar y Sul ar hyn o bryd.

 

Nidoes gennym unrhyw sicrwydd ynghylch pa gyllid fydd ar gael i’r awdurdod ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol hon i ariannu gwasanaethau bws lleol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio gyda Bws Casnewydd i wella gwasanaethau bws ym mhob ardal o fewn y pot arian a fydd ar gael inni.

 

 

Cwestiwni’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth: Buddsoddiad Cyfalaf mewn Parciau

 

Gofynnodd y Cynghorydd Howells:

Yn y gyllideb ar gyfer eleni, amlinellwyd £2.5 miliwn o gyfalaf i fuddsoddi yn ein parciau. Hyd yn hyn, faint sydd wedi'i ymrwymo ac ymhle?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Forsey:

Mae'rbuddsoddiad ychwanegol sylweddol yn cynnwys ardaloedd chwarae a mynwentydd.

O ran mynwentydd, bydd y buddsoddiad yn anelu i sicrhau bod ein safleoedd yn hygyrch a diogel i ymwelwyr. Er bod rhywfaint o waith trwsio wedi dechrau eisoes, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei roi allan ar dendr ar hyn o bryd.

 

O ran mannau chwarae, bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio i glirio'r gwaith cynnal sydd wedi ôl gronni dros y 2 flynedd ddiwethaf, i sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn addas i'w defnyddio. Trefnir gwaith yn ôl blaenoriaeth ar sail canlyniadau'r arolygiadau.

 

Mae'rArweinydd a mi'n awyddus i sicrhau bod y gymuned leol yn cymryd rhan mewn unrhyw waith i osod offer newydd yn lle offer sy'n cael ei dynnu ymaith, felly mae swyddog ymgysylltu'n cael ei recriwtio ar hyn o bryd i sicrhau trefniadau priodol i gynnwys plant lleol.

 

 

Cwestiwni’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth: Lleihau Lefelau Tipio Anghyfreithlon

 

Gofynnodd y Cynghorydd Howells:

Yng ngoleuni’r adroddiad diweddar ynghylch problemau tipio anghyfreithlon yng Nghasnewydd, pa gamau rhagweithiol a gynigir gan yr Aelod Cabinet i leihau'r lefelau hyn, ac ai un o'r opsiynau dan ystyriaeth yw adolygiad o'r system archebu yng nghanolfan ailgylchu Gwastraff y Cartref Casnewydd.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Forsey:

Nidyw'r cynnydd mewn achosion ond yn deillio o gynnydd yn y gwaith a wneir gan dimau'r Cyngor i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Buddsoddodd y Cabinet mewn ail dîm penodol i ymateb i achosion o dipio anghyfreithlon, ac mae'r gweithredu a'r camau gorfodi yn erbyn tipio anghyfreithlon wedi cynyddu - sydd wedi golygu bod mwy o ddigwyddiadau'n cael eu canfod a'u riportio mewn modd rhagweithiol.

 

Rydymhefyd wedi annog preswylwyr i'n hysbysu am unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon drwy ein gwefan a thrwy ap Fy Nghasnewydd sy'n ein helpu i gael gwared ar y sbwriel ynghynt.

 

O ganlyniad i hynny mae'r Cyngor wedi cofnodi'r nifer uchaf ond un o erlyniadau llwyddiannus yn erbyn tipwyr anghyfreithlon yng Nghymru dros y cyfnod hwn, gan gynnig amser ymateb cyfartalog o  lai nag 1.5 diwrnod.

 

Byddwnyn parhau i weithredu yn erbyn unrhyw un a gaiff ei ddal yn tipio'n anghyfreithlon yn ein dinas, ac yn gweithio mewn modd rhagweithiol â'n partneriaid i wrthannog ymddygiad fel hyn; bydd hyn yn cynnwys gweithio'n agos â'r rhwydwaith o wirfoddolwyr, gwaith partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a sefydliadau eraill a chamau gorfodi ac ymyriadau uniongyrchol.

 

Nidoes unrhyw dystiolaeth i gysylltu'r system archebu yng nghanolfan ailgylchu Gwastraff y Cartref Casnewydd â chynnydd mewn achosion o dipio anghyfreithlon.

 

Mae'r system archebu wedi gwella sawl agwedd a oedd wedi achosi problem yn y gorffennol ar y safle, ac a oedd yn amharu ar ddiogelwch, perfformiad a bodlonrwydd cwsmeriaid. Mae'r system hefyd wedi arwain at berfformiad gwell o ran ailgylchu, ac enillodd y Cyngor safle Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref y flwyddyn y llynedd. Defnyddir system debyg bellach yn y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru.