Agenda item

Hysbysiad o Gynnig Cydymdeimlad

To receive the following motion for which the necessary notice has been provided.

 

This Council expresses its deep sadness at the death of Her Majesty the Queen and offers its sincere condolences to His Majesty the King and other members of the Royal Family.  We recognise Her Majesty's enduring commitment to public service and duty, including her support for many Welsh charities and organisations, and her lifelong association with Wales and its people.

 

The motion is to be proposed by the Leader of the Council, Councillor J Mudd and seconded by Councillor M Evans.

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelod Llywyddol wrth y cynghorwyr, drwy gytundeb rhwng y grwpiau gwleidyddol, mai dyma'r eitem olaf ar yr agenda, ac y byddai unrhyw atebion i gwestiynau i'r Arweinydd neu i Aelodau'r Cabinet yn cael eu rhoi mewn ysgrifen.

 

Gwnaeth yr Arweinydd y cynnig canlynol i'r Cyngor:

 

Mae'r Cyngor hwn yn mynegi tristwch mawr wedi marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines, ac yn mynegi cydymdeimlad diffuant tuag at Ei Mawrhydi Y Brenin ac aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol. Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth a dyletswydd gyhoeddus, gan gynnwys ei chefnogaeth tuag at lawer o elusennau a sefydliadau Cymreig, a'i chysylltiad â Chymru a'i phobl ar hyd ei hoes.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd M Evans.

 

Cadwodd yr Arweinydd ei hawl i siarad ar y diwedd.  Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Evans i siarad:

Roedd yr ychydig wythnosau diwethaf wedi bod yn fwrlwm o emosiwn, gyda sioc, galar ac anghrediniaeth ond ymdeimlad o falchder a gobaith, ynghylch y modd yr aeth y Genedl a'r ddinas ati i dalu teyrnged i wraig uchel ei pharch ac annwyl gan lawer. Ni all y Gweriniaethwyr mwyaf pybyr hyd yn oed wadu ei hymroddiad llwyr i wasanaeth cyhoeddus.

 

Roedd rhai ohonom yma wedi bod yn ffodus i gael bod yn Faer y Ddinas, a byddai eraill yn cael y cyfle hwnnw yn y dyfodol.  Roedd yn fraint ac anrhydedd o'r mwyaf, ac mae'n rhaid dweud ei bod wedi bod yn flwyddyn feichus ond boddhaus.

 

Ni allaf ddychmygu gwneud hyn, ond ar raddfa llawer mwy am dros 70 o flynyddoedd, ond dyna a wnaeth y Frenhines hyd at ddiwrnod ei marwolaeth, yn 96 oed.

 

Ni chefais erioed gwrdd â hi, ond rydw i ymhlith yr ychydig Gynghorwyr sydd ar ôl a oedd yn bresennol yn y cinio yng Nghanolfan Casnewydd, pan ddaeth i ddathlu statws Casnewydd fel dinas yn 2002. Roedd y strydoedd yn orlawn o bobl a oedd wedi dod i ddymuno'n dda, ac roedd yn ddiwrnod na fyddwn i fyth yn ei anghofio.

 

Ar adeg arall, cefais fynd i wasanaeth eglwys yng Nglynebwy i ddathlu ei Jiwbilî Ddiemwnt. Eisteddais gyferbyn â hi, ac roedd ganddi bresenoldeb cryf iawn, er ei bod yn fach o ran corffolaeth, ac roedd ei gwên yn goleuo'r ystafell.

 

Mae pob un ohonom wedi clywed neu weld rhai hysbysiadau gwirioneddol afiach ar y cyfryngau cymdeithasol, gan leiafrif di-glem, ac yn anffodus nid yw Casnewydd yn eithriad i hynny. Ond yr ymdeimlad cryfaf a gafwyd oedd bod y ddinas, y wlad a'r Deyrnas Unedig yn gytûn, fel yr ydym ni heddiw.

 

Wrth inni ymdopi â marwolaeth y Frenhines, efallai mai’r deyrnged fwyaf y gallem oll ei gwneud, yw efelychu ei hymroddiad enfawr a'i gwasanaeth i'r bobl rydym yn eu cynrychioli, o Ringland i Ridgeway, a gweithio'n galed i wella ein dinas.

 

Roedd y Frenhines yn annwyl gan lawer, yn stoic ac yn ennyn parch. Roedd ganddi ymdeimlad cryf o ddyletswydd - yn Frenhines yr oesau, yn symbol o sefydlogrwydd a gwytnwch. Roedd hi'n Frenhines ac yn Fatriarch a byddai colled fawr ar ei hôl.  Ond gadawodd etifeddiaeth aruthrol ar ôl 70 mlynedd o deyrnasiad hanesyddol. Boed i'n hannwyl Frenhines orffwys mewn hedd a Duw a Gadwo'r Brenin.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Lacey, Marshall, y Cynghorydd Fouweather, Drewett, Cocks, Spencer, R Howells, D Davies, D Harvey a Morris i gyd o blaid y cynnig, gan fynegi eu hedmygedd o'r Frenhines yn ystod 70 mlynedd ei theyrnasiad.  Tynnwyd sylw at y camau breision a wnaeth tuag at heddwch yn Iwerddon, ei Jiwbilî Blatinwm ddiweddar a'r digwyddiadau'n gysylltiedig â hyn yng Nghasnewydd, ei rôl mewn byd lle mae dynion yn teyrnasu a'i gwaith er budd y Gymanwlad. Rhannodd cynghorwyr hefyd eu straeon am gwrdd â'r Frenhines, ei hetifeddiaeth a'u parch tuag ati.

 

Gofynnodd yr Aelod Llywyddol i'r Arweinydd wneud datganiad i gloi. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Mudd i’r Aelod Llywyddol a’r holl gydweithwyr a siaradodd o blaid y cynnig ac am siarad ar ran eu hetholwyr.

 

Roedd yr Arweinydd am fynegi ei diolch ar ran yr holl aelodau etholedig i'n timau o fewn y Cyngor a wnaeth yr holl drefniadau angenrheidiol i sicrhau bod popeth wedi'i gynnal yn llyfn a di-drafferth dros y cyfnod hwn. Cafwyd llawer o waith trefnu yn y cefndir o fewn y Cyngor, yn dilyn marwolaeth y Frenhines, a digwyddodd y cyfan yn gyflym iawn.  Talodd yr Arweinydd deyrnged arbennig i'r Maer ac i'r Cynghorydd J Hughes am eu darlleniad o'r Proclamasiwn yn Siambr y Cyngor.

 

Roedd gwrando ar fyfyrdodau cydweithwyr y cyngor wedi gwneud i'r Arweinydd fyfyrio ar yr holl ddathliadau a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines.  Roedd llawer o Gynghorwyr wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau hynny a thynnodd yr Arweinydd sylw at un yn arbennig, sef plannu coed ar gyfer ymgyrch y Jiwbilî, ac roedd y coed hyn wedi'u plannu yn llawer o'n hysgolion a hefyd mewn mannau cyhoeddus.  Roedd y rhain yn etifeddiaeth wirioneddol a pharhaol, ac yn goffadwriaeth weddus i'n Mawrhydi y Frenhines. Bydded iddynt barhau i fod yn goffadwriaeth fyw i'r dyfodol. Fel pobl, mae pawb ohonom yn gwybod am boen galar a cholled, ac rydym yn meddwl yn ddwys am y Teulu Brenhinol dros y cyfnod trist hwn, ond hefyd am ddinasyddion a theuluoedd Casnewydd, sy'n profi galar a cholled ar hyn o bryd.

 

I gloi, cytunodd yr Aelod Llywyddol hefyd â'r sylwadau a wnaed gan ei gydweithwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig, gyda phawb yn unfrydol o'i blaid.

 

Diolchodd yr Aelod Llywyddol i'r aelodau am fod yn bresennol a chloi'r cyfarfod.