Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'w chydweithwyr yn y Cabinet. Hwn oedd yr adroddiad monitro refeniw cyntaf a gyflwynwyd i'r Cabinet yn y flwyddyn ariannol hon, ac esboniai ragolygon cyfredol yr Awdurdod ym mis Gorffennaf 2022.
Yn erbyn cyllideb net o £343miliwn, roedd sefyllfa refeniw mis Gorffennaf ar hyn o bryd yn rhagweld gorwariant o £3.1miliwn, a oedd yn cynrychioli tua 1% o amrywiant yn erbyn y gyllideb. Cafwyd y gorwariant hwn ar ôl defnyddio holl gronfeydd wrth gefn y gyllideb refeniw o £4.9 miliwn a oedd wedi'u cynnwys yng nghyllideb refeniw 2022/23, fel y cytunwyd gan y Cabinet ym mis Chwefror 2022.
Fel yr adlewyrchwyd yn adroddiad cyllideb 2022/23, ac yn adroddiad alldro 2021/22, roedd y flwyddyn ariannol hon yn cynnig cyfle am fwy o sefydlogrwydd, o gymharu â'r ddwy flynedd cynt, gyda'r posibilrwydd y gallai effeithiau pandemig Covid-19 ddechrau lleihau. Fodd bynnag, roeddem yn gwybod y byddai Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru yn dod i ben, ac y byddai unrhyw gostau'n gysylltiedig ag adfer, a'r heriau a brofwyd wrth geisio cyrraedd lefelau incwm y gorffennol, yn disgyn ar ysgwyddau'r Cyngor.
Er bod symiau mawr wedi'u neilltuo wrth gefn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn 2022/23 i ymdrin ag effeithiau etifeddol Covid, roedd dau fater newydd wedi codi ers cytuno ar y gyllideb, a'r rheiny'n dyngedfennol:
§ Roedd cynnig amodol y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol (NJC) a'r cynnig cyflogau athrawon ar gyfer 2022/23 yn uwch na'r hyn a neilltuwyd ar eu cyfer (cyfartaledd o +4% yn uwch yn achos yr NJC a +1% yn uwch yn achos yr Athrawon)
§ Cafodd cynnydd oherwydd chwyddiant dros y chwe mis diwethaf, a oedd yn parhau i gynyddu, effaith ar gyllideb y Cyngor, er enghraifft, tanwydd a chontractau allanol mawr fel trafnidiaeth ysgol. Parhaodd swyddogion i reoli'r rhain o fewn adnoddau presennol, hyd y bo'n ymarferol bosibl.
Fel y dangosai'r adroddiad a'i atodiadau, ynghyd ag effaith y dyfarniadau cyflog, esboniwyd y sefyllfa gyfredol fel a ganlyn:
§ Bu gorwariant sylweddol mewn rhai meysydd galw allweddol ac roedd risgiau eraill yn dod i'r amlwg o fewn meysydd gwasanaeth.
§ Gwrthbwyswyd y rhain yn rhannol gan arbedion yn erbyn (i) symiau wrth gefn y gyllideb refeniw, a ddarparwyd i'r Cyngor (ii) cynllun gostyngiadau'r dreth Gyngor a (iii) chyllidebau eraill nad oeddent yn gysylltiedig â gwasanaethau.
Roedd rhai meysydd o fewn yr Awdurdod yn adrodd gorwariant sylweddol yn erbyn gweithgareddau penodol. Roedd y gorwariant hwn yn gysylltiedig â meysydd gweithgarwch a oedd yn seiliedig ar y galw, fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, a chanddynt felly risg gynhenid o newid pe bai lefelau'r galw'n newid o'r rhagolygon cyfredol ar gyfer gweddill y flwyddyn.
Dyma'r meysydd allweddol a oedd yn cyfrannu at y rhagolygon o £3.1 miliwn:
(i) Cynnydd yn y galw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol, gan gynnwys lleoli plant y tu allan i'r ardal a lleoliadau brys. Roedd y ddau faes hyn ar eu pen eu hunain yn cyfrannu gorwariant o bron i £2.9 miliwn at sefyllfa gyffredinol y gwasanaethau.
(ii) Cytunodd y Cyflogwyr Cenedlaethol â chynnig terfynol blwyddyn o hyd i'r undebau llafur a gynrychiolai weithlu'r NJC. Y cynnydd cyfartalog i staff y Cyngor oedd tua 8% o gymharu ag ond 4% a oedd wedi'i neilltuo yn y gyllideb. Er nad oedd hyn wedi'i gytuno eto, roedd yn cynrychioli rhagolygon o £2.4 miliwn o orwariant ar gyfer staff nad ydynt yn gweithio mewn ysgol.
(iii) Roedd pwysau sylweddol yn amlwg o fewn Tai a Chymunedau, mewn perthynas â digartrefedd. Rhagwelwyd gorwariant o £2.9miliwn. Y prif broblemau oedd natur dros dro y llety, a phrinder llety addas, gan olygu defnydd helaeth o westai a llety gwely a brecwast, a bod y cap ar Fudd-dal Tai yn golygu mai ond cyfran o'r costau yn yr oedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn talu amdanynt.
(iv) Rhagwelwyd £200k o orwariant ar drafnidiaeth AAA Addysg gan fod costau gweithredwyr wedi codi yn sgil chwyddiant, a diffyg o £255k mewn incwm meysydd parcio. Roedd disgwyl i'r gorwariant yn y meysydd hyn lle'r oedd risg yn dod i'r amlwg gyrraedd oddeutu £500k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
(v) Rhagwelwyd diffyg yn erbyn cyflawniad arbedion 2021/22 ac arbedion y flwyddyn gynt o fwy na £600k, a hynny'n bennaf oherwydd oedi cyn gweithredu'r camau angenrheidiol, a ddeilliai'n rhannol o'r pandemig. Er bod lefel yr arbedion nas cyflawnwyd mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyfredol yn is na'r blynyddoedd cynt, roedd angen o hyd i sicrhau bod yr holl arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, cyn gynted ag sy'n bosib, ac roedd swyddogion yn parhau i weithredu i sicrhau y byddent yn cael eu cyflawni ar y cyfle cyntaf.
(vi) Roedd tanwariant yn erbyn y gyllideb refeniw craidd wrth gefn a symiau dros dro eraill wrth gefn yn lliniaru gorwariant mewn meysydd gwasanaeth. Dangoswyd rhagolygon o £4.7 miliwn o danwariant yn erbyn cyllidebau nad oeddent yn gysylltiedig â gwasanaethau. Yn ogystal â hynny, rhagwelwyd tanwariant o £1.2 miliwn yn erbyn cyllideb cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.
Amlygai'r adroddiad fod ysgolion y rhagweld gorwariant net cyffredino o £6.1miliwn. Yn ogystal ag effaith cynnig cyflog uwch o’i gymharu â’r cynnydd yn y gyllideb a ddarparwyd, roedd ysgolion yn tynnu i lawr o gronfeydd wrth gefn a oedd wedi cronni dros y ddwy flynedd flaenorol wrth iddynt symud i ddal i fyny a chryfhau’r ddarpariaeth yn dilyn effeithiau Covid.
O gymharu â'r blynyddoedd cynt, er nad oedd yr un ysgol wedi pennu diffyg yn ei chyllideb, roedd peryg i nifer o ysgolion fynd i sefyllfa o ddiffyg ar ôl adlewyrchu effaith y dyfarniadau cyflog y rhagolygon pob ysgol unigol.
Ar y cyfan, roedd y sefyllfa gyfredol o ran balansau'r ysgolion yn wahanol iawn i'r pryderon a welwyd yn y blynyddoedd ariannol blaenorol. Fel cyfanswm rhagamcanwyd gwarged cyffredinol o £9.7 miliwn, ac roedd hi'n ymddangos y byddai hynny'n parhau am y flwyddyn ariannol nesaf. Fodd bynnag, roedd hi'n bwysig cadw ffocws ar gyllidebau'r ysgolion er mwyn sicrhau, hyd y bo modd, na fyddent yn dychwelyd i'r sefyllfa flaenorol. Rhaid cydbwyso hyn â cheisio osgoi sefyllfa lle gallai cyllidebau gael eu hystyried yn ormodol, ac felly'n ystyriaeth allweddol wrth bennu cyllidebau refeniw yn y dyfodol ac wrth adolygu'r cynllun ariannol tymor canolig.
Gan mai hwn oedd adroddiad monitro refeniw cyntaf y flwyddyn, roedd hi'n amlwg y gallai'r sefyllfa newid wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi ac wrth i faterion a chyfleoedd newydd godi. Ar hyn o bryd, roedd sicrwydd ynghylch y materion a oedd yn creu achosion unigol o orwariant sylweddol, ac roedd y gwerthoedd a briodolwyd yn realistig.
Yn amlwg, roedd y sefyllfa a oedd yn cael ei hadrodd yn destun pryder, ac roedd hi'n bwysig gwneud pob ymdrech i fantoli'r cyfrifon erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Er mwyn ceisio cyflawni hyn, byddai'r gwasanaethau'n parhau i gynnal adolygiad cadarn o'u rhagolygon a nodi ffyrdd i liniaru'r gorwariant, ee drwy nodi arbedion yn ystod y flwyddyn a rheoli unrhyw bwysau newydd o fewn adnoddau presennol, hyd y bo'n ymarferol bosib.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar y sefyllfa yn ystod y flwyddyn, byddai'n bwysig i wasanaethau ddeall unrhyw effeithiau tymor hwy yr heriau o'u blaen, a chanfod strategaethau i leihau'r effeithiau hynny hyd yr eithaf. Roedd hyn oherwydd bod y rhagolygon ar gyfer y tymor canolig eisoes yn heriol, ac ni fyddai unrhyw broblemau ariannol pellach ond yn ychwanegu at yr her honno.
Sylwadau Aelodau'r Cabinet:
§ Soniodd y Cynghorydd Marshall fod ffigurau'r gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu heriau. Roedd prosiect hirdymor yn agor yn Windmill Farm, lle bu'r Arweinydd ar ymweliad diweddar gyda'r Gweinidog a fyddai'n cynorthwyo i ddyrannu lleoliadau. Canmolodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd waith staff yn eiddo Rosedale, ac ystyried, unwaith eto, yr heriau o flaen y tîm.
§ Fel aelod newydd, canmolodd y Cynghorydd Batrouni waith a wnaed gan y Cabinet blaenorol cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai, yn ogystal â gwaith i helpu ysgolion Casnewydd i ymdopi â'r pwysau, gan feddwl ymlaen llaw. Pe bai'r cytundeb ynghylch cyflogau gweithwyr yn cael ei gymeradwyo, byddai hynny'n creu cost sylweddol i'r Cyngor, ac roedd y Cyngor yn cydnabod bod y staff hefyd yn dioddef oherwydd yr argyfwng costau byw. Mynegodd y Cynghorydd Batrouni hefyd bryder ynghylch sefyllfa digartrefedd. Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol am ei sylwadau ac ychwanegodd fod y cyngor wedi ysgrifennu at y Prif Aelod blaenorol am gefnogaeth gyda'r argyfwng costau byw.
§ Roedd y Cynghorydd Clarke yn cefnogi cyflwyniad yr Arweinydd ac yn cytuno â sylwadau'r Cynghorydd Batrouni - roedd llawer o heriau o flaen preswylwyr Casnewydd.
§ Mynegodd y Cynghorydd Forsey bryder ynghylch y toriadau o'u blaenau, gan ddweud ei bod hi'n sefyllfa ddifrifol.
§ Cytunai'r Cynghorydd Harvey â sylwadau ei gydweithwyr ar y Cabinet, a chyfeirio at gynnydd mewn costau.
§ Cytunai'r Cynghorydd Lacey hefyd â'r sylwadau, ac roedd am amlygu'r ffaith bod y Cyngor yn gwneud ei orau glas i ofalu am breswylwyr yng Nghasnewydd.
Penderfyniad:
Bod y Cabinet -
§ Yn nodi rhagolygon cyffredinol y gyllideb yn deillio o'r materion a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn, a'r posibilrwydd o orwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
§ Yn cytuno y dylai'r Prif Weithredwr a'r Bwrdd Gweithredol roi mesurau penodol ar waith i reoli'r rhagolygon cyffredinol o fewn y gyllideb refeniw graidd, gan gynnwys symiau wrth gefn yn y gyllideb refeniw.
§ Yn nodi'r risgiau a nodwyd drwy'r holl adroddiad ac yn y sylwadau gan y Pennaeth Cyllid, yn enwedig mewn perthynas â dyfarniadau cyflog yr Athrawon a'r NHC ar gyfer 2022/23, digartrefedd ac effeithiau parhaus y pandemig.
§ Yn nodi'r symudiadau a ragwelwyd yn y cronfeydd wrth gefn.
Yn nodi'r sefyllfa gyffredinol o ran yr ysgolion, o'i chymharu â'r blynyddoedd cynt, ond hefyd yn nodi'r risg y gallai diffygion ddod i'r amlwg yn y dyfodol heb gynllunio a rheoli arian yn dda.
Dogfennau ategol: