Agenda item

Monitro Rhaglen Gyfalaf Chwarter 1 - 2022/23

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a oedd yn rhoi trosolwg o ddiweddariad y cyllidebau cyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a gweddill ffenestr y rhaglen gyfalaf, ochr yn ochr â'r alldro a ragwelwyd, fel y nodwyd ym mis Gorffennaf eleni.

 

Dyma oedd adroddiad monitro cyfalaf cyntaf blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Yr adroddiad diwethaf a dderbyniodd y Cabinet ar gyfer y Gyllideb Cyfalaf oedd adroddiad alldro 2021/22, a nodai gyfanswm y gyllideb cyfalaf wrth fynd i mewn i 2022/23. Bryd hynny, cyfanswm y gyllideb ar gyfer eleni oedd £117.4m, a gynrychiolai gynnydd sylweddol mewn lefelau gwariant o gymharu â'r blynyddoedd cynt.

 

Dros yr haf, cynhaliodd swyddogion ymarfer i adolygu'r proffil gwariant a ragwelwyd ar gyfer pob cynllun, gyda'r nod o sicrhau bod cyllideb ddechreuol fwy realistig yn cael ei defnyddio i adrodd yn ei herbyn yn ystod y flwyddyn.

 

Penllanw'r ymarfer hwn oedd ailbroffilio cyfanswm o £51.8m i'r blynyddoedd nesaf.

 

Drwy gynnal yr ymarfer hwn, a lleihau cyllideb 2022/23, byddai'r lefelau llithriant a fyddai'n cael eu hadrodd drwy gydol y flwyddyn yn gostwng, o gymharu â'r blynyddoedd cynt.

 

Yn ogystal â'r ymarfer ailbroffilio cafwyd nifer o ychwanegiadau a diwygiadau i'r rhaglen, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig ag ychwanegu cynlluniau penodol a gyllidir drwy grant. Cyfanswm y rhain yw £25.550m, a manylir arnynt yn Atodiad A, gan ddangos yr effaith ar draws amryw o flynyddoedd ariannol, gydag £15.8m wedi'i ychwanegu at 2022/23 yn unig. Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r ychwanegiadau hyn i'r rhaglen.

 

Cyfanswm effaith net yr ychwanegiadau a'r diwygiadau hyn oedd gostwng cyfanswm y gyllideb ar gyfer 2022/23 i £81.4m.

 

Yn wahanol i'r blynyddoedd cynt, nid oedd cais i'r Cabinet gymeradwyo llithriant yn y cyfnod hwn o'r flwyddyn. Y lle hynny, byddai llithriant yn cael ei nodi ym mhob adroddiad monitro, a dim ond yn adroddiad terfynol y flwyddyn y byddai gofyn am gymeradwyaeth i drosglwyddo'r cyfanswm i'r blynyddoedd nesaf. Y bwriad oedd creu mwy o eglurder ac atebolrwydd, oherwydd byddai'r adroddiadau yn erbyn cyllideb sefydlog, yn hytrach na chyllideb a oedd yn newid bob chwarter.

 

Yn erbyn y gyllideb ddiwygiedig o £81.4m yn 2022/23, roedd cyfanswm o £80.9m o wariant alldro wedi'i ragamcanu.

 

Roedd yr amrywiant hwn yn cynnwys £433k o lithriant a £106k o danwariant a gorwariant net "gwirioneddol".

 

Roedd lefel y llithriant a oedd yn cael ei adrodd yn sylweddol is na'r blynyddoedd cynt, oherwydd yr ymarfer ailbroffilio a ddisgrifiwyd yn flaenorol.

 

Nid oedd unrhyw eitemau llithriant mawr i'w hamlinellu hyd yma, ond roedd nifer o gynlluniau yr oedd angen eu monitro'n agos wedi'u hamlygu er gwybodaeth. Roedd y rhain yn cynnwys y Bont Gludo a'r Ganolfan Hamdden, lle gallai'r risg o oedi pellach olygu bod llithriant yn cael ei nodi yn hwyrach yn y flwyddyn.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu sefyllfa gyfredol y lle sydd ar gael o ran cyfalaf.

 

Ar ôl ei ddiweddaru ar gyfer ymrwymiad newydd diweddar, a chynnydd cyfwerth mewn adnoddau, roedd cyfanswm y lle yn dal i fod yn £2.354m, ac yn cynnwys y canlynol:

 

-         £57k o le ar gyfer benthyg arian.

-         £258k o gronfa wrth gefn gwariant cyfalaf heb ei ymrwymo

-         £2.039m o dderbyniadau cyfalaf heb eu hymrwymo

 

Roedd balans y lle a oedd ar gael yn ystyriol o'r ymrwymiadau a oedd eisoes wedi'u hadlewyrchu yn y Rhaglen Gyfalaf, yn ogystal â dau ymrwymiad amodol yn gysylltiedig â chyfran y Cyngor o gostau dymchwel Canolfan Casnewydd, a chyllid ychwanegol i gynyddu amlen gyllid gyffredinol Band B i £90m, yr oedd manylion am hwnnw wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Byddai angen rheoli a monitro'r cyfanswm hwn o le, a oedd wedi gostwng yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, yn ofalus i sicrhau y gellid ei ddefnyddio pan fo angen ar gyfer y materion pwysicaf cyn i'r rhaglen gyfalaf newydd ddod i fodolaeth yn 2023/24.

 

Roedd yr angen hwn i fonitro a blaenoriaethu adnoddau'n ofalus yn bwysicach eto ac ystyried yr heriau a wynebir ar hyn o bryd, mewn perthynas â chostau cynyddol y diwydiant adeiladu a'r blaenoriaethau a oedd yn cystadlu â'i gilydd am adnoddau.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Roedd y Cynghorydd Batrouni o'r farn ei bod hi'n bwysig cydnabod bod y Cyngor yn dal i fuddsoddi arian mewn meysydd fel £37M ar addysg a £15M ar adfywio, a'i fod felly'n dal i ystyried prosiectau cyfalaf a oedd yn darparu gwasanaethau gwell i breswylwyr. Cytunodd yr Arweinydd â sylwadau'r Cynghorydd Batrouni.

 

§  Ailadroddodd yr Arweinydd, o dan y ddwy eitem ariannol a drafodwyd, fod timau o swyddogion yn gweithio'n galed iawn i gadw rheolaeth ariannol ddarbodus ar draws yr holl awdurdod, a hefyd yn gwneud eu gorau i weithio o dan bwysau allanol eithafol. Gyda hyn mewn golwg, roedd yr Arweinydd am ddiolch i'r swyddogion am eu cyfraniad. Dywedodd yr Arweinydd hefyd wrth y Prif Weithredwr fod y Cabinet yn gwerthfawrogi cyfraniad y swyddogion.

 

Penderfyniad:

 

Bod y Cabinet -

1. Yn cymeradwyo'r ychwanegiadau i'r Rhaglen Gyfalaf y gofynnwyd amdanynt yn yr adroddiad (Atodiad A).

2. Yn nodi’r rhagamcan o'r alldro gwariant cyfalaf ar gyfer 2022/23.

3. Yn nodi gweddill yr adnoddau cyfalaf sydd ar gael ('y lle'), a'r defnydd a glustnodwyd ar gyfer yr adnoddau hynny.

 

 

Dogfennau ategol: