Cofnodion:
Yr
eitem nesaf a gyflwynodd yr Arweinydd oedd diweddariad ar Gofrestr
Risg Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer diwedd Chwarter Un (1 Ebrill
2022 hyd 30 Mehefin 2022).
Gofynnwyd i aelodau'r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad
hwn a pharhau i fonitro'r risgiau hyn a'r camau a oedd yn cael eu
cymryd i fynd i'r afael â'r risgiau a nodwyd.
Roedd Polisi Rheoli Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn galluogi'r weinyddiaeth hon a swyddogion i nodi, rheoli a monitro'n effeithiol y risgiau hynny a allai ein hatal rhag cyflawni ein blaenoriaethau strategol a chyflawni ein dyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.
Byddai Adroddiad Risg Chwarter Un hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor ar ddiwedd mis Medi 2022 i adolygu proses rheoli risg a threfniadau llywodraethu'r Cyngor.
Ar
ddiwedd chwarter un roedd gan y Cyngor 44 o risgiau wedi'u cofnodi
ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor.
Roedd y
risgiau hynny yr ystyriwyd eu bod yn achosi'r risg fwyaf sylweddol
o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol a gwasanaethau'r Cyngor yn
cael eu huwchgyfeirio i'w monitro ar
Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor.
Ar ddiwedd chwarter tri roedd 16 o risgiau wedi'u cofnodi ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.
· Wyth Risg Ddifrifol (15 i 25);
· Wyth Risg Fawr (saith i 14);
O
gymharu â chwarter pedwar, nid oedd unrhyw risgiau newydd
nac/neu risgiau wedi'u huwchgyfeirio,
ac nid oedd yr un risg wedi cau.
Roedd
pedair risg ar ddeg yn dal ar yr un sgôr â chwarter 4
2021/22.
Cynyddodd un sgôr risg, a gostyngodd un sgôr risg ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.
Bu newid yng Nghyfeiriad y Sgôr Risg.
Cydbwyso Cyllideb Tymor Canolig y Cyngor (sgôr risg wedi
cynyddu o naw i 12) - Cafodd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ei
ddiweddaru'n ddiweddar am y tro cyntaf ers pennu cyllideb refeniw
2022/23.
Oherwydd yr argyfwng chwyddiant presennol, roedd hi'n amlwg y
byddai pwysau o ran costau'n cynyddu'n sylweddol o gymharu
â'r rhagdybiaethau gwreiddiol.
Rhagwelwyd y byddai cynnydd sylweddol mewn cyflogau, costau
ynni a gwasanaethau a gomisiynir. Yn ogystal â hynny, nododd
gwasanaethau bwysau mewn nifer o feysydd, yn enwedig y rhai hynny a oedd yn
gysylltiedig â'r galw a'r capasiti o fewn gwasanaethau.
Roedd y
tybiaethau cyllido'n dal i fod yr un peth i raddau helaeth, ac
felly roedd potensial am fwlch sylweddol yn y gyllideb.
Byddai'n heriol iawn mynd i'r afael â'r bwlch hwn yn y
gyllideb, yn enwedig ac ystyried faint o arbedion a oedd eisoes wedi'u nodi
a'u sicrhau yn y blynyddoedd cynt.
Pandemig Covid-19 (gostwng sgôr risg o 16 i 12) - Er bod
Covid yn dal i achosi risg ac yn cael
ei fonitro drwy gr?p GOLD strategol y Cyngor, roedd yr effaith
gyffredinol ar wasanaethau wedi gostwng.
Ar ddiwedd Chwarter 1 gostyngwyd y risg i adlewyrchu hyn, ond roedd yr effaith ar absenoldeb staff yn dal i gael ei monitro.
Sylwadau Aelodau'r Cabinet:
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at y risg seiberddiogelwch, a oedd wedi'i hamlinellu yn yr adroddiad yn goch. Roedd hyn yn destun pryder ar draws y DU, ac roedd y Cyngor felly'n ceisio lleihau'r risgiau. Roedd adolygiad allanol yn cael ei gynnal gan Archwilio Cymru ac roedd sylw'n cael ei roi i weithdrefnau mewnol, gan weithio'n agos gyda'r Cydwasanaethau Adnoddau TG. Cytunai'r Arweinydd â'r sylwadau, ac roedd wedi'i sicrhau bod y swyddogion yn gwneud popeth i liniaru'r risgiau hyn.
Penderfyniad:
Bod y Cabinet wedi ystyried cynnwys diweddariad chwarter un y Gofrestr Risg Gorfforaethol.
Dogfennau ategol: