Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'r Cabinet.  Dyma oedd Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gynnydd yn erbyn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24.


O dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) roedd yn ofynnol i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar ei gynnydd yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol a geir yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol.


Datblygwyd Amcanion Cydraddoldeb Cyngor Casnewydd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol a buont yn destun ymgysylltu helaeth â'r gymuned. Er bod y Cynllun yn gwireddu gweledigaeth strategol ar gyfer cydraddoldeb yng Nghasnewydd, sicrhawyd, drwy gynnwys cymunedau ar lawr gwlad, ei fod hefyd yn cynnig canlyniadau pendant i gymunedau lleol.


Adolygwyd Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 21/22 gan Bwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu'r Cyngor ym mis Medi ac roedd eu sylwadau wedi'u cynnwys yn Adroddiad y Cabinet.

 

Roedd effaith y pandemig yn parhau i achosi heriau wrth gyflawni yn erbyn rhai meysydd gwaith yn 2021/22, ond roedd gwaith cydraddoldeb Casnewydd yn parhau i fod yn hyblyg, gan ymateb i heriau a oedd yn dod i'r amlwg, yn enwedig yn gysylltiedig â mynediad at wybodaeth, addysg a'r wythnos mynd i'r afael â throseddau casineb.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Heddlu am eu cefnogaeth wych mewn perthynas â Throseddau Casineb.

 

Roedd yr Arweinydd wedi'i phenodi'n Llefarydd ar ran CLlLC ar gyfer Cydraddoldeb, Ymfudo ac Atal Tlodi.


Roedd dyddiadau arwyddocaol, fel Mis Hanes LHDT+, Ramadan, Diwrnod Cofio'r Holocost, Mis Pride, Wythnos Ffoaduriaid, Diwrnod Windrush, Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Mis Hanes Pobl Ddu ac Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb oll yn cael eu cydnabod a'u hyrwyddo ar draws y ddinas. Roedd y T?r Dinesig hefyd yn cael ei oleuo i ddathlu hyn.


Roedd Asesiadau Effaith Tegwch a Chydraddoldeb, gan gynnwys y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn erbyn polisi/penderfyniadau, yn cael eu cynnal yn barhaus yn erbyn ystod o benderfyniadau.  Cyfeiriwyd at ein harfer da yn ddiweddar mewn adroddiad cenedlaethol gan Archwilio Cymru.


Dosbarthwyd £415,000 i 79 o brosiectau cymunedol, o dan oruchwyliaeth gr?p llywio cymunedol cynrychioliadol, gan gydweithio'n agos â Chomisiwn Tegwch Casnewydd.

 

Roedd rhwydweithiau staff ar gyfer staff anabl, LHDTC+ a lleiafrifol ethnig yn parhau i gynnig llwyfan i staff o grwpiau wedi'u tangynrychioli gael dylanwadu ar bolisi'r gweithlu, darpariaeth gwasanaeth a phenderfyniadau strategol

 

Yn sgil y gefnogaeth sylweddol a roddwyd i Ddinasyddion yr UE yng Nghasnewydd, bu modd i breswylwyr cymwys gyflwyno ceisiadau hwyr i Gynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE ar ôl y dyddiad cau.

 

Cyflwynwyd sesiynau ymwybyddiaeth i aelodau uwch o staff gwasanaethau cwsmeriaid ar Gydraddoldeb, Troseddau Casineb a Chynllun Preswylion Sefydlog yr UE.


Yn ystod y flwyddyn cafodd dros 2,665 o bobl gefnogaeth drwy gynlluniau cymorth lle bo'r angen i gael mynediad at lety a chadw llety, gan gynnwys oedolion ag anableddau dysgu a ffoaduriaid

 

O ran data'r gweithlu, arhosodd cynrychiolaeth lleiafrifol ethnig y Cyngor yn debyg eleni er i niferoedd y staff gynyddu rhyw fymryn, a gostyngodd y bwlch rhwng cyflogau'r rhywiau dros y cyfnod hwn.

 

Roedd gan y Cyngor waith i'w wneud o hyd i wella'r gynrychiolaeth o staff lleiafrifol ethnig ar bob lefel o fewn y sefydliad, a dyma fyddai ffocws ein gwaith yn ystod 2022/23.

 

Roedd Pride in the Port yn achlysur cynhwysol.

 

Mynegodd yr Arweinydd ddiolch i'r cyn Aelod Cabinet, Mark Whitcutt, a'i chydweithiwr yn Ward Malpas, y Cynghorydd David Mayer am eu hymdrechion taer.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol am sylwadau.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Batrouni mai crynodeb oedd yr adroddiad o'r gwaith a gyflawnwyd yn ystod ail flwyddyn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Roedd yn nodi ymrwymiad y Cyngor i ddiwylliant yn y gweithle a dull o ddarparu gwasanaethau sy'n gwerthfawrogi cynhwysiant ac amrywiaeth.

 

Byddai'r Cyngor yn parhau i ddatblygu'r gwaith hwn dros y 12 mis nesaf. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn pennu blaenoriaethau clir ar gyfer y cyfnod nesaf yn seiliedig ar adolygiad o ddata ein gweithlu a chynnydd yn erbyn ein Hamcanion Cydraddoldeb.

Byddai Gr?p Aelodau a Swyddogion Cydraddoldeb Strategol y Cyngor yn parhau i gefnogi cyflawniad ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac i sicrhau ein bod yn mabwysiadu dull arloesol ac yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol mewn modd effeithiol.

 

Nodwyd sylwadau'r Pwyllgor Craffu ynghylch casglu data a gwybodaeth fanwl a chanmolwyd y Pwyllgor am eu gwaith caled mewn perthynas â'r adroddiad hwn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at Gwynion, Canmoliaeth a Sylwadau lle gellid gwella'r data a gesglir yn y dyfodol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cynghorydd Batrouni am y gwaith a wnaeth yn ei rôl fel Aelod Cabinet.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Amlygodd y Cynghorydd Forsey amcan pedwar; roedd pawb yng Nghasnewydd yn teimlo eu bod yn cael croeso a'r broses o'u hintegreiddio yn cael ei chefnogi gan gymunedau lleol. Roedd iaith casineb hefyd ar gynnydd, ac roedd hyn yn cael ei ddatrys drwy roi hyfforddiant ar iaith casineb er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ganlyniadau eu sylwadau.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod ymrwymiad cryf i'r Ddeddf Cydraddoldeb a oedd yn uno'r ddinas ac yn ei gwneud yn lle mwy diogel i bob preswylydd, yn hytrach na rhai o'r preswylwyr yn unig. Roedd hyn yn croesi'r sbectrwm cyfan, ac roedd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol yn falch ein bod yn cydweithio â'r gymuned a swyddogion. Roedd y Cabinet yn gwbl ymrwymedig i gefnogi hyn ac roedd y gwaith caled wedi'i adlewyrchu mewn grwpiau cymunedol. Mynegodd y Cynghorydd Hughes ddiolch ar y cyd â'r Cynghorydd Lacey, a chyfeirio at ei chyfraniad at ddigwyddiad Pride in the 'Port, a oedd yn cynnig amgylchedd diogel.

 

§  Roedd y Cynghorydd Harvey wedi bod yn bresennol yng nghyfarfod y Gr?p Cydraddoldeb Strategol yn gynharach heddiw, fu'n brofiad amheuthun. Canmolodd y Cynghorydd Harvey waith Dan Harvey, y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig.

 

§  Roedd y Cyng. Lacey yn croesawu diolchiadau ei chydweithwyr ac am fynegi diolch ei hun i Gr?p Pride in the 'Port, ac i'r swyddogion hynny a dderbyniodd ffoaduriaid i'w cartrefi ac a wirfoddolai mewn canolfannau brechu.

 

Penderfyniad:

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r adroddiad monitro terfynol a oedd wedi'i atodi, ac yn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor, yn unol â therfynau amser statudol.

 

Dogfennau ategol: