Agenda item

Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent - Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad, sef dogfen statudol yr oedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru i bob partner statudol ei chynhyrchu bob tair blynedd. Rhaid cyhoeddi adroddiad trosolwg rhanbarthol hefyd ar yr un amserlen. Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd i gynhyrchu ASF rhanbarthol.

 

Mae'r ASF yn esbonio'r graddau y mae'r gwasanaethau a gomisiynir yn sefydlog o fewn y rhanbarth, yn seiliedig ar eu hôl-troed lleol i gefnogi pobl sydd angen gofal a chymorth.

 

Mae'r chwe sefydliad comisiynu yng Ngwent ar hyn o bryd yn comisiynu 106 o gartrefi gofal a 109 o ddarparwyr gofal cartref i oedolion h?n ar draws y rhanbarth.

 

Cartrefi Gofal

Cyn pandemig COVID-19, nid oedd rhyw lawer o bryder ynghylch lleoedd gwag mewn cartrefi gofal, a hyfywedd ariannol darparwyr. Roedd ar y rhan fwyaf o ddarparwyr angen meddiannaeth o 90% o leiaf er mwyn aros yn hyfyw yn ariannol. Roedd gwelyau gwag mewn cartrefi gofal yn cael eu monitro'n wythnosol ar raddfa leol a rhanbarthol. Fodd bynnag, cafodd pandemig COVID-19 gryn effaith ar ddarpariaeth gofal a chymorth yng Ngwent.

 

Gofal Cartref

Oherwydd pandemig COVID-19 a phrinder staff, roedd gwasanaethau gofal cartref ar hyn o bryd ar lefelau critigol ac ar brydiau nid oeddent yn gallu bodloni’r galw’n llawn. Roedd staff yn parhau i adael y sector oherwydd cyflogau a thelerau ac amodau gwael, a chostau cyflogaeth (fel gyrru a bod wedi'u cofrestru). Dros y misoedd diwethaf, gwaethygwyd y sefyllfa hon eto gan yr argyfwng costau byw, ac yn enwedig y cynnydd mewn costau tanwydd. Gan fod staff yn brin, cafwyd mwy o oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai lleol, gan greu tagfeydd ar draws y system ehangach.

 

Roedd cynnydd ar hyn o bryd yn nifer yr unigolion a oedd angen gofal gartref, a phryder hefyd y byddai hyn yn parhau yn dilyn pandemig COVID-19. Roedd nifer y pecynnau ofal a oedd yn cael eu dychwelyd i'r comisiynwyr hefyd yn destun pryder, gyda thros 70 o ddarparwyr yn dychwelyd dros 950 o oriau wythnosol bob wythnos. Yn sgil hyn, rhoddodd comisiynwyr y flaenoriaeth i'r dinasyddion mwyaf agored i niwed a chanddynt anghenion cymhleth.

 

Roedd y dull Partneriaeth â chartrefi gofal ac asiantaethau gofal cartref a sefydlwyd yn ystod y pandemig o gymorth i adeiladu perthynas waith gadarnhaol â darparwyr i'w helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau ymatebol o ansawdd da yn ystod cyfnod argyfyngus. Roedd hefyd yn cynnig llwyfan ddefnyddiol i ymgysylltu â darparwyr i drafod mesurau atal a rheoli haint ac i ystyried materion parhad busnes. Roedd seminarau'n parhau i gael eu cynnal yn fisol ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan ALlau, BIPAB a darparwyr gwasanaeth fel ei gilydd.

 

Gwasanaethau Plant

O ran gwasanaethau preswyl a lleoliadau maeth, roedd gwasanaethau plant yn annigonol ar hyn o bryd i fodloni anghenion y rhanbarth. Roedd y galw am wasanaethau maeth ar hyn o bryd yn fwy na'r cyflenwad ac roedd hi'n aml yn anodd cael hyd i'r math cywir o leoliad. Arweiniodd diffyg gwasanaethau preswyl priodol at leoli plant y tu allan i'r sir ac roedd ALlau Gwent bellach yn canolbwyntio ar gynyddu capasiti drwy ddatblygiadau mewnol ac allanol, a thrwy fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol.

 

Byddai angen gofalu i daro cydbwysedd rhwng sicrhau bod y lefel gywir o wasanaethau yn cael eu comisiynu'n agos at adref i blant sy'n derbyn gofal, a lleihau dibyniaeth ar sefydliadau elw uchel a oedd yn aml ymhell oddi wrth gartrefi pobl.

 

Gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Roedd cyfle o'r newydd i'r tîm rhanbarthol a'r sefydliadau comisiynu gydweithio'n agos i ddatblygu fframwaith gweithredu a bwrw ymlaen ag amryw o weithgareddau allweddol yn gysylltiedig â chomisiynu er mwyn rhoi cefnogaeth bellach i bobl ar raddfa leol a rhanbarthol.

 

Byddai'r meysydd uchod yn cael eu codi a'u hystyried yn rhan o'r broses cynllunio ardal, a lle bo modd byddai mesurau lliniarol yn cael eu gweithredu i leihau unrhyw risgiau cysylltiedig hyd yr eithaf.

 

Datblygwyd yr ASF ochr yn ochr â'n hasesiad leol a rhanbarthol o Anghenion y Boblogaeth er mwyn sicrhau cynlluniau gweithredu targededig.

 

Byddai'r adroddiad yn cael ei drafod ar draws holl Aelodau'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac ar ôl cytuno arno byddai cynllun gweithredu â blaenoriaeth yn cael ei ddatblygu.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Fel cyn weithiwr cymdeithasol, soniodd y Cynghorydd Hughes fod yr heriau o'n blaen yn ddigynsail, ac na ddylai'r Cyngor na'r Cabinet fychanu'r effaith ar staff. Dywedodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn falch o'r staff gofal cymdeithasol, a'u heffaith gadarnhaol a'u cyfraniad tuag at breswylwyr Casnewydd. Roedd y Cynghorydd Hughes wedi gwrando ar gasgliad o weithwyr cymdeithasol yng Nghyngor Dinas Casnewydd yn gynharach yn y dydd, lle trafodwyd eu llwyddiannau yn y timau cynhwysiant ataliol, a'u timau cyfiawnder ieuenctid, ymhlith eraill, a'r partneriaethau cryf ag asiantaethau eraill. Y sicrwydd a gafwyd gan y staff felly oedd y byddent yn ymateb fel yr oeddent bob amser wedi gwneud wrth ddod wyneb yn wyneb â heriau yn y gorffennol.

 

§  Cytunai'r Arweinydd â sylwadau'r Cynghorydd Hughes a amlygai fod swyddogion yn mynd uwchlaw a thu hwnt i'w dyletswydd.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at y newid ym mhoblogaeth Casnewydd, sef  yr ardal a oedd yn tyfu gyflymaf yng Nghymru. Roedd y twf ddwywaith yn fwy na Chaerdydd, ac roedd twf y preswylwyr dros 90 oed yn amlygu'r ffaith bod Casnewydd yn ddinas sy'n heneiddio. Dylid felly ystyried sut i strwythuro'r gwasanaethau i'r dyfodol.

 

Penderfyniad:

 

Bod -

§  Y Cabinet, fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (DGCLl), yn derbyn a chytuno ar Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad ar gyfer ardal yr awdurdod lleol.

§  Bod Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau i ymgysylltu â'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) a chefnogi datblygiad y Cynllun Ardal rhanbarthol, lle byddai camau'n cael eu nodi er mwyn mynd i'r afael â blaenoriaethau.

 

Dogfennau ategol: