Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a oedd yn eitem
sefydlog, i'w gydweithwyr. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bu nifer
o effeithiau economaidd byd-eang o ganlyniad i bandemig Covid, a
rhyfel parhaus Wcrain a effeithiodd ar y cyflenwad byd-eang o fwyd,
ynni (nwy a thrydan) a thanwydd.
Roedd y
cynnydd mewn costau byw nid yn unig yn effeithio ar aelwydydd ond
hefyd yn effeithio ar fusnesau yng Nghasnewydd a oedd yn wynebu
penderfyniadau anodd i dalu’r costau hyn.
Roedd hi'n bwysig i'r rhai oedd yn cael trafferth gysylltu â'r Cyngor a allai roi cyngor a helpu unigolion gyda'u biliau.
Yn
ddiweddar, sefydlodd y Cyngor gr?p gorchwyl a gorffen i ymateb mewn
modd cydgysylltiedig i'r argyfwng
costau byw yng Nghasnewydd, a datblygu datrysiadau hirdymor mewn
partneriaeth â sefydliadau'r trydydd sector i gefnogi
cymunedau sy'n agored i niwed ac yn ddifreintiedig.
Roedd
Cyngor Casnewydd yn cefnogi mentrau Llywodraeth Cymru drwy weinyddu
Rhyddhad y Dreth Gyngor i aelwydydd ym Mandiau A a B.
Yn
ogystal â'r arian a ddarparwyd i'r cartrefi hyn, byddai
Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn £1,249,653 arall a fyddai'n
cael ei ddosbarthu i breswylwyr drwy gynllun dewisol.
Er mwyn
ceisio mynd i'r afael â thlodi bwyd a lliniaru pwysau
ariannol ar deuluoedd yn ystod y cyfnod ansicr hwn, roedd Cyngor
Dinas Casnewydd yn cynnig Prydau Ysgol am Ddim i bob disgybl
Derbyn, Blwyddyn a Blwyddyn 2 a oedd mewn ysgolion a gynhelir gan
yr awdurdod lleol o fis Medi 2022.
Roedd y
Cyngor hefyd yn cynnig y Grant Datblygu Disgyblion er mwyn helpu i
dalu costau gwisg ac offer ysgol.
Drwy weithio mewn partneriaeth â GAVO, lansiodd Cyngor Dinas Casnewydd y Grant Sefydliadau Bwyd Cymunedol gwerth £100k. Gallai sefydliadau hawlio hyd at £5k i gefnogi costau parhaus yn gysylltiedig â'r cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau.
Roedd yr adroddiad hwn hefyd yn amlygu'r modd yr oedd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar gyllid y Cyngor.
Roedd Cyngor Dinas Casnewydd yn
parhau i groesawu teuluoedd o Wcrain i'r ddinas a oedd wedi'u
dadleoli gan y rhyfel parhaus yn Wcrain, gan eu helpu i ganfod
lloches sicr a diogel.
Croesawodd Casnewydd lawer o deuluoedd o Wcrain i Gasnewydd
a’u helpu i ymgartrefu yn y ddinas gan gynnig mynediad i
ysgolion, gofal iechyd a gwasanaethau eraill.
Oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy'n ceisio lloches yn sgil
problemau byd-eang, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ddull 'Gwasgaru
Llawn' lle'r oedd yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol ddatblygu'n ardal
wasgaru.
Byddai Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Bartneriaeth Ymfudo Strategol i ystyried effaith y cynlluniau hyn ar Gasnewydd.
Yn
ogystal â'r cynllun hwn, gorfodwyd newidiadau i'r Cynllun
Trosglwyddo Cenedlaethol ar gyfer Plant ar eu Pen eu Hunain yn
Ceisio Lloches (UASC). Ym mis Awst cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y
byddai'r cynllun yn cael ei ehangu i gynnwys pob Awdurdod Lleol, a
arweiniodd at bwysau ychwanegol ar leoliadau i blant ledled
Casnewydd.
Parhaodd Timau a Gwasanaethau'r Cyngor i deithio'r ail filltir er mwyn cydweithio a chydlafurio i sicrhau bod unigolion a theuluoedd yn cael cefnogaeth lawn a bod cyngor ar gael yn rhwydd.
Penderfyniad:
Bod y Cabinet wedi ystyried cynnwys yr adroddiad ar weithgarwch y Cyngor i ymateb i effaith ffactorau allanol ar gymunedau, busnesau a gwasanaethau cyngor Casnewydd.
Dogfennau ategol: