Caiff y Pwyllgor hwn ei recordio, ond ni chaiff ei ddarlledu. Mae croeso i'r cyhoedd ddod i'r cyfarfodydd yn bersonol a gellir gweld lleoliad pob cyfarfod ar ei dudalen we a'i agenda. Bydd recordiadau o gyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu rhoi ar y wefan cyn gynted â phosib ar y ddolen hon. Gellir gweld recordiadau cyn mis Mai 2024 yma.
|
Pwyllgor Craffu ar Berfformiad — Pobl |
Dal y Gweithrediaeth i Gyfrif am ei pherfformiad o fewn Cyfarwyddiaeth Pobl. Tri maes cyffredinol: Perfformiad, Cyllideb a Risg
Monitro perfformiad, gan ganolbwyntio ar y canlynol: • Cyflawni canlyniadau a chamau gweithredu o fewn cynlluniau gwasanaeth; • Craffu ar gynnydd mewn gwelliannau i feysydd perfformiad gwael; • Asesu i ba raddau y mae amcanion perfformiad yn cyfrannu at amcanion a blaenoriaethau cyffredinol y Cyngor. • Asesu i ba raddau y mae perfformiad yn cyd-fynd â'r strategaeth rheoli perfformiad;
Monitro'r Gyllideb • Craffu ar amrywiannau yn y gyllideb; • Asesu i ba raddau y mae perfformiad yn cael ei gyflawni o fewn y gyllideb; • Adolygu'r canlyniadau a chyflawni cynlluniau arbedion y cytunwyd arnynt;
Cynigion Cyllideb • Craffu ar gynigion sy'n benodol i'r Maes Gwasanaeth fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb; • Asesu effaith ddisgwyliedig cynigion y gyllideb ar wasanaethau, perfformiad, defnyddwyr gwasanaeth, partneriaethau a lefelau staffio; • Ystyried cyfraniad cynigion y gyllideb at gyflawni blaenoriaethau ac amcanion corfforaethol; • Ystyried cynigion y gyllideb yng nghyd-destun lles cenedlaethau'r dyfodol, effaith tegwch a chydraddoldeb, cynaliadwyedd, trefniadau partneriaeth a'r agenda effeithlonrwydd; • Ystyried i ba raddau y mae arbedion yn rhan o strategaeth gydlynol a ategir gan dystiolaeth briodol ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Risg • Monitro meysydd risg uchel ac asesu effeithiolrwydd camau gweithredu i liniaru'r risgiau hyn. |
Hysbysu’r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu am ei raglen waith a'i gweithrediad parhaus. |
Ymgymryd ag archwiliad manwl neu adolygiad o berfformiad maes gwasanaeth lle bo angen. |
Monitro’r broses o weithredu unrhyw argymhellion a wneir i'r Cabinet mewn perthynas â pherfformiad y maes gwasanaeth. |
Swyddog cefnogi: Samantha Herritty. Cynghorydd Craffu