Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Chorfforaethol |
Dal y Weithrediaeth yn atebol am ei pherfformiad yn y Cyfarwyddiaethau Lleoedd a Chorfforaethol. Tri maes bras: Perfformiad, Cyllideb a Risg
Monitro perfformiad, gan ganolbwyntio ar: • Gyflawni canlyniadau a chamau gweithredu o fewn cynlluniau gwasanaeth; • Craffu ar gynnydd mewn gwelliannau i feysydd lle mae perfformiad gwael; • Asesu i ba raddau mae amcanion perfformiad yn cyfrannu at amcanion a blaenoriaethau cyffredinol y Cyngor; • Asesu i ba raddau mae perfformiad yn gyson â’r strategaeth rheoli perfformiad.
Monitro’r Gyllideb • Craffu ar amrywiadau yn y gyllideb; • Asesu i ba raddau mae perfformiad yn cael ei gyflawni o fewn y gyllideb; • Adolygu’r amcanion a chyflawni cynlluniau arbedion cytunedig.
Cynigion Cyllideb • Craffu ar gynigion sy’n benodol i wasanaethau fel rhan o’r broses ymgynghori ar y gyllideb; • Asesu effaith ddisgwyliedig y cynigion cyllideb ar wasanaethau, perfformiad, defnyddwyr gwasanaeth, partneriaethau a lefelau staffio; • Ystyried cyfraniad y cynigion cyllideb at gyflawni blaenoriaethau ac amcanion corfforaethol; • Ystyried y cynigion cyllideb o fewn cyd-destun cenedlaethau’r dyfodol, effaith tegwch a chydraddoldeb, cynaliadwyedd, trefniadau partneriaeth a’r agenda effeithlonrwydd; • Ystyried i ba raddau y mae arbedion yn rhan o strategaeth gydlynol wedi’i ategu gan dystiolaeth briodol ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Risg • Monitro meysydd risg uchel ac asesu effeithiolrwydd camau gweithredu i liniaru’r risgiau hyn.
|
Hysbysu’r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu o’i raglen waith a’i gweithredu parhaus. |
Cynnal archwiliad manwl neu adolygiad o berfformiad gwasanaeth lle bo angen. |
Monitro’r broses o roi ar waith unrhyw argymhellion a wneir i’r Cabinet yngl?n â pherfformiad y gwasanaeth.
|
Swyddog cefnogi: Neil Barnett. Cynghorydd Craffu
Ffôn: 01633 656656
E-bost: Scrutiny@newport.gov.uk
Gwefan: www.newport.gov.uk/scrutiny