1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Manylion Pwyllgor

Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu

Diben y Pwyllgor

Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu

Adolygu Polisi a Datblygu Polisi

            Adolygiadau Polisi ar gyfer pob maes y Cyngor;

            Datblygu polisi ar gyfer pob maes y Cyngor.

Cydlynu a rheoli pob datblygiad ac adolygiad polisi

            Sefydlu Grwpiau Adolygu Polisi ad hoc ar gyfer craffu cyn penderfynu;

            Defnyddio’r sgiliau a diddordeb Aelodau Anweithredol wrth sefydlu aelodaeth y grwpiau GAP;

            Gosod y Cylch Gorchwyl a sicrhau bod y grwpiau’n gweithio o fewn y parametrau cytunedig;

            Derbyn a chymeradwyo adroddiadau terfynol y Grwpiau Adolygu Polisi.

Ystyried cyflwyno projectau/cynlluniau/deddfwriaeth sy’n effeithio ar y cyngor cyfan

Megis:

            Y Fargen Ddinesig;

            Y Rhaglen Newid;

            Asesiadau Tegwch, Cydraddoldeb ac Effaith;

            Cynllun yr Iaith Gymraeg;

            Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol;

            Asesiad Corfforaethol;

            Ymgysylltu â’r Cyhoedd;

            Y Gofrestr Risgiau;

            Y Fframwaith Rheoli Perfformiad;

Craffu ar gynlluniau, strategaethau a fframweithiau corfforaethol

            Ymgynghori ar strategaethau, cynlluniau a fframweithiau corfforaethol

Megis

-           Y Cynllun Corfforaethol;

-           Cynllun Cydraddoldeb Strategol;

-           Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ystyried y cynigion cyllideb ddrafft a chydlynu’r ymateb gan y Tîm Craffu i’r cynigion cyllideb ddrafft.

            Ystyried y cynigion cyllideb ddrafft o safbwynt strategol; 

            Cydlynu sylwadau’r Pwyllgorau Craffu ar Berfformiad yngl?n â’r cynigion cyllideb a sicrhau nad oes dyblygu o fewn y sylwadau;

            Ystyried effeithiolrwydd y broses gyllideb, a’r broses ymgysylltu â’r cyhoedd.

Rheoli Hyfforddiant i Aelodau Craffu

       Sicrhau bod hyfforddiant digonol ar gael ar gyfer aelodau craffu;

       Nodi unrhyw anghenion hyfforddi aelodau craffu;

       Rheoli rhestr y seminarau craffu.

Cymeradwyo a monitro’r Adroddiad Blynyddol Craffu

       Ystyried gwelliannau y dylid eu gwneud yn y broses graffu;

       Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Craffu;

       Monitro gweithredu’r camau a geir yn yr Adroddiad Blynyddol.

Monitro argymhellion o ran argymhellion craffu sy’n deillio o adolygiadau

       Monitro’n rheolaidd yr argymhellion a wneir gan y Tîm Craffu;

       Sicrhau bod argymhellion wedi’u rhoi ar waith yn briodol;

       Asesu i ba raddau mae’r canlyniad penodol wedi cael ei gyflawni;

       Asesu a oes angen rhagor o waith/ymchwilio/adolygu ar ôl yr argymhelliad cychwynnol.

Cydlynu’r rhaglen ar gyfer y Pwyllgorau Craffu ar Berfformiad

       Derbyn yr amserlen gyfarfodydd, cofnodion gan y Pwyllgorau Craffu ar Berfformiad a chael adroddiadau diweddaru am weithredu’r rhaglenni gwaith.

 

Aelodaeth

Gwybodaeth gyswllt

Swyddog cefnogi: Samantha Schanzer. Cynghorydd Craffu

Ffôn: 01633 656656

E-bost: Scrutiny@newport.gov.uk

Gwefan: www.newport.gov.uk/scrutiny