Pwyllgor Craffu ar Berfformiad - Partneriaethau |
Dal y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn atebol am ei berfformiad. • Fel Pwyllgor Craffu dynodedig y BGC: a) adolygu neu graffu ar y penderfyniadau neu’r camau gweithredu a wneir gan y Bwrdd; b) adolygu neu graffu ar drefniadau llywodraethu’r Bwrdd; c) gwneud adroddiadau neu argymhellion i’r Bwrdd yngl?n â’i swyddogaethau neu ei drefniadau llywodraethu; d) ystyried materion sy’n ymwneud â’r Bwrdd fel y gall Gweinidogion Cymru gyfeirio ato ac adrodd i Weinidogion Cymru yn briodol; e) cyflawni swyddogaethau eraill mewn perthynas â’r Bwrdd a osodir arno gan y Ddeddf.
• Cynnal perthynas ragweithiol a chadarnhaol â’r BGC; • Monitro perfformiad y BGC yn erbyn cynlluniau a blaenoriaethau partneriaethau fel rhan o’r cylch perfformiad; • Sicrhau atebolrwydd democrataidd a chraffu ar waith y Bwrdd; • Defnyddio pwerau deddfwriaethol yn ôl yr angen i roi cyd-drefniadau ar waith, gan gynnwys ‘cyfethol’ unigolion nad ydynt yn aelodau’r awdurdod i fod yn rhan o’r pwyllgor yn ôl y gofyn.
Ystyriaethau allweddol: • Perfformiad y BGC yn erbyn amcanion cytunedig; • Effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu, gan gynnwys rheoli cyllidebau, trefniadau ymgynghori, gweithdrefnau caffael, rheoli risgiau, rheoli perfformiad a threfniadau atebolrwydd; • Craffu ar gyfraniad y Cyngor at y bartneriaeth; • Gwerthuso effeithiolrwydd cyffredinol y bartneriaeth; • Sicrhau ymgysylltu â’r cyhoedd a phartneriaethau a strategaethau sy’n seiliedig ar y dinesydd; • Cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar ddogfennau allweddol yn ôl y gofyn. |
Monitro’r broses o roi ar waith unrhyw argymhellion a wneir i’r BGC yngl?n â pherfformiad y gwasanaeth. |
Anfon unrhyw argymhellion a wneir i’r BGC ymlaen at y Gweinidog/Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. |
Dal partneriaethau’n atebol am eu perfformiad. I gynnwys - Gwasanaeth Cyflawni Addysg, Casnewydd Fyw, Norse, GRhR a threfniadau Comisiynu ar y Cyd • Perfformiad y partneriaid yn erbyn amcanion cytunedig; • Effeithiolrwydd strwythurau llywodraethu; • Cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar ddogfennau allweddol yn ôl y gofyn. |
Craffu ar faterion diogelwch cymunedol a phartneriaethau cysylltiedig: Bydd y Pwyllgor Troseddau ac Anhrefn Dynodedig yn • Ystyried Ceisiadau am Weithredu gan Gynghorwyr (CWG) sy’n deillio o broses CWG gytunedig y Cyngor; • Ystyried camau gweithredu a wneir gan yr awdurdodau cyfrifol ar y CSP. |
Monitro’r broses o roi ar waith unrhyw argymhellion a wneir i unrhyw un o’r partneriaethau. |
Hysbysu’r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu o’i raglen waith a’i gweithredu parhaus. |
Swyddog cefnogi: Neil Barnett. Cynghorydd Craffu
Ffôn: 01633 656656
E-bost: Scrutiny@newport.gov.uk
Gwefan: www.newport.gov.uk/scrutiny