Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Tracy Richards Rheolwr Swyddfa’r Cabinet
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau dros Absenoldeb Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 88 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir.
|
|
Cyllideb Refeniw a MTFP: Cynigion Drafft PDF 411 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn amlinellu adroddiad y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020/21 i'w ystyried a chytuno arno. Atgoffodd yr Arweinydd ei chydweithwyr yn y Cabinet mai hon yw'r gyllideb ddrafft ac roedd am bwyso ar y cyfarfod y bydd y cynigion a geir yn yr adroddiad yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus cyn cwblhau'r gyllideb yn y cyfarfod ym mis Chwefror 2020.
Oherwydd bod y setliad grant refeniw drafft wedi'i gyhoeddi'n hwyr, roedd yr adroddiad wedi'i lunio ar dybiaethau cynllunio ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn cyhoeddi ffigur y setliad. Cadarnhaodd yr adroddiad mai'r rhagdybiaethau cynllunio oedd:
- Y byddai Cyngor Dinas Casnewydd yn gweld cynnydd o 1% yn ei setliad grant refeniw a sylfaen dreth gynyddol - sef oddeutu £2.1m; - Y byddai'r Cyngor hefyd yn cael £5.7m arall o naill ai grantiau parhaol neu barhad grantiau penodol i dalu am gostau cyflogau/pensiynau athrawon a chynaliadwyedd gwasanaethau cymdeithasol (cyllid y mae'r Cyngor yn ei dderbyn eleni fel grantiau untro). Cadarnhaodd y setliad drafft y bydd y Cyngor yn derbyn mwy o arian na'r disgwyl – cyfanswm cyllid pellach o £7.1m. Mae hyn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd i naill ai:
(i) fuddsoddi mewn mwy o fuddsoddiadau yn y gyllideb a blaenoriaethau a/neu; (ii) lleihau/tynnu allan rhai o'r cynigion arbedion a nodwyd yn yr adroddiad. Bydd grant cynnal refeniw'r Cyngor, mewn termau arian parod, yn cynyddu tua £14m; i gyfanswm o £228m. Ar ôl ystyried grantiau penodol cyfredol a drosglwyddwyd iddo, yn ymwneud yn bennaf â'r grant cyflogau/pensiynau athrawon a grybwyllir uchod, mae'r cynnydd tua £9m.
Mae setliad drafft Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai Casnewydd sydd wedi cael y cynnydd mwyaf o blith holl Gynghorau Cymru - y tro cyntaf i hyn ddigwydd. Bydd pob cyngor yn cael cynnydd cymharol uchel mewn arian grant y flwyddyn nesaf. Mae rhesymau penodol dros hyn:
- Mae'r cynnydd sylweddol yng nghyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru wedi golygu ei fod wedi gallu parhau i fuddsoddi yn y GIG ond nid ar draul rhannau eraill o'r sector cyhoeddus eleni. Felly, roedd Llywodraeth Cymru yn gallu cynyddu cyllideb gyffredinol y setliad grant refeniw tua £200m ar gyfer 2020/21 - i gyfanswm o bron £4.5 bn. Mae hyn wedi bod o fudd i bob cyngor yng Nghymru sy'n derbyn cyfran o hyn. Nid yw'r math hwn o gynnydd wedi digwydd ers blynyddoedd lawer ac mae i'w groesawu'n fawr. Mynegodd yr arweinydd ddiolchiadau'r Cabinet i Lywodraeth Cymru am ystyried sefyllfa Casnewydd a sicrhau'r dyraniad ychwanegol hwn.
- Mae Casnewydd wedi cael setliad gwell eleni gan fod cyllid, fel pob cyngor, yn cael ei bennu gan fformiwla gymhleth sy'n dosbarthu cyfanswm y setliad grant refeniw o £4.5bn i bob cyngor. Data allweddol sy'n 'seiliedig ar anghenion' sydd yn gyrru hynny ac mae’n cynnwys pethau megis niferoedd y boblogaeth, nifer y plant oedran ysgol, nifer y bobl h?n, ac ati. Eleni, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ystyried rhai newidiadau sylweddol mewn amcangyfrifon poblogaeth a gadarnhaodd fod amcangyfrifon poblogaeth Casnewydd yn rhy isel yn y ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Adroddiad 6 Mis Rheoli'r Trysorlys PDF 201 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a roes adolygiad o weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor, h.y. rheoli a chynllunio ei 'adnoddau ariannol', gan gynnwys gweithgareddau benthyca a buddsoddi, ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon.
Roedd yr adroddiad eisoes wedi'i adolygu gan y Pwyllgor Archwilio, a'i adrodd i'r Cabinet er gwybodaeth; yn dilyn cyfarfod y Cabinet Byddai'n mynd i'r Cyngor llawn i'w gymeradwyo.
Roedd yr holl fenthyciadau a buddsoddiadau a gyflawnwyd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn yn rhai disgwyliedig ac o fewn terfynau cytunedig y Cyngor.
Dyma'r prif bwyntiau i'w nodi:
· Ail-ariannwyd Bond £40m y Cyngor ym mis Ebrill - arbedodd hyn swm sylweddol iawn o arian i’r Cyngor a gymerwyd fel arbediad yng nghyllideb eleni, gan fod y gyfradd llog ar y benthyciad a gymerwyd yn sylweddol is na'r llog a dalwyd ar y bond. Roedd strategaeth 'benthyca mewnol' y Cyngor yn golygu bod yn rhaid ail-ariannu hwn yn hytrach na'i ad-dalu ac ar hyn o bryd mae'r strategaeth hon yn arbed dros £2m i'r Cyngor bob blwyddyn mewn taliadau llog, nodwyd y bydd gallu'r Cyngor i allu benthyg yn fewnol yn lleihau mewn perthynas â gwariant PFI a chronfeydd wrth gefn eraill yn y dyfodol.
· Cadarnhaodd yr adroddiad fod y Cyngor yn benthyca arian gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus – y Llywodraeth yn y bôn. Yn ystod y cyfnod hwn, gwelwyd cynnydd digynsail o 1% mewn cyfraddau llog. Mae'r Pennaeth Cyllid a'r tîm cyllid yn adolygu'r opsiynau gydag ymgynghorwyr Trysorlys y Cyngor ar ddewisiadau benthyca eraill a bydd hyn yn cael ei adrodd mewn adroddiadau yn y dyfodol yn ôl y gofyn.
Penderfyniad:
Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a chytunwyd i gynnig sylwadau i’r Cyngor.
|
|
Diweddariad Cofrestr Risg Gorfforaethol (Chwarter 2) PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol ar gyfer diwedd chwarter 2 (30 Medi 2019). Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi'r newidiadau i'r gofrestr risg ar gyfer diwedd chwarter 1. Cadarnhaodd yr Arweinydd fod Strategaeth Rheoli Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn galluogi'r weinyddiaeth hon a swyddogion i nodi, rheoli a monitro'n effeithiol y risgiau hynny a allai atal yr awdurdod rhag cyflawni'r amcanion a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol 2017/22 a'i Ddyletswyddau Statudol fel awdurdod lleol. Eglurodd yr adroddiad ymhellach ar gyfer bob blwyddyn, fel rhan o drefniadau cynllunio’r Cyngor, fod gwasanaethau yn adolygu eu risgiau presennol ac yn edrych ymlaen at risgiau newydd neu rai sy'n dod i'r amlwg a fyddai'n atal y weinyddiaeth rhag cyflawni ei hamcanion fel rhan o Gynllun Corfforaethol y Cyngor. Bydd adroddiad risg Chwarter 2 yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Archwilio'r Cyngor ym mis Ionawr 2020; Y Pwyllgor Archwilio sy’n adolygu ac yn monitro'r trefniadau rheoli risg a llywodraethiant. Mae'r adroddiad yn nodi bod 12 o'r risgiau wedi'u codi i Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor sy'n gofyn am fonitro gan y Cabinet a'r Uwch Dîm Arwain. Bydd y risgiau sy'n weddill yn parhau i gael eu monitro gan y gwasanaethau a Thîm Corfforaethol y Cyngor. Mae mecanweithiau ar waith i uwchgyfeirio unrhyw risg newydd neu bresennol i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol. Ar ddiwedd Chwarter 1 (1 Gorff 2019 i 30 Medi 2019) roedd gan y Cyngor 9 risg uchel (15 i 25) a 3 risg ganolig (5 i 14). O'i gymharu â chwarter 1, nid oedd unrhyw risgiau newydd ac ni chaewyd unrhyw risgiau. Fodd bynnag, roedd 2 risg wedi cynyddu o lefel Ganolig i Uchel. Dyma'r sgoriau o ran risgiau a welodd gynnydd: · Y galw am gymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA) (cynyddodd y sgôr risg o 12 i 20)
§ Mae'r risg hon yn ymwneud â chyflwyno deddfwriaeth newydd a’r pethau nad sy’n hysbys yn ymwneud â’r effaith bosibl ar wasanaethau addysg a chymorth ysgol yn y ddinas.
§ Adolygwyd modelau cyllido ADY mewn gweithgor awdurdod lleol a phennaeth yn ystod chwarter 2. Roedd yn amlwg, o ganlyniad i gynnydd yn y boblogaeth ysgolion yn gyffredinol, y bu cynnydd yn nifer y disgyblion ag ADY sydd wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y cyllid ADY presennol.
§ Mae yna ddisgwyliad y bydd ysgolion yn ategu'r cyllid ADY a ddyrannwyd iddynt, fodd bynnag, o ganlyniad i gynnydd yn nifer y disgyblion sydd â datganiad a’r rhai a gyllidwyd, nid yw'r cyllid ADY fesul disgybl yn adlewyrchu'r swm sydd ei angen.
§ Cytunwyd ar fodel ariannu un flwyddyn gyda rhagor o gyfarfodydd i'w cynnal yn ystod haf 2020 i ddatblygu model ariannu hirdymor.
· Rheolaeth ariannol yn ystod y flwyddyn (sgôr risg wedi cynyddu o 8 i 12)
§ Ar ddiwedd mis Medi, mae Gwasanaeth Cyllid y Cyngor yn dangos gorwariant rhagamcanol o £700k.
§ Er y bydd effaith gorwariant yn ystod y flwyddyn yn cael effaith andwyol ar lefel ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Swyddfa Archwilio Cymru - Asesiad o'r Dystysgrif Perfformiad PDF 101 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn cadarnhau mai dyma'r ail dystysgrif gydymffurfio a gyhoeddir gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn dilyn archwiliad o berfformiad y Cyngor yn 2018/19yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Swyddfa Archwilio Cymru yw archwilwyr allanol y Cyngor ac mae dyletswydd arnynt i sicrhau bod gan gyrff cyhoeddus, megis Cyngor Casnewydd, y trefniadau angenrheidiol yn eu lle i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau'r Cyngor. Mae'r gwaith a gwblhawyd gan Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ymgymryd â datblygiadau cynaliadwy i ddiwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol a chydymffurfio â'r egwyddor o bum ffordd o weithio. Croesawodd yr Arweinydd Gareth Jones, Swyddog Arweiniol yr Archwiliad, i'r cyfarfod. Rhoddodd Mr Jones drosolwg o'r gwaith sydd ei angen ar y Cyngor i dderbyn yr ail dystysgrif gydymffurfio a chadarnhaodd bod y gofynion wedi'u bodloni a bod y dystysgrif wedi'i rhoi. Diolchodd yr Arweinydd i SAC unwaith eto am ei dull o weithio mewn partneriaeth a gweithio gyda Chyngor DInas Casnewydd. Cynigiodd yr Arweinydd fod y Cabinet yn derbyn y casgliad sydd yn Mhystysgrif Asesu Perfformiad yr Archwilydd Cyffredinol.
Penderfyniad:
Derbyniodd y Cabinet y casgliad a geir yn Nhystysgrif Asesu Perfformiad yr Archwilydd Cyffredinol.
|
|
Rheolau Sefydlog Contract Diwygiedig PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sy'n nodi cynigion i ddiweddaru a gwneud newidiadau i Reolau Sefydlog Contract y Cyngor. Bydd y Cyngor Llawn yn gwneud penderfyniad terfynol ar yr adroddiad ond mae angen barn y Cabinet cyn ei gwblhau a'i anfon i gyfarfod nesaf y Cyngor.
Mae Rheolau Sefydlog Contract (RhSC) yn rhan o gyfansoddiad y Cyngor ac maent yn rheolau ar gyfer prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith y mae'n rhaid i bob gweithiwr lynu wrthynt.
Cadarnhaodd yr adroddiad ei bod yn ofynnol adolygu’r RhSC bob tair blynedd er mwyn ystyried newidiadau i ddeddfwriaeth, polisi a chyfeiriad strategol y Cyngor, yn ogystal â pholisi ehangach Llywodraeth Cymru y mae angen ei ymgorffori i reolau'r Cyngor. Mae'r RhSC arfaethedig, a atodwyd i'r adroddiad, yn cyflwyno newidiadau wedi'u cynllunio i wella arferion caffael y cyngor a sicrhau bod deddfwriaeth sy'n newid, ac arferion polisi a chaffael eraill y Cyngor yn cael eu dilyn.
Cynhaliwyd yr adolygiad drwy ymgynghori â Phennaeth y Gyfraith & Rheoleiddio, y Pennaeth Cyllid a'r Prif Archwilydd Mewnol, yn ogystal â'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol a'r Tîm Rheoli Corfforaethol.
O ganlyniad i'r ymgynghoriad hwnnw, gwnaed newidiadau allweddol mewn nifer o feysydd, a hynny'n fwyaf amlwg o ran;
1. Cydymffurfio - adran newydd yn ymdrin â chyfrifoldebau yn ymwneud â chywirdeb, safonau, cydymffurfio â rheoliadau a Chodau Ymddygiad.
2. Gwasanaethau Cymdeithasol - adran newydd sy'n cwmpasu contractau gwasanaeth unigol ar gyfer cleientiaid y gellir eu dyfarnu o dan gyfres o amgylchiadau penodol ym maes Gofal Cymdeithasol.
3. Proses Dendro ar gyfer Caffael - yn arbennig mwy o hyblygrwydd i allu mynd at gyflenwyr lleol a chyflenwyr eraill yng Nghymru am dendrau hyd at £75k mewn gwerth, cynnydd o'r £25k presennol.
4. Cod Ymarfer, Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi - adran newydd yn ymdrin ag ymrwymiad y Cyngor i ystyried ystod o gamau i sicrhau bod ein cadwyni cyflenwi mewnol ac allanol yn gweithredu o dan arferion cyflogaeth cyfreithiol a moesegol.
5. Rheoli Contractau -adran newydd i gwmpasu sut y dylid rheoli contractau ar ôl dyfarnu contractau o'r fath, er mwyn sicrhau bod y contract yn parhau i fod yn effeithiol o ran cyflawni ei allbynnau gofynnol am ei gyfnod llawn.
6. Eithriadau - adran newydd i sicrhau bod swyddogion yn deall y broses os tybir bod angen gwneud cais i RhSC gael eu heithrio o dan amgylchiadau penodol.
Roedd yr adroddiad yn cadarnhau ymhellach bwysigrwydd bod prosesau a rheolau'r Cyngor yn adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf sy'n effeithio ar awdurdodau lleol; cyfeiriodd yr Arweinydd yn benodol at gadarnhad bod y Cyngor yn ymgorffori diweddariadau pwysig megis cyflogaeth foesegol yn ei chadwyni cyflenwi a'r broses newid sy'n ei gwneud yn haws cynnwys cyflenwyr lleol a chyflenwyr Cymreig, tra'n parhau i sicrhau gwerth am arian o ran sut mae'r Cyngor yn prynu ei nwyddau a'i wasanaethau.
Cymeradwyodd yr Arweinydd yr adroddiad i'r Cabinet a hefyd bod RhSC diwygiedig yn cael eu hadrodd i'r Cyngor i'w cymeradwyo.
Penderfyniad:
Cymeradwyodd y Cabinet yr adroddiad a'i fod i gael ei adrodd i gyfarfod nesaf y Cyngor.
|
|
Adroddiad Blynddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan gadarnhau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Rh+A) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (GCLl) yn nodi'r gofyniad i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gynhyrchu adroddiad blynyddol yn nodi perfformiad y Ggwasanaethau Cymdeithasol.
Nid bwriad yr adroddiad yw manylu ar y broses ond darparu gwybodaeth i'w chyhoeddi i gynulleidfa eang. Roedd yr adroddiad yn ymdrin â'r flwyddyn 2018/19 ac yn nodi asesiad y Cyfarwyddwr o ba mor dda y mae'r Cyngor wedi hyrwyddo a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddinasyddion a gofalwyr Casnewydd sydd angen gofal a chymorth.
Cyflwynodd yr arweinydd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i drafod rhai o benawdau'r adroddiad er mwyn dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran datblygu gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar a'r gwaith sy'n ymwneud ag integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol i adeiladu capasiti ychwanegol y mae ei angen yn fawr.
Roedd yr Aelod Cabinet yn falch o'r adroddiad a dynnodd sylw at lawer o fentrau cadarnhaol a wnaed gan Gasnewydd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Gofynnodd yr Arweinydd i Gyfarwyddwr presennol y Gwasanaethau Cymdeithasol, Chris Humphrey, am ei meddyliau. Cadarnhaodd Mrs Humphrey fod yr adroddiad yn dangos y siwrnai barhaus y mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod arni dros y blynyddoedd diwethaf. Canmolodd y perfformiad gan yr holl staff sy'n adlewyrchu llawer iawn o waith caled sydd wedi'i wneud. Canmolodd Aelodau'r Cabinet waith caled yr holl staff.
Cymeradwyodd y Prif Weithredwr dros dro y gwaith cydweithredol a wnaed gydag Addysg ac Iechyd i sicrhau gwasanaethau cydgysylltiedig i wneud bywydau'n well i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelod Cabinet am yr arweinyddiaeth a ddangoswyd yn y rôl hon a phwysleisiodd yr arweinydd yr amgylchiadau anodd a heriol y mae pobl yn eu cael eu hunain ynddynt, mae cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio yn y rheng flaen o safbwynt hyn.
Cadarnhaodd yr Arweinydd ei bod wedi mynychu parti Nadolig y Plant sy'n Derbyn Gofal; llongyfarchodd y staff, a phob un ohonyn nhw'n dangos cymaint o empathi a thosturi fel hyn yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud.
Penderfyniad:
Cymeradwyodd y Cabinet yr adroddiad.
|
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 15fed Ionawr 2020, 4 yp, Ystafell Bwyllgor 1, Canolfan Ddinesig Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.
Penderfyniad:
Cytunodd y Cabinet ar y rhaglen wedi’i diweddaru.
|