Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eleanor Mulligan Head of Democratic Services
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhagofynion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: I) Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb
Adroddodd y Swyddog Monitro ar ymddiheuriadau am absenoldeb.
Dymunodd y Cyngor fynegi eu cydymdeimlad â’r Cynghorydd Mudd ar ei phrofedigaeth deuluol ddiweddar.
ii) Derbynunrhyw ddatganiadau o ddiddordeb
Dim.
iii) Derbynunrhyw gyhoeddiadau gan y Maer
Gwasanaeth Dinesig
Diolchodd y Maer i bawb a helpodd ddathlu dechrau ei flwyddyn yn ei swydd trwy fod yn bresennol yn Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw ar ddydd Sul, 13 Gorffennaf.
90fed Pen-blwydd GAVO
Arweiniodd y Maer longyfarchiadau’r Cyngor i GAVO (Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Gwent) ar eu pen-blwydd yn 90. Diolchodd i GAVO am yr anrhydedd o gael ymuno yn eu dathliadau ar 2 Gorffennaf ym mhresenoldeb EUB Tywysog Cymru ac EHB Duges Cernyw.
Cymdeithas y Llynges Fasnachol
Diolchodd y Maer i bawb fu yn y digwyddiad diweddar i ddadorchuddio plac i’r Llynges Fasnachol.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiwyd y gwelliant a ganlyn i gofnodion y cyfarfod ar 24 Ebrill 2018:
- Ar Eitem 10 (Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor) – i egluro fod Arweinydd y Cyngor heb gefnogi cyflwyno casgliadau biniau bob tair wythnos pan oedd yn Arweinydd.
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2018 a 15 Mai 2018 fel rhai cywir yn amodol ar y gwelliant uchod.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd
i) Cymeradwyo argymhelliad Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Casnewydd i benodi cynrychiolydd Dyneiddiol i’r gr?p hwnnw.
ii) Cymeradwyo’r enwebiadau a ganlyn:
Penodiadau Mewnol
Penodiadau i Gyrff Allanol
Penodiadau i Gyrff Llywodraethol
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Materion yr Heddlu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Prif Arolygydd Richard Blakemore ddiweddariad am flaenoriaethau plismona lleol cyfredol, cyn gwahodd cwestiynau gan Aelodau.
- Mewnymateb i gwestiynau am gyffuriau a throseddau cysylltiedig, cadarnhawyd fod pob mater yn ymwneud â chyffuriau yn cael ei drin yn hynod ddifrifol, ac y mae Heddlu Gwent yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol a phartneriaid eraill i gymryd agwedd amlasiantaethol at y materion cymhleth hyn. Adroddwyd am gynnydd yn ddiweddar o ran mynd i’r afael a throseddau trefnedig difrifol a chyflenwi cyffuriau, gyda chyflogi Swyddog Troseddau Trefnedig Difrifol newydd.
- Mewn ymateb i nifer o gwestiynau am feiciau modur oddi ar y ffordd, amlinellodd y swyddog y camau a’r tactegau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i ymdrin â’r broblem hon.
- Diolchodd y Cyng. Jeavons i’r swyddogion am eu hymdrechion diweddar yn Lliswerry, yn enwedig o gwmpas Parc Black Ash.
- Diolchodd y Cyng. Hourahine i’r swyddog am fod yn bresennol yn ddiweddar yng nghyfarfod ward St Julian’s a’r camau a ddeilliodd o hynny.
- Mewnymateb i gwestiwn y Cyng. Holyoake, amlinellodd y swyddog y gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â phuteindra a throseddau cysylltiedig yn ardal Pilgwenlli.
- Gofynnodd y Cyng. T Watkins am safbwynt lleol ynghylch ystadegau cenedlaethol diweddar oed dyn dangos cynnydd mewn troseddau treisgar, ac adroddiadau wedi hynny yn y cyfryngau fod hyn i’w briodoli i lai o heddweision yn “cerdded y strydoedd”. Atebodd y Prif Arolygydd nad oedd ef yn gweld cydberthynas rhwng y ddwy ffactor yng Nghasnewydd, gan grybwyll fod swyddogion rheng-flaen yn cael eu recriwtio, y ffactorau a all ddylanwadu ar ystadegau, a’r cynlluniau cadarn sydd yn eu lle i wneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael, e.e., yng nghanol y ddinas.
- Diolchodd y Cyng. Cleverly i’r swyddogion am eu gwaith yn y Betws yn ymateb i danau diweddar.
- Mewn ymateb i gwestiwn y Cyng. M Evans am wersylloedd sipsiwn a theithwyr, amlinellodd y swyddog y memorandwm dealltwriaeth sy’n bodoli rhwng yr heddlu a’r awdurdod lleol i sicrhau ymateb cymesur ym mhob achos.
- Mewn ymateb i bryderon nad yw swyddogion sy’n dod i gyfarfodydd ward yn wastad o safle ddigon uchel neu heb feddu ar y wybodaeth iawn i allu ymateb yn gywir i gwestiynau trigolion, cytunodd y Prif Arolygydd i drafod hyn gyda’r timau cymdogaeth.
- Mewn ymateb i gwestiwn y Cyng. Suller, amlinellodd y swyddog y gwaith sy’n cael ei wneud i atal ac ymdrin ag ymwneud pobl ifanc iawn mewn gwerthu cyffuriau.
- Mewn ymateb i gwestiwn y Cyng. Al-Nuaimi, amlinellodd y swyddog y gwaith sy’n cael ei wneud mewn partneriaeth ag adran drwyddedu’r Cyngor yn dilyn y digwyddiad yn Heol Cambrian er mwyn sicrhau canol y ddinas sy’n ddiogel a bywiog.
Diolchodd y Maer i’r Prif Arolygydd Blakemore am fod yn bresennol ... view the full Cofnodion text for item 4. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig: Toiledau Cyhoeddus Caerllion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor gynnig y rhoddwyd y rhybudd priodol ohono. Y Cynghorydd Joan Watkins oedd y cynigydd, ac eiliwyd gan y Cynghorydd David Williams:
Noda’rcyngor hwn ymateb chwyrn y cyhoedd i gau’r toiledau cyhoeddus yng Nghaerllion, ac anoga’r Cabinet i’w hadfer fel mater o frys.
Wrthroi’r cynnig gerbron, crybwyllodd y Cynghorydd Joan Watkins ymateb y cyhoedd i’r cau, a’r angen am gyfleusterau o’r fath i annog mwy o ymwelwyr, yn ogystal â gwasanaethu anghenion y bobl leol.
Wrtheilio’r cynnig, soniodd y Cynghorydd David Williams am esiampl Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a ddygodd fusnesau lleol i mewn i ddarparu cyfleusterau amgen cyn cau unrhyw doiledau cyhoeddus.
Cynigiodd y Cynghorydd Debbie Wilcox y gwelliant canlynol i’r cynnig:
Wedi “Noda’r Cyngor hwn”:
1. Y cyfleusterau toiledau cyhoeddus gwell yn Neuadd y Dref Caerllion, sydd yn cynnwys oriau agor hwy a’r ffaith fod gofalwr ar gael.
2. Fodcytundeb llwyddiannus iawn ar y cyd gydag Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig wedi galluogi agor toiledau Broadway bob dydd yn ystod yr amser y mae’r Pafiliwn Criced yn cael ei brydlesu. Bydd y toiledau hyn yn aros ar agor tan 2019, gan baratoi’r ffordd i drafodaethau pellach gyda phartïon a all fod â diddordeb yn y dyfodol. Mae hyn yn wir hefyd am doiledau cyhoeddus eraill yng Nghasnewydd.
Ymhellach, mae’r Cyngor hwn yn cydnabod y cyfleusterau toiled gwell sydd ar gael yng Nghaerllion ac yn cefnogi’r ymdrechion sydd yn digwydd i sicrhau dull o beri bod toiledau Broadway ar gael yn barhaol. Geilw ymhellach ar Lywodraeth y DU i wrthdroi eu hagenda llymder ac i gynyddu’r cyllid i gyllidebau awdurdodau lleol ledled y DU uwchlaw graddfa chwyddiant, i ganiatáu iddynt ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus, sydd yn cynnwys toiledau cyhoeddus.
Wrth gynnig ac eilio’r gwelliant, amlygodd yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd fel ei gilydd bwysau cyson llymder ar y Cyngor, a’r penderfyniadau a’r heriau anodd mae hyn yn olygu.
Gwnaed y pwyntiau canlynol yn erbyn y gwelliant:
• yr arbediad cymharol fychan a wnaed o gau’r cyfleuster • yr angen i flaenoriaethu gwariant a gwrando ar bryderon y cyhoedd • y syniadau amgen a gyflwynwyd gan y pwyllgor craffu yn ystod proses y gyllideb • yr effaith ar dwristiaeth
Gwnaed y pwyntiau canlynol o blaid y gwelliant:
• y cyfleusterau gwell yn neuadd y dref i sicrhau darpariaeth amgen ddigonol • effaith llymder ar gyllidebau awdurdodau lleol, sy’n golygu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd • atebion amgen, e.e., gr?p cymunedol i ail-agor y cyfleuster fel caffi gyda thoiled cyhoeddus ym Maendy
Wrth ateb y gwelliant, cwestiynodd y Cynghorydd Joan Watkins lwyddiant y trefniadau gyda Neuadd y Dref, a thy6nnodd sylw at effaith y cau ar yr henoed a phobl fregus.
Gofynnodd y nifer angenrheidiol o aelodau etholedig am bleidlais wedi’i chofnodi.
Pleidleisiodd yr ... view the full Cofnodion text for item 5. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig: Lleihau'r Defnydd o Blastig yng Nghasnewydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor gynnig y darparwyd y rhybudd angenrheidiol ohono. Cynigiwyd gan y Cynghorydd Debbie Wilcox a’i eilio gan y Cynghorydd Mark Whitcutt:
Penderfyna’rCyngor hwn gychwyn y broses o leihau’r defnydd o blastig ar hyd a lled Dinas Casnewydd trwy wneud y canlynol:
Cefnogi Arfordiroedd Di-Blastig, ymrwymo i ddewisiadau amgen di-blastig a chefnogi mentrau di-blastig yn y ddinas Lleihau’r defnydd o blastig untro ar eiddo’r Cyngor a hyrwyddo gwneud i ffwrdd â phlastig untro o fannau eraill Annog busnesau a siopau lleol i roi’r gorau i ddefnyddio a gwerthu eitemau plastig untro, a rhoi eitemau amgen cynaliadwy yn eu lle Gweithio gyda rhanddeiliaid i leihau’r defnydd o blastig mewn ysgolion, colegau a llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a hamdden Hyrwyddo neu drefnu digwyddiadau cymunedol i ddileu gwastraff plastig o’n harfordir a mannau eraill ledled y Ddinas
Dyma rai enghreifftiau allweddol o fannau lle byddwn yn targedu ein hymdrechion i leihau plastig untro a defnyddio eitemau eraill yn eu lle:
Cwpanau ailgylchadwy neu ailddefnyddiadwy Metel, compostadwy neu ddeunyddiau eraill yn lle cyllyll a ffyrc plastigFfyn troi compostadwy neu ailddefnyddiadwyBagiau papur neu bapur lapio yn hytrach na phlastig Poteli ailddefnyddiadwy yn hytrach na phlastig taflu
Wrth gyflwyno’r cynnig, tynnodd y Cynghorydd Wilcox sylw at effaith andwyol plastig ar yr amgylchedd, a’r dewisiadau cynaliadwy eraill sydd ar gael.
Eiliodd y Cynghorydd Whitcutt y cynnig, gan roi ystadegau ychwanegol am faint llygredd plastig.
Siaradoddnifer o Aelodau o blaid y cynnig, gan rannu profiadau personol yn ogystal ag enghreifftiau o wahanol ffyrdd y gall unigolion, busnesau a chyrff cyhoeddus helpu i leihau gwastraff plastig.
I gloi, diolchodd y Cyng. Wilcox i’r Aelodau am eu cyfraniadau a’u hawgrymiadau yn y maes pwysig hwn.
Penderfynwyd
Yn unfrydol i fabwysiadu’r cynnig fel y’i gosodir allan yn llawn uchod.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig: Adleoli Swyddfa'r AGPh Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor gynnig y darparwyd y rhybudd angenrheidiol ohono. Cynigiwyd gan y Cynghorydd Debbie Wilcox a’i eilio gan y Cynghorydd Mark Whitcutt:
Cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau y bydd pump o’u swyddfeydd ar draws de Cymru yn cau, gyda chyfanswm o 1,700 o staff yn cael eu canoli ar safle newydd ar Stad Ddiwydiannol Trefforest. Yn ychwanegol at Ganolfan Budd-daliadau Casnewydd gyda 365 o staff, mae Canolfan Budd-daliadau Caerffili gyda 225 o staff, ac ymysg y swyddfeydd fydd yn cau mae Canolfan Budd-daliadau Merthyr gyda 262 o staff, Canolfan Pensiynau Cwmbrân gyda 171 o staff a Chanolfan Gabalfa yng Nghaerdydd gyda 714 o staff.
Er yn cydnabod fod yr AGPh, fel llywodraeth leol, yn ceisio gwneud newidiadau i’w gweithrediadau mewn ymateb i’r pwysau cynyddol oherwydd mesurau llymder, yr ydym yn bryderus am y penderfyniad i adleoli swyddi allan o ganol dinas Casnewydd, ac oblygiadau’r symud ar gynaliadwyedd at y dyfodol. Bydd hefyd yn cael effaith negyddol ar y staff sydd yng Nghasnewydd ar hyn o bryd na fydd yn gallu teithio, am amryw resymau, i’r lleoliad newydd sydd yn weddol bell, gan nad oes llwybrau cludiant cyhoeddus, ac y bydd hyn yn peryglu swyddi.
Mae’rCyngor hwn felly yn penderfynu ysgrifennu at:
(i) Lywodraeth y DU i ofyn iddynt ail-ystyried adleoli Swyddfeydd AGPh Casnewydd, ac annog Llywodraeth y DU i gynnal trafodaethau ystyrlon gydag undeb llafur y PCS ar y mater hwn.
(ii) Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ychwanegu eu cefnogaeth i safbwynt y PCS a gofyn iddynt ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi eu cefnogaeth i’r ail-ystyried hwn.
Wrth gyflwyno’r cynnig, tynnodd y Cynghorydd Wilcox sylw at effaith y cynigion, gan gynnwys y 300 o staff yng Nghasnewydd fydd yn teimlo’r effaith, a’r anghysondeb rhwng yr effaith arfaethedig a nodwyd gan yr AGPh, a’r dystiolaeth i’r gwrthwyneb a gyflwynwyd gan undeb y PCS.
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Whitcutt.
Siaradodd Arweinydd yr Wrthblaid hefyd o blaid y cynnig, gan gymharu â’r ymgyrch i gadw’r Swyddfa Basbort yng nghanol y ddinas.
Penderfynwyd
Yn unfrydol i fabwysiadu’r cynnig fel y’i gosodir allan yn llawn uchod.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus: Maesglas PDF 619 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio yr adroddiad sy’n gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i’r Maesglas. Esboniodd yr Aelod Cabinet gefndir y gorchymyn, sydd wedi ei ysgogi gan lefel uchel y cwynion am yr ardal o gwmpas y siopau lleol.
Wrth eilio’r adroddiad, cadarnhaodd y Cyng. Wilcox fod y cynigion wedi derbyn cefnogaeth yr aelodau ward lleol, ac mai’r nod oedd cyfyngu ar ymddygiad lleiafrif o bobl sydd yn ymddwyn yn fygythiol.
Wrth drafod yr adroddiad, codwyd y pwyntiau canlynol:
• yr angen i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i effaith negyddol ar gymunedau lleol • pryderon mai’r cyfan a wnaiff cau ardal i ffwrdd fydd symud y broblem i rywle arall • pwyntiau o blaid ac yn erbyn defnyddio GGMC fel y dull iawn o drin y broblem hon
Penderfynwyd
Yn unfrydol i gymeradwyo Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus: Maesglas, y mae’r manylion yn Atodiad D yr adroddiad
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus: Canol y Ddinas PDF 163 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio yr adroddiad sy’n gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus diwygiedig i Ganol y Ddinas. Cadarnhaodd ei bod yn bryd adolygu’r gorchymyn presennol, a diolchodd i’r Aelodau craffu am eu hystyriaeth drylwyr o’r r broses hon.
Cynigiodd y Cynghorydd Matthew Evans y gwelliant canlynol i’r gorchymyn:
Gan gyfeirio at Atodiad B –Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Diwygiedig Arfaethedig Canol Dinas Casnewydd 2018 – rhoi’r canlynol yn lle pwynt 5:
• Gwaherddir unrhyw berson ar stryd yn yr ardal gyfyngedig rhag rhoi ei hun, ar unrhyw adeg, mewn sefyllfa i gardota neu ofyn am arian.
Wrthsiarad ar y gwelliant, dywedodd y Cynghorydd Matthew Evans nad oedd modd gorfodi’r gwaharddiad presennol ar gardota ymosodol, ac y byddai’r cynnig i gyflwyno parth gwahardd o gwmpas peiriannau arian yn creu’r un broblem.
Wrth eilio’r gwelliant, cefnogodd y Cyng. Fouweather awgrym y Cyng. Evans y byddai’n anodd gorfodi’r parth gwahardd.
Codwyd y pwyntiau canlynol yn y drafodaeth ar y:
• yr ymgynghorwyd eisoes ar y mater hwn a’i drafod gan y pwyllgor craffu, a bod yr heddlu yn cefnogi’r argymhellion • nifer isel yr ymatebion i’r ymgynghoriad • y byddai gwaharddiad llwyr ar gardota yn criminaleiddio rhai o aelodau mwyaf bregus cymdeithas • manylion y cynllun newydd i gyfeirio rhoi
Yn dilyn pleidlais, collwyd y gwelliant.
Yr oedd trafodaethau am y cynigion gwreiddiol yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
• y farn yn erbyn y cyfyngiadau arfaethedig ar gardota a fynegwyd gan asiantaethau yr ymgynghorwyd â hwy fel rhan o’r adolygiad. • y trafodaethau trylwyr a gynhaliwyd yn y pwyllgor craffu ar y cynigion hyn • y gwahanol resymau pam fod pobl yn troi at gardota • canolbwynt y ddadl ar gardota, pan fo’r gorchymyn yn ymdrin â nifer o fesurau • yr angen i ymateb yn gymesur a theg i’r materion hyn
Penderfynwyd
Cymeradwyo’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus estynedig a diwygiedig am ganol y Ddinas, y mae’r manylion yn Atodiad B yr adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr 2018-19 PDF 152 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad sy’n gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr am 2018-19.
Y mae Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi rhoi cyllid grant ar gael i awdurdodau anfonebu allu cyflwyno yn 2018-19 y Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr er mwyn ysgafnhau’r baich ardrethi ar eiddo manwerthu yn y stryd fawr sydd yn gymwys. Mae uchafswm y cyllid am 2018-19 yn £139,250 ac y mae disgwyl i nifer o fusnesau elwa o ardrethi is o ganlyniad i’r Rhyddhad hwn.
Mae’r cynllun yr un fath, fwy neu lai, â’r un a gyflwynwyd yn 2017-18; yr unig wahaniaeth yw bod swm y rhyddhad sydd ar gael i fusnesau yn is.
Byddai trethdalwyr cymwys mewn un o ddau gategori, gyda haen 1 yn derbyn hyd at £250, a haen 2 lle byddai pob eiddo cymwys yn derbyn hyd at £750.
Amcangyfrifwyd y gallai tua 350 o drethdalwyr ledled y ddinas elwa o filiau ardrethi is dan y cynllun hwn.
Penderfynwyd
Yn unfrydol i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr Llywodraeth Cymru am 2018-19 trwy wneud y penderfyniad priodol, yn ôl gofyniad Adrannau 47(1)(a) a 47(3) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ac a osodir allan yn yr Atodiad i’r adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Protocol Aelodau a Swyddogion PDF 121 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gynrychioli’r Pwyllgor Safonau, cyflwynodd y Cynghorydd Herbie Thomas yr adroddiad sydd yn cynnig diweddariad i’r Protocol Aelodau / Swyddogion yng nghyfansoddiad y Cyngor.
Cytunodd y Pwyllgor Safonau ar y Protocol gwreiddiol dros 15 mlynedd yn ôl, cyn cyflwyno’r Model o God Ymddygiad yng Nghymru. Cafodd y Protocol ei ddiweddaru yn rhannol o bryd i’w gilydd dros y blynyddoedd, ond ni chafodd erioed ei adolygu’n gyfan gwbl. Argymhellodd y Pwyllgor Safonau adolygiad cynhwysfawr rai blynyddoedd yn ôl, ond ni chafodd y cynnig ei gymeradwyo gan y cyngor llawn oherwydd camddealltwriaeth ynghylch natur ac effaith y Protocol.
Yn eu cyfarfod ym mis Ionawr, cytunodd y Pwyllgor Safonau fod angen o hyd am y Protocol, i ategu’r codau rheoleiddio. Yr oedd y Pwyllgor hefyd o’r farn fod angen adolygu a chyfoesi’r Protocol presennol, fel sydd wedi ei osod allan yng Nghyfansoddiad y Cyngor, yn unol â’r ddogfen amgen, a gafodd ei drafftio fel rhan o’r Model o Gyfansoddiad Cymreig newydd.
Cafodd y protocol diwygiedig ei adolygu’n drylwyr gan y Pwyllgor, a’i ddiweddaru i adlewyrchu sylwadau’r Pwyllgor am y drafft gwreiddiol. Cafodd y protocol diwygiedig felly ei gadarnhau gan y Pwyllgor Safonau, a’r argymhelliad oedd iddo gael ei fabwysiadu.
Penderfynwyd
Yn unfrydol i fabwysiadu’r protocol diwygiedig ar berthynas Aelodau / Swyddogion.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddiadau’r Arweinydd
Mewn ateb i’r cwestiwn cyntaf gan y Maer, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol:
- Y penderfyniad mewn egwyddor y mis hwn i gefnogi cynnig ail-ddatblygu gwerth £12 miliwn i adfywio Marchnad hanesyddol Casnewydd - Sicrhau £1.1 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol i adfer Arcêd y Farchnad i’w hen ogoniant. - Caniatâdcynllunio i fwrw ymlaen ag ail-ddatblygu T?r y Siartwyr, i gynnwys gwesty newydd gyda champfa, man cynadledda, swyddfeydd, siop goffi a bwyty. - Cytunoar gefnogaeth ariannol gyda Llywodraeth Cymru ar gamau cychwynnol prosiect i ddatblygu pont droed newydd i gymryd lle isffordd Devon Place. - Bwrwymlaen i sicrhau cyllid i wneud gwaith atgyweirio hanfodol i’r Bont Gludo a’i gwella fel atyniad i ymwelwyr. - Cabinet yn cytuno’n ddiweddar i ddatblygu hybiau Cymdogaeth newydd - Cadarnhau gwobrau Baner Werdd i Barc Beechwood, Parc Belle Vue ac Amlosgfa Gwent. - Digwyddiadau mawr i’w cynnal yn y ddinas, gyda Marathon Casnewydd, Felothon Cymru a’r Big Splash wedi’u cynnal yn ddiweddar, a Thaith Prydain a G?yl Fwyd ar y gweill ar gyfer yr hydref.
Darpariaeth Prifysgol
Gan gyfeirio at ymrwymiadau ym maniffesto Llafur i gefnogi addysg prifysgol yn y ddinas, holodd y Cynghorydd Matthew Evans am nifer y myfyrwyr prifysgol sy’n astudio ar hyn o bryd yng Nghasnewydd, gan ddyfalu ei fod yn is na’r 9,000 o fyfyrwyr oedd yn astudio yma yn 2012.
Rhoddodd yr Arweinydd sicrwydd i’r Cyngor fod llawer o waith yn cael ei wneud y tu ôl i’r llenni, gyda’r brifysgol fel partner allweddol yn y ddinas, ond nodwyd hefyd fod Prifysgol De Cymru (PDC) yn sefydliad annibynnol gyda’i gynllun busnes ei hun. Rhyddhaodd yr Arweinydd hefyd ddatganiad yn ddiweddar yn cefnogi ail-achredu cwrs hyfforddi athrawon PDC, sef 30% o fusnes PDC. Yr oedd y brifysgol a’i myfyrwyr yn werthfawr iawn i’r ddinas, ond hefyd yn ennyn parch fel menter breifat.
Gofynnodd y Cynghorydd Evans gwestiwn ategol am y berthynas gyda’r brifysgol, gan gyfeirio at y byd myfyrwyr ffyniannus a bywiog a arferai fodoli yn y ddinas, gyda dim ond cyfran fechan bellach o 20,000 o fyfyrwyr PDC yn dod i Gasnewydd. Yr oedd yr Arweinydd yn nodi ac yn deall pryderon y Cynghorydd Evans, gan groesawu cydweithio ar y mater hwn, a chytunodd i gyflwyno unrhyw syniadau mewn cyfarfodydd yn y dyfodol gyda’r Is-Ganghellor.
Tai Fforddiadwy
Gan gyfeirio at yr angen am dai fforddiadwy ac “effaith Bryste”, gofynnodd y Cynghorydd Cleverly a fyddai’r Cyngor yn gweithredu trwy sefydlu cwmni adeiladau tai yn lleol.
Yr oedd yr Arweinydd yn cydnabod yr angen am fwy o dai fforddiadwy, ac er bod rhoi diwedd ar dollau’r bont i’w groesawu, yr oedd y newidiadau demograffig a achoswyd gan “effaith Bryste” yn codi pryderom am nifer y tai fforddiadwy oedd ar gael. Nodwyd y trosglwyddwyd stoc tai y ... view the full Cofnodion text for item 12. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd ac atebwyd y cwestiynau canlynol.
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol / Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau
Gofynnodd y Cynghorydd Joan Watkins:
DatgeloddCwestiwn ar Unrhyw Adeg diweddar ar broblem cost lleoliadau allan o’r ardal i blant yng Nghasnewydd fod y ffigwr yn awr yn £4,683,192. A fyddai’r Aelod Cabinet yn cytuno fod hwn yn swm enfawr sydd yn peri pryder difrifol? Deallaf fod plant yn cael eu lleoli mor bell â’r Alban, a bydd pellterau o’r fath yn cynyddu’r gost i’r awdurdod o ran amser a theithio i weithwyr cymdeithasol, etc. Hefyd, gall lleoli plentyn mor bell oddi wrth ei deulu a’i gyfeillion gael effaith andwyol ar y plentyn hwnnw. Pa fesurau sydd ar gael i ymdrin â’r pwnc hwn fel mater o frys?
Beth yw’r amserlen ar gyfer darparu’r ysgol arbennig ACEY a grybwyllwyd a pha fesurau eraill sydd ar gael i leihau’r gost hon trwy wneud y ddarpariaeth yng Nghasnewydd?
Atebodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol:
Mynegodd yr Aelod Cabinet syndod fod y cwestiwn hwn wedi ei gyflwyno pan fo manylion eisoes wedi eu rhannu yn nau gyfarfod diwethaf y pwyllgor craffu, yn y Fforwm Rhieni Corfforaethol ac yn y Cabinet; fodd bynnag, croesawyd y cwestiwn er mwyn cofnodi’r hyn oed dyn cael ei wneud i drin y broblem hon.
Cadarnhawyd fod y Gwasanaethau Plant yn cydnabod yr angen i gynnal ein plant mwyaf bregus yn agos i Gasnewydd a’u bod wedi neilltuo prosiect ‘buddsoddi i arbed’ er mwyn lleihau nifer y lleoliadau allsirol.
Mae gan y Gwasanaethau Plant ar hyn o bryd 10 gwely preswyl i blant yn Nh? Caergrawnt a Forest Lodge. Bu’r cartrefi hyn yn llawn am y rhan fwyaf o’r flwyddyn hon. Yn ychwanegol, mae cartref Oaklands yn cynnig gofal seibiant i blant ag anableddau, a bu hyn yn gefnogaeth i lawer o deuluoedd o ran gofalu am eu plant gartref, a lleihau derbyniadau posib i ofal yr awdurdod lleol.
Arhyn o bryd, y mae 27 o blant mewn lleoliadau preswyl allsirol. Gwnaed y rhan fwyaf o benderfyniadau am leoliadau trwy’r llysoedd ac y mae’n rhaid felly eu dilyn - ac y mae cynghorau ledled y wlad yn wynebu’r pwysau hyn.
O’r 27 plentyn a letyir yn allsirol:
• Bydd 4 yn cyrraedd 18 oed eleni ac felly yn symud ymlaen o ofal preswyl neu byddant yn trosglwyddo i wasanaeth oedolion. • Mae gan 5 anableddau ac wedi eu gosod mewn lleoliad preswyl arbenigol, o fewn pellter gyrru 20 munud o Gasnewydd.
Cytunwyd i neilltuo £1.5 miliwn i ddatblygu 3 o gartrefi plant newydd, fydd yn golygu cynnydd o 12 gwely.
Mae’rcartref cyntaf, Rose Cottage, i fod i agor ddiwedd eleni, a bydd yn caniatáu i 4 plentyn ddychwelyd i Gasnewydd.
Mae tîm y prosiect wedi nodi’r meini prawf delfrydol ar gyfer cartrefi, ac yn parhau i chwilio am ... view the full Cofnodion text for item 13. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau i Gadeiryddion Pwyllgorau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cwestiynau i Gadeiryddion Pwyllgorau.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion Pwyllgor Safonau PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.
|