Cofnodion

Cyngor - Dydd Mawrth, 11eg Medi, 2018 5.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eleanor Mulligan  Head of Democratic Services

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Rhagarweiniol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

i) Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Swyddog Monitro am absenoldeb.   

 

ii) Derbyn datganiadau o ddiddordeb

 

Datganodd y Cynghorydd Rahman fuddiant nad yw'n rhagfarnus yn eitem 5:   Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel yr enwebai arfaethedig ar gyfer y Pwyllgor.  

 

iii) Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer

 

Gwobr RSPCA

 

Arweiniodd y Maer y cyngor wrth longyfarch cydweithwyr a enillodd wobr yn y Gwobrau Ôl-troed Lles Anifeiliaid Cymunedol ar gyfer 2018, gan ennill y wobr aur yn y Categori C?n Strae.  Cynhelir  y cynllun gwobrwyo hwn gan RSPCA Cymru a chynghorau cydnabyddedig, cymdeithasau tai a sefydliadau sector cyhoeddus eraill sy'n mynd y tu hwnt i ofynion sylfaenol i sicrhau safonau lles uwch i anifeiliaid yn y gwasanaethau y maent yn eu darparu.  

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnwyd sylw at y cywiriad canlynol:  

 

- O dan eitem 12:   Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor  Darpariaeth y Brifysgol: "gyda chyfran fach o 20,000 o fyfyrwyr PDC bellach yn dod i Gasnewydd". 

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf fel cofnod cywir yn amodol ar y cywiriad uchod.    

 

 

3.

Ffilm "Anti Social Bob"

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwyliodd y cyngor y ffilm "Anti Social Bob" a gynhyrchwyd gan ein Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid. 

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r swyddogion am fod yn bresennol a dangos y ffilm, ac am eu gwaith caled parhaus yn y maes pwysig hwn.   

 

4.

Materion yr Heddlu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Arolygydd Richard Blakemore ddiweddariad ar flaenoriaethau plismona lleol cyfredol cyn gwahodd cwestiynau gan yr Aelodau. 

 

-        Wrth ymateb i ymholiadau am barcio, cadarnhaodd y Prif Arolygydd y byddai cydweithwyr yn ymateb i adroddiadau o barcio peryglus, ac y byddent yn cysylltu â thimau cymdogaeth i archwilio mannau a adroddwyd lle mae’r broblem ar ei gwaethaf.    

-        Cytunodd y Prif Arolygydd i ddarparu rhagor o wybodaeth am orfodi'r GDMC yng nghanol y ddinas. 

-        Nodwyd diolch am y camau a gymerwyd yn ddiweddar yn y wardiau, gan gynnwys ym Mharc Black Ash. 

-        Cytunodd y Prif Arolygydd i ddarparu rhagor o wybodaeth am achosion y ddamwain traffig ar y ffordd ddiweddar yng Nghaerllion. 

-        Cytunodd y Prif Arolygydd i drosglwyddo manylion y lladrata beddi a adroddwyd ym Mynwent Basaleg. 

-        Wrth ymateb i gwestiwn am fesurau cyni, adroddodd y Prif Arolygydd ar ymagwedd Heddlu Gwent ar amddiffyn model plismona'r gymdogaeth. 

-        Cytunodd y Prif Arolygydd i fynd ar drywydd pryderon a godwyd ynghylch  o Cyfarfodydd munud olaf wedi'u canslo o Lefelau traffig yn Nh?-du  o Costau galwadau 101 

o Dyraniadau swyddogion mewn wardiau penodol  

 

5.

Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd pdf icon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad yn gofyn i'r cyngor gymeradwyo'n ffurfiol sefydlu'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu (CTCh) ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (BDdPRC).   

 

Mae Cytundeb Gweithio ar y Cyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn nodi y bydd cynghorau'n cydweithio, yn unol â’r gyfraith, i greu cylch gorchwyl a chytuno arno ar gyfer Cydbwyllgor Archwilio a Chydbwyllgor Trosolwg a Chraffu, a sut y bydd yn cael ei adnoddau a'i ariannu.  

 

Mae'r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i bob un o'r 10 cyngor partner yn y fargen ddinesig, gan fanylu ar gylch gorchwyl drafft y CTCh, a gofyn i bob cyngor gymeradwyo sefydlu'r pwyllgor hwn yn ffurfiol ac enwebu ei gynrychiolydd.  

 

Wrth drafod yr adroddiad, holodd yr Aelodau am y broses enwebu ar gyfer y corff hwn ac a oedd gan yr enwebai y sgiliau priodol i gyflawni'r rôl hon.    Cadarnhawyd bod hyn wedi cael ei drafod yn flaenorol yn y Pwyllgor Craffu Perfformiad – Partneriaethau, ac ystyriwyd bod gan yr enwebai y sgiliau priodol i gyflawni'r rôl.   

 

 

 

yn unfrydol

 

1.               Cymeradwyo sefydlu Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CTCh BDdPRC) yn ffurfiol;  

 

2.               Cytuno bod yr ychwanegiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i gyfansoddiad y cyngor i ymgorffori CTCh BDdPRC a   

 

3.               I argymell bod Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad – Partneriaethau'n cael ei enwebu fel cynrychiolydd anweithredol y cyngor hwn ar CTCh BDdPRC.  

 

6.

Penodiadau pdf icon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo'r penodiadau canlynol:

 

Penodiadau Mewnol

 

Pwyllgor

Nifer o Swyddi Gwag / Olynyddion

Enwebiadau a gafwyd

Pwyllgor Craffu Perfformiad - Pobl 

1 newid 

Y Cynghorydd Ken Critchley i gymryd lle'r Cynghorydd Tracey Holyoake

Pwyllgor Cynllunio

1 newid  

Y Cynghorydd David Fouweather i gymryd lle'r Cynghorydd Ray Mogford  

 

Penodiadau i Sefydliadau Allanol

 

Sefydliad

Nifer o Swyddi Gwag / Olynyddion

Enwebiadau a gafwyd

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd 

Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu

 

1 swydd wag 

Y Cynghorydd Majid Rahman fel Cadeirydd y 

Pwyllgor Craffu Perfformiad - Partneriaethau

 

Penodiadau Cyrff Llywodraethu

 

Corff Llywodraethu

Nifer o Swyddi Gwag

/ Ailbenodiadau

Enwebiadau a gafwyd

Ysgol Uwchradd Llan-wern  

1 ailbenodiad

Y Cynghorydd Mark Spencer

Ysgol Sain Silian 

2 ailbenodiad

Y Cynghorydd Deb Davies a'r Cynghorydd Phil Hourahine 

Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair  

1 apwyntiad

Nicholas Clark

Ysgol Bryn Derw 

1 apwyntiad

Nathan Kethro

 

Hefyd i nodi'r llywodraethwyr ychwanegol canlynol a benodwyd gan y Prif Swyddog Addysg:   

 

-        Penodwyd Angela Lloyd i Ysgol Uwchradd Llanwern 

-        Penodwyd Anne Drewett ac Emma Johnson i Ysgol Gynradd Maesglas 

 

 

7.

Rheoli'r Trysorlys pdf icon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad rheoli'r trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18.   

 

Yn unol â'r Strategaeth Rheoli Trysorlys y cytunwyd arni, parhaodd y cyngor i fod yn fuddsoddwr arian parod byrdymor ac yn fenthyciwr i reoli llif arian parod o ddydd i ddydd.  Dangosodd rhagolygon cyfredol y byddai benthyca dros dro yn parhau i fod yn ofynnol ar gyfer ariannu gweithgareddau llif arian parod arferol o ddydd i ddydd yn y dyfodol. .   

  

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn gwerthwyd datblygiad Friars Walk yn llwyddiannus a oedd yn caniatáu benthyca, a wnaed mewn perthynas â'r benthyciad a ddarparwyd i  Queensberry Newport Ltd i gael ei ad-dalu.   Roedd yr holl fenthyca mewn perthynas â'r datblygiad hwn bellach wedi'i ad-dalu'n llawn, ac roedd hyn wedi golygu bod benthyca benthyciadau am y flwyddyn wedi gostwng o £209.2m i £147.5m yn ystod y flwyddyn. 

              

Roedd yr holl fenthyciadau a buddsoddiadau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn yn rhai disgwyliedig ac o fewn terfynau cytunedig y cyngor ar gyfer 2017/18.

 

Roedd yr adroddiad wedi mynd gerbron y Pwyllgor Archwilio a'r Cabinet i’w nodi ac i roi sylwadau i'r cyngor.  Roedd cofnodion o'r ddau gyfarfod ar gael a chymeradwywyd yr adroddiad yn y ddau gyfarfod i fynd gerbron y cyngor i'w gymeradwyo. 

 

Penderfynwyd   

 

yn unfrydol

 

1.               Nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Reoli'r Trysorlys ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2017/18.  

 

2.               Nodi a chymeradwyo bod Dangosyddion Darbodus 2017/18 ar gyfer Rheoli'r Trysorlys yn unol â'r rheini a osodwyd gan y cyngor ym mis Mawrth 2018. 

 

8.

Adroddiad Blynyddol ar y Gymraeg pdf icon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad yn gofyn i'r cyngor gymeradwyo adroddiad monitro blynyddol y Gymraeg ar gyfer 2017/18. 

 

Roedd yn ofynnol i'r cyngor adrodd yn flynyddol ar ei gynnydd o ran cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.   

 

Roedd yr adroddiad hwn yn ymdrin â'r ail flwyddyn o weithredu, yn dilyn gosod y rhan fwyaf o Safonau'r Gymraeg ym mis Mawrth 2016.    Mae'r adroddiad a dderbyniwyd yn flaenorol gan y Cabinet yn rhoi trosolwg o gynnydd y cyngor o ran bodloni Safonau'r Gymraeg.  

 

Codwyd y pwyntiau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad hwn:

 

-        Pryderon am wariant ar Safonau'r Gymraeg yn sgîl pwysau cyllidebol eraill. 

-        Ymholiadau ynghylch cyhoeddi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. 

-        Pryderon y gallai cyfathrebu dwyieithog fod yn ddryslyd.

-        Cadarnhad bod Safonau'r Gymraeg yn ofynion cyfreithiol y bu'n rhaid i'r cyngor gydymffurfio â hwy.

 

 

 

yn unfrydol

 

Cymeradwyo'r adroddiad monitro terfynol atodedig a'i gyhoeddi ar wefan y cyngor, yn unol â therfynau amser statudol.   

 

9.

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol pdf icon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017-18 ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.     

 

O dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010), roedd yn ofynnol i'r cyngor adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaeth yn erbyn y naw Amcan Cydraddoldeb Strategol a gynhwysir yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol.   Roedd y Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol i gyhoeddi data cydraddoldeb staff, sydd yn yr adroddiad hwn hefyd. 

 

 

Penderfynwyd   

 

yn unfrydol

 

Cymeradwyo'r adroddiad blynyddol atodedig a'i gyhoeddi ar wefan y cyngor, yn unol â therfynau amser statudol.   

 

10.

Adroddiad Blynyddol y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf icon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad – Partneriaethau Adroddiad Blynyddol y Cydnwyllgor Trosolwg a Chraffu i'r cyngor, fel sy'n ofynnol gan gyfansoddiad y cyngor.   Yn ogystal â darparu sylwebaeth ar weithgarwch craffu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, strwythurwyd yr adroddiad i adolygu perfformiad ar y targedau a osodwyd fis Medi diwethaf, a chytuno ar y blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf a fyddai'n cael eu defnyddio fel sail ar gyfer yr adolygiad perfformiad y flwyddyn nesaf.   

 

Wrth drafod yr adroddiad, dywedwyd bod craffu wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  

 

Penderfynwyd   

 

yn unfrydol

 

Cytuno ar gynnwys yr adroddiad blynyddol fel sail i waith y Pwyllgorau Craffu yn y flwyddyn i ddod.    

 

11.

Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i’r cyngor.   Roedd hyn yn ofyniad gan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys adroddiad blynyddol y Pwyllgor, yn ogystal ag adroddiad blynyddol Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar ddigonolrwydd staff i gefnogi Aelodau. Ystyriwyd y ddau adroddiad gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac fe’u cymeradwywyd yn ei gyfarfod ar 24 Mai 2018.  

 

Penderfynwyd   

 

yn unfrydol

 

Derbyn adroddiad blynyddol y Pwyllgor i'r cyngor er mwyn bodloni gofynion y Mesur Llywodraeth Leol.    

 

Nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, fel tystiolaeth ategol fod y Pwyllgor wedi cyflawni ei gyfrifoldeb i adolygu digonolrwydd staff i gefnogi Aelodau.  

 

12.

Protocol y Faeryddiaeth pdf icon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gynigion i ddiwygio'r protocol ar gyfer gohirio enwebiadau i'r faeryddiaeth, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.   

 

Ym mis Chwefror 2017, adolygodd ac argymhellodd y Pwyllgor brotocol newydd i reoli gohirio enwebiadau ar gyfer swyddfa'r Maer.    Cafodd y protocol hwn ei roi ar waith gyntaf yng nghyfarfod y cyngor ym mis Ionawr 2018, pan ofynnwyd i'r protocol gael ei gyfeirio'n ôl at y Pwyllgor i'w ystyried ymhellach.   Cynhaliwyd yr adolygiad pellach hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mai 2018 pan gytunwyd i argymell protocol diwygiedig i'r cyngor.   

 

Penderfynwyd   

 

yn unfrydol

 

Cytuno ar y protocol diwygiedig ar gyfer gohirio enwebiadau maerol. 

 

13.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddiadau’r Arweinydd  

 

Mewn ymateb i'r cwestiwn cyntaf gan y Maer, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol:  

 

-        Llwyddiant y llwyfan Taith Prydain diweddar a ymwelodd â'r ddinas, a dadorchuddio Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a ailenwwyd yn ddiweddar. 

-        Presenoldeb y Maer yn seremoni gloi Gemau Trawsblannu Prydain yn Birmingham, cyn i Gasnewydd gynnal y digwyddiad y flwyddyn nesaf.    

-        Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion am ganlyniadau arholiadau a chofnodion presenoldeb ysgol rhagorol. 

-        Penodi Cadeirydd newydd Comisiwn Tegwch Casnewydd, Dr Gideon Calder. 

 

Ffïoedd Parcio ym Mharc Belle Vue 

 

Cododd y Cynghorydd Matthew Evans bryderon am effaith cyflwyno ffïoedd parcio ym Mharc Belle Vue, gan ofyn sut roedd hyn yn gysylltiedig ag amcanion lles y cyngor.

 

Ymatebodd yr Arweinydd drwy amlinellu'r sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu'r cyngor, lle bu'n rhaid edrych ar bob agwedd ar wariant i fodloni'r diffyg cyllid, a bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd i gydbwyso'r llyfrau.     

 

Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Evans am gysylltiadau â'r amcanion lles, cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr amcanion lles wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ond ailadroddodd yr her a wynebwyd wrth bennu cyllideb gytbwys, ac na wnaed y penderfyniadau hyn yn ysgafn.     

 

Morglawdd Brynbuga 

 

Mewn ymateb i gais y Cynghorydd Evans i adfywio cynigion Morglawdd Brynbuga, cytunodd yr Arweinydd i fynd ar drywydd yr awgrym i ystyried y syniad hwn ymhellach yng ngoleuni'r technolegau newydd sydd ar gael.    

 

Glanhau’n Drylwyr:

 

Canmolodd y Cynghorydd Townsend effaith gadarnhaol y glanhau trylwyr a wnaed wrth baratoi ar gyfer Taith Prydain a Marathon Casnewydd.     Cytunodd yr Arweinydd i ystyried yr awgrym i ymestyn hyn i ardaloedd siopa ardal, gan nodi'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael hefyd.     

 

Cynnydd Gorfodi Parcio Sifil  

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Hughes am gynnydd gorfodi parcio sifil, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y cais drafft wedi'i gymeradwyo, ac roedd Gwasanaethau Dinas yn barod i gyflwyno hyn i Lywodraeth Cymru.    Cadarnhawyd y byddai cefnogaeth y swyddfa gefn yn cael ei ddarparu ar ôl troed rhanbarthol a bod y trefniadau hynny'n mynd rhagddynt yn dda.    Cynlluniwyd i'r gwaith gael ei gwblhau yn hydref 2019 fan bellaf.

 

Tâl Tagfeydd  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather am sicrwydd nad oedd cynlluniau ar waith i gyflwyno tâl tagfeydd yng Nghasnewydd ar gyfer tymor llawn y cyngor hwn, ac i gyflwyno tâl os oedd hyn yn ymrwymiad clir yn y maniffesto yn unig.   Amlinellodd cwestiwn atodol y Cynghorydd Fouweather y pryderon ynghylch cyflwyno tâl o'r fath.    Ymatebodd yr Arweinydd i'r ddau gwestiwn na fyddai'n cael ei dylanwadu gan yr wrthblaid i bendefynnu un ffordd neu’r llall. 

 

 

14.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau i Aelodau’r Cabinet.   

 

15.

Cwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau.