Cofnodion

Cyngor - Dydd Mawrth, 27ain Tachwedd, 2018 5.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eleanor Mulligan  Head of Democratic Services

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Rhagarweiniol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

i)                 Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Adroddodd y Swyddog Monitro ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

ii)               Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.

 

iii)             Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer

Mike Nicholson

Talodd y Maer deyrnged i gyn Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Mr Mike Nicholson, ar achlysur trist ei farwolaeth y mis hwn. 

Gerald Davies

Adroddodd y Maer hefyd am farwolaeth drist y g?r busnes lleol a chyn Gynghorydd Stow Hill, Gerald Davies.

 

Cymerodd yr aelodau ran mewn munud o dawelwch fel arwydd o barch tuag at Mike a Gerald, a'r cyfraniadau mawr a wnaethant at fywyd y ddinas hon. 

Digwyddiadau Coffa

Roedd nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal yn gynharach y mis hwn i nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad, gan ddechrau gydag agoriad yr Ardd Goffa ar 5 Tachwedd, a gorffen gyda Gwasanaeth Coffa’r Llynges Fasnachol ar 17 Tachwedd. 

Medalau'r Ymerodraeth Brydeinig

Llongyfarchodd y Maer Trevor Palmer a Martin Perry, trigolion lleol fu'n bresennol mewn seremonïau yn y Ganolfan Ddinesig y mis diwethaf i dderbyn Medalau'r Ymerodraeth Brydeinig gan yr Arglwydd Raglaw.

Digwyddiadau Elusennol

Diolchodd y Maer i bawb am eu cefnogaeth hael tuag at ddau ddigwyddiad llwyddiannus a gynhaliwyd er budd ei elusennau yn y mis diwethaf. 

 

Gwellhad Buan

Dymunodd y Maer yn dda i'r Cynghorydd Jenkins ar ôl ei llawdriniaeth yr wythnos hon.

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2018 yn gywir. 

 

3.

Penderfynu ynghylch Penodiadau pdf icon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo’r enwebiadau canlynol:

Penodiadau Mewnol

Pwyllgor

Nifer y Seddau Gwag /

Newidiadau

Enwebiadau a Gafwyd

Pwyllgor Trwyddedu

2 newid

Cyng Tom Suller i gymryd lle'r Cyng Margaret Cornelious

Cyng Yvonne Forsey i gymryd lle'r Cyng

Tracey Holyoake

Pwyllgor Craffu

Perfformiad – Lle a

Materion Corfforaethol

1 newid

Cyng William J Routley i gymryd lle'r Cyng Margaret Cornelious

Panel Ymddiriedolaethau Elusennol

2 newid

Cyng William J Routley i gymryd lle'r Cyng Margaret Cornelious

Cyng Mark Spencer i gymryd lle Emma Garland

Pwyllgor Cynllunio

1 newid

Cyng Tracey Holyoake i gymryd lle'r Cyng Christine Jenkins

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

1 newid

CyngHerbie Thomas i gymryd lle'r Cyng Ibrahim Hayat

Penodiadau i Sefydliadau Allanol

Sefydliad

Nifer y Seddau Gwag /

Newidiadau

Enwebiadau a Gafwyd

dim

 

 

Penodiadau i Gyrff Llywodraethol

Corff Llywodraethol

Nifer y Seddau Gwag / Ailbenodiadau

Enwebiadau a Gafwyd

Ysgol Gynradd Glasllwch          

1 ailbenodiad

Ruth Jones        

Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff 

1 ailbenodiad

Rod McDonald

Glan Wysg                            

1 penodiad

Kathryn Dyer

Ysgol Uwchradd Llyswyry        

2 benodiad

Kevin Yeats

Zach Evans

Ysgol Gynradd Maendy

1 penodiad

Gareth Arnold 

Ysgol Gynradd T?-du

1 penodiad

Sarah Knight

Ysgol Sain Silian

1 penodiad

Tracy McKim

Ysgol Gynradd Parc Tredegar

2 benodiad

Red Cottam

JeanneHugo

Ysgol Gynradd Somerton

1 penodiad

Ben Adams

 

4.

Materion yr Heddlu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Prif Arolygydd Richard Blakemore yn bresennol i ateb cwestiynau gan yr Aelodau:

 

-        Mewn perthynas â gorfodaeth parcio, gofynnodd y Cynghorydd Matthew Evans am gadarnhad ynghylch ymagwedd yr Heddlu hyd at drosglwyddo cyfrifoldebau i'r Cyngor, yn dilyn llythyr a anfonwyd gan y Prif Gwnstabl fis Ebrill yn nodi y byddai'r gefnogaeth yn cael ei thynnu'n ôl o fis Rhagfyr 2018.  oDywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi siarad wedyn â’r Prif Gwnstabl a oedd wedi rhoi sicrwydd ar lafar ei fod yn barod i ymestyn y terfyn amser hwn hyd at 30 Mehefin, yn barod i drosglwyddo cyfrifoldebau ar 1 Gorffennaf 2019.  Disgwylir cadarnhad ffurfiol o hyn yn fuan.

-        Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Truman ynghylch materion gorfodi parcio yn Alway, cytunodd y Prif Arolygydd Blakemore i godi hyn gyda'r tîm plismona lleol.

-        Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Holyoake ynghylch rhai a oedd yn hel puteiniaid o gerbydau ac yn delio cyffuriau, cadarnhaodd y Prif Arolygydd Blakemore y strategaeth a oedd ar waith i dargedu'r problemau hyn ym Mhillgwenlli, a'r ymdrechion rhagweithiol y tu ôl i'r llenni yn gysylltiedig â hyn gan y timau ar lawr gwlad.

-        Cododd y Cynghorydd Rahman bryderon am barcio ar hyd Rodney Road, a phroblemau neilltuol o amgylch yr ardal honno ar ddiwrnodiau gêm a digwyddiadau. Esboniodd y Prif Arolygydd Blakemore yr ymagwedd at ddiwrnodiau gêm, a chytuno i dynnu sylw'r arolygydd lleol at y problemau hyn.

-        Cytunodd y Prif Arolygydd Blakemore i roi diweddariad i'r Cynghorydd Lacey yn gysylltiedig ag achosion o losgi bwriadol yn ward Ringland.

-        Cytunodd y Prif Arolygydd Blakemore i roi diweddariad i'r Cynghorydd Joan Watkins ynghylch y trefniadau gwylio a oedd wedi'u cynllunio ar y bont i Gaerllion.

-        Cytunodd y Prif Arolygydd Blakemore i fynegi pryderon y Cynghorydd Suller ynghylch cerbydau a oedd yn rasio ar hyd yr A48 o amgylch ward Maerun.

-        Gofynnodd y Cynghorydd Cleverly am fwy o bresenoldeb gan yr heddlu ym Metws yn gysylltiedig â nifer o broblemau, a chytunodd y Prif Arolygydd Blakemore i drosglwyddo'r cais a'r materion a godwyd.   

-        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mogford, esboniodd y Prif Arolygydd Blakemore yr ymagwedd ac effaith gwaith yn y ddinas a thu hwnt i fynd i'r afael ag achosion o ddelio cyffuriau. 

-        Gofynnodd y Cynghorwyr Hourahine, Spencer a Joan Watkins am gael cyfleu eu diolch i'r Arolygydd Cawley am y gefnogaeth a roddir yn eu wardiau. 

-        Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Marshall, amlinellodd y Prif Arolygydd Blakemore beth o'r gwaith y mae Heddlu Gwent yn ei gyflawni ym maes iechyd meddwl a phlismona, sy'n flaenllaw yn y sector.

-        Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Spencer am feiciau oddi ar y ffordd yn y Glebelands, cadarnhaodd y Prif Arolygydd Blakemore y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn, ac annog adroddiadau parhaus drwy 101 fel bo modd i'r heddlu fonitro a  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, gan egluro bod y ddogfen hon yn ofyniad statudol yr oedd ei chwmpas a'i chynnwys wedi'i diffinio yn Safonau Ansawdd cenedlaethol y gwasanaethau cymdeithasol.  Diben yr adroddiad oedd rhoi safbwynt gwrthrychol ynghylch darpariaeth a chynnydd y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc, a'r Gwasanaeth Oedolion a'r Gymuned, a'r heriau yr oeddent wedi'u hwynebu. 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Craffu Perfformiad - Pobl a'r Cabinet. Dangosai'r adroddiad y gweithgarwch a'r cynnydd a wnaed yn 2017/18, a bwriadwyd iddo fod yn gryno ac yn hygyrch. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at nifer o lwyddiannau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys:

        Y gyfres o adroddiadau arolygu da gan Gofal yng Nghymru a nodwyd yn yr Adroddiad

        Bod y ffigurau perfformiad naill ai wedi'u cynnal neu eu gwella ar y cyfan

        Agor T? Eirlys mewn partneriaeth â Pobl a’r cydweithio â’r trydydd sector, y Bwrdd Iechyd ac Awdurdodau Lleol Gwent yn gyffredinol. Gweithio mewn partneriaeth ar ddarpariaeth diogelu.

Fodd bynnag, ni allai grisialu graddfa ac ymdrechion y staff i wella bywydau'r holl bobl y mae'r Cyngor yn eu cefnogi drwy ei wasanaethau cymdeithasol bob awr o'r dydd.  Talodd yr Aelod Cabinet deyrnged i waith yr holl staff wrth gyfrannu at y gwasanaethau hyn, gan ddweud y dylai'r Cyngor fod yn falch iawn ohonynt.

Gwnaed y sylwadau a ganlyn am yr adroddiad:

-        Diolchwyd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol am roi sylw i'r trafodaethau a'r sylwadau manwl a gafwyd gan y Pwyllgor Craffu ar ôl ystyried yr adroddiad.

-        Pryderon bod yr adroddiad yn dal heb gynnwys data cymharol o'r blynyddoedd cynt a chan awdurdodau tebyg, gan gynnwys salwch staff a chyfiawnder ieuenctid. 

-        A ellid rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i'r mentrau a nodir yn yr adroddiad i hysbysebu eu gwaith ac annog gwahanol asiantaethau gwirfoddol i gydweithio ar draws ffiniau. 

-        Mynegwyd pryderon ynghylch sefyllfa'r gwasanaethau a ddarparwyd yn flaenorol drwy SEWREC.  Adroddodd y Cyfarwyddwr y camau a oedd yn cael eu cymryd mewn ymateb i hyn, gan gysylltu â chymorth arall a ddarperir gan y Cyngor.

-        Awgrymodd yr Aelod Cabinet y gellid trefnu seminar i amlinellu gwaith gwasanaeth Dewis ar raddfa Cymru gyfan.

Gorffennodd Arweinydd y Cyngor drwy gymeradwyo'r adroddiad a'r fformat diwygiedig eleni, gyda'r bwriad o wella hygyrchedd a chyrhaeddiad y ddogfen.  Nodwyd y sylwadau a wnaed a byddent yn cael eu hystyried. 

Penderfynwyd yn unfrydol

Derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2017/18.

 

6.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Herbie Thomas yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor, ar gyfer Tachwedd 2017 i Dachwedd 2018.  Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor yn ystod y 12 mis diwethaf, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd wedi cyfarfod bedair gwaith.   

 

Eleni eto, ni chafwyd unrhyw ganfyddiadau ffurfiol o gamymddwyn dros y 12 mis diwethaf.  Cyfeiriwyd tair cwyn i sylw'r Ombwdsmon am Gynghorwyr y ddinas yn 2017-18, ond ni wnaeth yr un o'r rhain ysgogi ymchwiliad pellach.  Yn yr un modd, cyfeiriwyd tair cwyn i sylw'r Ombwdsmon ynghylch cynghorwyr cymuned, ond ni chynhaliwyd unrhyw ymchwiliad pellach i'r un ohonynt.  Ni chyfeiriwyd unrhyw gwynion ffurfiol i sylw'r Pwyllgor Safonau o dan y Protocol Datrys yn Lleol.

 

Yn olaf, roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod 47 o bob 50 o gynghorwyr dinas bellach wedi mynd i'r hyfforddiant ar y cod ymddygiad.

 

Penderfynwyd yn unfrydol

 

Derbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2017/18 a nodi'r flaenraglen waith.

 

7.

Gostyngiadau i'r Dreth Gyngor - Eiddo Gwag Hirdymor pdf icon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad, yn gofyn i’r Cyngor ddod â’r gostyngiad dewisol i'r dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor i ben, gyda'r bwriad o annog perchnogion yr eiddo i'w defnyddio o'r newydd, a helpu i fynd i'r afael â'r prinder tai.

 

Ar hyn o bryd, roedd perchnogion yn cael gostyngiad dewisol o 50% i'r Dreth Gyngor pan nad oedd eu heiddo'n esempt mwyach.  Dim ond llond llaw o awdurdodau lleol Cymru sy'n dal i roi'r gostyngiad hwn i berchnogion, ac roedd Casnewydd yn un ohonynt. 

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Adfywio a Thai wybodaeth bellach am yr amrywiaeth eang o effeithiau negyddol a achosir gan eiddo gwag.  Mae ychydig dros 1,000 o gartrefi gwag hirdymor yn y ddinas, a'r gobaith oedd y byddai'r cynnig i gael gwared â'r gyfradd ostyngol o gymorth i ddychwelyd mwy o'r cartrefi hyn i'r farchnad dai, ac y byddai hefyd yn creu adnoddau ychwanegol i fel bo modd rhoi mwy o gymorth i fynd i'r afael â chartrefi gwag.

 

Gwnaed y sylwadau canlynol:

-        Cefnogwyd yr adroddiad.

-        Dywedwyd bod angen gweithredu mwy i gael mwy o eiddo yn ôl i'r farchnad dai. 

-        Roedd angen rhoi mwy o bwysau hefyd ar Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a oedd yn cadw eiddo'n wag.

-        Yr angen i ymestyn camau gweithredu i fynd i’r afael ag eiddo masnachol gwag hefyd.

Penderfynwyd

Bod y Cyngor yn cymeradwyo newid i'r polisi a'r dull gweithredu a fydd o gymorth i ddefnyddio cartrefi gwag hirdymor o'r newydd yn y ddinas drwy:

 

1.               Benderfynu dirwyn y polisi cyfredol o roi 50% o ostyngiad i'r Dreth Gyngor ar gartrefi gwag hirdymor i ben o 1 Ebrill 2019, a chodi'r gyfradd lawn o'r dyddiad hwnnw. 

2.               Buddsoddi cyfran o'r cynnydd a ragwelir i'r Dreth Gyngor i gynhyrchu nifer fach o swyddi a thalu costau eraill o fewn y timau tai, cyfreithiol a refeniw, fel bo modd rhoi cefnogaeth a rhwydweithio mewn modd mwy cydgysylltiedig â chadarn â pherchnogion cartrefi gwag hirdymor, i ddefnyddio'r cartrefi hynny o'r newydd.

 

8.

Mân Drafodion Eiddo pdf icon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a oedd yn cynnig y dylid newid y cynllun dirprwyo yn gysylltiedig â mân drafodion eiddo. 

 

Ar hyn o bryd, roedd yn rhaid i'r Aelod Cabinet dynodedig wneud pob penderfyniad ynghylch caffael a gwaredu eiddo ymlaen llaw. Gallai hyn olygu oedi cyn mynd i'r afael â materion cymharol fach, a golygu bod rheolwyr ac aelodau'n treulio amser sylweddol yn prosesu'r trafodion hynny.  Yn flaenorol, roedd y Cyngor wedi mabwysiadu polisi i reoli mân faterion trwy weithdrefn symlach, a oedd wedi'i dirprwyo i Brif Swyddogion.  Roedd yr adroddiad hwn yn cynnig ailgyflwyno'r system honno.

 

Cafodd y mater hwn ei drafod gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn gynharach yn y mis, a gofynnwyd am gael cyflwyno rhai newidiadau i'r polisi i gadarnhau gwerth y trafodion a oedd wedi'u cynnwys ynddo, a hefyd i amlygu pwysigrwydd ymgynghori â'r aelodau.  Roedd y diwygiadau hyn bellach wedi'u gwneud felly argymhellwyd y dylid cymeradwyo'r adroddiad.  

 

Gwnaed y sylwadau canlynol:

-                    Gofynnwyd am gadarnhad ynghylch pwysoliad y meini prawf amrywiol a restrwyd yn yr adroddiad.

-                    Eglurhad y dylai paragraff 5 fod yn Cabinet ac Aelodau Ward, nid Cabinet neu Aelodau Ward.  Byddai'r adroddiad yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu hyn. 

Penderfynwyd

Mabwysiadu'r polisi ar gyfer Mân Drafodion Eiddo a nodwyd yn yr adroddiad.  Byddai hyn yn cyflymu ac yn symleiddio mân drafodion eiddo ac yn lleihau costau rheoli. 

 

9.

Polisi'r Ddeddf Gamblo pdf icon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Truman yr adroddiad a ofynnai am gael cymeradwyo a mabwysiadu Datganiad o Egwyddorion diwygiedig y Cyngor ynghylch Deddf Gamblo 2005.

 

Roedd y Cyngor yn gyfrifol am roi trwyddedau mangre o dan Ddeddf Gamblo 2005 - er enghraifft mewn perthynas â neuaddau bingo, bwcis, canolfannau - lle cynigiwyd y dylai gamblo ddigwydd. O dan y ddeddfwriaeth, roedd yn rhaid i'r Cyngor baratoi a chyhoeddi Datganiad o Egwyddorion ar gyfer pob cyfnod olynol o dair blynedd, yn amlinellu'r egwyddorion y byddai'r Cyngor yn eu cymhwyso wrth arfer ei swyddogaethau trwyddedu. Mabwysiadwyd y Datganiad o Egwyddorion presennol gan y Cyngor ar 14 Ionawr 2016 felly roedd angen i'r Cyngor adolygu'r polisi cyn mis Ionawr 2019.

 

Roedd y Datganiad diwygiedig arfaethedig wedi'i baratoi yn unol â'r Rheoliadau a'r Canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Gamblo ac wedi bod yn destun ymgynghori helaeth.  Gan na fu unrhyw newidiadau i Ddeddf Gamblo 2005 yn y 3 blynedd diwethaf, roedd y rhan fwyaf o gynnwys y Polisi yn parhau heb ei newid. 

 

Nid oedd y newidiadau a gynigiwyd ond yn adlewyrchu diwygiadau a wnaed i Ganllawiau/Cod Ymarfer y Comisiwn Gamblo.  Roedd hyn yn cynnwys rhoi arweiniad clir ar yr hyn yr oedd y Cyngor yn disgwyl i ymgeiswyr newydd a deiliaid trwydded cyfredol ei gynnwys yn eu hasesiadau risg lleol.

 

Roedd yr asesiadau risg hyn yn rhoi tystiolaeth i'r Cyngor ynghylch sut roedd eiddo trwyddedig yn mynd i hyrwyddo'r 3 amcan trwyddedu:

        Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell i drosedd neu anhrefn, rhag bod yn gysylltiedig â throsedd neu anhrefn, neu rhag cael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu.

        Sicrhau bod gamblo yn cael ei gynnal mewn ffordd deg ac agored.

        Amddiffyn plant a phobl eraill sy'n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio drwy gamblo.

Roedd y polisi newydd felly'n ei gwneud hi'n ofynnol i ddeiliaid trwydded Eiddo ystyried amrywiaeth o ffactorau risg perthnasol; roedd y rhain yn cynnwys lefelau amddifadedd neu droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn asesiadau risg lleol i gefnogi cymunedau a gwella'r ardaloedd y maent yn byw ynddynt; a chydnabod natur amrywiol ardaloedd, a sicrhau y darperir gwybodaeth briodol a chyfrifol am gamblo. 

 

Amlygwyd y pwyntiau canlynol:

-        Cefnogaeth i dynhau'r rheoliadau hyn, yn enwedig yn gysylltiedig â pheiriannau betio ods sefydlog.

-        Rôl llywodraeth genedlaethol wrth osod y rheoliadau, a weithredir wedyn gan awdurdodau lleol.

-        Y problemau sy’n gysylltiedig â chaethiwed i gamblo, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar ddynion rhwng 18-40 oed, a’r angen am gymorth ar gyfer y problemau hyn a’u heffaith yn y gymuned.

Ymatebodd yr Aelod Cabinet, gan amlinellu mewnbwn y Bwrdd Iechyd a GamCare i'r asesiadau risg cryfach, gan adlewyrchu eu hadborth a'u pryderon.

Penderfynwyd

Bod y Cyngor yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu Datganiad o Egwyddorion diwygiedig 2019 o dan Ddeddf Gamblo 2005.

 

10.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

 

Mewn ymateb i gwestiwn cyntaf y Maer, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau a ganlyn:

-        Llwyddiant ac effaith digwyddiadau diweddar a gynhaliwyd yn y ddinas, sefo G?yl Bwyd a Diod Tiny Rebel Casnewydd ym mis Hydref

oCynhadledd Democratiaeth Yfory a gynhaliwyd yn Theatr Glan yr Afon ar 5 Tachwedd

-        Cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Casnewydd

-        Lansiad llwyddiannus digwyddiadau Nadolig y ddinas a phwysigrwydd prynu’n lleol i gefnogi manwerthwyr annibynnol Casnewydd.

-        Gwaith partneriaeth rhwng safonau masnach ac elusen leol i ailddosbarthu nwyddau ffug i rai mewn angen.

-        Roedd yn anrhydedd i'r Arweinydd gael cais i ddod yn gymrawd o'r RSA. 

Marchnad Casnewydd

 

Gofynnodd y Cynghorydd Matthew Evans am ddiweddariad ar y cynigion datblygu ar gyfer Marchnad Casnewydd, a phryd y byddai cynnydd yn cael ei adrodd i'r Cabinet.    Ymatebodd yr Arweinydd drwy ddweud bod gwaith diwydrwydd dyladwy yn dal i fynd rhagddo, ac ar ôl ei gwblhau, byddai'n symud ymlaen i'r cam datblygu nesaf, gan gynnwys adroddiadau. 

 

Holodd y Cynghorydd Evans faint o amser y byddai’r gwaith diwydrwydd dyladwy yn ei gymryd, gan amlygu’r pwysau ar fasnachwyr yr adeg hon o’r flwyddyn, a gofynnodd am ddiweddariad cyn y Nadolig.  Amlygodd yr Arweinydd y trefniadau presennol i gysylltu â'r masnachwyr, a chytuno i roi ymateb i'r Cynghorydd Evans ynghylch manylion y ffrâm amser. 

Enwebiad Gwobr Ysbryd Casnewydd

 

Tynnodd y Cynghorydd Chris Evans sylw at y ffaith bod y  degfed Diwrnod Aids y Byd ar hugain yn cael ei gynnal ar 1 Rhagfyr 2018, ac awgrymodd y dylai Martin Butler, un o sylfaenwyr Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, gael ei enwebu i dderbyn Gwobr Ysbryd Casnewydd.  Atebodd yr Arweinydd drwy ddweud bod yr achos hwn hefyd yn bwysig iawn iddi hi, ac y byddai'n mynd ar drywydd yr enwebiad a gynigiwyd.   

Cylchfan Old Green

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carmel Townsend am ddiweddariad ynghylch yr astudiaeth a oedd yn ystyried gwelliannau i Gylchfan Old Green. Cytunodd yr Arweinydd i fynd ar drywydd hyn a rhoi ateb llawn a didwyll y tu allan i'r cyfarfod. 

Adroddiad Archwilio Mesurau Llymder Unsain

 

Gofynnodd y Cynghorydd James Clarke am farn yr Arweinydd ynghylch yr adroddiad hwn.  Ymatebodd yr Arweinydd, gan amlygu effaith mesurau llymder ar Gynghorau, yn enwedig yng Nghymru, a'r setliad anodd iawn o'u blaenau eleni.  Pwysleisiodd yr Arweinydd y toriadau sylweddol a wnaed i wasanaethau, ac effaith anghymesur mesurau llymder ar awdurdodau lleol.  I gloi, tynnodd yr Arweinydd sylw at y trafodaethau parhaus â Llywodraeth Cymru  ynghylch y setliad terfynol i Gynghorau eleni. 

 

11.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau i Aelodau’r Cabinet. 

 

12.

Cwestiynau i Gadeiryddion Pwyllgorau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau.

 

13.

Cofnodion Pwyllgor Safonau (Drafft) pdf icon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.