Cofnodion

Cyngor - Dydd Mawrth, 29ain Ionawr, 2019 5.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Elizabeth Blayney  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Rhagarweiniol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

i)       Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Adroddodd y Swyddog Monitro ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

ii)     Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.

 

iii)   Derbyn unrhyw gyhoeddiadau am y Maer

Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

 

Arweiniodd y Maer y Cyngor i longyfarch y rhai oedd wedi derbyn Anrhydedd ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd:

        Y wraig fusnes leol, Liz Maher OBE, am ei gwasanaeth er budd amrywiaeth a datblygu economaidd.

        Darius Williams OBE, sylfaenydd Ballet Cymru, am ei wasanaeth er budd bale a'r gymuned;

        Geraint Thomas OBE, am ei wasanaeth i fyd beicio.

        David Gareth Watts MBE, am ei wasanaeth er budd yr economi, elusennau a gwasanaethau iechyd meddwl;

        Peter Richards a dderbyniodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i'r Gymuned;

        Yr Arolygydd Amanda Williams o Heddlu Gwent, a dderbyniodd Fedal Plismona’r Frenhines;

Cofeb yr Holocost

 

Diolchodd y Maer i’r rhai a gefnogodd Wasanaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw ar 28 Ionawr 2019, lle cafodd y rhai a fu farw neu yr effeithiwyd arnynt yn sgil yr hil-laddiad eu cofio.

Gemau Trawsblannu Prydain

 

Roedd y Maer wedi cymryd rhan yn lansiad seremoni oleuo Gemau Trawsblannu Prydain, a byddai'r digwyddiad ei hun yn cael ei gynnal gan y Ddinas ym mis Gorffennaf.

Sir Casnewydd

 

Llongyfarchodd y Maer Sir Casnewydd ar ganlyniad dydd Sadwrn, a dymuno lwc dda i'r tîm ar gyfer eu gêm nesaf ddydd Mawrth.

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2018 yn gywir.

 

3.

Penodiadau pdf icon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Harvey yr adroddiad a rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor ynghylch newidiadau arfaethedig o ran penodi i Bwyllgorau.

 

Penderfynwyd

Penderfynwyd yn unfrydol y dylid cymeradwyo'r enwebiadau canlynol:

Penodiadau Mewnol

Pwyllgor

Nifer y Seddau Gwag /

Newidiadau

Enwebiadau a Gafwyd

Pwyllgor Craffu Perfformiad - Pobl

1 newid

Cyng John Richards i gymryd lle'r Cyng John Guy

Pwyllgor Craffu Perfformiad - Pobl

1 newid

Y Cyng Stephen Marshall i gymryd lle'r Cyng Kate Thomas

Pwyllgor Craffu Perfformiad - Pobl

(Aelod Cyfetholedig yr Eglwys yng Nghymru)

1 newid

Dr Annette Daly i gymryd lle Rebecca Penn fel Aelod Cyfetholedig yr Eglwys yng Nghymru.

Eiriolwr Gofalwyr

1 newid

Cyng Jason Hughes i gymryd lle'r Cyng Holyoake

Penodiadau i Sefydliadau Allanol

Sefydliadau

Nifer y Seddau Gwag /

Newidiadau

Enwebiadau a Gafwyd

Cyngor Iechyd Cymuned

1 newid

Y Cyng Graham Berry i gymryd lle'r Cyng John Guy

PATROL (Rheoliadau Parcio a Thraffig

y tu allan i

Lundain)

1 sedd wag

Cyng Ray Truman, fel yr

Aelod Cabinet dros

Drwyddedu a Rheoleiddio

Penodiadau Cyrff Llywodraethol

Corff Llywodraethol

Nifer y Seddau Gwag /

Enwebiadau a Gafwyd

 

Newidiadau

 

Ysgol Gynradd Pillgwenlli

1 sedd wag

Katie Somersfield

High Cross

1 sedd wag

Cynghorydd Chris Evans

Ysgol Gynradd Llyswyry

1 sedd wag

Zac Evans a Trevor Easton

Ysgol Gynradd Milton

1 sedd wag

Ann Culverwell

 

4.

Materion yr Heddlu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwcharolygydd Ian Roberts ddiweddariad i’r Cyngor ar faterion cyfredol yr heddlu ac ateb y cwestiynau canlynol gan yr Aelodau:

 

-              Tynnodd y Cynghorydd Ray Truman sylw at nifer o wrthdrawiadau ffordd difrifol a gafwyd o amgylch Cyffordd Beechwood Road, ac ar Heol Cas Gwent, a gofynnodd am sicrwydd y byddai camau gorfodi'n cael eu cymryd yn erbyn rhai a oedd yn parcio'n anghyfreithlon yn yr ardal hon.  Hysbyswyd y Cyngor fod yr heddlu yn gwybod am y problemau parcio yn yr ardal hon, a bod swyddogion yn cymryd camau gorfodi yn yr ardal o fewn yr adnoddau cyfyngedig a oedd ar gael ac yn cydbwyso'r holl flaenoriaethau.

-              Tynnodd y Cynghorydd Mudd sylw at y cynnydd mawr yn nifer y cwynion ynghylch parcio o amgylch Ysgol Malpas, a'r perygl oedd hynny'n ei achosi i blant ysgol. Gan gydnabod y pwysau ar yr heddlu o ran adnoddau, gofynnwyd a allai'r heddlu gynyddu camau gorfodi, yn enwedig o amgylch mynedfeydd ac allanfeydd yr ysgol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, ac atal achosion pellach o barcio'n anghyfreithlon. Dywedodd yr Uwcharolygydd Roberts y byddai'n cyfeirio'r mater hwn i sylw'r swyddog lleol.

-              Cyfeiriodd y Cynghorydd Jane Mudd hefyd at y ffaith bod angen gwella'r trefniadau i gyfathrebu â pherchnogion busnes yng nghanol y ddinas, yn enwedig o ran rhoi mwy o sicrwydd i'r busnesau yn y ddinas ynghylch maint y  gweithgarwch yn gysylltiedig â gorfodi'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored (PSPO). Cytunodd yr Uwcharolygydd Roberts i gyfeirio hyn i sylw'r Arolygydd er mwyn sicrhau bod y llinellau cyfathrebu yn effeithiol.

-              Cododd y Cynghorydd Jeavons broblem gynyddol parcio anghyfreithlon yng nghanol y ddinas, ac ar draws wardiau yng Nghasnewydd, a goblygiadau hynny o ran diogelwch, yn enwedig o amgylch ysgolion.  Gofynnwyd i'r Uwcharolygydd gymryd cymaint o gamau gorfodi â phosibl er mwyn helpu i liniaru'r broblem.

-              Ailadroddodd y Cynghorydd Matthew Evans bryderon am barcio anghyfreithlon ac yn arbennig effaith hynny ar rai ag anableddau, plant ifanc a phobl oedrannus yr oedd y rhwystr a'r problemau diogelwch a oedd yn cael eu hachosi gan hyn yn effeithio arnynt yn fawr.

-              Cyfeiriodd y Cynghorydd Laura Lacey at gyrch cyffuriau diweddar yn ei ward yn Ringland, lle targedwyd y t? anghywir a difrodi'r drws. Gofynnodd y Cynghorydd am sicrwydd y byddai hyn yn cael sylw, y byddai'r preswylydd yn cael ymddiheuriad a'r difrod yn cael ei drwsio. Gofynnodd yr Uwcharolygydd am gael rhagor o wybodaeth gan y Cynghorydd ar ôl y cyfarfod fel y gellid rhoi sylw i'r mater.

-              Amlinellodd y Cynghorydd Majid Rahman bryderon ynghylch adleoli PCSOs yn Ward Fictoria, gan ddweud bod y swyddogion blaenorol wedi meithrin perthynas dda ac ymddiriedaeth â'r preswylwyr. Roedd preswylwyr yn codi problemau'n uniongyrchol â chynghorwyr y ward yn hytrach na'r heddlu, ac er bod hyn yn cael ei drosglwyddo i'r heddlu, nid oedd adborth bob amser yn cael ei roi ynghylch y camau a gymerwyd. Cytunodd yr Uwcharolygydd i drosglwyddo'r neges fod angen rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod etholedig. Roedd PCSOs yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adolygiad y Comisiwn Ffiniau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Ceri Stradling (Comisiynydd Arweiniol), Matt Redmond (Dirprwy Brif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau) a Huw Blacker (Swyddog Adolygu) gyflwyniad i'r Cyngor ar yr Adolygiad Etholiadol yng Nghasnewydd. 

 

Roedd y Comisiwn Ffiniau yn gyfrifol am adolygu a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch prif drefniadau Etholiadol y Cyngor a'i ffiniau gweinyddol.  Amlinellwyd cwmpas, proses a graddfeydd amser yr adolygiad, ac esboniwyd sut y gallai'r Cyngor wneud sylwadau a mynegi barn ynghylch yr adolygiad.

 

Trafodwyd y materion a ganlyn mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau:

              Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch diben yr adolygiad, nodai'r ddeddf mai'r diben oedd sicrhau cydraddoldeb etholiadol ar draws Cyngor Dinas Casnewydd, o gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghategori 2.  

              Roedd cynnal yr adolygiad yn ddyletswydd statudol, a diben y ddeddf a'r adolygiad oedd sicrhau bod gan bob pleidlais yng Nghasnewydd yr un grym o fewn y Cyngor. Roedd rhai amrywiadau wedi'u cydnabod, ond roedd rhai o'r amrywiadau rhwng wardiau yng Nghasnewydd yn rhy fawr.

              O ran isafswm ac uchafswm y Cynghorwyr a'r cysylltiad rhyngddynt â maint a niferoedd poblogaeth y Cyngor. Penderfynwyd ar y capiau yn sgil ymgynghoriad ar fodelau maint Cynghorau. Rhannwyd Cynghorau yn 4 categori bras, a phennwyd bod isafswm o 30 ac uchafswm o 75 yn dderbyniol ar y cyfan.

              Trafodwyd ffactorau eraill, fel y baich ar Gynghorwyr mewn ardaloedd penodol, a chadarnhawyd mai ond y ffactorau a amlinellwyd o dan statud y gellid eu hystyried.

              Byddai Cynghorau Cymuned hefyd yn derbyn y cyflwyniad hwn a byddent yn cael yr un cyfle i gymryd rhan a darparu gwybodaeth a thystiolaeth yn rhan o'r adolygiad.

              Nid oedd amddifadedd cymdeithasol ac effaith y gwaith achos hwn yn ystyriaeth statudol, ond byddai tystiolaeth ynghylch pam bod angen cymhareb uwch mewn ardal neilltuol yn cael ei hystyried yn rhan o'r adolygiad.

              Nid oedd ystyriaeth o'r trefniadau ar gyfer ffiniau allanol o fewn cwmpas yr adolygiad nac wedi'i chynnwys o dan y ddeddf. 

              Roedd yr adolygiad yn defnyddio'r ffigurau poblogaeth presennol yn bennaf. Byddai amrywiad rhagamcanol yn cael ei ystyried lle roedd lefel dda o sicrwydd a thystiolaeth bod y datblygiadau'n cael eu hadeiladu.

              Gallai'r Comisiwn ystyried ymestyn y cyfnod ymgynghori cychwynnol o 12 wythnos mewn amgylchiadau arbennig, ond roedd yr ymgynghoriad ar ôl cyhoeddi'r drafft wedi'i sefydlu mewn statud.

Diolchodd y Cyngor i swyddogion y Comisiwn Ffiniau, a nodi pwysigrwydd sicrhau’r gynrychiolaeth ddemocrataidd orau bosibl i bobl Casnewydd o fewn yr adolygiad.

 

6.

Hysbysiad o Gynnig 1: Gwyl Cig Cwn Yulin

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r cynnig a ganlyn, yr oedd y rhybudd angenrheidiol wedi'i roi amdano. Gwnaed y cynnig gan y Cynghorydd Matthew Evans, ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Ray Mogford:

 

Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod y ddeiseb a gasglwyd o 27,000 o lofnodion, ac yn mynegi arswyd ynghylch yr arferion barbaraidd sy'n digwydd yng Ng?yl Cig C?n Yulin. Mae’n annog Talaith Guangxi i wahardd gwyliau’r dyfodol, ac i roi terfyn ar y creulondeb echrydus sy’n gysylltiedig â'r digwyddiad.

Wrth wneud y cynnig, condemniodd y Cynghorydd Matthew Evans yr ymdriniaeth greulon ac annynol â'r anifeiliaid yn yr ?yl hon, ac anogodd y Cyngor i gytuno i ysgrifennu llythyr cryf ei fynegiant yn condemnio arferion yr ?yl.  Pwysleisiwyd mai'r ffordd yr oedd yr anifeiliaid yn cael eu trin yn yr ?yl oedd ffocws y ddeiseb. 

 

Eiliodd y Cynghorydd Ray Mogford y cynnig, gan gefnogi’r cynnig i annog Talaith Guangxi i wahardd gwyliau yn y dyfodol.

 

Siaradodd nifer o Aelodau o blaid y cynnig.  Yn ystod y ddadl, nodwyd nad oedd y Cyngor wedi derbyn y ddeiseb yn ffurfiol.

 

Penderfynwyd

Penderfynwyd cefnogi'r cynnig yn unfrydol.

 

7.

Hysbysiad o Gynnig 2: Siarter Clefyd Niwronau Motor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r cynnig a ganlyn, yr oedd y rhybudd angenrheidiol wedi'i roi amdano. Gwnaed y cynnig gan y Cynghorydd Debbie Wilcox, ac fe'i heilliwyd gan y Cynghorydd Trevor Watkins.

 

Mae’r Cyngor hwn yn cytuno i fabwysiadu’r Siarter Clefyd Niwronau Motor (MND), sy’n nodi’r gofal a’r cymorth y mae pobl sy’n byw ag MND a’u gofalwyr yn ei haeddu ac y dylent ei ddisgwyl.

 

Mae’r Siarter MND yn cynnwys 5 pwynt:

1.           Yr hawl i gael eich trin fel unigolion a chydag urddas a pharch

2.           Yr hawl i gael diagnosis cynnar a gwybodaeth 

3.           Yr hawl i gael mynediad at ofal a thriniaethau o safon

4.           Yr hawl i wneud y gorau o'u hansawdd bywyd

5.           Mae gan ofalwyr pobl ag MND yr hawl i gael eu gwerthfawrogi, eu parchu, i gael gwrandawiad ac i gael cefnogaeth dda.

Wrth wneud y cynnig, cyfeiriodd y Cynghorydd Debbie Wilcox at bwysigrwydd cefnogi'r unigolion y mae'r clefyd yn effeithio arnynt, a sicrhau eu bod yn derbyn y gofal gorau posib drwy lofnodi'r Siarter.

 

Wrth eilio’r cynnig, amlygodd y Cynghorydd Trevor Watkins bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth a chefnogi’r rhai sy’n dioddef o’r clefyd hwn. Siaradodd nifer o Aelodau o blaid y cynnig, a rhannodd llawer eu profiadau personol o MNDA ac effaith ofnadwy'r clefyd ar unigolion a'u teuluoedd. 

Penderfynwyd

Penderfynwyd cefnogi'r cynnig yn unfrydol.

 

8.

Hysbysiad o Gynnig 3: Cyfraith Lucy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r cynnig a ganlyn, yr oedd y rhybudd angenrheidiol wedi'i roi amdano. Gwnaed y cynnig gan y Cynghorydd Debbie Wilcox, ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Jason Hughes:

 

Mae'r Cyngor hwn yn cefnogi Ymgyrch Genedlaethol Cyfraith Lucy i wahardd trydydd partïon rhag gwerthu c?n bach, a gofynnir i'r Cyngor ychwanegu ei enw at restr gynyddol o sefydliadau sy'n cefnogi'r ymgyrch, a mynd ati'n rhagweithiol i dynnu sylw ein preswylwyr ar draws y ddinas at yr ymgyrch.Ar ben hynny, y dylai'r Arweinydd ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU i gefnogi'r ymgyrch, gan amlygu cefnogaeth Casnewydd i gyflwyno'r gyfraith hon yng Nghymru a hefyd yn Lloegr.

Wrth wneud y cynnig, amlinellodd y Cynghorydd Debbie Wilcox ddiben yr ymgyrch i hyrwyddo gwaharddiad llwyr ar werthwyr c?n bach trydydd parti, fel mai ond bridwyr trwyddedig a allai werthu c?n bach, ym mhresenoldeb eu mamau â'r c?n bach hynny dros 8 wythnos oed. Ni fyddai hyn yn effeithio ar ganolfannau achub ac ailgartrefu.

 

Wrth eilio’r cynnig, rhoddodd y Cynghorydd Jason Hughes fanylion am gefndir Cyfraith Lucy a'r modd y caiff c?n eu cam-drin ar ffermydd c?n bach. Siaradodd nifer o'r Aelodau hefyd o blaid y cynnig. 

Penderfynwyd

Penderfynwyd cefnogi'r cynnig yn unfrydol.

 

9.

Adroddiad ar Reoli'r Trysorlys ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Medi 2018 pdf icon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar Reoli'r Trysorlys, gan egluro mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi gwybod i'r Cyngor am weithgareddau'r Trysorlys a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod hwn. Cadarnhaodd fod yr holl fenthyciadau a'r buddsoddiadau a wnaed yn unol â therfynau cytunedig y Cyngor.  Yn ôl y rhagolygon presennol, cadarnhawyd y byddai angen benthyca i gyllido gweithgarwch llif arian arferol o ddydd i ddydd.

Penderfynwyd

 

Penderfynwyd yn unfrydol y dylid nodi a chymeradwyo'r adroddiad ar weithgareddau rheoli'r Trysorlys ar gyfer y cyfnod hyd 30 Medi 2018, yn unol â Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018/19.

 

10.

Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor pdf icon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oed yn hysbysu'r Cyngor ynghylch

 

Cynllun Gostyngiadau arfaethedig y Dreth Gyngor 2019/20. Eglurwyd bod yr elfennau disgresiwn lleol y cytunwyd arnynt yn flaenorol yn cael eu cadw, a bod manylion y rhain wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Roedd yn rhaid cymeradwyo’r adroddiad cyn 31 Ionawr 2019 er mwyn gweithredu'r elfennau disgresiwn lleol.

Penderfynwyd

 

Penderfynodd y Cyngor yn unfrydol y dylid cymeradwyo Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2019/20 yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015 ("y Rheoliadau rhagnodedig") gan arfer ei hawl i ddisgresiwn lleol, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

11.

Amserlen Cyfarfodydd y Cyngor pdf icon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Maer yr amserlen arfaethedig o gyfarfodydd ar gyfer 2019/20.

Penderfynwyd

 

Penderfynwyd yn unfrydol y dylid mabwysiadu'r amserlen cyfarfodydd fel sail ar gyfer y trefniadau o fis Mai 2019 hyd fis Mai 2020, gan gydnabod y gallai gael ei newid a'i diwygio i gyd-fynd â rhaglenni gwaith pob pwyllgor neu gr?p arall.

 

12.

Enwebu Maer 2019/20

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor y dylai'r Cyngor enwebu'r Cynghorydd William Routley yn Faer y Ddinas ar gyfer y flwyddyn a oedd i ddod. Eiliwyd y cynnig gan Arweinydd yr Wrthblaid.

Penderfynwyd

 

Penderfynwyd yn unfrydol y dylid enwebu'r Cynghorydd William Routley yn faer y ddinas am y flwyddyn a oedd i ddod.

 

13.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

Gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau a ganlyn:

              Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd William Routley ar gael ei enwebu fel Maer Casnewydd ar gyfer 2019/20;

              Cafodd Gemau Trawsblannu Prydain eu lansio'n swyddogol drwy gynnau Fflam Teuluoedd Rhoddwyr yng Nghasnewydd. Byddai'r Gemau'n cael eu cynnal rhwng 25 a 28 Gorffennaf 2019 ac roedd disgwyl iddynt ddenu dros 850 o athletwyr sydd wedi derbyn trawsblaniad a thros 1,500 o gefnogwyr i'r Ddinas.

              Cynhaliwyd Gwasanaeth Cofio'r Holocost yng Nghadeirlan Casnewydd i gofio'r rhai a ddioddefodd yn yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal â dioddefwyr hil-laddiadau mwy diweddar, fel y rhai a gafwyd yn Rwanda a Chambodia.

              Llongyfarchiadau i Glwb Pêl-droed Sir Casnewydd am ganlyniad y gêm, a phob dymuniad da ar gyfer eu gêm nesaf yn erbyn Middlesborough. 

Uwchgynhadledd Datblygu Economaidd

 

Gofynnodd y Cynghorydd Matthew Evans am gadarnhad a oedd Uwchgynhadledd Datblygu Economaidd yn cael ei chynnal ddydd Iau yma yn y Celtic Manor, ac os felly, pwy oedd wedi ei threfnu, a pwy oedd wedi cael gwahoddiad. Gofynnodd hefyd am eglurhad ynghylch pam roedd yr Uwchgynhadledd yn cael ei chynnal yn breifat. 

 

Eglurodd yr Arweinydd fod trafodaeth bord gron yn cael ei chynnal â phartïon â diddordeb, yn deillio o'r trafodaethau yn Rhwydwaith Economaidd Casnewydd. Roedd y gwahoddedigion yn cynnwys yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai, fel Aelodau o'r Rhwydwaith. Y gobaith oedd clywed barn yn cael ei chyfnewid yn agored gan arweinwyr busnes i hybu buddsoddiad yn y Ddinas. Nid oedd unrhyw gost i'r Cyngor am hyn a byddai'r Arweinydd yn adrodd yn ôl i'r Aelodau ar ôl y digwyddiad.  Eglurwyd bod y digwyddiad hwn o natur wahanol i'r uwchgynadleddau a gafwyd yn y blynyddoedd cynt, ac mai'r bwriad oedd cynnal trafodaeth bord gron o faint llai, a byddai'n cynnwys dimensiwn rhanbarthol.

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Matthew Evans sut y byddai'r uwchgynhadledd hon yn mynd i'r afael â'r problemau yng nghanol y ddinas. Eglurodd yr Arweinydd y byddai'r math hwn o drafodaeth yn caniatáu trafodaeth fanwl a didwyll â Rhwydwaith Economaidd Casnewydd. Roedd cyfyngiadau ar rôl y Cyngor wrth wella'r amgylchedd economaidd mewn cyd-destun cenedlaethol, a phwrpas y cyfarfod hwn oedd chwilio am gamau a chanlyniadau pendant a realistig i Gasnewydd. 

Gweithio mewn Partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Sir Casnewydd

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Whitehead a fyddai’r Arweinydd, neu’r Aelod Cabinet priodol yn cytuno i gwrdd â chynrychiolwyr Sir Casnewydd i drafod gwaith partneriaeth cadarnhaol o hyn allan, gan gyfeirio at yr enghraifft o waith partneriaeth cadarnhaol rhwng Cyngor Abertawe a'r Gweilch a Chlwb Pêl Droed Abertawe yn Stadiwm Liberty.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod cyfarfodydd o'r math hwn yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ac y byddai'r Cyngor yn parhau i ddatblygu hyn. Byddai datblygu Strategaeth Chwaraeon o gymorth i ddarparu gwybodaeth i'r Cyngor ynghylch cyfeiriad Chwaraeon yng Nghasnewydd yn y dyfodol.

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Whitehead a allai'r Arweinydd ofyn i Sir Casnewydd sut y gallai gyfathrebu ynghylch y berthynas gadarnhaol hon, o bosib yn  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ac atebwyd y cwestiwn canlynol:

 

Aelod Cabinet dros Wasanaethau Stryd

 

Cynghorydd Ray Mogford - Mynediad y Cyhoedd i Ganolfannau Ailgylchu

Ceir tuedd barhaus i gynghorau gyfyngu ar fynediad y cyhoedd i'w canolfannau ailgylchu. Mae'n amlwg bod hyn yn digwydd ar sail arbedion cost mesuradwy i'r Cyngor.Yn ddiweddar cyhoeddodd Cyngor Sir Fynwy y byddai angen i'w breswylwyr brofi ymhle maen nhw'n byw o hyn allan cyn cael mynediad i'w cyfleusterau ailgylchu.

 

Mae hyn yn creu sefyllfa anodd i breswylwyr y ward rwy'n ei chynrychioli (Langstone) lle nad yw'r cyfleuster ailgylchu agosaf ond taith fer yn y car ar hyd yr A48, sy'n weddol rydd o draffig. Mewn rhai achosion, mae preswylwyr yn Langstone yn byw o fewn 1/2 milltir i'r cyfleuster. Er hynny, disgwylir inni yrru drwy'r Ddinas ar daith gron o hyd at 24 milltir i gael mynediad i Ganolfan ailgylchu a chanddi amseroedd agor cyfyngedig ac sydd hefyd wedi'i lleoli ar gylchfan brysur iawn, yn enwedig yn ystod oriau brig.

A allai'r Cabinet amlinellu i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn cydweithio yng nghyswllt gweithgareddau ailgylchu gwastraff?Yn rhan o hynny, a chan drafod mynediad i ganolfannau ailgylchu yn benodol, i ba raddau y mae'r aelod Cabinet wedi ystyried y posibilrwydd o gael trefniadau cilyddol neu gytundebau eraill penodol ag awdurdodau lleol cyfagos a fyddai o fudd i bawb?

Ymatebodd yr Aelod Cabinet:

Yn achos y Safle 5 Lôn y cyfeiriwyd ato, dywedodd Cyngor Sir Fynwy wrth Gyngor Dinas Casnewydd ym mis Tachwedd y llynedd y byddai'n ailsefydlu taliadau ar y safle 5 lôn, a hynny heb unrhyw ymgynghoriad. Nid yw preswylwyr Casnewydd sy'n defnyddio cyfleusterau ailgylchu eraill yn ychwanegu at ffigurau ailgylchu eu hawdurdod eu hunain, ac mae angen y ffigurau hynny i gydymffurfio â thargedau Llywodraeth Cymru.

 

Yng nghanllawiau cenedlaethol yr Asesiad Cenedlaethol o Safleoedd Amwynder Dinesig (NACAS) ar arfer gorau mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, nodir taith car 20 munud o hyd mewn ardaloedd trefol a 30 munud o hyd mewn ardaloedd gwledig. Mae Safle Heol y Dociau o fewn 20 munud mewn car i 99% o breswylwyr. O ran trefniadau cilyddol, mae cyfartaledd y gost rhwng y naill Gyngor a'r llall yn amrywio o amgylch £117 fesul tunnell o wastraff cymysg. Byddai'n rhaid edrych yn fanwl iawn ar dargedau Cymru, a byddai'n rhaid i hyn gael ei weithredu ar raddfa holl awdurdodau Cymru.

 

15.

Cwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau ar gyfer y cyfarfod hwn.