Cofnodion

Cyngor - Dydd Mawrth, 30ain Ebrill, 2019 5.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eleanor Mulligan  Head of Democratic Services

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Rhagarweiniol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

i)                 Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Adroddodd y Swyddog Monitro ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

ii)               Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.

 

iii)             Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer

Ron Morris

 

Arweiniodd y Maer y Cyngor wrth gynnig teyrngedau i’r cyn Gynghorydd a’r Maer Ron Morris, fu farw fis diwethaf.

Jordan Routley

 

Arweiniodd y Maer y Cyngor i gydymdeimlo â’r Darpar Faer, y Cynghorydd William J Routley, a’i deulu yn sgil marwolaeth drasig ei ?yr, Jordan Routley.

Arweiniodd y Maer funud o dawelwch fel arwydd o barch tuag at Ron Morris a Jordan Routley, ac er cof amdanynt.

 

Digwyddiadau Elusennol y Maer

 

Rhoddodd y Maer ddiweddariad i'r Cyngor ar ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Elusen y Maer, gan gynnwys noson Elvis ar 12 Ebrill, a'r Diwrnod Golff yn y Celtic Manor ar 17 Ebrill. Diolchodd y Maer i'r rhai a ddaeth i gefnogi.

 

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Chwefror yn gywir, yn amodol ar y cywiriad a ganlyn:

 

-        Ychwanegu rhestr o'r rhai a wnaeth ymatal rhag pleidleisio yn eitem 5 - Cyllideb Refeniw 2019-20 a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

3.

Penodiadau pdf icon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Harvey yr adroddiad a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor ynghylch newidiadau arfaethedig i aelodaeth Pwyllgorau.

 

Penderfynwyd

 

Cymeradwyo’r enwebiadau canlynol:

Penodiadau Mewnol

Pwyllgor

Nifer y Seddau Gwag / Newidiadau

Enwebiadau a gafwyd

Pwyllgor Trwyddedu

1

Tynnu'r Cyng Allan Morris o'i sedd, neb i gymryd ei le (sedd wag)

Penodiadau i Sefydliadau Allanol

Sefydliad

Nifer y Seddau Gwag / Newidiadau

Enwebiadau a gafwyd

Dim

 

 

Cyrff Llywodraethol

Corff Llywodraethol

Nifer y seddau gwag / ailbenodiadau

Enwebiadau a gafwyd

Ysgol Gynradd Millbrook

1

Ailbenodi Mrs L Stannard

Ysgol Gynradd Clytha

1

Mrs Anne Timbrll i gymryd lle'r Cyng C Ferris

 

4.

Materion yr Heddlu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ran y Cyngor, llongyfarchodd y Maer y Prif Gwnstabl ar y newydd y byddai'n ymddeol yn fuan. Diolchodd y Maer i'r Prif Gwnstabl am ei wasanaeth a'i gefnogaeth i'r Ddinas yn ystod ei amser gyda Heddlu Gwent.

 

Rhoddodd y Prif Gwnstabl Nigel Lewis gyflwyniad a oedd yn cynnwys trosolwg o'r materion yn gysylltiedig â Phlismona Canol y Ddinas.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Swyddogion am ddod i'r cyfarfod i drafod eu gwaith gyda'r Cyngor, a diolch i'r Prif Gwnstabl am ei waith caled a'i ganmol am y berthynas yr oedd wedi'i meithrin â'r Cyngor yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Dymunodd yr Arweinydd yn dda i'r Prif Gwnstabl ar ei ymddeoliad.

 

Gofynnodd yr Cynghorwyr y cwestiynau a ganlyn:

-        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hourahine, amlinellodd yr Uwcharolygydd Ian Roberts lwyddiant Ymgyrch Harley a oedd wedi targedu defnydd anghyfreithlon o feiciau oddi ar y ffordd.

-        Mynegodd y Cynghorydd M Evans bryderon ynghylch diogelwch yng nghanol y ddinas, amlinellodd y Ditectif Uwcharolygydd Ian Roberts fod tua 30 o ddigwyddiadau yng nghanol y ddinas a bod yr heddlu'n gweithio gyda'r rhai y mae hyn yn effeithio arnynt i ystyried yr hyn sydd wrth wraidd y digwyddiadau hynny. Wrth ystyried digartrefedd a chysgu allan, amlinellodd y swyddog bwysigrwydd taro cydbwysedd rhwng cefnogi pobl agored i niwed a chymryd camau gorfodi priodol. 

-        Gofynnodd y Cynghorydd J Watkins a oedd pobl a oedd yn dod o'r tu allan i'r ddinas i gardota yng nghanol y ddinas yn broblem yng Nghasnewydd. Nododd yr Arolygydd Lewis fod pobl yn dod o'r tu allan i'r ddinas ac roedd y rheiny'n cael eu cyfeirio i sylw eu hawdurdodau lleol eu hunain i dderbyn cymorth.

-        O ran y ffyn synhwyro a oedd yn cael eu dosbarthu i stopio a chwilio pobl wrth fynd i mewn i glybiau nos, gofynnodd y Cynghorydd T Watkins a lwyddwyd i atal mynediad i bobl drwy hynny. Cadarnhaodd yr Arolygydd Lewis y bu nifer o arestiadau am fod ag arfau ymosodol mewn meddiant yn sgil y chwiliadau hyn. Roedd y nifer yn arbennig o uchel a heb fod yn debyg i ddinasoedd fel Manceinion a Llundain.

-        Siaradodd y Cynghorydd C Evans am daro cydbwysedd rhwng camau gorfodi am droseddau treisgar a'r bobl hynny a oedd yn agored i niwed ac yr oedd angen cymorth arnynt. 

Diolchodd y Maer i'r Heddlu am eu presenoldeb a'u cyfraniad i'r cyfarfod.

 

5.

Adolygiad y Comisiwn Ffiniau pdf icon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurwyd y gallai'r Aelodau siarad am bob argymhelliad gan y byddent yn cael eu hystyried yn unigol gan y Cyngor.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a amlinellai'r broses a ddilynwyd gan y Cyngor i sefydlu Gr?p Trawsbleidiol i adolygu'r dystiolaeth ar gyfer trefniadau etholiadol yn y dyfodol yn y ddinas, a'r cynigion a oedd wedi'u llunio ar gyfer hynny, i'w trafod gan y Cyngor.

 

Diolchodd yr Arweinydd i holl gynrychiolwyr y grwpiau a'r Swyddogion cefnogol am eu cyfraniadau, a hynny o fewn amserlen heriol. Diolchodd yr Arweinydd hefyd i'r Comisiwn am ei gefnogaeth yn ystod y broses ac am gytuno i estyniad byr fel y gallai'r Cyngor drafod yr opsiynau yn y cyfarfod hwn.

Argymhelliad 1:

 

Penderfynwyd y dylai'r Cyngor gefnogi'r mân ddiwygiadau i ffiniau a nodwyd yn adran Mân Anghysondebau yr adroddiad hwn.

 

Argymhelliad 2:

Cynigiwyd ac eiliwyd Opsiwn 2a.

 

Siaradodd y Cynghorydd Kellaway yn erbyn opsiwn A oherwydd teimlai ei fod yn anwybyddu gwahaniaethau cymunedol yr ardaloedd dan sylw, ac y byddai hynny'n ddiwedd ar ardal Llan-wern. Nid oedd ychwaith yn cymryd i ystyriaeth y deipograffeg naturiol na ffyrdd o fewn y wardiau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Mogford o blaid Opsiwn B – symud ardal Cyngor Cymuned Trefesgob, sy'n cynnwys Wardiau Cymunedol Trefesgob ac Underwood, i Langstone.  Teimlai y byddai ardal Cymuned Trefesgob yn ffitio'n dda o fewn ward lled-wledig Langstone a bod synergedd cryf o Gymunedau o fewn yr opsiwn hwn. 

 

Penderfynwyd y dylai'r Cyngor gefnogi opsiwn 2a - Symud Cymuned Llan-wern i Ringland.

Argymhelliad 3:

Cynigiwyd ac eiliwyd Opsiwn 3a.

 

Siaradodd y Cynghorydd C Evans yn erbyn opsiwn 3a, gan gyfeirio at oblygiadau ymarferol rhannu'r gymuned fel hyn. Siaradodd o blaid y status quo yn Nh?-du oherwydd teimlai nad oedd angen rhannu'r gymuned.

 

Siaradodd y Cynghorydd M Evans o blaid opsiwn 3a, gan mai dyna fyddai'r ffordd fwyaf ymarferol o fynd i’r afael â thangynrychiolaeth T?-du o blith yr opsiynau a oedd ar gael. Byddai hefyd yn creu 2 ward ac ynddynt 2 gynghorydd yr un, yn hytrach na chreu wardiau un aelod.

Penderfynwyd bod y Cyngor o blaid opsiwn 3a - Creu dwy ward newydd, sef Ward Cymuned Gorllewin T?-du a chyfuno wardiau cymunedol Gogledd a Dwyrain T?-du. (2 Gynghorydd)

Argymhelliad 4

 

Cynigiwyd ac eiliwyd Opsiwn 4a.

 

Siaradodd y Cynghorydd M Evans yn erbyn opsiwn 4a gan gyfeirio at y drafodaeth a gefnogwyd yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, sef bod ardal Pillgwenlli yn nes at Stow Hill, ac felly fod Opsiwn 4b yn fwy ymarferol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Fouweather am yr argymhelliad, gan nodi ei fod yn ddewis anodd heb unrhyw ateb clir. Nododd y byddai Opsiwn 4b yn hollti cymuned, tra bod opsiwn 4b (symud ystâd newydd Mon Bank i Stow Hill) o bosib yn fwy ymarferol gan ei fod yn symud cymuned yn ei chyfanrwydd.

 

Penderfynwyd bod y Cyngor o blaid opsiwn 4a: Ychwanegu ardal “Glan yr Afon” ym Mhillgwenlli at Stow Hill.

Argymhelliad 5

 

Cynigiwyd ac eiliwyd opsiwn 5b.

 

Siaradodd y Cynghorydd R White yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol pdf icon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Charles Ferris yr adroddiad fel Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau

 

Democrataidd. Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) oedd y corff sy'n gyfrifol am bennu lefelau tâl Cynghorau yng Nghymru, ac roedd yr adroddiad hwn yn cyflwyno'u Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2019-20.

 

Roedd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi adolygu'r cynigion hyn ar y cam drafft ac wedi rhoi sylwadau yn ôl i'r Panel Cydnabyddiaeth Ariannol yn rhan o'u proses ymgynghori.  Fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, dywedodd y Cynghorydd Ferris y bu'n bresennol mewn cyfarfod â Chadeiryddion y Gwasanaethau Democrataidd o Awdurdodau eraill i drafod y newidiadau hyn yn uniongyrchol â'r Panel.

 

Dyma'r prif newidiadau ar gyfer eleni:

-              Cynnydd o 1.97% i gyflogau sylfaenol, sy'n cyfateb i £268.

-              Cynnydd o £800 i gyflogau aelodau gweithredol, a oedd yn cynnwys y cynnydd i'r gyfradd sylfaenol.

-              Newid i'r bandiau ar gyfer y penaethiaid a'r dirprwy benaethiaid dinesig, gan gael gwared â'r raddfa daliadau ar wahân ar gyfer y swyddi hyn.

Penderfynwyd

 

Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r penderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019-20, ac yn cymeradwyo'r atodlen ddrafft o Daliadau a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 yr agenda.

 

7.

Polisi Tâl a Gwobrwyo pdf icon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad hwn i'r Cyngor a dywedodd mai Adroddiad Blynyddol oedd y Polisi Tâl a Gwobrwyo yr oedd yn ofynnol i'r Cyngor ei gymeradwyo. Roedd yn nodi'r mecanweithiau mewnol ar gyfer rhoi cydnabyddiaeth ariannol i Swyddogion y Cyngor.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor am y prif ddiweddariad eleni:

-        Mae strwythur cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol (NJC) ar gyfer y rhan fwyaf o staff y Cyngor wedi’i newid o ganlyniad i’r dyfarniad cyflog y cytunwyd arno’n genedlaethol ar gyfer 2019. Mae hyn yn effeithio ar bob Cyngor a bu'n ofynnol i ni adolygu a diweddaru ein graddfeydd cyflog i adlewyrchu'r sefyllfa genedlaethol newydd.

-        Roedd cyd-gytundeb newydd wedi'i lofnodi gan yr undebau llafur cydnabyddedig a oedd yn cynrychioli'r gweithwyr NJC hynny. Byddai'r gweithiwr Cyngor ar y cyflog isaf bellach yn derbyn cyflog contract a oedd yn gyfwerth â chyfradd y Cyflog Byw Sylfaenol, sef £9.00 fesul awr.

-        Yn ogystal â’r newid hwn, roedd y Polisi Tâl a Gwobrwyo  yn adrodd ar y bwlch blynyddol rhwng cyflogau'r rhywiau. Mae'r bwlch wedi cynyddu i 4% o'r 1% a adroddwyd y llynedd, ac yn sgil dadansoddi'r data gwelwyd mai'r rheswm am hyn oedd bod llawer mwy o ddynion ar gyflogau is wedi gadael y gwaith na menywod.

Penderfynwyd

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Polisi Tâl a Gwobrwyo er mwyn bodloni gofynion statudol i gyhoeddi 'datganiad tâl'.

 

8.

Diweddariad ynghylch y Strategaeth Gyfalaf - Ymagwedd Masnacheiddio pdf icon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a esboniai pam bod y Cyngor yn mabwysiadu'r ymagwedd hon yn y cyd-destun ariannol cyfredol. 

 

Byddai'n rhaid i'r Cyngor ganfod £30 miliwn o'i gyllideb dros y 3 blynedd nesaf, ac ar gyfer hynny roedd yn ystyried yr opsiynau a oedd ar gael i ymdrin â'r her aruthrol. Yn ei gyfarfod diwethaf roedd y Cabinet wedi cytuno ar ymagwedd i sefydlu cwmni masnachu er mwyn cipio a chynhyrchu gweithgarwch creu elw. Roedd angen ymchwilio ymhellach i hyn, ac roedd yr adroddiad yn cynnig neilltuo hyd at uchafswm o £100,000 i'r perwyl hwnnw, i'w adolygu gan y Cabinet.

 

Eiddo masnachol, a sefydlu Bwrdd buddsoddi gyda chapasiti benthyca wedi'i ddyrannu o hyd at £50 miliwn ar gyfer buddsoddiadau posibl. Prif amcan yr ymagwedd hon oedd cefnogi'r weledigaeth sydd wedi'i hymwreiddio yn y Cynllun Corfforaethol a hyrwyddo gwerth cymdeithasol. Yr ail amcan oedd creu elw a fyddai'n cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau craidd y Cyngor.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Cyng M Evans y gwelliant a ganlyn:

 

‘Nodi bod y Cabinet yn argymell canlyn yr ymagweddau hyn, gan gynnwys sefydlu cronfa eiddo masnachol gwerth £25m i greu incwm net i'r Cyngor, yn amodol ar ystyriaeth y Cyngor drwy eu cynnwys yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor.

 

Eiliwyd y gwelliant gan y Cyng D Williams. Ar ôl cyflwyno'r gwelliant i'r cyfarfod, datganwyd ei fod wedi'i golli.

 

Cafwyd trafodaeth ar y cynnig gwreiddiol.

 

Pwyntiau a wnaed yn erbyn y cynnig gwreiddiol:

-        Ystyriwyd bod £25 miliwn yn swm mwy darbodus a chymesur i liniaru'r risg;

-        Dadleuwyd bod gan y Cyngor adnoddau ac arbenigedd digonol i gynnal yr astudiaeth ddichonoldeb yn fewnol.

-        Y cydbwysedd o ran ymatebolrwydd masnachol, a'r angen i sicrhau atebolrwydd cyhoeddus.

Pwyntiau a wnaed o blaid yr adroddiad:

-        Roedd angen buddsoddi cyfalaf i gefnogi gwariant ar wasanaethau craidd ac roedd angen yr ymagwedd hon i bontio'r bwlch cyllido.

-        Roedd angen cael cyngor arbenigol ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb i sicrhau bod cyn lleied â phosib o risg, ac i sicrhau bod buddsoddiadau'n cydymffurfio â'r cod darbodus.

-        Ni fyddai £25 miliwn yn creu'r crynswth allweddol i gefnogi'r gwariant angenrheidiol ar wasanaethau craidd.

Penderfynwyd

 

Bod y Cyngor yn:

1.          Nodi datblygiad yr ymagwedd masnacheiddio, yn enwedig y ddau opsiwn a amlinellwyd fel y cam cyntaf tuag at weithredu'r ymagwedd hon, fel strategaeth i gyfrannu at heriau ariannol parhaus y Cyngor.

2.          Nodi bod y Cabinet yn argymell canlyn yr ymagweddau hyn, gan gynnwys sefydlu cronfa eiddo masnachol gwerth £50m i greu incwm net i'r Cyngor, yn amodol ar ystyriaeth y Cyngor drwy eu cynnwys yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor.

3.          Ystyried manteision a risgiau argymhelliad y Cabinet ynghylch y strategaeth masnacheiddio arfaethedig, yn enwedig sefydlu cronfa buddsoddi mewn eiddo gwerth £50 miliwn.

4.          Nodi y bydd y Cyngor yn ymrwymo i fod mewn dyled am y tymor hir, a'r risgiau'n gysylltiedig â hyn, a amlygwyd yn yr adroddiad, ochr yn ochr â risgiau a geir eisoes.

5.          Gan ystyried yr uchod:

o    Cymeradwyo'r diweddariad  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

 

Gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau a ganlyn:

        Y penwythnos hwn bydd Casnewydd yn cynnal Marathon a ras 10km ABP Casnewydd.

        Siarter Marw i Weithio – bydd y Cyngor yn adolygu'r tâl a'r polisi salwch i adlewyrchu hyn.  Drwy lofnodi'r Siarter mae'r Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i weithwyr sy'n wynebu amgylchiadau personol trasig.

Yn brin o bwynt bwled - Addewid i Bobl Ifanc - yn nodi hawliau plant a phobl ifanc wrth gyrchu gwasanaethau'r Cyngor. Datblygwyd y Siarter i Gasnewydd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, ac mae'n cynnwys yr ymrwymiadau sydd yn fwyaf pwysig i bobl ifanc Casnewydd.

        Mae Rhwydwaith Economaidd Casnewydd wedi cyhoeddi cynnig i sefydlu Sefydliad Technoleg Cenedlaethol yn y Ddinas. Byddai hwn yn sefydliad blaenllaw yn y byd sy'n cynnal rhaglenni technoleg addysg uwch, gan bwysleisio arloesedd, entrepreneuriaeth a masnacheiddio. Byddai’n cynhyrchu’r sgiliau angenrheidiol i Gymru elwa ar gyfleoedd i’n cymunedau.

Rhwydwaith Economaidd Casnewydd

 

Mynegodd y Cynghorydd M Evans bryderon ynghylch yr ymrwymiad a ddatganwyd gan y Cabinet i fod yn agored a thryloyw; cyfeiriodd i ddechrau at y ffaith bod Aelod Cabinet wedi gwrthod ateb cwestiynau mewn Pwyllgor Craffu ynghylch Rhwydwaith Economaidd Casnewydd; ac yn ail, nododd enghreifftiau o benderfyniadau o bwys a wnaed yn breifat. Er mwyn hyrwyddo agwedd agored a thryloyw, gofynnwyd i'r Arweinydd a fyddai cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal â phobl fusnes leol i wrando ar eu pryderon a'r hyn a oedd o bwys iddynt. 

 

Amlinellodd yr Arweinydd mai cyfarfod allanol oedd Rhwydwaith Economaidd Casnewydd, a bod angen i’r ateb i’r cwestiwn a ofynnwyd ddod gan y Rhwydwaith yn hytrach na’r Aelod Cabinet. Cytunodd yr Arweinydd i drosglwyddo sylwadau'r Cynghorydd Evans i Gadeirydd y Rhwydwaith a cheisio cael eglurhad ynghylch y pwyntiau a godwyd.  Mewn perthynas â'r penderfyniadau a wnaed yn gyfrinachol, tynnodd yr Arweinydd sylw at y gynsail a oedd wedi'i sefydlu ar gyfer ymagwedd hon, ac at faterion sy'n ymwneud â chyfrinachedd masnachol, a all effeithio ar yr wybodaeth sydd ar gael cyn gwneud penderfyniadau ynghylch prosiectau graddfa fawr.

 

Fel cwestiwn atodol, holodd y Cyng Evans faint o fanylion oedd wedi'u cynnwys yn y penderfyniadau a gofnodwyd yn yr enghreifftiau dan sylw. 

 

Mewn ymateb i hyn, gofynnodd yr Arweinydd am gael rhannu'r cyngor a roddwyd yn flaenorol gan y Prif Weithredwr a Phennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio ynghylch mynediad y cyhoedd at adroddiadau.

Casglu Sbwriel

 

Canmolodd y Cynghorydd Whitehead y rhai a gymerodd ran yn y digwyddiad casglu sbwriel a gynhaliwyd ledled y Ddinas yn ddiweddar, ac amlinellu'r problemau'n gysylltiedig â thipio anghyfreithlon a thagfeydd traffig o amgylch Heol y Dociau ers cyflwyno'r biniau sbwriel o faint newydd. Gofynnwyd i'r Arweinydd a ellid anfon swyddogion o'r Cyngor i gefnogi'r grwpiau casglu sbwriel niferus sy'n gweithredu yn y Ddinas. Nodwyd bod achosion cynyddol lle'r oedd y grwpiau hyn yn ymdrin â deunyddiau peryglus, fel eitemau miniog. 

 

Canmolodd yr Arweinydd hefyd ymdrechion gwirfoddolwyr a oedd yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd casglu sbwriel, ac roedd yn cydnabod bod tipio anghyfreithlon yn broblem genedlaethol, ond  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau i Aelodau’r Cabinet.

 

11.

Cwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau.

 

12.

Cofnodion y Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.