Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eleanor Mulligan Head of Democratic Services
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Materion Rhagarweiniol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: i) Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Adroddodd y Swyddog Monitro ymddiheuriadau am absenoldeb.
ii) Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.
iii) Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer Ron Morris
Arweiniodd y Maer y Cyngor wrth gynnig teyrngedau i’r cyn Gynghorydd a’r Maer Ron Morris, fu farw fis diwethaf. Jordan Routley
Arweiniodd y Maer y Cyngor i gydymdeimlo â’r Darpar Faer, y Cynghorydd William J Routley, a’i deulu yn sgil marwolaeth drasig ei ?yr, Jordan Routley. Arweiniodd y Maer funud o dawelwch fel arwydd o barch tuag at Ron Morris a Jordan Routley, ac er cof amdanynt.
Digwyddiadau Elusennol y Maer
Rhoddodd y Maer ddiweddariad i'r Cyngor ar ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Elusen y Maer, gan gynnwys noson Elvis ar 12 Ebrill, a'r Diwrnod Golff yn y Celtic Manor ar 17 Ebrill. Diolchodd y Maer i'r rhai a ddaeth i gefnogi.
|
||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Chwefror yn gywir, yn amodol ar y cywiriad a ganlyn:
- Ychwanegu rhestr o'r rhai a wnaeth ymatal rhag pleidleisio yn eitem 5 - Cyllideb Refeniw 2019-20 a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig.
|
||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Harvey yr adroddiad a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor ynghylch newidiadau arfaethedig i aelodaeth Pwyllgorau.
Penderfynwyd
Cymeradwyo’r enwebiadau canlynol: Penodiadau Mewnol
Penodiadau i Sefydliadau Allanol
Cyrff Llywodraethol
|
||||||||||||||||||||||
Materion yr Heddlu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ran y Cyngor, llongyfarchodd y Maer y Prif Gwnstabl ar y newydd y byddai'n ymddeol yn fuan. Diolchodd y Maer i'r Prif Gwnstabl am ei wasanaeth a'i gefnogaeth i'r Ddinas yn ystod ei amser gyda Heddlu Gwent.
Rhoddodd y Prif Gwnstabl Nigel Lewis gyflwyniad a oedd yn cynnwys trosolwg o'r materion yn gysylltiedig â Phlismona Canol y Ddinas.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Swyddogion am ddod i'r cyfarfod i drafod eu gwaith gyda'r Cyngor, a diolch i'r Prif Gwnstabl am ei waith caled a'i ganmol am y berthynas yr oedd wedi'i meithrin â'r Cyngor yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Dymunodd yr Arweinydd yn dda i'r Prif Gwnstabl ar ei ymddeoliad.
Gofynnodd yr Cynghorwyr y cwestiynau a ganlyn: - Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hourahine, amlinellodd yr Uwcharolygydd Ian Roberts lwyddiant Ymgyrch Harley a oedd wedi targedu defnydd anghyfreithlon o feiciau oddi ar y ffordd. - Mynegodd y Cynghorydd M Evans bryderon ynghylch diogelwch yng nghanol y ddinas, amlinellodd y Ditectif Uwcharolygydd Ian Roberts fod tua 30 o ddigwyddiadau yng nghanol y ddinas a bod yr heddlu'n gweithio gyda'r rhai y mae hyn yn effeithio arnynt i ystyried yr hyn sydd wrth wraidd y digwyddiadau hynny. Wrth ystyried digartrefedd a chysgu allan, amlinellodd y swyddog bwysigrwydd taro cydbwysedd rhwng cefnogi pobl agored i niwed a chymryd camau gorfodi priodol. - Gofynnodd y Cynghorydd J Watkins a oedd pobl a oedd yn dod o'r tu allan i'r ddinas i gardota yng nghanol y ddinas yn broblem yng Nghasnewydd. Nododd yr Arolygydd Lewis fod pobl yn dod o'r tu allan i'r ddinas ac roedd y rheiny'n cael eu cyfeirio i sylw eu hawdurdodau lleol eu hunain i dderbyn cymorth. - O ran y ffyn synhwyro a oedd yn cael eu dosbarthu i stopio a chwilio pobl wrth fynd i mewn i glybiau nos, gofynnodd y Cynghorydd T Watkins a lwyddwyd i atal mynediad i bobl drwy hynny. Cadarnhaodd yr Arolygydd Lewis y bu nifer o arestiadau am fod ag arfau ymosodol mewn meddiant yn sgil y chwiliadau hyn. Roedd y nifer yn arbennig o uchel a heb fod yn debyg i ddinasoedd fel Manceinion a Llundain. - Siaradodd y Cynghorydd C Evans am daro cydbwysedd rhwng camau gorfodi am droseddau treisgar a'r bobl hynny a oedd yn agored i niwed ac yr oedd angen cymorth arnynt. Diolchodd y Maer i'r Heddlu am eu presenoldeb a'u cyfraniad i'r cyfarfod.
|
||||||||||||||||||||||
Adolygiad y Comisiwn Ffiniau PDF 169 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurwyd y gallai'r Aelodau siarad am bob argymhelliad gan y byddent yn cael eu hystyried yn unigol gan y Cyngor.
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a amlinellai'r broses a ddilynwyd gan y Cyngor i sefydlu Gr?p Trawsbleidiol i adolygu'r dystiolaeth ar gyfer trefniadau etholiadol yn y dyfodol yn y ddinas, a'r cynigion a oedd wedi'u llunio ar gyfer hynny, i'w trafod gan y Cyngor.
Diolchodd yr Arweinydd i holl gynrychiolwyr y grwpiau a'r Swyddogion cefnogol am eu cyfraniadau, a hynny o fewn amserlen heriol. Diolchodd yr Arweinydd hefyd i'r Comisiwn am ei gefnogaeth yn ystod y broses ac am gytuno i estyniad byr fel y gallai'r Cyngor drafod yr opsiynau yn y cyfarfod hwn. Argymhelliad 1:
Penderfynwyd y dylai'r Cyngor gefnogi'r mân ddiwygiadau i ffiniau a nodwyd yn adran Mân Anghysondebau yr adroddiad hwn.
Argymhelliad 2: Cynigiwyd ac eiliwyd Opsiwn 2a.
Siaradodd y Cynghorydd Kellaway yn erbyn opsiwn A oherwydd teimlai ei fod yn anwybyddu gwahaniaethau cymunedol yr ardaloedd dan sylw, ac y byddai hynny'n ddiwedd ar ardal Llan-wern. Nid oedd ychwaith yn cymryd i ystyriaeth y deipograffeg naturiol na ffyrdd o fewn y wardiau.
Siaradodd y Cynghorydd Mogford o blaid Opsiwn B – symud ardal Cyngor Cymuned Trefesgob, sy'n cynnwys Wardiau Cymunedol Trefesgob ac Underwood, i Langstone. Teimlai y byddai ardal Cymuned Trefesgob yn ffitio'n dda o fewn ward lled-wledig Langstone a bod synergedd cryf o Gymunedau o fewn yr opsiwn hwn.
Penderfynwyd y dylai'r Cyngor gefnogi opsiwn 2a - Symud Cymuned Llan-wern i Ringland. Argymhelliad 3: Cynigiwyd ac eiliwyd Opsiwn 3a.
Siaradodd y Cynghorydd C Evans yn erbyn opsiwn 3a, gan gyfeirio at oblygiadau ymarferol rhannu'r gymuned fel hyn. Siaradodd o blaid y status quo yn Nh?-du oherwydd teimlai nad oedd angen rhannu'r gymuned.
Siaradodd y Cynghorydd M Evans o blaid opsiwn 3a, gan mai dyna fyddai'r ffordd fwyaf ymarferol o fynd i’r afael â thangynrychiolaeth T?-du o blith yr opsiynau a oedd ar gael. Byddai hefyd yn creu 2 ward ac ynddynt 2 gynghorydd yr un, yn hytrach na chreu wardiau un aelod. Penderfynwyd bod y Cyngor o blaid opsiwn 3a - Creu dwy ward newydd, sef Ward Cymuned Gorllewin T?-du a chyfuno wardiau cymunedol Gogledd a Dwyrain T?-du. (2 Gynghorydd) Argymhelliad 4
Cynigiwyd ac eiliwyd Opsiwn 4a.
Siaradodd y Cynghorydd M Evans yn erbyn opsiwn 4a gan gyfeirio at y drafodaeth a gefnogwyd yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, sef bod ardal Pillgwenlli yn nes at Stow Hill, ac felly fod Opsiwn 4b yn fwy ymarferol.
Siaradodd y Cynghorydd Fouweather am yr argymhelliad, gan nodi ei fod yn ddewis anodd heb unrhyw ateb clir. Nododd y byddai Opsiwn 4b yn hollti cymuned, tra bod opsiwn 4b (symud ystâd newydd Mon Bank i Stow Hill) o bosib yn fwy ymarferol gan ei fod yn symud cymuned yn ei chyfanrwydd.
Penderfynwyd bod y Cyngor o blaid opsiwn 4a: Ychwanegu ardal “Glan yr Afon” ym Mhillgwenlli at Stow Hill. Argymhelliad 5
Cynigiwyd ac eiliwyd opsiwn 5b.
Siaradodd y Cynghorydd R White yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Charles Ferris yr adroddiad fel Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd. Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) oedd y corff sy'n gyfrifol am bennu lefelau tâl Cynghorau yng Nghymru, ac roedd yr adroddiad hwn yn cyflwyno'u Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2019-20.
Roedd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi adolygu'r cynigion hyn ar y cam drafft ac wedi rhoi sylwadau yn ôl i'r Panel Cydnabyddiaeth Ariannol yn rhan o'u proses ymgynghori. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, dywedodd y Cynghorydd Ferris y bu'n bresennol mewn cyfarfod â Chadeiryddion y Gwasanaethau Democrataidd o Awdurdodau eraill i drafod y newidiadau hyn yn uniongyrchol â'r Panel.
Dyma'r prif newidiadau ar gyfer eleni: - Cynnydd o 1.97% i gyflogau sylfaenol, sy'n cyfateb i £268. - Cynnydd o £800 i gyflogau aelodau gweithredol, a oedd yn cynnwys y cynnydd i'r gyfradd sylfaenol. - Newid i'r bandiau ar gyfer y penaethiaid a'r dirprwy benaethiaid dinesig, gan gael gwared â'r raddfa daliadau ar wahân ar gyfer y swyddi hyn. Penderfynwyd
Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r penderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019-20, ac yn cymeradwyo'r atodlen ddrafft o Daliadau a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 yr agenda.
|
||||||||||||||||||||||
Polisi Tâl a Gwobrwyo PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad hwn i'r Cyngor a dywedodd mai Adroddiad Blynyddol oedd y Polisi Tâl a Gwobrwyo yr oedd yn ofynnol i'r Cyngor ei gymeradwyo. Roedd yn nodi'r mecanweithiau mewnol ar gyfer rhoi cydnabyddiaeth ariannol i Swyddogion y Cyngor.
Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor am y prif ddiweddariad eleni: - Mae strwythur cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol (NJC) ar gyfer y rhan fwyaf o staff y Cyngor wedi’i newid o ganlyniad i’r dyfarniad cyflog y cytunwyd arno’n genedlaethol ar gyfer 2019. Mae hyn yn effeithio ar bob Cyngor a bu'n ofynnol i ni adolygu a diweddaru ein graddfeydd cyflog i adlewyrchu'r sefyllfa genedlaethol newydd. - Roedd cyd-gytundeb newydd wedi'i lofnodi gan yr undebau llafur cydnabyddedig a oedd yn cynrychioli'r gweithwyr NJC hynny. Byddai'r gweithiwr Cyngor ar y cyflog isaf bellach yn derbyn cyflog contract a oedd yn gyfwerth â chyfradd y Cyflog Byw Sylfaenol, sef £9.00 fesul awr. - Yn ogystal â’r newid hwn, roedd y Polisi Tâl a Gwobrwyo yn adrodd ar y bwlch blynyddol rhwng cyflogau'r rhywiau. Mae'r bwlch wedi cynyddu i 4% o'r 1% a adroddwyd y llynedd, ac yn sgil dadansoddi'r data gwelwyd mai'r rheswm am hyn oedd bod llawer mwy o ddynion ar gyflogau is wedi gadael y gwaith na menywod. Penderfynwyd
Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Polisi Tâl a Gwobrwyo er mwyn bodloni gofynion statudol i gyhoeddi 'datganiad tâl'.
|
||||||||||||||||||||||
Diweddariad ynghylch y Strategaeth Gyfalaf - Ymagwedd Masnacheiddio PDF 194 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a esboniai pam bod y Cyngor yn mabwysiadu'r ymagwedd hon yn y cyd-destun ariannol cyfredol.
Byddai'n rhaid i'r Cyngor ganfod £30 miliwn o'i gyllideb dros y 3 blynedd nesaf, ac ar gyfer hynny roedd yn ystyried yr opsiynau a oedd ar gael i ymdrin â'r her aruthrol. Yn ei gyfarfod diwethaf roedd y Cabinet wedi cytuno ar ymagwedd i sefydlu cwmni masnachu er mwyn cipio a chynhyrchu gweithgarwch creu elw. Roedd angen ymchwilio ymhellach i hyn, ac roedd yr adroddiad yn cynnig neilltuo hyd at uchafswm o £100,000 i'r perwyl hwnnw, i'w adolygu gan y Cabinet.
Eiddo masnachol, a sefydlu Bwrdd buddsoddi gyda chapasiti benthyca wedi'i ddyrannu o hyd at £50 miliwn ar gyfer buddsoddiadau posibl. Prif amcan yr ymagwedd hon oedd cefnogi'r weledigaeth sydd wedi'i hymwreiddio yn y Cynllun Corfforaethol a hyrwyddo gwerth cymdeithasol. Yr ail amcan oedd creu elw a fyddai'n cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau craidd y Cyngor.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr adroddiad.
Cynigiodd y Cyng M Evans y gwelliant a ganlyn:
‘Nodi bod y Cabinet yn argymell canlyn yr ymagweddau hyn, gan gynnwys sefydlu cronfa eiddo masnachol gwerth £25m i greu incwm net i'r Cyngor, yn amodol ar ystyriaeth y Cyngor drwy eu cynnwys yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor.
Eiliwyd y gwelliant gan y Cyng D Williams. Ar ôl cyflwyno'r gwelliant i'r cyfarfod, datganwyd ei fod wedi'i golli.
Cafwyd trafodaeth ar y cynnig gwreiddiol.
Pwyntiau a wnaed yn erbyn y cynnig gwreiddiol: - Ystyriwyd bod £25 miliwn yn swm mwy darbodus a chymesur i liniaru'r risg; - Dadleuwyd bod gan y Cyngor adnoddau ac arbenigedd digonol i gynnal yr astudiaeth ddichonoldeb yn fewnol. - Y cydbwysedd o ran ymatebolrwydd masnachol, a'r angen i sicrhau atebolrwydd cyhoeddus. Pwyntiau a wnaed o blaid yr adroddiad: - Roedd angen buddsoddi cyfalaf i gefnogi gwariant ar wasanaethau craidd ac roedd angen yr ymagwedd hon i bontio'r bwlch cyllido. - Roedd angen cael cyngor arbenigol ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb i sicrhau bod cyn lleied â phosib o risg, ac i sicrhau bod buddsoddiadau'n cydymffurfio â'r cod darbodus. - Ni fyddai £25 miliwn yn creu'r crynswth allweddol i gefnogi'r gwariant angenrheidiol ar wasanaethau craidd. Penderfynwyd
Bod y Cyngor yn: 1. Nodi datblygiad yr ymagwedd masnacheiddio, yn enwedig y ddau opsiwn a amlinellwyd fel y cam cyntaf tuag at weithredu'r ymagwedd hon, fel strategaeth i gyfrannu at heriau ariannol parhaus y Cyngor. 2. Nodi bod y Cabinet yn argymell canlyn yr ymagweddau hyn, gan gynnwys sefydlu cronfa eiddo masnachol gwerth £50m i greu incwm net i'r Cyngor, yn amodol ar ystyriaeth y Cyngor drwy eu cynnwys yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor. 3. Ystyried manteision a risgiau argymhelliad y Cabinet ynghylch y strategaeth masnacheiddio arfaethedig, yn enwedig sefydlu cronfa buddsoddi mewn eiddo gwerth £50 miliwn. 4. Nodi y bydd y Cyngor yn ymrwymo i fod mewn dyled am y tymor hir, a'r risgiau'n gysylltiedig â hyn, a amlygwyd yn yr adroddiad, ochr yn ochr â risgiau a geir eisoes. 5. Gan ystyried yr uchod: o Cymeradwyo'r diweddariad ... view the full Cofnodion text for item 8. |
||||||||||||||||||||||
Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddiadau'r Arweinydd
Gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau a ganlyn: • Y penwythnos hwn bydd Casnewydd yn cynnal Marathon a ras 10km ABP Casnewydd. • Siarter Marw i Weithio – bydd y Cyngor yn adolygu'r tâl a'r polisi salwch i adlewyrchu hyn. Drwy lofnodi'r Siarter mae'r Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i weithwyr sy'n wynebu amgylchiadau personol trasig. Yn brin o bwynt bwled - Addewid i Bobl Ifanc - yn nodi hawliau plant a phobl ifanc wrth gyrchu gwasanaethau'r Cyngor. Datblygwyd y Siarter i Gasnewydd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, ac mae'n cynnwys yr ymrwymiadau sydd yn fwyaf pwysig i bobl ifanc Casnewydd. • Mae Rhwydwaith Economaidd Casnewydd wedi cyhoeddi cynnig i sefydlu Sefydliad Technoleg Cenedlaethol yn y Ddinas. Byddai hwn yn sefydliad blaenllaw yn y byd sy'n cynnal rhaglenni technoleg addysg uwch, gan bwysleisio arloesedd, entrepreneuriaeth a masnacheiddio. Byddai’n cynhyrchu’r sgiliau angenrheidiol i Gymru elwa ar gyfleoedd i’n cymunedau. Rhwydwaith Economaidd Casnewydd
Mynegodd y Cynghorydd M Evans bryderon ynghylch yr ymrwymiad a ddatganwyd gan y Cabinet i fod yn agored a thryloyw; cyfeiriodd i ddechrau at y ffaith bod Aelod Cabinet wedi gwrthod ateb cwestiynau mewn Pwyllgor Craffu ynghylch Rhwydwaith Economaidd Casnewydd; ac yn ail, nododd enghreifftiau o benderfyniadau o bwys a wnaed yn breifat. Er mwyn hyrwyddo agwedd agored a thryloyw, gofynnwyd i'r Arweinydd a fyddai cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal â phobl fusnes leol i wrando ar eu pryderon a'r hyn a oedd o bwys iddynt.
Amlinellodd yr Arweinydd mai cyfarfod allanol oedd Rhwydwaith Economaidd Casnewydd, a bod angen i’r ateb i’r cwestiwn a ofynnwyd ddod gan y Rhwydwaith yn hytrach na’r Aelod Cabinet. Cytunodd yr Arweinydd i drosglwyddo sylwadau'r Cynghorydd Evans i Gadeirydd y Rhwydwaith a cheisio cael eglurhad ynghylch y pwyntiau a godwyd. Mewn perthynas â'r penderfyniadau a wnaed yn gyfrinachol, tynnodd yr Arweinydd sylw at y gynsail a oedd wedi'i sefydlu ar gyfer ymagwedd hon, ac at faterion sy'n ymwneud â chyfrinachedd masnachol, a all effeithio ar yr wybodaeth sydd ar gael cyn gwneud penderfyniadau ynghylch prosiectau graddfa fawr.
Fel cwestiwn atodol, holodd y Cyng Evans faint o fanylion oedd wedi'u cynnwys yn y penderfyniadau a gofnodwyd yn yr enghreifftiau dan sylw.
Mewn ymateb i hyn, gofynnodd yr Arweinydd am gael rhannu'r cyngor a roddwyd yn flaenorol gan y Prif Weithredwr a Phennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio ynghylch mynediad y cyhoedd at adroddiadau. Casglu Sbwriel
Canmolodd y Cynghorydd Whitehead y rhai a gymerodd ran yn y digwyddiad casglu sbwriel a gynhaliwyd ledled y Ddinas yn ddiweddar, ac amlinellu'r problemau'n gysylltiedig â thipio anghyfreithlon a thagfeydd traffig o amgylch Heol y Dociau ers cyflwyno'r biniau sbwriel o faint newydd. Gofynnwyd i'r Arweinydd a ellid anfon swyddogion o'r Cyngor i gefnogi'r grwpiau casglu sbwriel niferus sy'n gweithredu yn y Ddinas. Nodwyd bod achosion cynyddol lle'r oedd y grwpiau hyn yn ymdrin â deunyddiau peryglus, fel eitemau miniog.
Canmolodd yr Arweinydd hefyd ymdrechion gwirfoddolwyr a oedd yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd casglu sbwriel, ac roedd yn cydnabod bod tipio anghyfreithlon yn broblem genedlaethol, ond ... view the full Cofnodion text for item 9. |
||||||||||||||||||||||
Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw gwestiynau i Aelodau’r Cabinet.
|
||||||||||||||||||||||
Cwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw gwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau.
|
||||||||||||||||||||||
Cofnodion y Pwyllgor Safonau PDF 81 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.
|