Agenda and minutes

Cyngor - Dydd Mawrth, 23ain Gorffennaf, 2019 5.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Elizabeth Blayney  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

i.             Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

ii.             Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

iii.             Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y maer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

i)          I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Nododd y Swyddog Monitro’r ymddiheuriadau o ran absenoldeb.

 

ii)         I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

iii)       I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer

 

Stephen Bell

 

Nododd y Maer farwolaeth drasig Stephen Bell a oedd yn gweithio o fewn tîm priffyrdd y Cyngor. Arweiniodd y Maer y Cyngor wrth gynnig ei gydymdeimlad dwysaf â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Stephen yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Arweiniodd y Maer funud o dawelwch fel arwydd o barch at Stephen Bell.

 

         Digwyddiadau Elusennol y Maer

 

Diweddarodd y Maer y Cyngor ar ddigwyddiadau diweddar a gynhaliwyd ac a fynychwyd gan y Maer, gan gynnwys mynychu gêm Sir Casnewydd yn Stadiwm Wembley.

 

Gemau Trawsblannu Prydain

 

Atgoffodd y Maer y Cyngor am y Gemau Trawsblannu Prydain sydd ar y gweill sy'n cael eu cynnal gan Ddinas Casnewydd y penwythnos hwn ac anogodd y Cyngor i fynychu a dangos cefnogaeth i'r digwyddiad hwn.

 

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 132 KB

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfodydd y cyngor a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2019 a 14 Mai 2019 fel cofnodion gwir a chywir.

 

3.

Penodiadau pdf icon PDF 73 KB

Ystyriedunrhyw benodiadau arfaethedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Harvey yr adroddiad a diweddaru'r Cyngor ar y newidiadau arfaethedig i benodiadau'r Pwyllgorau.

 

Penderfynwyd

 

Penodiadau Mewnol

 

Pwyllgor

Nifer o leoedd gwag/amnewid

Enwebiadau a Dderbyniwyd

Pwyllgor Cynllunio

Amnewid

Y Cynghorydd Malcolm Linton i gymryd lle'r Cynghorydd Tracey Holyoake

Penodiadau i Is-bwyllgorau

7 Lle Gwag

Y Cynghorydd Debbie Wilcox

Y Cynghorydd Gail Giles

Y Cynghorydd Paul Cockeram

Y Cynghorydd Majid Rahman

Y Cynghorydd Matthew Evans

Y Cynghorydd Jason Jordan

Y Cynghorydd Carmel Townshend

Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu

1 amnewid

Y Cynghorydd Phil Hourahine i gymryd lle'r Cynghorydd Malcom Linton 

Pwyllgor Craffu Perfformiad - Partneriaethau

1 amnewid

Y Cynghorydd Christine Jenkins i gymryd lle'r Cynghorydd Yvonne Forsey

Pwyllgor Craffu Perfformiad - Pobl

1 amnewid

Y Cynghorydd Malcom Linton i gymryd lle'r Cynghorydd Ken Critchley

 

 

Penodiadau i Sefydliadau Allanol

 

Sgiliau Trefnu

Nifer o leoedd gwag/amnewid

Enwebiadau a Dderbyniwyd

Panel yr Heddlu a Throseddu

Amnewid

Y Cynghorydd Mark Spencer i gymryd lle'r Cynghorydd John Guy

Penodiadau i Gyrff Llywodraethu

 

Y Corff Llywodraethu

Nifer o leoedd gwag/Ailbenodiadau

Enwebiadau a Dderbyniwyd

Ysgol Gyfun Caerllion

Amnewid

Ms Penny Keggie (i gymryd lle John Parfitt)

Ysgol Gynradd Parc Tredegar

Amnewid

Y Cynghorydd Ibrahim Hayat (yn lle Jeanne Hugo)

Ysgol Gynradd Malpas Court

Lle Gwag

Amy Morris

 

Ysgol Gynradd Glasllwch

Lle Gwag

Mrs Gillian Hyland

Ysgol Gynradd Malpas

Ailbenodiad

William Langsford

Ysgol Gynradd Malpas  

 

Ailbenodiad

Y Cynghorydd David Mayer

Ysgol Gynradd Ringland

 

Amnewid

Y Cynghorydd Laura Lacey (yn lle'r Cynghorydd Rehmaan Hayat)

Ysgol Gynradd Milton

 

Amnewid

Y Cynghorydd Rehmaan Hayat (yn lle'r Cynghorydd Laura Lacey)

Ysgol Gyfun Gwynllyw

Ailbenodiad

John Harris

Ysgol Gynradd T?-du

Lle Gwag

Alexandra Mlewa

Ysgol Gynradd Sant Gwynll?g

1 lle gwag

Y Cynghorydd Tracy Holyoake i gael ei chymryd i ffwrdd. Yr enw amnewid i'w gadarnhau.

Ysgol Gynradd Pillgwenlli

1 lle gwag

Y Cynghorydd Tracy Holyoake

 

Penderfynwyd hefyd y dylai'r Cyngor gytuno ar y caniatâd priodol i'r Cynghorydd Ken Critchley barhau'n absennol y tu hwnt i 6 mis oherwydd salwch, at ddibenion adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. 

ment Act 1972. 

4.

Materion yr Heddlu

Neilltuir 30 munud ar gyfer cwestiynau i gynrychiolydd Heddlu Gwent..

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Uwch-arolygydd Mike Richards ddiweddariad ar faterion plismona lleol, gan dynnu sylw at ddatblygiadau allweddol yn arbennig mewn perthynas â’r meysydd blaenoriaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol, cardota a phroblemau gydag economi'r nos.

 

·                Roedd y Cynghorydd Roger Jeavons yn falch o nodi'r cynnydd a wnaed o ran mynd i'r afael â'r materion gyda 'Raswyr Ifanc' a'r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â hyn, a fyddai'n gofyn am ymateb cadarn bob amser yn ystod misoedd yr haf. Diolchodd y Cynghorydd Jeavons hefyd i'r Heddlu am eu cefnogaeth yn ystod wythnosau cyntaf y trosglwyddo’r Gorfodi Parcio Sifil, a fu'n llwyddiannus.

 

·                Gofynnodd y Cynghorydd Majid Rahman am sicrwydd y byddai mwy o welededd gan yr heddlu yn ward Fictoria, gan nodi sawl enghraifft o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gynnwys beicio oddi ar y ffordd, a phryderon y gymuned leol yn yr ardal honno. Nododd yr Heddlu fod yr achosion y cyfeiriwyd atynt yn hysbys i'r heddlu, a rhoddwyd sicrwydd y byddai'r Heddlu mor weladwy ag oedd modd yn yr ardal.

 

·                Gofynnodd y Cynghorydd David Fouweather am ddiweddariad ynghylch a oedd y swyddogion heddlu ychwanegol ar gyfer Canol Dinas Casnewydd mewn lle, ac a fu cynnydd yn y patrolau traed er mwyn cynyddu amlygrwydd a mynd i'r afael â phryderon trigolion sy'n dod i ganol y ddinas ar ôl 4pm.

 

Ymatebodd yr Heddlu drwy ddweud bod 8 o heddweision ychwanegol wedi cyrraedd Tîm Canol y Ddinas yn ystod y pedwar mis diwethaf, a bu cynnydd yn nifer y patrolau traed yng nghanol y ddinas. Roedd cynllun i fynd i'r afael â materion Canol y Ddinas yn cael ei ddatblygu, ac ymrwymodd yr Heddlu i roi gwybod i'r Cynghorydd am y mater hwn.

 

·                O ran gorfodi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Canol y Ddinas, yn enwedig mewn perthynas â chardota o fewn 10 metr i bwynt arian parod, pwysleisiodd y Cynghorydd Matthew Evans fod hyn yn parhau i fod yn broblem i drigolion lleol yn ystod y nos ac yn ystod y dydd. Gan werthfawrogi mai dull amlasiantaeth ydoedd, ceisiodd y Cynghorydd sicrwydd y byddai hwn yn flaenoriaeth i Dîm Canol y Ddinas. Cadarnhaodd yr Heddlu fod hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a chytunwyd i ddilyn y pryderon gyda Thîm Plismona Canol y Ddinas er mwyn sicrhau bod ymateb yr heddlu mor gadarn â phosibl.

 

·                Gofynnodd y Cynghorydd Ray Truman i'r Uwch-arolygydd wneud sylwadau ynghylch a fyddai rhif di-argyfwng yr Heddlu yn dod i ben. Nid oedd yr Uwch-arolygydd yn ymwybodol o unrhyw gynnig o'r fath, a byddai'n cadarnhau gyda'r Cynghorydd Truman yn uniongyrchol.

 

·                Diolchodd y Cynghorydd Gail Giles i'r Grwpiau Gwarchod Cymdogaeth ar draws Casnewydd am y gwaith a wnaethant, ac ategodd yr Uwch-arolygydd y diolch hwn.

 

Tynnodd y Cynghorydd Giles sylw hefyd at bryderon a godwyd mewn perthynas â hygyrchedd yng ngorsaf heddlu Maendy ac Alway, gan nodi nad oedd bellach ddesg flaen, dim ond ffôn. Gofynnwyd i'r Heddlu pa ddulliau cyfathrebu oedd ar gael yn yr orsaf heddlu hon, gan na allai pob preswylydd gyfathrebu drwy e-bost a chafwyd achosion lle byddai trafodaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Hysbysiadau o Gynnig: Menter Cyfeillion Gwenyn

Derbyn y cynnig canlynol y mae ' r hysbysiad angenrheidiol wedi ' i ddarparu ar ei gyfer:

 

Mae’r awdurdod hwn yn cefnogi menter Caru Gwenyn Cyfeillion y Ddaear a bydd yn parhau i sicrhau y bydd unrhyw blanhigion sy’n cael eu plannu ym mharciau, gerddi ac ardaloedd gwyrdd y Cyngor yn cefnogi bywydau gwenyn a pheillwyr eraill.

 

Mae’n bwysig dros ben i economi peillwyr Casnewydd a’r ffaith bod y Cyngor mewn safle da i wneud cyfraniad sylweddol i wrthdroi eu dirywiad.

 

Yn ogystal, bydd yr awdurdod hwn yn ceisio gwneud Casnewydd yn un o ddinasoedd mawr Cymru i gael achrediad cyfeillgar.

.

 

Mae ' r cynnig i ' w gynnig gan y Cynghorydd Debbie Wilcox ac eiliwyd gan y Cynghorydd Laura Lacey.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor gynnig y darparwyd yr hysbysiad angenrheidiol ar ei gyfer. Cafodd y cynnig ei osod gan y Cynghorydd Debbie Wilcox, a'i eilio gan y Cynghorydd Laura Lacey:

 

'Mae'r awdurdod hwn yn cefnogi Menter Gwenyn Friends of the Earth, a bydd yn parhau i sicrhau, lle bo'n addas, y bydd y gwaith plannu a wneir o fewn y parciau, y gerddi a'r ardaloedd gwyrdd sy'n eiddo i'r Cyngor yn cefnogi ffordd o fyw gwenyn a phryfed eraill sy'n peillio.

 

Mae'n hanfodol bwysig i economi Casnewydd o ran peillwyr a'r ffaith bod y Cyngor mewn sefyllfa dda i wneud cyfraniad sylweddol i wrthdroi eu dirywiad.

 

Yn ogystal, bydd yr awdurdod hwn yn ymdrechu i sicrhau mai Casnewydd yw un o ddinasoedd mawr cyntaf Cymru i gael achrediad Cyfeillgar i Wenyn.'

 

Wrth wneud y cynnig, amlinellodd y Cynghorydd Debbie Wilcox fod y Cyngor wedi ymrwymo i helpu'r DU i beillio drwy sicrhau bod anghenion peillwyr yn cael eu hystyried wrth gyflawni gwaith a dyletswyddau'r Cyngor.  Byddai'r Cyngor yn gwneud hyn trwy’r canlynol:

·         Sicrhau bod anghenion peillwyr yn cael eu cynrychioli mewn cynlluniau, polisïau a chanllawiau lleol;

·         Gwarchod a gwella nifer y cynefinoedd peillwyr o safon yng Nghasnewydd er mwyn atal difodiant a gwella statws rhywogaethau lleol;

·         Codi ymwybyddiaeth o beillwyr a'u hanghenion o ran cynefin;

·         Gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o beillwyr yn ein hardal leol.

 

Siaradodd nifer o'r Aelodau o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd

 

Penderfynwyd yn unfrydol i gefnogi'r cynnig.

 

6.

Hysbysiad o Gynnig ' Gefeillio Talaith Guangxi '

Derbyn y cynnig canlynol y mae ' r hysbysiad angenrheidiol wedi ' i ddarparu ar ei gyfer:

 

Mae’r Cyngor yn flin iawn o weld diffyg ymateb Rhanbarth Guangxi i’r llythyr a anfonwyd ar 19 Chwefror 2019, yn gofyn iddynt stopio G?yl Cig C?n Yulin a thriniaeth warthus o anifeiliaid. Credir nad oes opsiwn ond dod â’r drefn gefeillio sydd wedi bod ar waith ers 1996 i ben, oherwydd nid yw’r Ddinas yn gallu eistedd yn ôl a chaniatáu i’r ymddygiad ffiaidd hwn tuag at anifeiliaid fynd rhagddo.

Felly, mae’r Cyngor yn cynnig yn ffurfiol i ganslo bob trefn gefeillio â Rhanbarth Guangxi yn syth.

 

Mae ' r cynnig i ' w gynnig gan y Cynghorydd Matthew Evans, a eiliwyd gan y Cynghorydd Chris Evans.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor gynnig y darparwyd yr hysbysiad angenrheidiol ar ei gyfer. Cafodd y cynnig ei osod gan y Cynghorydd Matthew Evans, a'i eilio gan y Cynghorydd Chris Evans.

 

'Mae'r Cyngor hwn yn gresynu'n fawr y diffyg ymateb o dalaith Guangxi i'r llythyr a anfonwyd ar 19eg Chwefror 2019 yn eu hannog i roi'r gorau i ?yl Cig C?n Yulin a'r driniaeth erchyll o anifeiliaid. Mae'n teimlo nad oes dewis arall ond rhoi'r gorau i'r trefniant gefeillio a bu ers 1996 gan na all y Ddinas aros yn segur a gadael i'r ymddygiad annynol barbaraidd tuag at anifeiliaid fynd ymlaen heb ei herio. Felly, mae'r Cyngor yn penderfynu'n ffurfiol i roi'r gorau i'r holl drefniadau gefeillio â thalaith Guangxi, ar unwaith.'

 

Cynigiwyd diwygiad gan y Cynghorydd Debbie Wilcox, a eiliwyd gan

 

Mae'r Cyngor hwn:

 

1.    Yn gresynu'n fawr y diffyg ymateb o dalaith Guangxi i'r llythyr a anfonwyd ar 19eg Chwefror 2019 yn eu hannog i roi'r gorau i ?yl Cig C?n Yulin a'r driniaeth erchyll o anifeiliaid.

2.    Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth ei Mawrhydi i gyflwyno achos y Ddinas drwy'r Ganolfan Prydain Fawr-Tsiena, corff cyhoeddus anadrannol a sefydlwyd gan y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad ym 1974, ynghyd â'r Swyddfa Dramor i wneud cynrychioliadau gan y ddau gorff i lywodraethau Gweriniaeth Pobl Tsiena am derfynu ar yr ?yl arswydus hon ac i gyfleu eu hymateb i Gyngor Dinas Casnewydd. Bydd y cam gweithredu hwn yn canolbwyntio'r sylw ehangach ar y mater gan fod y trefniadau gefeillio wedi dod i ben yn weithredol oherwydd diffyg ymgysylltu am flynyddoedd lawer ac mae pob cyfeiriad ato eisoes wedi'i dynnu oddi ar dudalennau gwe cyfredol Cyngor Dinas Casnewydd.

 

Wrth gynnig y diwygiad, dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox nad oedd y trefniadau gefeillio wedi bod yn weithredol ers 15 mlynedd ac roedd pob cyfeiriad ato wedi'i dynnu o bresenoldeb ar-lein ac all-lein y Cyngor. Awgrymodd y Cynghorydd Wilcox bod y diwygiad gyflwyno camau gweithredu cryfach i ymgysylltu â gweithredoedd yr Ysgrifennydd Tramor a Chanolfan Prydain Fawr-Tsiena mewn partneriaeth,i helpu'r Cyngor i anfon y neges hon i Tsiena a phwysleisio difrifoldeb y mater hwn.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd nifer o bwyntiau i'w hegluro, gan gynnwys:

-       Cadarnhad o bryd y cafodd y trefniadau gefeillio eu terfynu;

-       Cadarnhad y byddai unrhyw arwyddion sy'n nodi'r trefniadau gefeillio yn cael eu cymryd i ffwrdd.

 

Wrth eilio'r diwygiad, siaradodd y Cynghorydd Mark Whitcutt yn cefnogi'r angen i geisio ymyrraeth y Llywodraeth a'r Ganolfan Prydain Fawr-Tsienai i fwrw ymlaen â hyn i roi diwedd ar y creulondeb hwn i anifeiliaid sy'n gysylltiedig â'r ?yl hon. 

 

Ymdriniodd y Cynghorydd Debbie Wilcox â'r pwyntiau o eglurhad a nododd gadarnhad o'r ffaith bod y trefniant gefeillio wedi terfynu’n weithredol i'r Cyngor yn y cynnig diwygiedig, a byddai unrhyw gyfeiriad at hyn ar arwyddion yn cael eu cymryd i ffwrdd cyn gynted â phosibl.

 

Pan gyflwynwyd y diwygiad i'r cyfarfod, cafodd ei dderbyn yn unfrydol a daeth yn gynnig gwreiddiol.

 

Penderfynwyd

 

Cafodd y cynnig gwreiddiol ei  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Rheoli Trysorlys Blwyddyn Ariannol 2018/2019 pdf icon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd arweinydd y Cyngor adroddiad Rheoli'r Trysorlys i'r Cyngor, yn amlinellu bod yr adroddiad yn edrych yn ôl ar fenthyciadau ariannol y Cyngor ar gyfer 2018/19 ac yn asesu sut y mae'r Cyngor wedi cadw at strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor.

 

Penderfynwyd

 

Penderfynwyd yn unfrydol i nodi'r adroddiad.

 

8.

Cwestiynau I Arweinydd y Cyngor

I roi'r cyfle i gynghorwyr ofyn cwestiynau i Gadeirydd y Cabinet yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor.

 

Proses: Ni chaiff mwy na 15 munud eu cadw yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau llafar i'r Arweinydd

 

Rhaid i'r cwestiwn cael sylw drwy'r Maer neu'r sawl sy'n llywyddu yn y cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y person a holir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

-       Roedd seremoni agoriadol Gemau Trawsblannu Prydain yn cael eu cynnal y penwythnos hwn, ac anogodd yr Arweinydd yr holl Gynghorwyr i fynychu a chefnogi'r digwyddiad.

-       Pwerdy'r Gorllewin

Cyflwynwyd adroddiad newydd gan yr Arweinydd yn Nh?’r Arglwyddi a oedd yn nodi argymhellion y Cyngor i godi gormod ar ein heconomi ranbarthol a’r potensial am bwerdy economaidd newydd ar gyfer y DU. Byddai’r pwerdy posib yn ymestyn ar hyd coridor yr M4 o Swindon, ar draws ffin Cymru i Gasnewydd, Caerdydd ac Abertawe, ac yn y gogledd o Gaerloyw a Cheltenham i Gaerfaddon a Bryste. Amlinellodd yr Arweinydd y cyfleoedd y byddai'r cynnig hwn yn eu cyflwyno i Gasnewydd. 

-       Diweddarodd yr Arweinydd y Cyngor am yr adborth cadarnhaol gan y cyhoedd ar weithredu Gorfodi Parcio Sifil.

-       Ar ôl wythnos Cadwch Gymru'n Daclus yr wythnos diwethaf, cadarnhawyd bod Parc Belle Vue, Parc Beechwood ac Amlosgfa Gwent oll wedi cadw'r nod ansawdd rhyngwladol mewn cydnabyddiaeth o’u harddangosfeydd blodau, cyfleusterau ac ymroddiad rhagorol i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd gwych. Roedd y Cyngor wedi cyrraedd y deg uchaf, a hi oedd yr awdurdod uchaf yng Nghymru, mewn arolwg diweddar o awdurdodau lleol a ganmolwyd am ailgylchu gwastraff plastig yn dilyn mentrau diweddar y Cyngor i wella ailgylchu. Diolchodd yr Arweinydd i'r holl breswylwyr am gymryd rhan yn y mentrau a chyfrannu at gyfradd ailgylchu gynyddol y Cyngor.

 

 

Cwestiynau i’r Arweinydd

 

Ffordd Liniaru'r M4

 

Mewn perthynas â phenderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i beidio ag adeiladu Ffordd Liniaru'r M4, gofynnodd y Cynghorydd Matthew Evans i'r Arweinydd a oedd hyn yn golygu y byddai trigolion Casnewydd yn parhau i wynebu'r un problemau gyda thagfeydd trwm a llygredd aer, a cheisiodd sicrwydd y byddai'r Arweinydd yn atal unrhyw ymdrechion gan Lywodraeth Cymru i gau cyffyrdd y draffordd yng Nghasnewydd.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod ei chefnogaeth i Ffordd Liniaru'r M4 yn ddiamwys yn y ddinas hon a'i bod wedi llofnodi llythyr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain i Lywodraeth Cymru i gefnogi Ffordd Liniaru'r M4.

 

Amlinellodd yr Arweinydd fod penderfyniadau ar gyffyrdd yr M4 yn fater o fewn awdurdodaeth Llywodraeth Cymru ac felly nid oedd yn rhan o gylch gwaith arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd. Roedd sylwadau wedi'u cyflwyno i Brif Weinidog Cymru i wneud safbwynt y Cyngor yn glir, ac roedd yr Arweinydd wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn gofyn i'r cylch gorchwyl gael ei ddiwygio i sicrhau bod llais Casnewydd ar y Comisiwn.

 

Sicrhaodd yr Arweinydd y Cyngor fod y weinyddiaeth yn deall pwysigrwydd enfawr trafnidiaeth briodol o fewn y ddinas, ac y byddai'r Arweinydd yn parhau i ymladd ym mhob ffordd bosibl i sicrhau bod Casnewydd yn cael y fargen orau bosibl yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Evans gwestiwn atodol i geisio sicrwydd y byddai'r cyllid a amlinellwyd gan Brif Weinidog Cymru yn cael ei wario yng Nghasnewydd i fynd i'r afael â materion trafnidiaeth a thagfeydd.

 

Ailadroddodd yr Arweinydd fod llythyr wedi'i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru ac y byddai'n gwneud popeth posibl o fewn y rôl i sicrhau bod yr  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cwestiynau I Aelodau Cabinet

I roi'r cyfle i ofyn cwestiynau i Aelodau'r Cabinet yn unol â Rheolau Sefydlog

 

Proses: Ni chaiff mwy na 10 munud eu cadw yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau i bob Aelod Cabinet unigol.

 

Bydd angen i’r Aelodau cyflwyno eu cwestiynau arfaethedig yn ysgrifenedig yn unol â’r Rheolau Sefydlog.  Os nad yw'r aelodau yn gallu gofyn eu cwestiwn ar lafar o fewn yr amser a glustnodwyd, bydd y cwestiynau sy'n weddill yn cael eu hateb yn ysgrifenedig.  Bydd y cwestiwn ac ymateb yn cael eu hatodi i'r cofnodion.

 

Rhaid i'r cwestiwn cael sylw drwy'r Maer neu'r sawl sy'n llywyddu yn y cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y person a holir

 

Bydd y cwestiynau yn cael eu gofyn i aelodau'r cabinet yn y drefn ganlynol:

 

·      DirprwyArweinydd / Aelod Cabinet dros Ddatblygu Asedau ac Aelodau

·      Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau

·      Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol

·      Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai

·      Aelod Cabinet dros y Gymuned ac Adnoddau

·      Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Stryd

·      Aelod Cabinet dros Trwyddedua Rheoleiddio

·      Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden

 

Er Gwybodaeth:  Mae crynodeb o amserlenni penderfyniad diweddar a gyhoeddwyd gan y Cabinet, Aelodau Cabinet a Chofnodion cyfarfodydd diweddar y Pwyllgorau wedi cael ei gylchredeg yn electronig at bob Aelod o'r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

i)          Cwestiynau i'r Aelod Cabinet – Gwasanaethau’r Ddinas

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ray Mogford y cwestiwn canlynol a oedd wedi’i gyflwyno:

 

'O ystyried y problemau parhaus presennol o ran y tagfeydd traffig erchyll sy'n mynd i mewn i'r Ganolfan wastraff/ailgylchu ar Ffordd y Dociau, mae'r Cyngor wedi nodi y bydd ail ganolfan yn cael ei hagor ar ochr ddwyreiniol y ddinas. Fodd bynnag, a wnaiff yr Aelod Cabinet ymrwymo i adolygu amseroedd agor y Ganolfan drwy fabwysiadu oriau agor tymhorol gyda'r Ganolfan ar agor yn hwyrach yn ystod misoedd yr haf ac yn gweithredu oriau byrrach yn y gaeaf? A yw'r Aelod Cabinet yn credu bod yr amser cau presennol o 4:10pm yn rhy gynnar ac a dylid ei ymestyn i 6pm sy'n cyd-fynd â'r rhan fwyaf o’r cynghorau eraill yng Nghymru?'

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau’r Ddinas:

 

'Ar hyn o bryd, rwy'n bwriadu ymestyn yr oriau agor ar safle'r AD, rydym wedi gwneud gwaith mawr ar y safle hwn i liniaru rhai o'r problemau sy'n ymwneud â thagfeydd traffig a'i effeithiau. Mae'n rhaid i mi ystyried cyllidebau sy'n lleihau, ymrwymiadau gweithredol a goblygiadau staffio ar gyfer y safle amlswyddogaethol hwn, felly ni allaf ar hyn o bryd roi sylwadau am amseroedd gwirioneddol. Yr wyf yn gobeithio cael diweddariad cadarnhaol cyn bo hir. Mae'r gwaith o amgylch y safle ar ochr ddwyreiniol y ddinas yn dal i fynd rhagddo.'

 

Gofynnwyd cwestiwn atodol i'r Aelod Cabinet yn ymwneud â'r trigolion yn cael mynediad i ganolfan ailgylchu Sir Fynwy, a gofynnodd i'r Aelod Cabinet a oedd ganddo unrhyw sylwadau o ran hyn gan ei fod bellach yn cael ei drafod ar lefel Cynulliad Cymru.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet bod y Cyngor wedi gwario miliynau o bunnoedd yn lleihau maint y biniau yn y ddinas gan geisio cynyddu'r cyfraddau ailgylchu i 70% a dywedodd mai'r gobaith oedd y byddai trigolion Dinas Casnewydd yn mynd ag ailgylchu i gyfleuster Casnewydd er mwyn cyfrannu at ffigyrau Casnewydd ar ailgylchu a chynorthwyo'r ddinas i gyrraedd y targedau a pheidio â bod yn destun dirwyon gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd hefyd y byddai'r safle newydd yn nwyrain y ddinas yn helpu'r holl drigolion dan sylw. 

 

ii)         Cwestiwn i'r Aelod Cabinet – Adfywio a Thai

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ray Mogford y cwestiwn canlynol a oedd wedi’i gyflwyno:

 

'Yn ddiweddar, llofnododd dros 3000 o bobl ddeiseb a lansiwyd gan breswylydd Casnewydd, Christine Davies, a oedd yn galw am gamau i lanhau ac adfywio Canol ein Dinas. Ers cyflwyno'r ddeiseb hon, mae'r Cyngor wedi gwrthod derbyn ceisiadau o ran ymateb trawsbleidiol. A yw'r Aelod Cabinet yn teimlo bod hyn yn 'slap yn yr wyneb' ar gyfer pawb a lofnododd y ddeiseb? A fydd yr Aelod(au) Cabinet yn edrych yn agos ar y ddeiseb hon ac yn cydnabod y pryderon a godwyd ynddi ac yn cytuno i gyfarfod â Christine Davies, busnesau lleol, cyflogwyr a gwleidyddion i drafod y gwelliannau a wneir yng nghanol y ddinas?'

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai:

 

'Rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb. Cyhoeddodd Casnewydd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cwestiynau I Gadeiryddion Pwyllgorau

Bydd y cwestiynau yn cael eu gofyn i Gadeiryddion Pwyllgorau yn y drefn ganlynol:

 I.             Pwyllgorau Craffu

·                              Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu

·                              Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl

·                              Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Materion Corfforaethol

·                              Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Partneriaethau

 

II.             Pwyllgor Cynllunio

III.             Pwyllgor Trwyddedu

IV.             Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau.